Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

1.    Pwrpas y Canllawiau hyn yw cadarnhau’r blaenoriaethau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi drwy grant y Gronfa Teithio Llesol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2023-24. 

2.    Mae hefyd yn nodi’r broses y dylai awdurdodau lleol ei dilyn wrth gyflwyno ceisiadau, a sut y byddant yn cael eu hasesu. Mae cyngor a chymorth i helpu awdurdodau lleol i gadarnhau eu cynlluniau arfaethedig a chwblhau eu ceisiadau ar gael gan y cynghorydd teithio llesol enwebedig a gan TrC. Anogir awdurdodau lleol i gysylltu â’r cyswllt perthnasol cyn gynted ag y bo modd.

3.    Bydd cyllid yn cael ei roi’n uniongyrchol i awdurdodau lleol i gyflawni prosiectau 2023/24. Mae hefyd modd gwneud ceisiadau ar gyfer prosiectau mawr a chymhleth, sy’n gallu cymryd hyd at dair blynedd i’w cwblhau, ond mae’n rhaid i’r gwaith adeiladu ar gyfer y rheini fod wedi’i drefnu i ddechrau adeiladu yn 2023/24 a’i gwblhau erbyn diwedd 2025/26. Rhaid nodi’r amcangyfrif o gyfanswm costau’r cynllun yn y cais gyda dadansoddiad o’r gwariant ym mhob blwyddyn ariannol. Bydd cynlluniau sy’n cymryd sawl blwyddyn i’w cwblhau, os byddant yn llwyddiannus, yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cyllid yn y blynyddoedd dilynol dros gyfnod y cynllun, ar yr amod bod cyllid grant ar gael a bod cynnydd boddhaol yn cael ei wneud. 

4.    Yn eich ceisiadau, mae’n rhaid i chi ddangos eich bod wedi dilyn Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (WelTAG). Mae WelTAG wrthi’n cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd. 

5. Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (WelTAG) 2022 [HTML] - LLYW.CYMRU

Newidiadau allweddol

Adran

Newid

Categorïau Cynllun

Trothwyon cyllid dangosol cynllun Categori 1 wedi codi o £200k i £250k.

Pecynnau

Gall gwelliannau Categori 1 a/neu fân waith gael eu hychwanegu at gynigion Pecyn i helpu i ryddhau cyllid o’r dyraniad Craidd (mae hyn wedi’i gynnwys oherwydd y cynnydd yng nghost cynigion datblygu’r cynllun)

Ffurflen Gais y Prif Gynllun

Mân newidiadau fel lleihau nifer geiriau yn yr adrannau a symleiddio a gosod Adran 8 yn Adran 7

Cymhwysedd ar gyfer cyllid cyfalaf

Bydd y rhan fwyaf o’r cyllid sydd ar gael i ddarparu cynlluniau Teithio Llesol ledled Cymru ar gyfer 2023-24 ar gael drwy Raglen Grant y Gronfa Teithio Llesol. Bydd yn cynnwys cyfran sydd ar gael i awdurdodau lleol drwy broses ymgeisio’r prif gynllun, cyfran i ddarparu cyllid dyraniad craidd i awdurdodau lleol, a chyfran i reoli’r gronfa ac i helpu Llywodraeth Cymru i wella’r ffordd mae'r Ddeddf Teithio Llesol yn cael ei rhoi ar waith. Dangosir y dyraniadau craidd sydd ar gael i awdurdodau lleol yn Atodiad 1.

Rhaid i bob cynllun gydymffurfio â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a’i Chanllawiau ategol, a ddiweddarwyd yn 2021. Dim ond pan fydd dyluniad y cynllun yn adlewyrchu Canllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol y rhoddir cyllid ar gyfer cynlluniau teithio llesol.

Rhaid i gynlluniau sy’n cynnwys gwella priffyrdd, adeiladu, neu reoli traffig ddangos sut maen nhw’n cydymffurfio’n benodol ag Adran 9 o’r Ddeddf (Darpariaeth i gerddwyr a beicwyr wrth ymarfer rhai swyddogaethau). Mae hyn yn cynnwys rhoi ystyriaeth briodol i’r gweithdrefnau ar gyfer rheoli gwaith stryd, gwaith ffordd a gweithgareddau cynnal a chadw cysylltiedig lle bynnag y gallant effeithio ar gerddwyr a beicwyr, fel y nodir yn 114/20 Canllawiau Atodol ar gyfer Diogelwch Gwaith Stryd a Gwaith Ffordd, Cod Ymarfer 2013 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd angen i chi hefyd gadarnhau bod cynllun yn rhan o lwybr teithio llesol dynodedig nawr neu yn y dyfodol. Dylid nodi cyfeirnodau Map y Rhwydwaith Teithio Llesol ar y ffurflenni cais perthnasol.

Wrth ddylunio cynlluniau, rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried eu cyfrifoldebau o dan Adran 6 – Dyletswydd ar Fioamrywiaeth a Chadernid Ecosystemau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r ddyletswydd yn gorchymyn awdurdodau cyhoeddus i gynnal a chadw a gwella bioamrywiaeth i’r graddau sy’n briodol ac yn gyson â gweithredu eu swyddogaethau, ac wrth wneud hynny, hyrwyddo cadernid ecosystemau. Mae hyn, er enghraifft, yn hynod berthnasol i drin lleiniau ymyl ffordd a chynlluniau plannu fel rhan o brosiectau trafnidiaeth. Mae’r Canllawiau ar y Ddyletswydd ar gael yma:

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016: taflenni ffeithiau | LLYW.CYMRU

Gall awdurdodau lleol gydweithio ar eu ceisiadau. Rhaid nodi’r awdurdod lleol arweiniol ar gyfer pob cynllun. Byddai cyllid yn cael ei ddyrannu i’r awdurdod lleol arweiniol.

Byddwn yn cyllido gwaith a gwaith ymlaen llaw/datblygu'r cynllun ar gyfer y prif gynlluniau cyfalaf, a dylid cynnwys cost monitro a gwerthuso, ac ymgysylltu a hyrwyddo'r cynllun. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod ystyriaeth ddigonol yn cael ei rhoi i bob un o’r elfennau hyn ac mae rhagor o wybodaeth yn cael ei chynnwys yn nes ymlaen yn y nodyn cyfarwyddyd hwn.

Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu hyd at y swm a ddyfernir ar gyfer gwariant cymwys gwirioneddol ar gynllun a dderbynnir. Bydd y cyllid yn cael ei gapio ar lefel y dyfarniad a bydd yn ofynnol i’r awdurdod lleol ysgwyddo’r risg o unrhyw orwario a allai ddigwydd. Os bydd mwy o gostau’n codi oherwydd amgylchiadau eithriadol sydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod lleol, gall Llywodraeth Cymru ystyried rhoi cyllid ychwanegol.

Disgwylir i Awdurdodau Lleol gyflawni’r cynlluniau a dderbyniwyd yn unol â’u ceisiadau. Bydd angen adroddiadau ar gynnydd yn achlysurol drwy gydol blwyddyn ariannol 2023/24 a dylid darparu gwybodaeth ar ddiwedd y prosiect, naill ai drwy adroddiadau blynyddol presennol neu adroddiadau sy’n benodol i brosiect, ar ôl cwblhau prosiectau adeiladu er mwyn canfod effaith y cynlluniau, yn ogystal â nodi unrhyw wersi a ddysgwyd. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chynnwys yn y llythyr dyfarnu.

Bydd yr argymhellion cyllido terfynol hefyd yn ystyried i ba raddau mae’r awdurdod lleol wedi cyflawni yn erbyn ei ragolygon mewn perthynas â grant y Gronfa Teithio Llesol dros y blynyddoedd diwethaf.

Gall swyddogion Llywodraeth Cymru, swyddogion Trafnidiaeth Cymru neu eu cynrychiolwyr wneud cais am gyfarfodydd neu ymweliadau safle i drafod cynnydd y cynllun yn ôl yr hyn y maen nhw’n ystyried sy’n briodol. Gallai methu â dangos cynnydd priodol o ran cyflawni’r cynllun olygu bod cynigion cyllido’n cael eu tynnu’n ôl a bod yr awdurdod lleol yn adennill y cyllid sydd wedi’i hawlio hyd at y pwynt hwnnw.

Pan fydd mwy nag un cais yn cael ei gyflwyno, dylid rhoi pob cynllun neu becyn o gynlluniau mewn trefn blaenoriaeth.

Pan gafodd cynlluniau sawl blwyddyn eu cymeradwyo yn 2021-22 neu 2022-23, bydd angen cais i ddiweddaru’r wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol. Rhowch enwau unrhyw gynlluniau parhad i swyddogion Trafnidiaeth Cymru cyn gynted ag y bo modd, gan y gallant helpu’r broses hon wrth lenwi'r porth ar-lein ymlaen llaw. Dylai hyn dynnu sylw at newidiadau i ddyluniad y cynllun, amserlenni a swm y grant sydd ei angen. Os bydd y cais yn amrywio’n sylweddol o’r hyn a gyflwynwyd yn flaenorol, bydd hyn yn cael ei werthuso fel petai’n gynllun newydd ac ni fydd yn denu cyllid yn awtomatig.

Y Broses o wneud cais

Bydd disgwyl i awdurdodau lleol gyflwyno eu ceisiadau drwy borth ar-lein Trafnidiaeth Cymru, sydd ar gael drwy ddilyn y ddolen isod:

https://trcsrg.powerappsportals.com/SignIn

Mae rhagor o arweiniad a hyfforddiant ar sut mae defnyddio’r porth ar gael i swyddogion awdurdodau lleol. I gael rhagor o wybodaeth a chymorth, cysylltwch â TrC drwy anfon e-bost at: grants@tfw.wales

Rhaid i geisiadau, gan gynnwys cynlluniau sy’n gofyn am gyllid dyraniad craidd, gynnwys cynllun sy’n dangos y cynllun mewn cymaint o fanylder â phosibl yn ystod y cam ymgeisio ynghyd â map sy’n dangos sut mae’r cynllun yn cyd-fynd â’r rhwydwaith teithio llesol ehangach er mwyn darparu cyd-destun. Rhaid cynnwys cyfeirnod grid i nodi lleoliad y cynllun ar y ffurflen gais hefyd.

Ar gyfer pob cais am ddatblygu cynlluniau a phrif gynlluniau, ac ar gyfer ceisiadau perthnasol am gyllid craidd (ee lle bydd cynigion yn gwella neu’n uwchraddio llwybr presennol), dylai awdurdodau lleol ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu sgoriau archwilio llwybrau teithio presennol ac yn y dyfodol ar ffurf asesiadau wedi’u cwblhau gan ddefnyddio’r adnoddau archwilio cerdded a beicio sydd yn y Canllawiau ar y Ddeddf Teithio Llesol. Os na ddarperir tystiolaeth, ni fydd yr elfen hon o’r meini prawf sgorio ond yn cael ei hasesu fel un sy’n bodloni’r gofynion archwilio sylfaenol (70%-79%).

Rhaid darparu dogfennau ategol fel a ganlyn:

Mapiau a chynlluniau sy'n gysylltiedig â phob cais (rhaid i’r mapiau a’r cynlluniau hyn ddangos y mesurau arfaethedig yn glir). Ceisiadau craidd – bydd cynllun yn dangos lleoliadau dangosol yn ddigonol. Ceir enghraifft o arfer da yn Atodiad 8.

Lluniadau o ddyluniadau (manwl os oes modd) gan gynnwys lluniadau trefniant cyffredinol ar gyfer pob cynllun adeiladu, ac ar gyfer datblygu cynlluniau a cheisiadau craidd lle bo hynny’n berthnasol ac ar gael.

Tystiolaeth i gefnogi cynnydd gatiau cyfnodau ar gyfer y prif gynlluniau a chynigion datblygu cynlluniau.

Rhaid i wybodaeth ategol arall, sydd yn eich barn chi yn hanfodol i’r cais, fod cyn lleied â phosibl ac yn ddienw, lle bo hynny’n berthnasol.

Mae gofynion y cais yn amrywio gan ddibynnu a yw awdurdod lleol yn gwneud ceisiadau am gyllid sy’n ymwneud â phrif gynlluniau, cynigion datblygu cynlluniau neu weithgareddau eraill yng nghyswllt dyraniadau craidd. Mae’r gofynion hyn yn cael eu hegluro ymhellach yn yr adrannau a ganlyn, ac yn cael eu crynhoi yn Atodiad 7.

Y broses werthuso

25.    Bydd ceisiadau’n cael eu gwerthuso gan swyddogion Trafnidiaeth Cymru a chynrychiolwyr perthnasol fel y bo’n briodol a bydd eu hargymhellion wedyn yn cael eu hystyried gan banel sy’n cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru.

26.    Y Dirprwy Weinidog a’r Gweinidog Newid Hinsawdd fydd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ar gyllido.

27.    Mae’r meini prawf asesu ar gyfer y grantiau wedi’u nodi yn Atodiad 2 (ceisiadau’r Prif Gynllun) ac Atodiad 3 (ceisiadau am Ddyraniad Craidd) isod. 

28.    Defnyddir pwysoliad gyda’r meini prawf asesu ar gyfer y prif gynlluniau fel y nodir yn y tabl isod, a fydd yn cael ei luosi â’r gwerthoedd asesu a’i adio at ei gilydd i roi sgôr derfynol ar gyfer pob cynllun a gyflwynir drwy’r broses ceisiadau cystadleuol.
 

Categori Meini Prawf Asesu’r Prif Gynllun

Sgôr Gychwynnol (uchafswm)

Pwysoliad

Sgôr wedi'i phwysoli (uchafswm)

Cyd-fynd yn Strategol – Achos dros Newid

5

5

25

Cyd-fynd yn Strategol – Cyd-fynd ag Amcanion y Grant

5

5

25

Achos Trafnidiaeth – Asesiad o Effaith

5

5

25

Ansawdd Seilwaith

10

5

50

Monitro a Gwerthuso

5

3

15

Cymunedau ac Ymgysylltu

5

3

15

Gallu i gyflenwi

5

5

25

Arian cyfatebol

5

1

5

Cyfanswm y Sgôr wedi’i Phwysoli (uchafswm)

190

Dyddiad olaf ar gyfer cyflwyniadau

29. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cyflwyniadau yw 23:59 ar 1 Chwefror 2023.

30. Ni dderbynnir unrhyw wybodaeth ychwanegol neu ddiwygiedig ar ôl y dyddiad uchod, oni bai fod Trafnidiaeth Cymru yn gofyn am hynny
 

Prif gynlluniau

31.    Gwahoddir awdurdodau lleol i wneud cais am hyd at bedwar prif gynllun, neu becynnau o gynlluniau, ar gyfer llwybrau mewn ardaloedd dynodedig neu sy’n gysylltiedig â nhw. Dylid cyflwyno’r ceisiadau hyn gan ddefnyddio ffurflen gais y prif gynlluniau ar y porth ar-lein. Dylai’r rhain fod yn gynigion ar gyfer gwaith adeiladu sy’n cymryd cynlluniau (fel arfer yng Nghategori 2, 3 neu 4 fel y dangosir isod) o Gam Prosiect E (cynllun manwl o un opsiwn) i gwblhau Cam F (cwblhau a throsglwyddo). O’r herwydd, dylid bod wedi datrys yr holl risgiau cyflawni mawr (e.e. perchnogaeth tir, cydsyniadau, gorchmynion cyfreithiol) cyn cyflwyno’r cais am gyllid. Felly, ni ddylai ceisiadau prif gynllun gynnwys cynigion ar gyfer bwriadau datblygu’r cynllun y dylid eu hariannu o’ch dyraniad craidd, a’u cyflwyno drwy’r ffurflenni cais craidd.

32.    Gall awdurdodau lleol hefyd gyflwyno uchafswm o un cynnig, wedi’i gynnwys yn eu cyfanswm o hyd at bedwar prif gynllun, sy’n cefnogi’r cynnig gwledig. Dylai’r cynigion hyn geisio gwella llwybrau y tu allan i ardaloedd dynodedig sy’n cefnogi blaenoriaeth Strategaeth Drafnidiaeth Cymru o weithio tuag at y cynllun ‘Beicio Diogel o Bentrefi i Drefi’, gan gysylltu trefi marchnad a chanolfannau lleol arwyddocaol eraill â phentrefi cyfagos a datblygiadau anghysbell drwy fynediad teithio llesol diogel.

33.    Dim ond cynlluniau sydd wedi’u nodi ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol, fel a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, neu a gyflwynwyd iddynt, fydd yn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer cyllid. 

34.    Nid yw bod yn llwybr cymeradwy ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn warant y bydd y cynllun yn cael ei ariannu ar gyfer ei gyflawni. Rhaid i awdurdodau lleol allu dangos bod achos cryf dros newid, yn enwedig mewn perthynas â chyflawni amcanion y grant, yn bodoli adeg y cais.

35.    Bydd awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau eu bod nhw’n cadw at yr amserlen ac yn rhoi gwybod am unrhyw newid i’r rhaglen waith a/neu’r proffil gwariant cyn gynted ag y bo modd.  Gallai methu â dangos cynnydd priodol o ran cyflawni’r cynllun olygu bod cynigion cyllido’n cael eu tynnu’n ôl a bod yr awdurdod lleol yn adennill y cyllid sydd wedi’i hawlio hyd at y pwynt hwnnw.

Graddfa’r prosiect a chategorïau’r cynllun

36.    Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ystod o gynlluniau sy’n amrywio o ran maint, graddfa a chwmpas; ac anogir awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau sy'n uchelgeisiol ond yn ymarferol ac sy’n ceisio bodloni’r egwyddorion dylunio o'r ansawdd uchaf a nodwyd yng Nghanllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol. 

37.    Er mwyn helpu i bennu lefel y gefnogaeth, goruchwyliaeth a rheolaeth risg sy’n ofynnol ar gyfer prosiect, neu becyn o brosiectau, dylai awdurdodau lleol bennu categori cynllun ar gyfer pob prosiect yn seiliedig ar y tabl isod:
 

Categori

Disgrifiad

Trothwy dangosol

Categorïau Risg WelTAG

1

Mae prosiectau’n debygol o fod yn llai o ran maint, risg isel, gyda llai o gymhlethdod technegol, a bod angen llai o gymorth.  Y prif ffocws fydd cynlluniau mân waith gan gynnwys mentrau ardal gyfan fel gwella arwyddion, adnewyddu/tynnu rhwystrau, uwchraddio mannau croesi a gweithio i greu hydreiddedd sydd wedi’i hidlo.

<£250K

Isel

2

Cynigion ar raddfa fach i ganolig y gellir eu cyflawni o fewn blwyddyn ariannol heb fawr o anhawster. Tebygolrwydd o allbynnau sylweddol o ran defnydd neu effaith leol.

£250-£500K

Isel/Canolig

3

Cynlluniau o faint canolig. Y mwyaf y gellir ei gwblhau mewn blwyddyn, ond y gellid ei rannu dros ddwy flynedd.

£500K - £1.5m

Canolig/Uchel

4

Sawl blwyddyn. Prosiectau mawr a chymhleth gyda gofynion cymhleth sy’n cystadlu â’i gilydd, sy'n golygu bod angen mwy o gefnogaeth i gyflawni’r prosiect.

£1.5m+

Uchel

System gatiau cyfnodau

38.    Er mwyn sicrhau bod cynlluniau’n cael eu datblygu yn unol â phroses WelTAG, cafodd system gatiau cyfnodau ei chyflwyno ar gyfer rhaglen y Gronfa Teithio Llesol. Mae map proses yn dangos sut mae’r gatiau cyfnod cyfredol yn cyd-fynd â WelTAG, ynghyd â’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer pob cyfnod i alluogi'r cynlluniau i symud ymlaen drwy gatiau’r cyfnodau, wedi’i nodi yn Atodiad 4. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol nodi yn eu cais ar gyfer prif gynlluniau pryd maen nhw’n rhagweld y byddant yn symud ymlaen drwy’r gwahanol gatiau cyfnodau yn eu rhaglen gyflenwi.

39.    Bydd gofyn i awdurdodau lleol ddarparu tystiolaeth i ddangos cynnydd drwy'r gatiau cyfnodau fel rhan o’u proses hawlio ac adrodd chwarterol, neu ar adegau eraill, ar gais. . Fel isafswm, dylid trafod dewis yr opsiwn a ffefrir a’r camau dylunio a chytuno arnynt gyda’r cynghorydd enwebedig cyn symud ymlaen i’r cam datblygu nesaf.

40.    Mae’r broses hon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd a bydd rhagor o arweiniad ar newidiadau i’r broses yn dilyn. Ar ôl cyflwyno’r cynllun, bydd angen i bob cynllun newydd a gyflwynir ar gyfer datblygu’r cynllun ddilyn y broses ddiweddaraf.

41.    Bydd angen i awdurdodau lleol gytuno ar ddyluniadau’r cynllun ar gyfer eu cynigion gyda TrC neu ei gynrychiolwyr cyn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag adeiladu. Gwnewch hyn cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau oedi wrth gyflawni’r prosiect. 

Pecynnau cynllun

42.    Gall Awdurdodau Lleol gyflwyno ceisiadau ar gyfer prosiectau unigol neu ar gyfer pecyn o brosiectau cysylltiedig sydd ag achos cyffredin dros newid, fel y nodir isod, fel eu pedwar prif gynllun (neu hyd at hynny). Dylai ceisiadau am becyn o brosiectau gynnwys dim mwy na thri chynllun adeiladu unigol, gan gynnwys rhestr yn ogystal â rhestr wedi’i chostio o’r prosiectau cysylltiedig yn nhrefn blaenoriaeth. Felly, ni ddylai ceisiadau am becynnau cynllun gynnwys cynigion datblygu cynllun oherwydd dylai’r rhain gael eu hariannu o’ch dyraniad craidd, gyda chynigion am weithgareddau o’r fath yn cael eu cyflwyno drwy’r ffurflenni cais craidd.

43.    Pan fyddant yn cefnogi’r achos cyffredin dros newid pecyn neu wella’r rhwydwaith, gall awdurdodau lleol gynnwys cynllun Categori 1, fel gwella llwybr, neu gynigion i wella mân waith (fel croesfannau ychwanegol gwell, gosod goleuadau ac arwyddion) fel un o’r cynlluniau yn y pecyn. Bydd hyn yn helpu i ryddhau cyllid o fewn y dyraniad Craidd i dalu am unrhyw gostau datblygu cynllun ychwanegol.

44.    Mae Llywodraeth Cymru am i awdurdodau lleol fabwysiadu dull holistaidd sy’n seiliedig ar leoedd i ddatblygu cynlluniau pecyn yn hytrach nag, er enghraifft, cyfuno nifer o gynlluniau unigol ym mhob un o’u setliadau dynodedig neu nifer o leoliadau unigol. Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu a yw’r dull hwn wedi cael ei roi ar waith yn llwyddiannus wrth ystyried a ddylid parhau â cheisiadau am becynnau yn y dyfodol.

45.    Gallai pecynnau prif gynlluniau mwy gynnwys cynlluniau sy’n rhannu man cychwyn neu gyrchfan cyffredin, er enghraifft nifer o lwybrau sy’n cysylltu â chyfleuster addysg unigol, canol tref neu gyfnewidfa drafnidiaeth. Gallent hefyd gynnwys ymyriadau mwy cymhleth ar draws ardal gyfan sy’n debygol o olygu mwy o bwyslais ar gynnwys ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, fel cyflwyno hydreiddedd sydd wedi’i hidlo neu ostegu traffig ar draws ardal gyfan er mwyn gostwng cyflymder traffig. Mae hyn yn dechrau mynd i’r afael â’r angen i alluogi teithiau cyfan o’r dechrau i’r diwedd, cynyddu gwelededd a chyrhaeddiad cynlluniau a hefyd yn galluogi ymgynghori ac ymgysylltu yn ddyfnach yn yr ardal honno nag y gellir ei gyflawni fel arall. 

46.    Yn dibynnu ar flaenoriaethu lleol a llwyddiant wrth ymgeisio, efallai na fydd rhai ardaloedd dynodedig yn gweld buddsoddiad newydd ar raddfa fawr yn y tymor byr. Fodd bynnag, mae’r dyraniad craidd, sy’n galluogi awdurdodau lleol i wneud gwelliannau parhaus ar raddfa fach yn ogystal ag ymgymryd â gwaith ymlaen llaw ar gyfer y prif gynlluniau, ar gael i fynd i’r afael â materion yn yr ardaloedd hynny yn y cyfamser. 

47.    Gallai pecynnau mân waith gynnwys cynigion tebyg ond sy’n mynd i’r afael â bylchau a diffygion yn y rhwydwaith ar draws anheddiad neu ardal awdurdod lleol, fel gwelliannau i arwyddion, cael gwared neu amnewid rhwystrau a gweithredu cyfleusterau cysylltiedig, fel lle parcio i feiciau. Mae awdurdodau lleol yn deall pecynnau llai o gynlluniau o’r fath yn dda a gellir eu dosbarthu fel cynigion Categori 1 a’u cyflawni drwy’r cyllid Dyraniad Craidd, neu fel rhan o becyn prif gynllun fel y disgrifir ym mharagraff 41.

Cyd-fynd yn strategol: cyd-fynd ag amcanion y grant

48. Rhaid i’ch ceisiadau ddangos sut y bydd eich cynigion yn cyfrannu at gyflawni amcanion grant y Gronfa Teithio Llesol fel y nodir isod:

Enw’r grant

Amcanion y grant

Y Gronfa Teithio Llesol

  • Annog newid moddol o gar i deithio llesol ar ei ben ei hun neu ar y cyd â thrafnidiaeth gyhoeddus
  • Gwella mynediad teithio llesol at gyflogaeth, addysg, gwasanaethau allweddol a chyrchfannau allweddol eraill sy’n cynhyrchu traffig
  • Cynyddu lefelau teithio llesol
  • Cysylltu cymunedau

49.    Lle bo cynlluniau teithio llesol yn cefnogi integreiddio â dulliau trafnidiaeth cynaliadwy eraill, efallai y byddant yn cael eu hystyried yn addas i’w cydnabod fel rhan o raglenni ehangach y Metro a’u hystyried ar gyfer llwybrau ariannu eraill.

Achos trafnidiaeth: asesiadau o effaith

50.    Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a chyda'i gilydd, ceisio atal problemau a dilyn dull gweithredu cyson.

51.    Mae Deddf 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i geisio cyflawni'r nodau ac amcanion llesiant ym mhopeth a wnânt. 

52.    Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru yw ein strategaeth ar gyfer dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Mae’n nodi ein huchelgeisiau ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae’r rhain yn sail i amcanion y grant. 

Llwybr Newydd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021: strategaeth lawn (llyw.cymru)

53.    Yn eich cais, rhaid i chi ddangos yn gryno sut mae eich cynnig yn cyfrannu at uchelgeisiau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ac amcanion llesiant lleol eich awdurdod. Mae adran Asesu Effaith y ffurflen gais yn rhoi cyfle penodol i wneud hyn.

https://www.futuregenerations.wales/wp-content/uploads/2017/01/wfg-essentials-guide-cy.pdf

Ansawdd seilwaith

31. Er mwyn helpu awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau sy’n uchelgeisiol ac i sicrhau bod pob prosiect sy’n derbyn cyllid yn cael yr effaith fwyaf posibl, mae Canllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol wedi nodi’r egwyddorion canlynol o ran anghenion defnyddwyr:

  • Datblygu syniadau ar y cyd ac mewn partneriaeth â chymunedau
  • Hwyluso cerdded, beicio a dulliau teithio eraill sy’n defnyddio olwynion, yn annibynnol i bawb, gan ddiwallu anghenion plentyn oed ysgol uwchradd ar ei ben ei hun, rhywun yn gwthio bygi dwbl, beic wedi'i addasu, neu feiciwr llai profiadol
  • Dylunio mannau sy’n cynnig mwynhad, cysur ac amddiffyniad
  • Sicrhau hygyrchedd i bawb a chyfle cyfartal mewn mannau cyhoeddus
  • Sicrhau y caiff pob cynnig ei ddatblygu mewn ffordd a arweinir gan dystiolaeth ac sy’n benodol i gyd-destun
  • Dylai cynlluniau wahanu pobl sy’n cerdded, yn beicio ac yn defnyddio olwynion oddi wrth gerbydau modur neu flaenoriaethu teithio llesol gan ddefnyddio’r hierarchaeth ganlynol:
    • Cadw cerddwyr ar wahân i feicwyr a thraffig modur drwy ddarparu seilwaith gwahanedig oddi ar y cerbytffordd; drwy ailddosbarthu lle ar y ffordd, os bydd angen
    • Cadw cerddwyr a beicwyr ar wahân i draffig modur drwy ddarparu seilwaith oddi ar y cerbytffordd a rennir;
    • Gwella amodau ar y ffordd er mwyn annog a chynyddu’r niferoedd sy’n beicio ar briffordd bresennol, er enghraifft drwy leihau lefelau traffig a chyflymder.

32. Bydd pob cynllun yn cael ei asesu yn ôl pa mor dda maen nhw’n cyflawni’r egwyddorion dylunio uchod, gyda phwyslais arbennig ar ba mor dda mae’r cynlluniau’n bodloni neu’n rhagori ar y safonau seilwaith ansawdd gofynnol, fel y pennir gan yr offer archwilio yng Nghanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol: Canllawiau Teithio Llesol | LLYW.CYMRU.

Monitro a gwerthuso

56.    Rhaid i bob cynllun gofnodi gwybodaeth sylfaenol cyn cael ei gwblhau, a chael ei fonitro a’i werthuso am gyfnod o dair blynedd ar ôl ei gwblhau. Dylai lefel y monitro a’r gwerthuso fod yn gymesur â graddfa’r prosiect, ond disgwylir y bydd hyn yn cynnwys casglu data meintiol ac ansoddol, gan gynnwys defnyddio unedau cyfrif awtomatig neu ddull cyfatebol addas.

57.    Gall awdurdodau lleol gynnwys costau monitro am hyd at dair blynedd ar ôl cwblhau yn eu ceisiadau am gyllid ond rhaid nodi’r rhain yn glir.

58.    Mae rhagor o ganllawiau ar y dull gweithredu y disgwylir i awdurdodau lleol ei ddefnyddio mewn perthynas â monitro a gwerthuso, gan gynnwys templed ar gyfer datblygu Cynllun Monitro a Gwerthuso, wedi’u cynnwys yn Atodiad 5 o’r canllawiau hyn.

Ymgynghori ac ymgysylltu

59.    Bydd disgwyl i awdurdodau lleol gynnwys rhanddeiliaid perthnasol yn y gwaith o ddatblygu eu prosiectau, gan gynnwys ymgysylltu â thrigolion a chymunedau y mae’r cynllun yn effeithio arnynt. Po fwyaf o gyfle sydd gan bobl i ddylanwadu ar gynlluniau cerdded a beicio ar gyfer eu hardal leol, y mwyaf tebygol y byddant o’u defnyddio. 

60.    Ar gyfer cynlluniau sydd yng nghyfnod cynnar eu datblygiad neu lle nad oes trefniadau i ymgysylltu wedi’u gwneud ar hyn o bryd, mae templed o gynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi’i gynnwys yn Atodiad 6 er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol.

61.    Dylai awdurdodau lleol gadw cofnod o’r ymgysylltu neu’r ymgynghori a wnaed, gan gynnwys crynodeb o’r broses a ddilynwyd, yr adborth a gafwyd a sut mae hyn wedi dylanwadu ar ddatblygiad neu ddyluniad y cynllun. Dylai’r wybodaeth hon fod yn sail i’r dystiolaeth i fodloni gofynion cydweithio a chynnwys y 5 Ffordd o Weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Hyrwyddo

62.    Mae hyrwyddo yn rhan annatod o ddatblygu a darparu cynlluniau a dylid ei ymgorffori yng nghynlluniau’r prosiect oherwydd gallai roi hwb sylweddol i effaith y cynlluniau. 

63.    Gall ceisiadau gynnwys costau sy’n gysylltiedig â hyrwyddo cynlluniau am hyd at dair blynedd ar ôl cwblhau’r cynllun. Rhaid nodi’r rhain yn glir a gallant gynnwys mentrau hyrwyddo megis datblygu a chynhyrchu deunyddiau hyrwyddo (ee mapiau o rwydweithiau teithio llesol lleol y bydd y cynllun yn rhan ohonynt), gwell arwyddion i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun, cynllunio a chydlynu digwyddiadau (ee digwyddiad lansio i ddathlu cwblhau’r cynllun) hyfforddiant beicio a sesiynau trwsio beiciau i gynyddu'r defnydd o'r cynllun.

64.    Dylai unrhyw ddeunydd hyrwyddo sy’n gysylltiedig â’r cynlluniau a gyllidir, boed yn rhannol neu’n llawn, drwy’r Gronfa Teithio Llesol gydnabod cyfraniad Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru at gyflawni’r cynllun hwnnw. Dylai’r holl arwyddion a deunydd a gyhoeddir fod yn unol â Safonau’r Gymraeg.

Gallu i gyflenwi: achos rheoli

65.    Mae cwblhau Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar gyfer polisïau, gweithdrefnau a gweithgareddau newydd yn ddyletswydd gyfreithiol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru drwy Ddyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus Cymru 2011. Felly, dylai pob prosiect fod yn destun Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn unol â’r dull gweithredu a fabwysiadwyd gan eich awdurdod, a dylid lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar gydraddoldeb a ragwelir.

Proffil gwariant ariannol

66.    Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol gyflwyno proffil gwariant sylfaenol fel rhan o’u cais; a nhw fydd yn gyfrifol am sicrhau bod gwariant y cynllun yn unol â hynny. Dylai’r proffil gwariant fod yn realistig a bod yn gyson â rhaglen gyflawni’r prosiect. Dylid rhoi gwybod am unrhyw newid i’r proffil gwariant cyn gynted ag y bo modd.

67.    Bydd cynlluniau sy’n cynnwys arian cyfatebol yn derbyn sgoriau ychwanegol yn y broses werthuso, gyda chynlluniau sy’n dangos lefelau uwch o arian cyfatebol yn sgorio’n uwch.

68.    Rhaid i geisiadau nodi’n glir lefelau a ffynonellau’r cyfraniadau sydd ar gael drwy arian cyfatebol a chadarnhau y byddant ar waith i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau o fewn amserlenni’r prosiect arfaethedig. Gall arian cyfatebol ddod o ffynonellau mewnol neu allanol a gall gynnwys ffioedd proffesiynol sy’n gysylltiedig â chyflawni’r cynlluniau, yn ogystal â chyllid o ffynonellau eraill megis cyllid cyfalaf a ddarperir yn uniongyrchol gan yr awdurdod lleol neu a sicrheir drwy’r broses gynllunio.

Y Gronfa Teithio Llesol: dyraniad craidd

69. Bydd pob awdurdod lleol yn cael cyfran o’r Gronfa Teithio Llesol, fel y dangosir yn Atodiad 1. Mae’r dyraniad pro-rata yn seiliedig ar fformiwla sy’n ymwneud â maint y boblogaeth (50%) a’r ardal a wasanaethir gan setliadau dynodedig (50%), gyda dyraniad o £500,000 o leiaf ar gyfer pob awdurdod lleol.

70. Mae’r cyllid hwn ar gael ar gyfer y dibenion canlynol:

  • Datblygu cynlluniau/gwaith paratoi (dylunio, negodi a phrynu tir, ymgynghori ac ymgysylltu, monitro sylfaenol, ac ati) ar gyfer cynlluniau a nodir ar Fapiau Rhwydwaith Teithio Llesol cymeradwy neu wedi’u cyflwyno, sydd â’r potensial mwyaf o ran teithio llesol, fel arfer y rheini mewn ardaloedd dynodedig;
  • Gweithgareddau craidd i ddangos gwelliant parhaus, gan gynnwys mân waith ar lwybrau presennol / arfaethedig, i sicrhau bod llwybrau’n cyrraedd safonau dylunio a monitro ac i werthuso cynlluniau presennol. Dylai'r broses fonitro sylfaenol ar gyfer prosiectau yn y dyfodol gael ei chynnwys fel rhan o waith datblygu/cyn-gweithredu’r cynllun. Gweithgareddau hyrwyddo sy’n annog pobl i ddefnyddio’r rhwydweithiau gwell.

71. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gallu cynnig cymorth a chyngor i helpu a llywio datblygiad cynlluniau a chwblhau ceisiadau gan awdurdodau lleol. Cysylltwch â activetravel@tfw.wales.

Datblygu cynllun

72.    Gall awdurdodau lleol gyflwyno ceisiadau ar gyfer datblygu cynlluniau a gwaith ymlaen llaw i fwrw ymlaen â’r prif gynlluniau cyn cyflwyno ceisiadau ar gyfer adeiladu yn y dyfodol. Yn unol â’r dull o ymdrin â cheisiadau prif gynlluniau, dylai cynigion datblygu cynlluniau ganolbwyntio’n bennaf ar lwybrau sydd â’r potensial mwyaf o ran teithio llesol, fel arfer y rheini mewn ardaloedd dynodedig.

73.    Pan fo prosiectau datblygu cynllun yn cyrraedd blwyddyn ddilynol yn 2023-24, bydd angen cais i ddiweddaru’r wybodaeth a ddarparwyd yn flaenorol. Rhowch enwau unrhyw gynlluniau parhad i swyddogion Trafnidiaeth Cymru cyn gynted â phosibl, er mwyn iddynt allu helpu’r broses hon wrth lenwi'r porth ar-lein ymlaen llaw.  Dylai hyn amlygu newidiadau i ddyluniad y cynllun, ynghyd ag amserlenni a swm y grant sydd ei angen. Os bydd y cais yn amrywio’n sylweddol o’r hyn a gyflwynwyd yn flaenorol, caiff ei werthuso fel pe bai’n gynllun newydd ac ni fydd yn cael cyllid yn awtomatig.

74.    Mae awdurdodau lleol yn cael eu hannog yn gryf i gyflwyno cynigion ar gyfer cyllid gwaith ymlaen llaw a datblygu cynlluniau sy’n cyd-fynd yn agos ag amcanion y grant, ac yn benodol dylent ganolbwyntio ar gynlluniau sy’n debygol o annog newid moddol. Bydd darparu unrhyw dystiolaeth sydd ar gael i egluro sut mae’r cynlluniau wedi cael eu blaenoriaethu ar gyfer eu cyflwyno yn helpu i ddangos y rhesymeg dros y cynigion.

75.    Dim ond ceisiadau ar gyfer cynigion ar gyfer datblygu’r cynllun y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu cyflwyno ar y ffurflen gais dyraniad craidd wedi’i diweddaru. Er mwyn cofnodi cam datblygu cynllun yn gywir adeg ei gyflwyno, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol lenwi’r rhestr wirio gatiau cyfnodau fel rhan o’r cais, a dylid uwchlwytho tystiolaeth berthnasol.

76.    Hyd yn oed yn ystod camau cynnar y datblygiad, dylid deall yr Achos dros Newid yn dda a dylech allu nodi amcan clir y cynllun i lywio datblygiad y cynigion yn y dyfodol drwy broses WelTAG, a galluogi monitro a gwerthuso priodol.

77.    Ar gyfer cynigion datblygu, dylid nodi nad yw bod yn llwybr ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol yn gwarantu y bydd y cynllun yn cael ei gyllido i'w gyflawni yn y dyfodol ac mae’n rhaid dangos bod achos cryf dros newid, yn enwedig yng nghyswllt annog newid moddol, yn bodoli adeg gwneud y cais.
 

Gweithgareddau craidd

78.    Yn sgil eu symlrwydd cymharol, bydd gofyn am lai o wybodaeth ar gyfer prosiectau dyraniad craidd drwy’r ffurflen gais dyraniad craidd, gan gynnwys cynlluniau mân waith neu becynnau o gynlluniau mân waith. Cynlluniau Categori 1 fydd y rhain fel arfer, neu rai Categori 2 dan amgylchiadau priodol. Mae’r cyflwyniadau dyraniad craidd hyn yn ychwanegol at eich cyfanswm o hyd at bedwar prif gynllun.

79.     Gall cynigion gweithgareddau craidd gynnwys cynigion sy’n cynnwys gwaith ar lwybrau sydd wedi’u nodi ar eich Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol ac wedi’u cysylltu â nhw. Bydd gweithgareddau mân waith perthnasol sydd wedi’u lleoli yn eich ardaloedd dynodedig, ond nad ydynt wedi’u nodi’n benodol ar eich Map Rhwydwaith Teithio Llesol, hefyd yn cael eu hystyried.

80.    Gellir pecynnu gweithgareddau craidd gyda’i gilydd os yw’n rhesymegol gwneud hynny. Mae’r amgylchiadau lle gallai hyn fod yn briodol yn cynnwys lle mae cais yn cael ei wneud am un gweithgaredd (ee parcio beiciau) ar draws ardal awdurdod lleol, neu lle mae cais yn cael ei wneud am gyfuniad o sawl math o weithgaredd mewn ardal ddaearyddol benodol a diffiniedig (ee tynnu rhwystrau, goleuadau, gwella cyffyrdd a mannau parcio beiciau mewn un ardal ddynodedig).

81. Gall mân welliannau gynnwys ystod eang o fesurau, megis:

  • Uwchraddio llwybrau, gan gynnwys:
    • Palmentydd isel a phalmentydd botymog
    • Gwella a lledu arwynebau
    • Gwella cyffyrdd.
    • Gosod goleuadau
    • Croesfannau newydd neu wedi’u huwchraddio
    • Gosod rhwystrau ymwthiol
    • Hidlyddion moddol/hydreiddedd wedi’i hidlo
    • Gwella arwyddion
  • Tynnu rhwystrau ac annibendod.
  • Parcio beiciau (yn enwedig parcio diogel ar gyfer beiciau modur hygyrch a chargo).
  • Seddi.
  • Gosod offer monitro/cyfrifo beiciau.
  • Gorsafoedd trwsio beiciau a phwyntiau gwefru e-feiciau.
  • Cynigion ar gyfer llogi beiciau.
  • Mesurau ar gyfer strydoedd ysgolion
  • Cyfoethogi cynlluniau teithio llesol drwy osod gwaith celf a mannau chwarae
  • Gwella bioamrywiaeth ar lwybrau presennol neu newydd.
  • Gwelliannau priodol a nodwyd wrth ymgysylltu ynghylch y Map Rhwydwaith Teithio Llesol, fel drwy CommonPlace neu debyg.
  • Datblygu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol ymhellach (gan gynnwys gwaith ychwanegol i helpu i ddatblygu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yn barhaus, fel archwilio, blaenoriaethu neu gyhoeddi)
  • Hyrwyddo:
    • Gall hyn gynnwys y costau sy’n ymwneud â gweithgareddau hyrwyddo sy’n gysylltiedig â phrosiectau a gyllidir, megis datblygu a chynhyrchu deunyddiau hyrwyddo (ee mapiau o rwydweithiau teithio llesol lleol y bydd cynllun yn rhan ohonynt), gwell arwyddion i godi ymwybyddiaeth o’r cynllun, cynllunio a chydlynu digwyddiadau (ee digwyddiad lansio i ddathlu a chyhoeddi cwblhau’r cynllun) a hyfforddiant beicio a sesiynau trwsio beiciau i gynyddu'r defnydd o'r cynllun.
    • Dylai unrhyw ddeunydd hyrwyddo sy’n gysylltiedig â’r cynlluniau a gyllidir, boed yn rhannol neu’n llawn, drwy’r Gronfa Teithio Llesol gydnabod cyfraniad Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru at gyflawni’r cynllun hwnnw. Dylai’r holl ddeunydd gael ei gyhoeddi yn unol â Safonau’r Gymraeg.
  • Arall (rhowch fanylion y gweithgaredd arfaethedig a ddylai gyd-fynd ag amcanion y rhaglen grant).

82. Mae awdurdodau lleol yn gallu addasu amcangyfrifon costau ar gyfer elfennau o fewn yr amlen dyraniad craidd gyffredinol yn ystod y flwyddyn, yn amodol ar gymeradwyaeth. Mae awdurdodau lleol yn gallu tynnu neu ychwanegu cynlluniau dyraniad craidd yn ystod y flwyddyn, yn amodol ar gymeradwyaeth.

Amodau grant

83.    Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol drwy gytundeb ymlaen llaw, dylai cynlluniau a gyflwynwyd ar gyfer cyllido gwaith yn 2023/24 ddangos bod yr holl faterion tir wedi cael eu datrys, neu y byddant yn cael eu datrys, a bod y caniatâd a’r gorchmynion angenrheidiol ar waith i alluogi’r gwaith i fynd rhagddo. 

84.    Er bod Llywodraeth Cymru yn fodlon cyllido costau prynu tir, ni fydd cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer hawliadau am iawndal sy’n deillio o brynu’r tir nac o’r prosiect ei hun. 

85.    Mae darparu cymorth cyfalaf i gynlluniau yn amodol ar ymrwymiad awdurdodau lleol i dalu costau refeniw a chynnal a chadw yn y dyfodol.

Atodiad 1: dyraniadau craidd awdurdodau lleol 2022 i 2023

Awdurdod lleol Swm dyraniad craidd

Blaenau Gwent

£500,000

Pen-y-bont ar Ogwr

£707,000

Caerffili

£834,000

Caerdydd

£1,481,000

Sir Gaerfyrddin

£732,000

Ceredigion

£500,000

Conwy

£582,000

Sir Ddinbych

£500,000

Sir y Fflint

£712,000

Gwynedd

£500,000

Ynys Môn

£500,000

Merthyr Tudful

£500,000

Sir Fynwy

£500,000

Castell-nedd Port Talbot

£716,000

Casnewydd

£740,000

Sir Benfro

 £500,000

Powys

£500,000

Rhondda Cynon Taf

£1,050,000

Abertawe

£1,110,000

Bro Morgannwg

£645,000

Torfaen

£542,000

Wrecsam

£649,000

Cymru

£15,000,000

Atodiad 2: meini prawf asesu ar gyfer y prif gynllun

Cyd-fynd yn Strategol – Achos dros Newid

Sgorio

Mae gan y cynllun amcan(ion) CAMPUS sydd wedi ei/eu diffinio’n glir

 

Mae deilliannau’r prosiect yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at gyflawni nodau rhaglenni/strategaethau eraill, ee seilwaith gwyrdd, datgarboneiddio, ansawdd aer, cyfleoedd chwarae digonol

 

Mae’r prosiect yn gallu darparu tystiolaeth gref o ddatblygu mewn partneriaeth ag asiantaethau/rhaglenni eraill, ee Bwrdd Iechyd Lleol, cyflogwr mawr neu gyfleuster addysg

 

Mae’r prosiect yn cysylltu â mesurau ategol, gan gynnwys rhai nad ydynt yn ymwneud â seilwaith ee hyfforddiant/newid ymddygiad

 

Darparwyd tystiolaeth glir ynghylch sut y cafodd y cynllun ei werthuso yn erbyn opsiynau eraill

 

Cyfanswm (allan o 5)

 

Cyd-fynd yn Strategol – Cyd-fynd ag Amcanion y Grant

Bydd y prosiect yn gwella mynediad dulliau teithio llesol at gyfnewidfeydd trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn annog newid moddol ar gyfer teithiau hirach mewn car

 

Mae’r prosiect yn cysylltu cyflogaeth leol, addysg, gwasanaethau allweddol ac atynwyr a sbardunau teithiau sylweddol eraill gyda’r potensial am newid moddol

 

Mae’r prosiect yn darparu tystiolaeth glir i gefnogi’r potensial i gynyddu lefelau teithio llesol

 

Mae’r prosiect yn ceisio lleihau’r gwahanu o fewn a rhwng cymunedau drwy oresgyn y rhwystrau ffisegol neu gymdeithasol sy’n atal pobl rhag cerdded, beicio, neu ddefnyddio dulliau teithio eraill sy’n defnyddio olwynion

 

Mae’r prosiect yn darparu tystiolaeth dda i gefnogi pob un o amcanion y grant

 

Cyfanswm (allan o 5)

 

Achos Trafnidiaeth – Asesiad o Effaith

Mae’r prosiect yn darparu cysylltiadau clir i gefnogi amcanion llesiant lleol perthnasol

 

A yw’r cynllun yn gwella mynediad i gymunedau sydd wedi’u rhestru yn 15% isaf y MALlC yn gyffredinol neu o ran mynediad at wasanaethau, neu sydd ag angen cymdeithasol a nodir?

 

A yw’r cynllun yn ceisio gwarchod neu wella ecoleg, bioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd?

 

Mae’r prosiect yn darparu tystiolaeth glir o geisio lleihau ei effeithiau negyddol ei hun

 

A fydd y cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar ddiwylliant neu’n hyrwyddo hynny (gan gynnwys y Gymraeg ac ieithoedd eraill, gwaith celf, amrywiaeth ddiwylliannol ee cymunedau BAME)?

 

Cyfanswm (allan o 5)

 

Ansawdd Seilwaith (mae’r sgoriau ar gyfer elfennau'r meini prawf archwilio yn rhai cronnol)

Mae’r cynnig yn rhan o lwybr strategol allweddol sy’n methu â bodloni’r gofynion archwilio sylfaenol o drwch blewyn ac nad oes modd ei wella (60%-69%)

 

Mae’r sgôr archwilio llwybrau arfaethedig yn bodloni gofynion archwilio sylfaenol Canllawiau Dylunio LlC (70%-79%)

 

Mae’r sgôr archwilio llwybrau arfaethedig yn bodloni gofynion archwilio dymunol Canllawiau Dylunio LlC (80%-89%)

 

Mae’r sgôr archwilio llwybrau arfaethedig yn rhagori’n arw ar ofynion archwilio Canllawiau Dylunio LlC (90%+)

 

Cyflwyno dyluniadau’r cynllun (amlinelliad neu ddyluniad) fel rhan o’r cais

 

Mae’r cynllun arfaethedig yn cynnwys cadw cerddwyr, beicwyr a cherbydau modur ar wahân

 

A yw’r cynllun arfaethedig yn uniongyrchol ac yn barhaus, ac yn darparu croesfannau ar lwybrau anffurfiol?

 

Mae’r cynllun arfaethedig yn cydymffurfio ag argymhellion Canllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol ynghylch lled/graddiant drwyddo draw

 

Mae’r cynllun arfaethedig yn blaenoriaethu teithio llesol ac yn lleihau oedi (ee ger cyffyrdd, croesfannau neu rwystrau)

 

Mae'r cynllun arfaethedig yn galluogi pob defnyddiwr i’w ddefnyddio i hyrwyddo mynediad a chynhwysiant

 

Cyfanswm (allan o 10)

 

Monitro a Gwerthuso

Paratowyd cynllun monitro a gwerthuso

 

Mae’r cynllun monitro a gwerthuso yn cyd-fynd ag amcanion y cynllun/y Gronfa Teithio Llesol

 

Gwnaed gwaith monitro sylfaenol

 

Mae’r cynllun monitro yn cynnwys casglu data ansoddol a meintiol

 

Mae’r cynllun monitro a gwerthuso yn cynnwys asesiad o effeithiau a manteision ehangach y cynllun

 

Cyfanswm (allan o 5)

 

Cymunedau ac Ymgysylltu

Paratowyd cynllun i randdeiliaid

 

Aethpwyd ati i ymgysylltu â rhanddeiliaid sy'n benodol i’r cynllun

 

Tystiolaeth o ymgysylltu â grwpiau gyda nodweddion gwarchodedig/plant a phobl ifanc

 

Mae’r cynnig yn cysylltu â gweithgareddau newid ymddygiad

 

Mae gweithgareddau hyrwyddo wedi’u cynnwys fel rhan o'r prosiect

 

Cyfanswm (allan o 5)

 

Gallu i gyflenwi

Mae’r rhaglen yn realistig ac yn unol â’r proffil gwariant

 

A oes Asesiad Effaith Rheoleiddiol gan gynnwys Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i gwblhau ar gyfer y cynllun

 

Mae risgiau penodol i’r prosiect (gan gynnwys caniatâd) a mesurau lliniaru wedi’u nodi

 

Mae holl risgiau mawr y prosiect (ee perchnogaeth tir, cydsyniadau a chaniatâd) wedi cael eu lliniaru

 

Paratowyd dogfennau tendro ac mae’r broses gaffael yn barod i ddechrau neu wedi cael ei chwblhau

 

Cyfanswm (allan o 5)

 

Arian cyfatebol (mae’r sgoriau ar gyfer yr adran hon yn rhai cronnol)

1% - 10% o arian cyfatebol ar gael

 

11% - 20% o arian cyfatebol ar gael

 

21% - 30% o arian cyfatebol ar gael

 

31% - 40% o arian cyfatebol ar gael

 

Mwy na 40% o arian cyfatebol ar gael

 

Cyfanswm (allan o 5)

 

Atodiad 3: meini prawf asesu dyraniad craidd

Dylai cynigion dyraniad craidd gyd-fynd â’r meini prawf a nodir isod a dylent fodloni o leiaf dri o’r pedwar maen prawf. Os nad yw’r cynigion dyraniad craidd yn gysylltiedig ag un o’r gweithgareddau ar y rhestr sydd wedi’i diffinio ymlaen llaw, dylid eu halinio ag amcanion cyffredinol y grant. 

Dylai pob cynnig dyraniad craidd fod yn realistig ac yn gyraeddadwy o fewn un flwyddyn ariannol.

Meini Prawf Dyraniad Craidd

Ticiwch bob un sy’n berthnasol

A yw’r cynllun yn ymwneud ag un o’r gweithgareddau craidd a ddiffinnir ymlaen llaw neu yn unol ag amcanion y grant?

 

A yw’r cynllun wedi’i nodi mewn cynigion ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor, neu mewn ardal ddynodedig?

 

A yw cost y cynnig yn briodol i’w raddfa ac o fewn y trothwy dangosol a bennwyd ar gyfer cynlluniau categori 1 (<£250k) neu gategori 2 (£250k - £500k)?

 

A yw’r cynllun yn realistig ac yn gyraeddadwy?

 

A yw’ch cynllun yn perthyn i un o’r gweithgareddau canlynol a ddiffiniwyd ymlaen llaw:

 

Palmentydd isel a phalmentydd botymog

 

Gwella a lledu arwynebau

 

Gwella cyffyrdd.

 

Gosod goleuadau

 

Croesfannau newydd neu wedi’u huwchraddio

 

Gosod rhwystrau ymwthiol

 

Hidlyddion moddol/hydreiddedd wedi’i hidlo

 

Gwella arwyddion

 

Tynnu rhwystrau ac annibendod.

 

Parcio beiciau (yn enwedig parcio diogel ar gyfer beiciau modur hygyrch a chargo).

 

Seddi.

 

Gosod offer monitro/cyfrifo beiciau.

 

Gorsafoedd trwsio beiciau a phwyntiau gwefru e-feiciau.

 

Cynigion ar gyfer llogi beiciau.

 

Mesurau ar gyfer strydoedd ysgolion

 

Cyfoethogi cynlluniau teithio llesol drwy osod gwaith celf a mannau chwarae

 

Gwella bioamrywiaeth ar lwybrau presennol neu newydd.

 

Nodi gwelliannau priodol a nodwyd wrth ymgysylltu â’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol, ee drwy CommonPlace neu debyg.

 

Datblygu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol ymhellach (gan gynnwys gwaith ychwanegol i helpu i ddatblygu Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol yn barhaus, fel archwilio, blaenoriaethu neu gyhoeddi)

 

Hyrwyddo

 

Arall

 

Atodiad 4: camau prosiectau

Cam WelTAG

Cam 1: Achos Amlinellol Strategol

Cam 2: Achos Busnes Amlinellol

Cam 3: Achos Busnes Llawn

Cam 4: Gweithredu

Cam 5: Ôl-weithredu

 

Cam A: Diffiniad strategol, cwmpas y prosiect a deilliannau

Cam B: Datblygu opsiynau a Dewis

Cam C: Dyluniad rhagarweiniol ar gyfer un opsiwn

 

Cam D: Proses statudol

 

Cam E: Dyluniad manwl ar gyfer un opsiwn

 

Cam F: Adeiladu a throsglwyddo

 

Cam G: Dod â’r prosiect i ben

 

Nod y Cam

  • Gweledigaeth strategol – diffinio’r weledigaeth gyffredinol a’r nodau strategol. Deall y materion, datblygu cwmpas y prosiect a nodi’r deilliannau arfaethedig.
  • Asesu rhestr fer o opsiynau (gan gynnwys asesu pob opsiwn i ddewis yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio er mwyn cyflawni’r deilliannau a nodwyd).
  • Mae’r risgiau a’r dystiolaeth allweddol a gasglwyd yn cyfrannu at ddewis yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio.
  • Paratowyd y dyluniad rhagarweiniol ar gyfer un opsiwn.
  • I gynnwys ymgysylltu â’r cyhoedd.
  • Mae hon yn broses gyfochrog a dylid ymgymryd â hi ochr yn ochr â’r gwaith o ddatblygu camau blaenorol y cynllun.
  • Mae'r gwaith dylunio a gwerthuso manwl a ddefnyddiwyd i fireinio dyluniad yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio yn pennu’r pris terfynol a’r set o ddeilliannau.
  • Penderfyniad i fwrw ymlaen neu beidio yn seiliedig ar achos busnes wedi’i ddiweddaru.
  • Mae’r gwaith adeiladu wedi’i gwblhau a gellir cwblhau’r hyn sydd i’w wneud ar ddiwedd y gwaith.
  • Mae’r prosiect yn cael ei defnyddio a bydd yn cael ei gynnal.

Gofynion Sylfaenol

  • Achos dros newid
  • Rhestr fer o gynlluniau a nodwyd sy’n diwallu amcanion y cynllun ac a fydd yn cyflawni’r deilliannau a fwriedir
  • Gwerthuso opsiynau i nodi rhestr fer o brosiectau
  • Pennwyd y risgiau allweddol
  • Amcangyfrifon cost lefel uchel
  • Cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Cynllun monitro a gwerthuso
  • Strategaeth gaffael ddrafft
  • Asesu’r opsiynau sydd ar y rhestr fer yn erbyn amcanion y cynllun
  • Mae’r opsiwn sy’n cael ei ffafrio’n bodloni gofynion sylfaenol yr offer archwilio
  • Tystiolaeth o ymgysylltu â’r cyhoedd yn unol â’r cynllun cyswllt i fireinio’r cwmpas
  • Wedi cwblhau'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb
  • Strategaeth gaffael wedi’i diweddaru
  • Cofrestr risg lefel uchel
  • Nodwyd y gofynion am ganiatâd/cydsyniad
  • Nodwyd yr arolygon ychwanegol
  • Mae dyluniad rhagarweiniol yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio yn bodloni’r meini prawf ansawdd sylfaenol
  • Ymgysylltu â’r cyhoedd i gadarnhau’r dyluniad cysyniadol (gan gynnwys mewnbwn gan grwpiau/cynrychiolwyr â nodweddion gwarchodedig);
  • Wedi ymgymryd â Cham 2 RSA
  • Cynllun monitro a gwerthuso wedi’i ddiweddaru
  • Achos busnes wedi’i ddiweddaru (costau ac ati)
  • Cofrestr risgiau wedi’i diweddaru
  • Cadarnhad bod y caniatâd angenrheidiol wedi’i sicrhau
  • Mae'r dyluniadau manwl yn bodloni’r meini prawf ansawdd y cytunwyd arnynt
  • Paratowyd y dogfennau tendro gan gynnwys BoQ
  • Wedi cadarnhau’r strategaeth gaffael
  • Cofrestr risgiau wedi’i diweddaru
  • Achos busnes wedi’i ddiweddaru yn dderbyniol a chyllid ar gael
  • Wedi diweddaru’r cynllun monitro a gwerthuso.
  • Trafodaethau parhaus a darparwyd adroddiadau cynnydd i gofnodi unrhyw amrywiant o’r allbynnau arfaethedig.
  • Achos busnes alldro
  • Tystiolaeth o allbwn prosiect
  • A wnaeth y prosiect gwrdd â’r deilliannau/allbynnau disgwyliedig: D/N
  • Adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd

Annex 5: monitoring and evaluation plan

Mae monitro a gwerthuso llwybrau a chynlluniau teithio llesol yn hanfodol er mwyn helpu i ddeall eu heffaith a darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Dylid datblygu cynllun monitro a gwerthuso ar gyfer pob llwybr a chynllun teithio llesol newydd. I gael canllawiau llawn, gan gynnwys manylion y lefelau sylfaenol a argymhellir ar gyfer monitro a gwerthuso datblygiad prosiectau, edrychwch ar Bennod 16 y Canllawiau ar y Ddeddf Teithio Llesol. 

Mae’r templed isod yn rhoi arweiniad enghreifftiol a dylid ei addasu ar gyfer nodau unigol y cynllun.

Beth mae’r prosiect yn ceisio ei gyflawni?

Pa newid allwch chi ddisgwyl ei weld?

Sut ydych chi’n bwriadu mesur y newid hwn?

Amcan

Mewnbwn

Allbwn

Deilliant

Effaith

 

 

Dangosydd

Dull

 

 

Pa mor aml

Gwell hygyrchedd

Gwella seilwaith, cael gwared ar rwystrau

Nifer y palmentydd isel a ddarparwyd, rhwystrau a dynnwyd

Gwella hygyrchedd i ddefnyddwyr ar y rhwydwaith

Gwell mynediad i ddefnyddwyr

Nifer y prosiectau uwchraddio hygyrchedd a gyflawnwyd

Cofnod adeiladu, Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Casglu’n barhaus, adrodd bob chwarter

 

 

 

 

Mwy o fynediad i bob defnyddiwr, yn enwedig defnyddwyr anabl

Adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr anabl am newidiadau

Arolwg defnyddwyr, arolwg barn neu arolwg cymunedol

Ee Casglu cyn ac ar ôl

Atodiad 6: cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid

Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Tystiolaeth o ymgysylltu

Rhanddeiliad

Prif Ddiddordeb a Materion

Dull Ymgysylltu

Amlder Ymgysylltu

Dyddiad Arfaethedig y Digwyddiad

Digwyddiad wedi’i gynnal

Do/Naddo

Effaith yr Ymgysylltu

ee Cynghorydd Lleol

Effaith ar drigolion lleol

E-bost, ffôn, briffio

Diweddariadau wrth gyrraedd cerrig milltir allweddol

 

 

 

Atodiad 7: gofynion y cais

Atodiad 8: enghraifft o gynllun