Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i fynnu bod pob lladd-dy yn gosod teledu cylch cyfyng (CCTV).

Rydym yn ymgynghori ynghylch cynigion i fynnu y dylid cael CCTV ym mhob lladd-dy cymeradwy mewn ardaloedd lle mae anifeiliaid byw yn bresennol. Mae ein cynigion yn cynnwys gofynion ar gyfer gweithredwyr lladd-dai, sef y byddant yn caniatáu i asiantaethau gorfodi gael mynediad at ddarnau o ffilm, ac y byddant yn storio darnau o ffilm am gyfnod penodol.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn para 12 wythnos, gan ddechrau ar 14 Tachwedd 2022 a dod i ben ar 6 Chwefror 2023.

Cyflwyniad

Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiadau uchelgeisiol i wella lles anifeiliaid[1]. Un o’r ymrwymiadau hyn yw ei gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy ddefnyddio teledu cylch cyfyng (CCTV).

Mae Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru (2021-2026)[2] yn nodi sut y byddwn yn cyflawni ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu, gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed gennym eisoes i wella lles anifeiliaid.

Mae nodau ein Cynllun Lles Anifeiliaid yn cydweddu’n strategol â Chynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Cymru[3] sy’n anelu at gynnal a gwella safonau iechyd a lles anifeiliaid a gedwir, ynghyd â diogelu iechyd y cyhoedd a chyfrannu at yr economi a’r amgylchedd. Wrth wireddu’r nodau hyn, mae’r Fframwaith yn anelu at gyflawni pump o ganlyniadau strategol, sef:

  • Anifeiliaid cynhyrchiol, iach
  • Bydd anifeiliaid yn cael ansawdd bywyd da
  • Bydd gan y cyhoedd hyder yn y ffordd yr awn ati i gynhyrchu bwyd a diogelu iechyd y cyhoedd
  • Economi wledig ffyniannus
  • Amgylchedd o safon uchel

[1] Rhaglen Lywodraethu: Rhaglen lywodraethu: diweddariad | LLYW.CYMRU.

[2] Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru (2021-2026): Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021 i 2026 | LLYW.CYMRU.

[3] Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru: Fframwaith iechyd a lles anifeiliaid: cynllun gweithredu 2022-2024 | LLYW.CYMRU.

 

Lles mewn Lladd-dai

Daeth Rheoliad Cyngor y CE 1099/2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd (‘Rheoliad 1099/2009’) i rym yn y DU ac yn holl aelod-wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 2021, gan wella’r modd y câi anifeiliaid eu diogelu adeg eu lladd[1]. Cafodd Rheoliad 1099/2009 ei ddargadw yn dilyn ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd. Yng Nghymru, mae Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) yn darparu’r pwerau ar gyfer llwyr orfodi Rheoliad 1099/2009 a’n rheolau cenedlaethol llymach hirdymor sy’n cynnig gwell diogelwch na rheoliadau dargadwedig yr Undeb Ewropeaidd[2].

Mae Rheoliad 1099/2009 yn pennu rheolau sylfaenol ar gyfer diogelu anifeiliaid adeg eu lladd. Mae Rheoliadau 2014 yn pennu gofynion penodol y mae’n ofynnol cydymffurfio â nhw yn ystod yr holl gamau sy’n perthyn i’r broses ladd.

Gweithredwyr lladd-dai sy’n bennaf gyfrifol am les anifeiliaid ar eu safleoedd. Ar ran Llywodraeth Cymru, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn monitro ac yn gorfodi mesurau cydymffurfio’n ymwneud â lles mewn lladd-dai cymeradwy. Mae rôl yr ASB yn canolbwyntio ar sicrhau bod lladd-dai’n cydymffurfio â’r holl ofynion penodol a gynhwysir mewn deddfwriaethau hylendid a lles anifeiliaid. Caiff y gofynion hyn eu monitro a’u gorfodi gan Filfeddygon Swyddogol yr ASB er mwyn sicrhau na fydd poen, straen na dioddefaint diangen yn dod i ran yr anifeiliaid yn ystod y broses ladd. Ymhellach, yn achos lladd-dai cig coch sy’n lladd mwy na 1,000 o unedau da byw bob blwyddyn, neu ladd-dai cig gwyn sy’n lladd mwy na 150,000 o adar neu gwningod bob blwyddyn, rhaid iddynt hefyd benodi Swyddog Lles Anifeiliaid[3] i’w cynorthwyo i gydymffurfio â’r rheolau a nodir yn Rheoliad 1099/2009.

O dan Reoliad 2014, mae gan Filfeddygon Swyddogol bwerau cyfreithiol i atafaelu darnau o ffilm CCTV os oes ganddynt amheuaeth resymol fod y rheoliadau wedi cael eu torri. Os methir â chyflwyno gwybodaeth resymol (yn cynnwys darnau o ffilm CCTV) y bydd yr ASB yn gofyn amdani, fe allai hynny fod yn gyfystyr â throsedd. Byddai mynediad dilyffethair i swyddogion awdurdodedig, e.e. Milfeddygon Swyddogol yr ASB a staff o sefydliadau a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru, yn cynnig gwell cyfleoedd rhagweithiol ac ymatebol i asesu a gydymffurfir â’r rheoliadau, ai peidio.

[1] Rheoliad Cyngor y CE 1099/2009: Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 24 Medi 2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd (Testun sy’n bethnasol i’r AEE) (legislation.gov.uk)

[2] Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014: Rheoliadau Lles Anifefiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

[3] Nid yw rhai anifeiliaid yn gyfystyr ag uned da byw gyfan; mae eraill yn gyfystyr â rhan o uned: Red and white meat slaughterhouses: standard operating procedures - gov.uk

 

CCTV mewn Lladd-dai

Mae barn y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm (y Pwyllgor Lles Anifeiliaid erbyn hyn) ynglŷn â CCTV mewn lladd-dai, a gyhoeddwyd yn 2015, yn nodi y gall CCTV gynnig manteision gwirioneddol fel ffordd bwysig o ategu gwaith arsylwi a dilysu ffisegol a gynhelir ar arferion lladd-dai[1].

Argymhellodd y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm y dylai holl weithredwyr lladd-dai cymeradwy osod CCTV ym mhob ardal lle cedwir anifeiliaid byw a lle caiff anifeiliaid eu stynio a’u lladd. Argymhellir hefyd y dylid gosod camerâu CCTV er mwyn sicrhau y gellir cael golwg glir a di-dor bob amser ar y prosesau a gaiff eu recordio; y dylai darnau o ffilm CCTV fod ar gael yn rhwydd, ac y dylai staff lladd-dai, Swyddogion Lles Anifeiliaid a Milfeddygon Swyddogol edrych arnynt yn rheolaidd er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r rheolau, yn enwedig rhai sy’n ymwneud ag ardaloedd a phrosesau lle mae’r risg o beidio â chydymffurfio yn uwch; ac y dylai lladd-dai gadw darnau o ffilm CCTV am dri mis a sicrhau eu bod ar gael i swyddogion awdurdodedig.

Roedd y Pwyllgor Lles Anifeiliaid yn glir na ddylai CCTV ddisodli, lleihau na chymryd lle mesurau cyfredol ar gyfer rheoli arferion lladd-dai a roddir ar waith gan Filfeddygon Swyddogol, Swyddogion Lles Anifeiliaid, gweithredwyr lladd-dai ac eraill. Cydnabu’r Pwyllgor y gwerth ychwanegol y gall CCTV ei gynnig o ran diogelu lles anifeiliaid a sicrhau manteision i weithredwyr lladd-dai, yn cynnwys:

  • darparu tystiolaeth o ddiwydrwydd dyladwy, tystiolaeth y cydymffurfir â deddfwriaethau a safonau masnachol, a thystiolaeth yr ymatebir i bryderon defnyddwyr gan gynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd;
  • cyfrannu at waith adolygu gweithredwyr lladd-dai mewn perthynas ag effeithiolrwydd eu gweithrediadau (yn cynnwys gwella’r modd y caiff anifeiliaid eu trin a lleihau’r straen a ddaw i’w rhan) a’u galluogi i gyflwyno gwelliannau i brosesau a chyfarwyddiadau gweithredu;
  • cynnig arf hyfforddi gwerthfawr i staff lladd-dai;
  • annog cydgyfrifoldeb ymhlith staff lladd-dai;
  • darparu tystiolaeth ar gyfer camau disgyblu;
  • cynorthwyo i ddatrys anghydfodau, yn cynnwys rhai’n ymwneud â honiadau ffug.

Yn 2016, bu Grŵp Gorchwyl a Gorffen, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ystyried yr angen am system CCTV ymarferol yn lladd-dai Cymru, gan ystyried hefyd sut y gellid rhoi system o’r fath ar waith [2]. Ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael ar y pryd, daeth y grŵp i’r casgliad nad cheid sail ddigonol dros fandadu y dylid defnyddio CCTV mewn lladd-dai. Ond daeth y grŵp i’r casgliad y dylid annog lladd-dai i osod a defnyddio CCTV at ddibenion hyfforddi, er enghraifft pe bai’r ardal stynio yn anodd cadw golwg arni; a phe bai system CCTV i’w chael ar y safle, efallai y byddai camerâu’r ardal ddadlwytho a llocio yn recordio anafiadau a ddigwyddodd wrth i’r anifeiliaid gael eu cludo. Argymhellodd y grŵp y dylid cynnig grantiau er mwyn cynorthwyo safleoedd bach i fuddsoddi yn y cyfarpar.

Lluniodd Cymdeithas Milfeddygon Prydain Ddatganid Polisi, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2020[3], lle nodir ei safbwynt ynglŷn â lles anifeiliaid adeg eu lladd. Argymhellodd y Gymdeithas y dylai holl weinyddiaethau’r DU fynnu y dylid defnyddio CCTV mewn lladd-dai ym mhob ardal lle mae anifeiliaid byw, neu anifeiliaid a gaiff eu lladd, yn bresennol, ac y dylai Milfeddygon Swyddogol gael mynediad dilyffethair at ddarnau o ffilm – rhai amser real a rhai a storiwyd.

[1] Y Pwyllgor Anifeiliaid Fferm – Barn y Pwyllgor ynglŷn â CCTV mewn lladd-dai - gov.uk

[2] Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Diogelu Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd: cctv-in-slaughterhouses-report.pdf (gov.wales)

[3] Safbwynt Cymdeithas Milfeddygon Prydain ynglŷn â lles anifeiliaid adeg eu lladd: full-position-bva-position-on-the-welfare-of-animals-at-slaughter.pdf

 

Y sefyllfa bresennol yng Nghymru

Mewn ymateb i un o argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, trefnodd Llywodraeth Cymru y byddai arian ar gael trwy gyfrwng y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd er mwyn cynorthwyo lladd-dai bach a chanolig eu maint i osod ac uwchraddio systemau CCTV, ymhlith pethau eraill. Daeth y cynllun i ben ym mis Tachwedd 2018.

Mae CCTV i’w gael eisoes yn ein lladd-dai mwyaf, sy’n prosesu’r mwyafrif llethol o anifeiliaid, ac mae’r lladd-dai hyn yn dilyn protocol gwirfoddol a ddatblygwyd ar y cyd ac y cytunwyd arno gan yr ASB a chyrff y diwydiant er mwyn galluogi Milfeddygon Swyddogol i gael mynediad at ddarnau o ffilm CCTV. Yng Nghymru, caiff 95% o ddefaid eu lladd ar dri safle, ac mae pob un o’r safleoedd hynny â CCTV yn barod; caiff 96% o wartheg eu lladd ar dri safle, ac mae pob un o’r safleoedd hynny â CCTV yn barod; a chaiff 98% o ddofednod eu lladd ar dri safle, ac mae gan y safleoedd hynny hefyd CCTV[1].

Ym mis Ionawr 2022, cynhaliodd yr ASB arolwg ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn asesu’r cyfleusterau CCTV a geir yn holl ladd-dai Cymru ar hyn o bryd. Arolygwyd 23 o ladd-dai (nid yw un o’r safleoedd a arolygwyd wedi bod ar waith ers Gorffennaf 2021). Dyma a ddarganfu’r arolwg:

  • Mae CCTV ar ryw ffurf i’w gael mewn 17 lladd-dy (yn cynnwys pob lladd-dy dofednod).
  • Nid oedd CCTV i’w gael mewn chwe lladd-dy (cig coch i gyd).
  • O blith yr 17 lladd-dy sydd eisoes yn meddu ar gyfleusterau CCTV, mae 10 ohonynt â threfniadau a fyddai’n cydymffurfio â’r rheoliadau presennol a geir yn Lloegr a’r Alban (gweler isod)

Ar ran Defra a Llywodraeth Cymru, ym mis Mawrth 2022 cynhaliodd yr ASB arolwg o bob lladd-dy sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr[2]. Cynhaliwyd yr arolwg gan Filfeddygon Swyddogol a weithiai yn y lladd-dai, ac roeddynt yn debyg i arolygon eraill a gynhaliwyd gan yr ASB yn 2011, 2013 a 2018, er mwyn gallu dwyn cymariaethau. Dyma’r prif faterion yr aethpwyd i’r afael â nhw yn yr arolwg: Faint o anifeiliaid a gaiff eu lladd mewn lladd-dai cymeradwy a’r dulliau lladd, yn cynnwys lladd heb stynio; tarddiad yr anifeiliaid a gaiff eu lladd a chyrchfan eu cig, yn cynnwys marchnadoedd domestig a marchnadoedd allforio.

[1] Yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Mawrth 2022

[2] Farm animals: slaughter sector survey 2022 - GOV.UK (www.gov.uk)

 

Y sefyllfa mewn rhannau eraill o’r DU

Daeth Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Lloegr) 2018 (sef ‘Mandatory Use of Closed Circuit Television in Slaughterhouses (England) Regulations 2018’) i rym yn 2018[1]. Mae’r rheoliadau’n berthnasol i ladd-dai Lloegr, a rhaid i’r lladd-dai hynny wneud y canlynol:

  • Gosod a gweithredu system CCTV ym mhob rhan o’r lladd-dy lle mae anifeiliaid byw yn bresennol.
  • Cadw’r delweddau CCTV am 90 diwrnod o’r dyddiad y cawsant eu ffilmio.
  • Sicrhau bod y delweddau CCTV ar gael i arolygwyr er mwyn iddynt allu eu gweld, eu copïo neu eu hatafaelu [2].

Daeth Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Yr Alban) 2020 (neu ‘Mandatory Use of Closed Circuit Television in Slaughterhouses (Scotland) Regulations 2020’) i rym ym mis Gorffennaf 2021[3]. Dim ond i ladd-dai yn yr Alban mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol, a rhaid i’r lladd-dai hynny wneud y canlynol:

  • Gosod a gweithredu system CCTV ym mhob rhan o’r lladd-dy lle mae anifeiliaid byw yn bresennol.
  • Cadw’r delweddau CCTV am 90 diwrnod o’r dyddiad y cawsant eu ffilmio.
  • Sicrhau bod y delweddau CCTV ar gael i arolygwyr er mwyn iddynt allu eu gweld, eu copïo neu eu hatafaelu.[4]

Ni cheir unrhyw ofynion ar gyfer systemau CCTV mandadol mewn lladd-dai yng Ngogledd Iwerddon.

[1] The Mandatory Use of Closed Circuit Television in Slaughterhouses (England) Regulations 2018 (legislation.gov.uk)

[2] Guidance on the Mandatory Use of Closed Circuit Television in Slaughterhouses (England) Regulations 2018 (May 2018)

[3] The Mandatory Use of Closed Circuit Television in Slaughterhouses (Scotland) Regulations 2020 (legislation.gov.uk)

[4] Guidance on the Mandatory Use of Closed Circuit Television in Slaughterhouses (Scotland) Regulations 2020 (15 June 2021)

Ein Cynigion

Rydym wedi ymrwymo i’w gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy ddefnyddio cyfleusterau CCTV yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

Er na all CCTV ddisodli goruchwyliaeth uniongyrchol gan staff lladd-dai, Swyddogion Lles Anifeiliaid a Milfeddygon Swyddogol, gall wella effeithlonrwydd gweithgareddau monitro a gorfodi, a hefyd ceir manteision o ran lles anifeiliaid. Gall CCTV gynnig i Filfeddygon Swyddogol yr wybodaeth mae arnynt ei hangen i fonitro a gydymffurfir â’r rheoliadau, a hynny mewn modd rhwyddach a mwy cyfleus, a gall gofnodi digwyddiadau unigol ac ategu archwiliadau. Bydd hyn yn cynorthwyo i wella hyder y cyhoedd ynglŷn â chyflawni safonau lles.

Gall darnau o ffilm CCTV gynnig tystiolaeth ddilys a thryloyw, a gellir eu cadw am gyfnodau maith. Hefyd, gallant alluogi staff lladd-dai, Swyddogion Lles Anifeiliaid a Milfeddygon Swyddogol i wylio anifeiliaid sydd mewn ardaloedd a allai beri risg uchel i’w lles, yn ogystal ag anifeiliaid sy’n beryglus neu’n anhygyrch i bobl, gan eu galluogi i adnabod ymddygiadau arbennig ymhlith yr anifeiliaid – ymddygiadau a allai fod o olwg arsyllwyr dynol.

Os gwelir bod rheolau’n ymwneud â lles anifeiliaid wedi cael eu torri, mae modd i hynny arwain at ganlyniadau a allai atal arferion gwael yn y dyfodol a/neu esgor ar adborth a gwelliannau parhaus mewn arferion lladd-dai.

Mae data gorfodi’r ASB ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2020/21[1] yn dangos bod o leiaf 10% o achosion diffyg cydymffurfio mewn lladd-dai yn dod i’r amlwg yn sgil gwylio CCTV yn fyw neu’n ôl-weithredol, a bod CCTV yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin fel tystiolaeth i ategu camau gorfodi.

Ymhellach, mae gan CCTV rôl weithredol o ran atal a dirymu Tystysgrifau Cymhwysedd[2]. Ataliwyd neu dirymwyd 39 o dystysgrifau yn 2020/21, a defnyddiwyd CCTV yn 13 o’r achosion hynny er mwyn cynorthwyo i benderfynu ar y canlyniad; mae hyn yn cyfateb i 33% o’r holl achosion atal a dirymu (Data’r ASB)[3].

Cynigiwn gyflwyno rheoliadau ar gyfer y canlynol:

  1. Ei gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy cymeradwy osod camerâu CCTV yn yr holl ardaloedd lle caiff anifeiliaid byw eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, eu stynio a’u lladd. Rhaid gosod y camerâu mewn modd a fydd yn sicrhau y gellir cael golwg gyflawn a chlir ar yr holl ardaloedd lle mae anifeiliaid yn bresennol, a rhaid i gydraniad y llun fod yn ddigon da er mwyn ei gwneud yn bosibl i allu adnabod pobl yn y lluniau a’r delweddau a gaiff eu recordio. Os ceir camerâu CCTV eraill ar y safle, er enghraifft am resymau diogelwch neu i chwilio am namau, ni fyddai’r camerâu hyn yn cael eu hystyried fel rhan o’r system CCTV ar gyfer monitro ardaloedd lle mae anifeiliaid byw yn bresennol.
  2. Ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr lladd-dai gadw’r delweddau a recordiwyd am 90 diwrnod fan leiaf. Mae hyn yn cyd-fynd ag argymhelliad gan y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm. Os caiff y delweddau eu defnyddio fel rhan o ymchwiliad neu erlyniad parhaus, gall yr asiantaeth orfodi berthnasol gadw delweddau a recordiwyd am gyfnodau hwy. 
  3. Ei gwneud yn ofynnol i unigolion awdurdodedig allu gweld, copïo neu atafaelu delweddau a recordiwyd. Er mwyn iddynt allu rhoi mesurau gorfodi ar waith, efallai y bydd swyddogion awdurdodedig, megis Milfeddygon Swyddogol o’r ASB a staff o sefydliadau a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru, yn cael y pŵer i gael mynediad dilyffethair at ddarnau o ffilm – rhai byw a rhai a recordiwyd – er mwyn iddynt allu monitro a dilysu safonau lles anifeiliaid mewn lladd-dai.

[1] Templed Papur Bwrdd 2020 yn cynnwys rhestr wirio (food.gov.uk)

[2] Mae gweithredwyr lladd-dai angen Tystysgrif Cymhwysedd gan yr ASB ar gyfer cynnal rhai gweithgareddau mewn lladd-dai a gymeradwyir gan yr ASB: Trwydded i ladd | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)

[3] Templed Papur Bwrdd 2020 yn cynnwys rhestr wirio (food.gov.uk)

 

Statws Cyfreithiol CCTV mewn Lladd-dai

Yn sgil rheoliadau a wneir o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, efallai y bydd yn ofynnol cael CCTV ym mhob lladd-dy cymeradwy mewn ardaloedd lle mae anifeiliaid byw yn bresennol, fel y gellir ei ddefnyddio fel mesur gorfodi.

Mae’r ASB yn monitro ac yn gorfodi rheoliadau lles anifeiliaid mewn lladd-dai yn unol â hierarchaeth sancsiynau, gan amrywio o gyngor llafar ac ysgrifenedig i roi gwybod am droseddau at ddibenion erlyn. Byddai’r cosbau o dan y rheoliadau arfaethedig yn cael eu cymhwyso’n gymesur gan yr ASB a byddai gofynion y Ddeddf Lles Anifeiliaid yn cyfyngu arnynt.

Byddai’r ASB yn defnyddio CCTV fel rhan o’i rôl orfodi bresennol mewn lladd-dai. O ran Milfeddygon Swyddogol, defnyddid yr un lefel o adnoddau wedyn ag a ddefnyddir yn awr, ond o dro i dro byddent yn cael eu defnyddio mewn gweithgareddau gwahanol.

Un o’r prif fanteision sy’n perthyn i CCTV yw sicrhau y cydymffurfir yn well â gofynion lles anifeiliaid adeg eu lladd – rhywbeth a fyddai’n deillio o’r effaith ataliol sy’n perthyn i CCTV ynghyd â mwy o wybodaeth i ategu camau gorfodi gan staff yr ASB.

Yr Effaith ar Weithredwyr Lladd-dai

Fe fydd yna oblygiadau i’r rhai sy’n gysylltiedig â lladd anifeiliaid i’w bwyta gan bobl. Rydym wedi paratoi Asesiad Effaith Rheoleiddiol er mwyn asesu effaith ariannol ac ymarferol y rheoliadau arfaethedig ar gyfer y partïon dan sylw, yn cynnwys y diwydiant a’r sector cyhoeddus (Atodiad 1).

Amcangyfrifwn y bydd yn rhaid i safleoedd heb CCTV dalu cost untro o £2,500, ac y bydd yn rhaid i safleoedd a chanddynt CCTV eisoes dalu £500 am bob ardal ychwanegol.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ystyried y costau ar gyfer gosod a chynnal-a-chadw systemau CCTV, yn ogystal â’r gost ar gyfer storio’r darnau ffilm CCTV. Seilir yr asesiad hwn ar wybodaeth gyfyngedig a byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth ynglŷn â hyn (cwestiynau 5 i 8).

Y Gynulleidfa

Gall unrhyw un ymateb i’r ymgynghoriad hwn. Byddem yn arbennig o hoff o glywed gan sefydliadau ac unigolion sy’n gysylltiedig â lladd anifeiliaid i’w bwyta gan bobl. Bydd ymgyrchoedd a fydd yn esgor ar ymatebion stoc yn cael eu cofnodi ond efallai na fyddant yn cael eu cydnabod fesul un.

Dyma’r rhai a allai fod â buddiant: gweithredwyr lladd-dai, cynrychiolwyr masnach eraill yn y diwydiannau da byw a chig; y proffesiwn milfeddygol; sefydliadau lles anifeiliaid; cyrff gorfodi lles anifeiliaid; cynlluniau gwarant ffermydd; a manwerthwyr.

Sut i ymateb

A wnewch chi ymateb trwy ateb y cwestiynau ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori hon. Gellir cyflwyno ymatebion mewn nifer o ffyrdd:

Trwy e-bost: llesanifeiliaidcymru@llyw.cymru

Trwy’r post: 
Y Gangen Lles Anifeiliaid  
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

Neu mae ffurflen ar-lein i’w chael ar wefan Llywodraeth Cymru: 
Ymgyngoriadau | LLYW.CYMRU

Cwestiynau Ymgynghori

Gwella’r Ddarpariaeth ar gyfer Lles Anifeiliaid

Cwestiwn 1

Rydym wedi ymrwymo i’w gwneud yn ofynnol i bob lladd-dy gyflwyno CCTV. A ydych yn cytuno y dylid gosod camerâu CCTV ym mhob lladd-dy cymeradwy yn yr ardaloedd lle mae anifeiliaid byw yn bresennol, yn cynnwys ardaloedd lle caiff anifeiliaid eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, eu stynio a’u lladd? Rhowch resymau dros eich ymateb.

Cwestiwn 2

A ydych yn cytuno â’r prif fanteision o ran lles anifeiliaid a nodir gennym mewn perthynas â’i gwneud yn ofynnol i ladd-dai gyflwyno CCTV? Rhowch wybod inni am unrhyw fanteision posibl eraill yn ymwneud â lles anifeiliaid.

Gwella’r Arfer o Orfodi Lles Anifeiliaid

Cwestiwn 3

A ydych yn cytuno â’r gofyniad arfaethedig i weithredwyr busnesau bwyd gadw darnau o ffilm CCTV am 90 diwrnod? Rhowch resymau dros eich ymateb.

Cwestiwn 4

A ydych yn cytuno y dylai unigolion awdurdodedig gael mynediad dilyffethair er mwyn iddynt allu gweld, copïo neu atafaelu delweddau a recordiwyd (rhai amser real a rhai a storiwyd)? Rhowch resymau dros eich ymateb.

Y Gost i Fusnesau

Rydym wedi paratoi Asesiad Effaith Rheoleiddiol er mwyn asesu effeithiau ariannol ac ymarferol y rheoliadau arfaethedig ar gyfer yr holl bartïon dan sylw, yn cynnwys y diwydiant a’r sector cyhoeddus (Atodiad 1).

Cwestiwn 5

A ydych yn cytuno â’n hasesiad o’r gost a ddaw i ran (a) lladd-dai unigol a (b) diwydiant lladd-dai Cymru yn ei gyfanrwydd yn sgil cyflwyno CCTV mandadol? Cyflwynwch dystiolaeth i ategu eich ymateb.

Cwestiwn 6

A ydych o’r farn fod y costau sydd ynghlwm wrth gyflwyno CCTV mandadol mewn lladd-dai yn rhesymol ac yn gymesur i fusnesau unigol, ni waeth be fo’u maint? Cyflwynwch dystiolaeth i ategu eich ymateb.

Cwestiwn 7

A oes yna unrhyw fanteision neu gostau economaidd na soniwyd amdanynt yn y ddogfen ymgynghori neu’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol? Esboniwch beth allai’r rhain fod a chyflwynwch dystiolaeth i ategu eich ymateb.

Cwestiwn 8

A ydych yn fodlon i Lywodraeth Cymru gysylltu â chi i gael eglurhad pellach ynglŷn â’r effeithiau ariannol a amcangyfrifwyd gennych?

Yr Iaith Gymraeg

Cwestiwn 9

Ystyriwch a nodwch yr effeithiau (cadarnhaol neu niweidiol) y byddai’r penderfyniad polisi yn ei gael ar y canlynol:

  • cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, ac ar drin y Gymraeg yr un mor ffafriol â’r Saesneg.
  • y modd y gellid llunio neu ddiwygio’r polisi arfaethedig er mwyn sicrhau y byddai’n cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy o effeithiau cadarnhaol.
  • y modd y gellid llunio neu ddiwygio’r polisi arfaethedig er mwyn sicrhau na fyddai’n cael effeithiau niweidiol, neu y byddai’n cael llai o effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, ac ar drin y Gymraeg yr un mor ffafriol â’r Saesneg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cwestiwn 10

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os ydych o’r farn fod yna faterion cysylltiedig nad ymdriniwyd â nhw’n benodol, rhowch wybod inni.

Manylion cyswllt

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgynghoriadau, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch, a’u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data: 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

Cyfeiriad e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 
Wycliffe House 
Water Land 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545745 neu 0303 123113

Gwefan: https://ico.org.uk/

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig