Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud teledu cylch cyfyng (CCTV) yn ofynnol ym mhob lladd-dy. Mae amcan y polisi a’r effeithiau arfaethedig yn anelu at wella lles anifeiliaid mewn lladd-dai a chynnig sicrwydd bod pob lladd-dy yn gweithredu’n ôl safonau lles uchel. Bydd modd cyflawni hyn trwy fandadu y dylid gosod CCTV ym mhob lladd-dy cymeradwy mewn ardaloedd lle caiff anifeiliaid byw eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, eu stynio a’u lladd. Dylai’r Asiantaeth Safonau Bwyd allu cael gafael ar y darnau o ffilm CCTV, a byddai’n ofynnol i’r Gweithredwr Busnes Bwyd storio’r darnau o ffilm am gyfnod penodol, gan sicrhau eu bod ar gael at ddibenion archwilio a bod ganddynt statws tystiolaethol.

Mae CCTV i’w gael eisoes yn ein lladd-dai mwyaf, sy’n prosesu’r mwyafrif llethol o anifeiliaid. Er nad yw CCTV yn fandadol mewn lladd-dai yng Nghymru ar hyn o bryd, ym mis Ionawr 2022 cynhaliodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd arolwg ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn asesu cyfleusterau CCTV cyfredol pob lladd-dy yng Nghymru. Dyma a ddarganfu’r arolwg:

  • Arolygwyd 23 o ladd-dai (nid yw un o’r safleoedd a arolygwyd wedi bod ar waith ers Gorffennaf 2021).
  • Mae CCTV ar ryw ffurf i’w gael mewn 17 lladd-dy (yn cynnwys pob lladd-dy dofednod).
  • Nid oedd CCTV i’w gael mewn chwe lladd-dy (cig coch i gyd).
  • O blith yr 17 lladd-dy sydd eisoes yn meddu ar gyfleusterau CCTV, mae 10 ohonynt â threfniadau a fyddai’n cydymffurfio â’r rheoliadau presennol a geir yn Lloegr[1] a’r Alban[2] (lle mae CCTV yn fandadol), a’n cynigion ni.

Mae rhai o’n lladd-dai mwyaf yn dilyn protocol gwirfoddol a ddatblygwyd ar y cyd ac y cytunwyd arno gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a chyrff y diwydiant er mwyn galluogi Milfeddygon Swyddogol i asesu’r darnau o ffilm a recordiwyd. Er na all CCTV ddisodli goruchwyliaeth uniongyrchol gan reolwyr lladd-dai neu Filfeddygon Swyddogol, yn enwedig ar safleoedd bach iawn, gall gynnig tystiolaeth ategol wrthrychol ynglŷn â’r gwaith a wneir ym mhob sefydliad. Oherwydd hyn, byddwn yn mynnu bod pob lladd-dy yn gosod ac yn gweithredu system CCTV yn yr holl ardaloedd lle bydd anifeiliaid byw yn bresennol.

Trwy gael CCTV mewn ardaloedd lle bydd anifeiliaid byw yn bresennol, bydd modd gwella effeithlonrwydd y gweithgareddau monitro a gorfodi trwy gynnig i Filfeddygon Swyddogol yr wybodaeth mae arnynt ei hangen, a hynny mewn modd rhwyddach a mwy cyfleus. Mae data gorfodi’r Asiantaeth Safonau Bwyd[3] ar gyfer 2020/21 yn dangos bod o leiaf 10% o achosion diffyg cydymffurfio mewn lladd-dai yn dod i’r amlwg yn sgil gwylio CCTV yn fyw neu’n ôl-weithredol, a bod CCTV yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin fel tystiolaeth i ategu camau gorfodi.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus a gynhelir dros gyfnod o 12 wythnos yn cyd-fynd â’r asesiad hwn. Bydd yr ymgynghoriad yn cadarnhau’r ymrwymiad i fynnu bod pob lladd-dy yn defnyddio CCTV yn ystod tymor y Llywodraeth hon, ond bydd hefyd yn ceisio tystiolaeth a safbwyntiau ychwanegol ynglŷn ag effeithiau’r ymrwymiad hwn a’r modd y’i rhoddir ar waith.

Dyma’r rhai a allai fod â buddiant yn y maes: Gweithredwyr lladd-dai; cynrychiolwyr masnach eraill yn y diwydiannau da byw a chig; y proffesiwn milfeddygol; sefydliadau lles anifeiliaid; cyrff gorfodi lles anifeiliaid; cynlluniau gwarant ffermydd; a manwerthwyr.

[1] The Mandatory Use of Closed Circuit Television in Slaughterhouses (England) Regulations 2018 (legislation.gov.uk)

[2] The Mandatory Use of Closed Circuit Television in Slaughterhouses (Scotland) Regulations 2020 (legislation.gov.uk)

[3] Cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd – Medi 2021 | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)

 

Opsiynau

Fel rhan o’n Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i’w gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy ddefnyddio cyfleusterau CCTV yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

  • Opsiwn 1. Busnes fel arfer – o dan yr opsiwn hwn, ni fyddai’n ofynnol i ladd-dai osod CCTV ar eu safleoedd.
  • Opsiwn 2. Mandadu y dylid gosod CCTV ym mhob lladd-dy cymeradwy mewn ardaloedd lle caiff anifeiliaid eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, eu stynio a’u lladd.

Costau a manteision

Opsiwn 1: Busnes fel arfer

Dyma’r opsiwn sylfaenol ac ni fyddai unrhyw gostau na manteision ychwanegol yn gysylltiedig ag ef. Fel rhan o’n Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i’w gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy ddefnyddio cyfleusterau CCTV yn ystod tymor y Llywodraeth hon. Nid yw ‘busnes fel arfer’ yn opsiwn.

Opsiwn 2. Mandadu y dylid gosod CCTV ym mhob lladd-dy cymeradwy mewn ardaloedd lle caiff anifeiliaid eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, eu stynio a’u lladd.

Y gost sy’n wynebu lladd-dai

Nid oes gan Lywodraeth Cymru wybodaeth am y gost a fyddai’n wynebu gweithredwyr lladd-dai ar gyfer gosod a chynnal a chadw systemau CCTV. Fodd bynnag, mae data o 2017 sy’n ategu ymgynghoriad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig[1] yn amcangyfrif y costau uniongyrchol a ganlyn, fel amcangyfrifon enghreifftiol. Maent yn anelu at gynnig trefn maint amcangyfrifedig. Bydd yr ymarfer ymgynghori’n ceisio cael gafael ar ragor o dystiolaeth ynglŷn â’r costau hyn.

Costau uniongyrchol untro

Mae’n anodd mesur cyfanswm y costau, a byddant yn dibynnu ar faint a chynllun pob lladd-dy.

Amcangyfrifwn y bydd cyfanswm y costau cyfalaf ar gyfer gosod system CCTV newydd oddeutu £18,500 ar draws y sector[2]. Yn achos lladd-dai heb CCTV, rydym wedi rhagdybio y byddai’n rhaid iddynt dalu cost untro o ryw £2,500. Yn achos lladd-dai â rhywfaint o CCTV, rydym wedi rhagdybio y byddai’n rhaid iddynt dalu cost untro o ryw £500 ar gyfer pob ardal ychwanegol sydd heb CCTV. Gallwn ragdybio bod oes CCTV yn 10 mlynedd, felly nid ystyriwyd costau amnewid yn yr asesiad hwn.

Costau uniongyrchol rheolaidd

Amcangyfrifwn y bydd y costau dyddiol sydd ynghlwm wrth oruchwylio a chynnal a chadw systemau CCTV yn lladd-dai Cymru oddeutu £6,000 y flwyddyn. Seilir hyn ar y canlynol: y rhagdybiaeth y bydd yn cymryd 30 munud y dydd ar gyfartaledd i wirio camerâu CCTV a gweld eu bod yn y man cywir ac yn gweithio’n iawn; data’r Asiantaeth Safonau Bwyd ynglŷn ag oriau gweithredu lladd-dai; data cyflog fesul awr ar gyfer y rhai sy’n gysylltiedig â phrosesu a pharatoi bwyd (Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 2021[3]). Ychwanegir 30% i dalu am gostau fel cyfraniadau YG y cyflogwr, cyfraniadau pensiwn, tâl gwyliau ac ati.

Yn ychwanegol at hyn, amcangyfrifir y bydd y costau cynnal a chadw blynyddol y bydd yn rhaid i ladd-dai eu talu oddeutu £1,000, ar sail tâl gwasanaeth blynyddol tybiedig o 5% o werth cyfalaf y cyfarpar CCTV ychwanegol.

Amcangyfrifwn y gallai’r costau ar gyfer storio darnau o ffilm CCTV fod oddeutu £220. Caiff hyn ei seilio ar uchafswm cost flynyddol amcangyfrifedig o £25 bob blwyddyn/fesul lladd-dy yn achos lladd-dai sydd heb unrhyw CCTV ar hyn o bryd, a £10 yn ychwanegol bob blwyddyn/fesul ardal ar gyfer lladd-dai sydd â rhywfaint o CCTV ar hyn o bryd. Cyfrifir hyn ar y sail y bydd 90 diwrnod o CCTV trwy ddefnyddio 5 camera yn gofyn am ofod storio o ryw 2TB.

Amcangyfrifwn y bydd costau gweithredu rheolaidd eraill, megis trydan, yn isel iawn, er enghraifft oddeutu £1,000 y flwyddyn.

I grynhoi, amcangyfrifwn y bydd y costau rheolaidd uniongyrchol y bydd yn rhaid i ladd-dai eu talu oddeutu £8,000 y flwyddyn.

Costau’r Sector Cyhoeddus

Ni fydd gweithredu a gorfodi’r rheoliadau hyn yn arwain at gostau ychwanegol i Awdurdodau Lleol. Bydd Llywodraeth Cymru yn talu cost weithredu fechan ar gyfer llunio canllawiau i’r diwydiant lladd-dai – sef canllawiau a lunnir ar y cyd â’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Ymhellach, Llywodraeth Cymru fydd yn talu’r costau sydd ynghlwm wrth gyfathrebu’r dyddiad gweithredu a’r cynlluniau cyflwyno. Ni ddisgwylir i’r gwariant cyffredinol fod yn fwy na £5,000. Go brin y bydd unrhyw arbedion sylweddol i’w cael. Mae’r cyhoedd a sefydliadau’r trydydd sector wedi lobïo Llywodraeth Cymru ers sawl blwyddyn i gael CCTV mandadol mewn lladd-dai. Gwaith llafurus yw ymateb i ohebiaeth reolaidd ynglŷn â’r pwnc hwn. Disgwylir i’r ohebiaeth leihau’n sylweddol ar ôl i’r arfer o osod CCTV mewn lladd-dai cymeradwy gael ei fandadu. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r arian a gaiff yr Asiantaeth Safonau Bwyd er mwyn iddi allu mynd i’r afael â gweithgareddau monitro a gorfodi. Go brin y bydd cyfanswm yr arian hwn yn fwy nag £20,000 y flwyddyn. Go brin y daw unrhyw gostau ychwanegol amlwg i ran Heddluoedd Cymru; a bach iawn, os o gwbl, fydd yr effaith ar y system gyfiawnder.

Manteision

O ganlyniad i gael cwmpas CCTV mwy cynhwysfawr a hygyrch, disgwyliwn weld newid ymddygiad mewn lladd-dai nad ydynt ar hyn o bryd yn cydymffurfio’n llwyr â’r gofynion presennol. Ni ddisgwyliwn i hyn fod yn berthnasol i ladd-dai sy’n cydymffurfio’n llwyr â’r gofynion ar hyn o bryd. Yn arbennig, rydym o’r farn y dylid gweld gwelliannau yn yr arferion a roddir ar waith gan ladd-dai, gan arwain at well cydymffurfiaeth, h.y. y dylai’r diwygiadau hyn o ran CCTV gael effaith ataliol. Oherwydd hyn, dylai’r polisi gael effaith gadarnhaol ar les anifeiliaid.

Mae gan y polisi hwn y potensial i fod o fudd i fusnesau nad oes ganddynt CCTV ar hyn o bryd trwy ddarparu tystiolaeth ar eu cyfer ynglŷn â gwella prosesau gweithredu a llywio adolygiadau effeithlonrwydd. Efallai hefyd y bydd recordiadau o’r fath yn arf defnyddiol ar gyfer hyfforddi staff hen a newydd.

Trwy gael CCTV mewn ardaloedd lle bydd anifeiliaid byw yn bresennol, bydd modd gwella effeithlonrwydd y gweithgareddau monitro a gorfodi trwy gynnig i Filfeddygon Swyddogol yr wybodaeth mae arnynt ei hangen, a hynny mewn modd rhwyddach a mwy cyfleus. Mae data gorfodi’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer 2020/21 yn dangos bod o leiaf 10% o achosion diffyg cydymffurfio mewn lladd-dai yn dod i’r amlwg yn sgil gwylio CCTV yn fyw neu’n ôl-weithredol, a bod CCTV yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin fel tystiolaeth i ategu camau gorfodi. Ni wyddom eto a fydd hyn yn arwain at gynnydd cyffredinol mewn hysbysiadau gorfodi ac erlyniadau, ai peidio – rhaid disgwyl i weld a fydd y gofynion newydd o ran CCTV yn cael effaith ataliol ar ladd-dai ac yn peri iddynt gydymffurfio’n well.

Mae lladd-dai’n creu allanoldeb negyddol ar ladd-dai eraill pan fônt yn cam-drin lles anifeiliaid a phan fo hynny’n arwain at gost niweidiol ehangach o ran enw da’r sector cyfan, yn cynnwys y mwyafrif sy’n cydymffurfio.

[1] CCTV internal impact assessment final.pdf (defra.gov.uk)

[2] How Much do Commercial CCTV Systems Cost? - BusinessWatch (businesswatchgroup.co.uk)#

[3] Earnings and hours worked, region by occupation by four-digit SOC: ASHE Table 15 – Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk)

Asesiad o’r Gystadleuaeth

Mae Asesiad o’r Gystadleuaeth wedi’i gynnal er mwyn asesu effaith bosibl y CCTV mandadol a chofnodi’r holl ardaloedd mewn lladd-dai lle mae anifeiliaid byw yn bresennol. Ni ddisgwylir i’r polisi hwn gael effaith niweidiol sylweddol ar gystadleuaeth yn y diwydiant. Nid yw’r polisi’n gwahaniaethu rhwng safleoedd, a chaiff ei gymhwyso’n deg at bob lladd-dy. Isod, nodir canlyniadau prawf hidlo (a oedd yn cynnwys naw o gwestiynau syml) sy’n ategu’r casgliad hwn, ac yna cyflwynir tystiolaeth i ategu’r atebion.

Prawf hidlo’r gystadleuaeth

Cwestiynau

Atebion

C1: Yn y farchnad/marchnadoedd y bydd y rheoliad newydd yn effeithio arni/arnynt, a oes unrhyw gwmni yn berchen ar fwy na 10% o gyfran y farchnad?

OES

C2: Yn y farchnad/marchnadoedd y bydd y rheoliad newydd yn effeithio arni/arnynt, a oes unrhyw gwmni yn berchen ar fwy nag 20% o gyfran y farchnad?

OES

C3: Yn y farchnad/marchnadoedd y bydd y rheoliad newydd yn effeithio arni/arnynt, a yw’r tri chwmni mwyaf gyda’i gilydd yn berchen ar o leiaf 50% o gyfran y farchnad?

YDYNT

C4: A fyddai costau’r rheoliad yn effeithio ar rai cwmnïau yn llawer mwy nag eraill?

NA

C5: A yw’r rheoliad yn debygol o effeithio ar strwythur y farchnad, gan newid y nifer o gwmnïau a geir, neu faint y cwmnïau hynny?

NA

C6: A fyddai’r rheoliad yn arwain at gostau sefydlu uwch ar gyfer cyflenwyr newydd neu ddarpar gyflenwyr, sef costau nad yw cyflenwyr presennol yn gorfod eu talu?

NA

C7: A fyddai’r rheoliad yn arwain at gostau rheolaidd uwch ar gyfer cyflenwyr newydd neu ddarpar gyflenwyr, sef costau nad yw cyflenwyr presennol yn gorfod eu talu?

NA

C8: A yw newid technolegol cyflym yn nodweddiadol o’r sector?

NA

C9: A fyddai’r rheoliad yn cyfyngu ar allu cyflenwyr i ddewis pris, ansawdd, amrywiaeth neu leoliad eu cynhyrchion?

NA

Adolygu ar ôl gweithredu

Byddwn yn monitro’r modd y caiff y gofynion CCTV mandadol eu gweithredu, sut y cydymffurfir â nhw a sut y cânt eu gorfodi. Byddwn yn gwneud hyn am deuddeg mis ar ôl i’r rheoliadau ddod i rym. Ar ôl pum mlynedd, byddwn yn cynnal adolygiad swyddogol o effaith y rheoliadau.