Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Caiff teithio llesol ei fesur fel cerdded am o leiaf 10 munud neu feicio fel dull o deithio i gyrraedd man penodol. Nid yw'n cynnwys cerdded na beicio er mwynhad, am resymau iechyd neu fel ymarfer. Caiff gwybodaeth am deithio llesol gan bobl yng Nghymru ei chasglu drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae canlyniadau ychwanegol ar gael yn nangosydd canlyniadau rhyngweithiol Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Prif bwyntiau

Gofynnwyd y cwestiynau teithio llesol (am feicio neu gerdded fel dull teithio) yn yr Arolwg Cenedlaethol mwyaf diweddar i oedolion 16 a throsodd.

Ebrill 2022 i Fawrth 2023

  • roedd 6% o bobl yn beicio o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol
  • roedd 51% o bobl yn cerdded o leiaf unwaith yr wythnos at ddibenion teithio llesol

Amlder teithio llesol

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi cynnwys cwestiynau am deithio llesol ers 2013-14. Gofynnir i bobl pa mor aml y maent wedi defnyddio beic neu wedi cerdded fel dull o deithio yn ystod y tri mis blaenorol.

Yn 2022-23, roedd 10% o oedolion yn beicio o leiaf unwaith y mis at ddibenion teithio llesol, sy'n debyg yn eang i flynyddoedd blaenorol.

Ffigur 1: Cyfran y bobl a deithiodd drwy feicio o leiaf unwaith y mis, 2018-19 i 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae Ffigur 1 yn dangos cyfran y bobl a deithiodd drwy feicio o leiaf unwaith y mis ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ariannol rhwng 2018-19 a 2022-23.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Nid oes data ar gael ar gyfer 2020-2021 oherwydd newidiadau i Arolwg Cenedlaethol Cymru yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19).

[Nodyn 2] Newidiodd Arolwg Cenedlaethol Cymru o ddull casglu data wyneb yn wyneb i gasglu data dros y ffôn ac ar-lein ar gyfer 2021-22 a 2022-23. Dylid cymryd gofal wrth wneud cymariaethau uniongyrchol â chanlyniadau cynharach.

[Nodyn 3] Mae'r cwestiynau yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 ar Deithio Llesol yn wahanol i gwestiynau blaenorol ac felly nid oes modd cymharu'r data'n uniongyrchol â bwletinau ystadegol blaenorol.

Roedd canran y bobl a oedd yn cerdded yn aml am o leiaf 10 munud yn llawer uwch na'r ganran a oedd yn beicio'n aml fel dull o deithio. Yn 2022-23, roedd 51% o bobl yn teithio'n llesol o leiaf unwaith neu ddwywaith yr wythnos drwy gerdded, sef cyfran debyg o gymharu â 2021-22.

Ffigur 2: Amlder teithio llesol drwy gerdded, 2018-19 i 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae Ffigur 2 yn dangos cyfran y bobl a deithiodd drwy gerdded yn ôl amlder teithio llesol a blwyddyn rhwng 2018-19 a 2022-23.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Nid oes data ar gael ar gyfer 2020-2021 oherwydd newidiadau i Arolwg Cenedlaethol Cymru yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Beicio

Pan ofynnwyd pa mor aml roeddent wedi defnyddio beic fel dull teithio yn ystod y tri mis blaenorol, roedd dynion yn fwy tebygol o feicio, ac o wneud hynny'n amlach na menywod.

Ffigur 3: Cyfran y bobl a deithiodd drwy feicio o leiaf unwaith y mis yn ôl rhyw, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae Ffigur 3 yn dangos cyfran y bobl a deithiodd drwy feicio o leiaf unwaith y mis yn ôl rhyw yn 2022-23.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Roedd pobl heb salwch cyfyngus hirdymor, anabledd neu eiddilwch yn fwy tebygol o fod wedi beicio o leiaf unwaith y mis na phobl â salwch cyfyngus. Gweler yr adran ddiffiniadau am esboniad ar ddefnydd terminoleg.

Ffigur 4: Cyfran y bobl a deithiodd drwy feicio o leiaf unwaith y mis yn ôl salwch cyfyngus hirdymor, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae Ffigur 4 yn dangos cyfran y bobl a deithiodd drwy feicio o leiaf unwaith y mis yn ôl salwch cyfyngus hirdymor yn 2022-23.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Cerdded

Pan ofynnwyd pa mor aml roeddent wedi cerdded am fwy na 10 munud fel dull o deithio yn ystod y tri mis blaenorol, dywedodd 17% eu bod yn cerdded am fwy na 10 munud bob dydd, dywedodd 18% eu bod yn cerdded sawl gwaith yr wythnos a dywedodd 16% unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Roedd 8% arall yn cerdded unwaith neu ddwywaith y mis a dywedodd 41% eu bod yn cerdded yn llai aml neu nad oeddent byth yn cerdded.

Ffigur 5: Amlder teithio llesol drwy gerdded yn ôl rhyw, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae Ffigur 5 yn dangos cyfran y bobl a deithiodd drwy gerdded yn ôl amlder teithio llesol a rhyw yn 2022-23.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Roedd pobl â salwch cyfyngus hirdymor, anabledd neu eiddilwch yn llai tebygol o gerdded bob dydd (13%) am fwy na 10 munud na phobl heb salwch cyfyngus (19%).

Ffigur 6: Amlder teithio llesol drwy gerdded, yn ôl salwch cyfyngus hirdymor, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Mae Ffigur 6 yn dangos cyfran y bobl a deithiodd drwy gerdded yn ôl amlder teithio llesol a salwch cyfyngus hirdymor yn 2022-23.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Teithio llesol yn ôl dosbarthiad trefol a gwledig

Prin oedd y gwahaniaeth o ran amlder teithio llesol drwy feicio rhwng y rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd trefol yn 2022-23.

Ffigur 7: Cyfran y bobl a deithiodd drwy feicio o leiaf unwaith y mis yn ôl dosbarthiad trefol a gwledig, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Mae Ffigur 7 yn dangos cyfran y bobl a deithiodd drwy feicio o leiaf unwaith y mis yn ôl y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig a threfol yn 2022-23.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Roedd 62% o bobl mewn ardaloedd trefol yn cerdded am fwy na 10 munud fel dull o deithio o leiaf unwaith y mis, o gymharu â 52% o bobl mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd 17% o bobl mewn ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig eu bod yn cerdded bob dydd fel dull o deithio yn 2022-23.

Ffigur 8: Amlder teithio llesol drwy gerdded yn ôl dosbarthiad trefol a gwledig, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Mae Ffigur 8 yn dangos cyfran y bobl a deithiodd drwy gerdded yn ôl amlder teithiol llesol a dosbarthiad trefol a gwledig yn 2022-23.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Teithio llesol yn ôl iechyd cyffredinol

Gofynnwyd i ymatebwyr yr Arolwg Cenedlaethol roi gradd i'w hiechyd cyffredinol yn dechrau o ‘gwael iawn’ i ‘da iawn’. Fel y gellid disgwyl efallai, roedd cydberthynas glir rhwng cerdded a beicio at ddibenion teithio llesol ac iechyd cyffredinol yr ymatebwyr. Roedd pobl a ddywedodd fod eu hiechyd yn ‘dda iawn’ neu'n ‘dda’ yn fwy tebygol o gerdded yn rheolaidd. Fodd bynnag, ni ellir defnyddio'r ystadegau hyn i ddod i gasgliadau ynghylch natur y gydberthynas – gall rhai pobl fod yn iach oherwydd eu bod yn cerdded a gall pobl eraill ddewis teithio'n llesol am eu bod yn iach yn barod.

Roedd 19% o bobl ag iechyd da iawn a 18% o bobl ag iechyd da yn cerdded fel dull o deithio bob dydd o gymharu â 15% a ddywedodd fod eu hiechyd yn weddol. Dim ond 36% o bobl ag iechyd gwael neu wael iawn oedd yn cerdded fel dull o deithio o leiaf unwaith y mis yn 2022-23.

Ffigur 9: Amlder teithio llesol drwy gerdded yn ôl iechyd cyffredinol, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Mae Ffigur 9 yn dangos cyfran y bobl a deithiodd drwy gerdded yn ôl amlder teithiol llesol ac iechyd cyffredinol yn 2022-23.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Termau a diffiniadau

Trefol a gwledig

Mae “trefol” yn cynnwys aneddiadau gyda phoblogaeth o 10,000 neu fwy a threfi bach a'u cyrion, lle mae'r ardal gyfagos ehangach yn fwy prin ei phoblogaeth. Mae “gwledig” yn cynnwys pob ardal arall.

Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, lle cydnabyddir bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu i analluogi pobl sydd â nam neu gyflyrau iechyd neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Mae'r Arolwg Cenedlaethol Cymru, sef ffynhonnell y data ar gyfer y datganiad hwn, yn Casglu data gan ddefnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd a ddefnyddir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (“nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu unigolyn i wneud hynny cynnal gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd”).

Gwybodaeth am ansawdd

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r canlyniadau a nodir yn y bwletin hwn yn seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023.

Defnyddiwyd 32,550 o gyfeiriadau gyda'r cyfwelwyr yn cynnal cyfweliadau dros y ffôn gydag oedolyn (16+ oed) a ddewiswyd ar hap yn yr aelwyd. Cynhaliwyd cyfanswm o 11,140 o gyfweliadau dros y ffôn.

I gael rhagor fanylion gweler adroddiad Technegol Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Dehongli'r canlyniadau

Mae'r ffigurau a ddyfynnir yn y bwletin hwn yn seiliedig ar yr ymatebwyr a roddodd ateb i'r cwestiwn perthnasol yn unig. Dim ond is-sampl o ymatebwyr a gafodd eu holi am rai pynciau yn yr arolwg ac ni ofynnwyd cwestiynau eraill os nad oeddent yn berthnasol. Gall atebion coll hefyd ddigwydd am nifer o resymau, gan gynnwys amharodrwydd neu anallu i ateb cwestiwn penodol.

Lle nodwyd cydberthynas rhwng dau ffactor, nid yw hyn yn golygu mai cydberthynas achosol ydyw. Mae angen dadansoddiad manylach er mwyn nodi a yw un ffactor yn achosi newid mewn un arall, neu a yw ffactorau eraill yn bwysicach mewn gwirionedd.

Mae'r canlyniadau'n cael eu pwysoli er mwyn sicrhau bod y canlyniadau'n adlewyrchu dosbarthiad oedran a rhyw poblogaeth Cymru.

Adroddiad ansawdd

Mae adroddiad ansawdd cryno ar gael, sy'n cynnwys gwybodaeth fanylach am ansawdd yr arolwg yn ogystal â chrynodeb o'r dulliau a ddefnyddir i lunio'r canlyniadau.

Cyd-destun

Mae'r Ddeddf Teithio Llesol (Deddfwriaeth y DU) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol yng Nghymru i fapio a chynllunio ar gyfer llwybrau teithio llesol addas, adeiladu a gwella isadeiledd ar gyfer cerdded a beicio, a hyrwyddo cerdded a beicio bob blwyddyn.

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn i roi gwybodaeth i lywodraeth, y cyfryngau a chymdeithas ac fe'u defnyddir o fewn Llywodraeth Cymru i lunio a monitro polisïau. Ar hyn o bryd, nid oes ffynonellau data cyfredol a swyddogol eraill ar gael ynghylch teithio llesol yng Nghymru. Ymhlith pethau eraill, defnyddir y ffigurau hyn yn benodol i fonitro effaith Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Cywirdeb

Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar Arolwg Cenedlaethol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am gywirdeb yr arolwg hwn yn yr adroddiad ansawdd.

Amseroldeb a phrydlondeb

Casglwyd y ffigurau ar gyfer 2022-23 a chafodd datganiad cyntaf Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23 ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2023.

Hygyrchedd ac eglurder

Caiff y bwletin ystadegol hwn ei rag-gyhoeddi a'i osod ar y wefan Ystadegau ac Ymchwil.

Cymharu a chydlynu

Mae'r cwestiynau yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 ar Deithio Llesol yn wahanol i gwestiynau blaenorol ac felly nid oes modd cymharu'r data'n uniongyrchol â bwletinau ystadegol blaenorol. Mae'r tabl isod yn dangos y cwestiynau a gafodd eu cynnwys yn 2022-23 ar deithio llesol. Yn y bwletin hwn dadansoddwyd cwestiynau'r arolwg dros sawl blwyddyn os oeddent wedi aros yr un peth, fel y dangosir yn y tabl isod.  Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau am deithio llesol gan blant yn 2022-23. Yn 2020-21 er gwaethaf cwestiynau yn cael eu gofyn, roedd y rhain drwy gyfweliad dros y ffôn ac nid oedd gwybodaeth ar gael yn gyhoeddus.

Categoriau y cwestiynau a ofynnwyd ar deithio llesol (oedolion) yn arolwg 2022-23
Teithio llesol - oedolion 2018-19 2019-20 2020-21 2021-22 2022-23
Pa mor aml yn defnyddio beic i fynd rhywle D D D D D
Pa mor aml yn cerdded am 10 munud i gyrraedd rhywle  D D D D D
Yn cerdded (10 munud+) neu'n beicio o leiaf unwaith yr wythnos fel dull o deithio D D D D D

D: wedi ei ofyn
N: heb ei ofyn

Cyhoeddiadau cysylltiedig

 

Mae'r Adran Drafnidiaeth yn llunio adroddiad ar Ystadegau cerdded a beicio ar gyfer Lloegr.

Mae Transport Scotland yn llunio adroddiad ar  Gludiant a Theithio yn yr Alban.

Mae'r Adran Seilwaith yn llunio cyfres o dablau ar Dueddiadau Teithio Llesol a Thrafnidiaeth Gyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.

Symbolau

Talgrynnwyd y ffigurau i'r cyfanrifau agosaf. Efallai y bydd anghysondeb i'w weld rhwng swm yr eitemau cyfansoddol a'r cyfanswm a ddangosir.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac yn dynodi cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai pob ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n bodloni'r safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror 2011 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Ychwanegu at a mireinio gwybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi.
  • Gwella ein dealltwriaeth o'r gwahanol ffynonellau data a'r fethodoleg y tu ôl iddynt, gan gynnwys eu cryfderau a'u cyfyngiadau.
  • Ychwanegu ffynonellau data perthnasol newydd i roi darlun ehangach o'r pwnc.
  • Gwell delweddau drwy symleiddio a safoni siartiau a thablau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon gyda'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'u hadfer pan fydd safonau'n cael eu hadfer.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Mae'r rhain ar gyfer Cymru fwy cyfartal, ffyniannus, gwydn, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog a iaith Gymraeg sy’n ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae'n rhaid eu cymhwyso at y diben o fesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau Llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10 (8) o’r Ddeddf, pan fydd Gweinidogion Cymru yn adolygu’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol (a) cyhoeddi’r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau a gynhwysir yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Awst 2024 (dros dro)

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn y gellir eu darparu drwy e-bost i ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 30/2023

Image
Ystadegau Gwladol