Neidio i'r prif gynnwy

1. Dehongliad

1.1. Yn y telerau ac amodau hyn:

Mae ‘cytundeb’ yn golygu’r contract rhwng:

  1. y Cwsmer yn gweithredu fel rhan o’r Goron, a’r
  2. Cyflenwr a gafodd ei benodi dan gyfarwyddyd y Cyflenwr ar gyfer y Llythyr Dyfarnu ac yn cynnwys y Llythyr Dyfarnu a’r Atodiadau.

Mae ‘Llythyr Dyfarnu’ yn cyfeirio at y llythyr gan y Cwsmer i’r Cyflenwr a argraffwyd uwchben y telerau ac amodau hyn.

Mae ‘Corff Llywodraeth Ganolog’ yn golygu corff a restrir yn un o’r is-gategorïau canlynol yng Nghanllaw Dosbarthiad y Sector Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd:

  1. Adran o’r Llywodraeth
  2. Corff Cyhoeddus Anadrannol neu Gorff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad (ymgynghorol, gweithredol neu dribiwnlys)
  3. Adran Anweinidogol
  4. Asiantaeth Weithredol

Mae ‘taliadau’ yn cyfeirio at gostau’r Nwyddau fel y nodir yn y Llythyr Dyfarnu.

Mae ‘Gwybodaeth Gyfrinachol’ yn cyfeirio at yr holl wybodaeth, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar (sut bynnag y caiff ei gofnodi), a ddarperir gan y Parti sy’n datgelu i’r Parti sy’n derbyn:

  1. y mae’r Parti sy’n derbyn yn gwybod ei bod yn gyfrinachol;
  2. y mae wedi’i marcio neu wedi’i nodi i fod yn gyfrinachol; neu
  3. y dylai, yn rhesymol, gael ei hystyried gan y Parti sy’n derbyn fel gwybodaeth gyfrinachol.

Mae ‘cwsmer’ yn cyfeirio at y person sydd wedi’i nodi ym mhennawd y Llythyr Dyfarnu.

Mae ‘Dyddiad Cyflwyno’ yn cyfeirio at y dyddiad y mae’n rhaid Dosbarthu’r Nwyddau i’r Cwsmer, fel y nodir yn y Llythyr Dyfarnu.

Mae ‘Dosbarthu’ yn cyfeirio at drosglwyddo’r Nwyddau i’r Cwsmer yn y cyfeiriad ac ar y dyddiad a bennir yn y Llythyr Dyfarnu, a fydd yn cynnwys dadlwytho ac unrhyw drefniadau penodol eraill a gytunwyd arnynt yn unol â Chymal 6. Dylid ymgymryd â’r gwaith o Ddosbarthu yn unol â hynny.

Mae ‘DPA’ yn cyfeirio at y Ddeddf Diogelu Data 2018.

Mae ‘FOIA’ yn cyfeirio at y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Mae ‘Nwyddau’ yn cyfeirio at y nwyddau i’w darparu gan y Cyflenwr i’r Cwsmer dan amodau’r Cytundeb.

Mae ‘GDPR’ yn cyfeirio at y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Mae ystyr ‘Gwybodaeth’ wedi’i nodi o dan adran 84 y FOIA.

Mae ‘Parti’ yn cyfeirio at y Cyflenwr neu’r Cwsmer (fel y bo’n briodol) a bydd 'Partïon' yn cyfeirio at y ddau ohonynt.

Mae ‘Rhif yr Archeb Brynu’ yn cyfeirio at rif unigryw’r Cwsmer sy’n ymwneud â’r archeb am Nwyddau i’w darparu gan y Cyflenwr i’r Cwsmer yn unol ag amodau'r Cytundeb.

Mae ystyr ‘Cais am Wybodaeth’ wedi’i nodi yn y FOIA neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 fel y bo’n berthnasol (lle bydd yr ystyr a nodir ar gyfer y term ‘cais’ yn berthnasol).

Mae ‘Manyleb’ yn cyfeirio at y fanyleb ar gyfer y Nwyddau sydd am gael eu darparu gan y Cyflenwr i’r Cwsmer (gan gynnwys maint, disgrifiad ac ansawdd) fel y nodir yn y Llythyr Dyfarnu.

Mae ‘Staff’ yn cyfeirio at bob cyfarwyddwr, swyddog, gweithiwr, asiant, ymghynghorydd a chontractwr y Cyflenwr a/neu unrhyw is-gontractwyr y Cyflenwr sy’n rhan o rwymedigaethau’r Cyflenwr o dan y Cytundeb.

Mae ‘Gweithdrefnau Fetio Staff’ yn cyfeirio at weithdrefnau fetio yn unol ag arferion diwydiannol da neu, lle bo hynny’n berthnasol, gweithdrefnau’r Cwsmer ar gyfer fetio personél fel y darperir i’r Cyflenwr o bryd i’w gilydd.

Mae ‘Cyflenwr’ yn cyfeirio at y person a enwir fel Cyflenwr yn y Llythyr Dyfarnu.

Mae ‘TAW’ yn cyfeirio at y dreth ar werth yn unol â darpariaethau'r Ddeddf Treth ar Werth 1994.

Mae ‘Diwrnod Gwaith’ yn cyfeirio at ddiwrnod (oni bai am ddydd Sadwrn a dydd Sul) y mae banciau ar agor ar gyfer busnes yn Ninas Llundain.

1.2. Mae’r canlynol yn berthnasol i’r telerau ac amodau hyn, oni bai bod gofynion y cyd-destun yn wahanol:

  1. mae cyfeiriadau at gymalau sydd wedi’u rhifo yn gyfeiriadau i’r cymal perthnasol yn y telerau a’r amodau hyn;
  2. dylai unrhyw rwymedigaeth ar unrhyw Barti i beidio â gwneud neu i beidio â gwneud unrhyw beth gynnwys rhwymedigaeth i beidio â chaniatáu i’r peth hwnnw gael ei wneud neu beidio â’i wneud;
  3. mae’r penawdau a chymalau'r telerau ac amodau hyn er gwybodaeth yn unig ac nid ydynt yn effeithio ar ddehongliad o’r Cytundeb;
  4. mae unrhyw gyfeiriadaeth at ddeddfiad yn cynnwys cyfeiriad at y deddfiad hwnnw fel y’i diwygiwyd neu fel y’i disodlwyd o bryd i’w gilydd ac at unrhyw is-ddeddfwriaeth neu is-ddeddf a wneir o dan y deddfiad hwnnw; a
  5. dylid deall mai ystyr ‘gan gynnwys’ yw ‘yn cynnwys heb gyfyngiad’.

2. Sail y cytundeb

2.1. Mae’r Llythyr Dyfarnu yn gynnig gan y Cwsmer i brynu’r Nwyddau sy’n ddarostyngedig i ac yn unol â thelerau ac amodau’r Cytundeb.

2.2. Ystyrir bod y cynnig sy’n rhan o’r Llythyr Dyfarnu wedi’i dderbyn gan y Cyflenwr werth iddo dderbyn copi o’r Llythyr Dyfarnu gan y Cwsmer sydd wedi’i gydlofnodi gan y Cyflenwr o fewn 5 diwrnod o ddyddiad y Llythyr Dyfarnu.

3. Cyflenwi nwyddau

3.1. Fel ystyriaeth o gytundeb y Cwsmer i dalu’r Taliadau, bydd y Cyflenwr yn cyflenwi’r Nwyddau i’r Cwsmer yn ddarostyngedig i ac yn unol â thelerau ac amodau’r Cytundeb.

3.2. Wrth gyflenwi’r Nwyddau, bydd y Cyflenwr yn cydweithredu â’r Cwsmer ym mhob mater sy’n ymwneud â chyflenwi Newyddau ac yn cydymffurfio â holl gyfarwyddiadau’r Cwsmer.

3.3. Bydd y Cyflenwr yn cyflenwi’r Nwyddau yn unol â’r Fanyleb. Mae’r cyflenwr yn gwarantu, yn cynrychioli, yn ymroi ac yn rhoi sicrwydd y bydd y Nwyddau a gyflenwyd o dan y Cytundeb:

  1. yn rhydd o unrhyw ddiffygion (amlwg neu guddiedig) yn y deunyddiau a’r crefftwaith a’u bod yn aros felly am 12 mis ar ôl Dosbarthu;
  2. o ansawdd boddhaol (yn unol â’r ystyr yn y Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979) ac yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol a gofynion rheoleiddio sy’n ymwneud â’r gwaith o weithgynhyrchu, labeli, pecynnu, storio, trin a dosbarthu’r Nwyddau;
  3. yn cydymffurfio â’r manylebau (gan gynnwys y Fanyleb), y darluniau a’r disgrifiadau a roddir mewn dyfyniadau, amcangyfrifon, llyfrynnau, gwerthiant, marchnata a llenyddiaeth neu ddeunydd technegol (ym mha bynnag fformat sydd ar gael gan y Cyflenwr) a gyflenwyd gan y Cyflenwr, neu ar ran y Cyflenwr;
  4. yn rhydd o unrhyw ddiffygion dylunio;
  5. yn addas ar gyfer unrhyw bwrpas a ddelir gan y Cyflenwr neu a wnaed yn hysbys i’r Cyflenwr gan y Cwsmer yn benodol neu drwy ensyniad, ac yn hyn o beth, mae’r cwsmer yn dibynnu ar sgìl a thyb y Cyflenwr. Mae’r Cyflenwr yn cydnabod ac yn cytuno na fydd cymeradwyaeth y Cwsmer o unrhyw ddyluniadau a roddir gan y Cyflenwr yn gwaredu’r Cyflenwr o’i rwymedigaethau o dan yr is-gymal hwn; a
  6. bydd y Cyflenwr ei hun, yn cydymffurfio â’r holl ddeddfau cymwys.

4. Taliadau, talu ac adennill symiau sy'n ddyledus

4.1. Bydd y Taliadau am y Nwyddau fel y nodir yn y Llythyr Dyfarnu a bydd hyn yn gydnabyddiaeth ariannol llawn ac unigryw'r Cyflenwr mewn perthynas â chyflenwi’r Nwyddau. Oni chytunwyd fel arall gan y Cwsmer yn ysgrifenedig, bydd y Taliadau’n cynnwys pob cost a chost y Cyflenwr yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol mewn perthynas â chyflenwi’r Nwyddau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gostau pecynnu, yswiriant, dosbarthu, dadlwytho, stacio a chario.

4.2. Nid yw’r symiau a nodir yn cynnwys TAW a fydd yn cael ei godi ar y gyfradd bresennol. Bydd y Cwsmer, ar ôl derbyn anfoneb TAW dilys, yn talu swm sy’n hafal i’r TAW sy’n daladwy mewn perthynas â’r Nwyddau, i’r Cyflenwr.

4.3. Ar ôl Dosbarthu’r Nwyddau, bydd y Cyflenwr yn anfonebu’r Cwsmer fel y nodir yn y Cytundeb. Bydd pob anfoneb yn cynnwys y wybodaeth ategol sy’n ofynnol gan y Cwsmer er mwyn gwirio cywirdeb yr anfoneb, gan gynnwys Rhif yr Archeb Brynu ac amlinelliad o’r Nwyddau a gyflenwyd yn ystod cyfnod yr anfoneb.

4.4. Wrth ystyried y gwaith o gyflenwi’r Nwyddau gan y Cyflenwr, bydd y Cwsmer yn talu’r symiau sydd yn yr anfoneb i’r Cyflenwr o fewn 30 diwrnod ar ôl gwirio bod yr anfoneb yn ddilys ac nad yw’n cael ei herio a’i fod yn cynnwys Rhif yr Archeb Brynu cywir.

4.5. Os nad yw’r Cwsmer yn gallu ystyried a dilysu anfoneb yn amserol, ystyrir yr anfoneb yn ddilys ac nad yw’n cael ei herio at ddiben paragraff 4.4. ar ôl i gyfnod rhesymol fynd heibio.

4.6. Os oes anghydfod rhwng y Partïon ynglŷn â'r swm a anfonebir, bydd y Cwsmer yn talu’r swm nad yw’n cael ei herio. Ni fydd y Cyflenwr yn stopio cyflenwi’r Nwyddau oni bai bod gan y Cyflenwr yr hawl i derfynu’r Cytundeb oherwydd methiant i dalu symiau nad ydynt yn cael eu herio yn unol â chymal 17.3. Bydd unrhyw symiau sy’n rhan o’r anghydfod yn cael eu datrys drwy’r weithdrefn datrys anghydfod a fanylir yng nghymal 20.

4.7. Os na fydd y Cwsmer yn talu’r swm nad yw’n cael ei herio erbyn y dyddiad dyledus, yna bydd y Cwsmer yn talu llog i’r Cyflenwr ar y gyfradd llog a bennir yn y Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998.

4.8. Pan fydd y Cyflenwr yn llunio is-gontract, bydd y Cyflenwr yn cynnwys y canlynol yn yr is-gontract hwnnw:

  1. darpariaethau â’r un effeithiau â chymalau 4.3 i 4.7 y Cytundeb hwn; a
  2. darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r is-gontract hwnnw gynnwys unrhyw is-gontract sy’n dyfarnu darpariaethau sydd â’r un effeithiau â chymalau 4.3 a 4.8 y Cytundeb hwn.
  3. Yng nghymal 4.8, mae ‘is-gontract’ yn golygu contract rhwng dau neu fwy o gyflenwyr, ar unrhyw bellter oddi wrth yr Awdurdod mewn cadwyn is-gontractio, a wnaed yn gyfan gwbl neu i raddau helaeth at ddiben perfformio (neu gyfrannu at y perfformiad) yn gyfan gwbl neu mewn unrhyw ran o’r Cytundeb hwn.

4.9. Os oes unrhyw swm o arian yn adenilladwy gan y Cyflenwr o dan y Cytundeb (gan gynnwys unrhyw swm y mae’r Cyflenwr yn gyfrifol am ei dalu i’r Cwsmer mewn unrhyw achos o dorri’r Cytundeb), gall y swm hwnnw gael ei ddidynnu o unrhyw swm sydd yna’n ddyledus, neu y gall ddod yn ddyledus gan y Cwsmer, i’r Cyflenwr o dan y Cytundeb neu dan unrhyw gytundeb neu gontract arall gyda’r Cwsmer. Ni fydd gan y Cyflenwr yr hawl i fynnu unrhyw gredyd, gwrthgyfrif na gwrth-hawliad yn erbyn y Cwsmer er mwyn cyfiawnhau cadw taliad o unrhyw swm yn ôl yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

5. Terfynu

5.1. Bydd gan y Cwsmer yr hawl i derfynu’r archeb am Nwyddau, neu am unrhyw ran o’r Nwyddau, nad ydynt wedi’u Dosbarthu i’r Cwsmer eto. Bydd rhaid terfynu’n ysgrifenedig. Heb effeithio ar gyffredinolrwydd yr ildio, bydd y Cwsmer yn talu Taliadau o’r fath am y Nwyddau neu’r Taliadau ar gyfer y rhan o’r Nwyddau sydd wedi’u Dosbarthu i’r Cwsmer neu, ar ddyddiad tybiedig anfon yr hysbysiad terfynu, eu bod eisoes ar y ffordd a bod costau’r deunydd y mae’r Cyflenwr wedi’u prynu ar gyfer yr archeb am y Nwyddau ac nad oes modd eu defnyddio ar gyfer archebion eraill na’u dychwelyd i gyflenwr y deunyddiau hynny i gael ad-daliad. Er mwyn osgoi amheuaeth, ni fydd y Cwsmer yn gyfrifol am unrhyw golled o elw disgwyliedig nac unrhyw golled ganlyniadol.

6. Dosbarthu

6.1. Bydd y Cyflenwr yn Dosbarthu’r Nwyddau i’r Cwsmer ar neu erbyn y Dyddiad Dosbarthu. Oni chytunwyd yn ysgrifenedig fel arall gan y Cwsmer, bydd rhaid Dosbarthu ar y dyddiad a nodir ac i’r cyfeiriad a nodir yn y Llythyr Dyfarnu. Bydd y gwaith o Ddosbarthu’r Nwyddau yn cael ei gwblhau pan fydd y Nwyddau wedi’u dadlwytho yn y cyfeiriad Dosbarthu a bod y Cwsmer wedi rhoi llofnod ar gyfer hyn.

Bydd unrhyw fynediad i safle’r Cwsmer ac unrhyw lafur ac offer y gellir fod eu hangen gan y Cwsmer mewn perthynas â Dosbarthu’r Nwyddau eu darparu heb dderbyn gan y Cwsmer na’r Goron unrhyw atebolrwydd mewn perthynas ag unrhyw achosion, hawliadau, costau a threuliau sy’n codi gan drydydd parti am unrhyw golled neu ddifrod i’r graddau nad oes modd cysylltu’r golled neu’r difrod gydag esgeulustod neu weithredu’n anghywir gan y Cwsmer neu ei was neu asiant. Bydd y Cyflenwr yn indemnio’r Cwsmer a’r Goron mewn perthynas ag unrhyw achosion cyfreithiol, hawliadau, gorchmynion, colledion, taliadau, costau a threuliau, y gall y Cwsmer neu’r Goron ddioddef o ganlyniad i’r neu mewn perthynas ag unrhyw ddifrod neu anaf (boed yn angheuol neu fel arall) sydd wedi digwydd wrth Ddosbarthu neu osod i’r graddau y mae modd cysylltu’r difrod neu’r niwed o’r fath ag unrhyw weithredu neu esgeulustod y Cyflenwr ac unrhyw un o’i is-Gyflenwyr.

6.2. Bydd y gwaith o Ddosbarthu’r Nwyddau yn cynnwys nodyn dosbarthu sy’n dangos Rhif yr Archeb Brynu a’r math a maint y Nwyddau ac, mewn achos o Ddosbarthu rhannol, faint sy’n weddill i’w Dosbarthu.

6.3. Oni nodir fel arall gan y Cwsmer yn y Llythyr Dyfarnu, dim ond ar Ddiwrnodau Gwaith ac yn ystod oriau busnes arferol y bydd Dosbarthiadau yn cael eu derbyn gan y Cwsmer.

6.4. Pan:

  1. na fydd y Cyflogwr yn llwyddo i Ddosbarthu’r Nwyddau na rhan o’r Nwyddau, neu
  2. nid yw’r Nwyddau na rhan o’r Nwyddau yn cydymffurfio â darpariaethau cymal 3

yna, heb gyfyngu ar unrhyw un o’i hawliau neu rhwymedïau eraill sy’n ddealledig drwy gyfraith statud neu gyfraith gyffredin, bydd gan y Cwsmer hawl:

  1. i derfynu’r Cytundeb;
  2. i ofyn i’r Cyflenwr, yn rhad ac am ddim, ddosbarthu Nwyddau yn ei lle o fewn yr amserlenni a bennir gan y Cwsmer;
  3. i’w wneud yn ofynnol bod y Cyflenwr, yn rhad ac am ddim, yn atgyweirio neu’n rhoi nwyddau yn lle’r Nwyddau a wrthodwyd, neu’n rhoi ad-daliad llawn o bris y Nwyddau a wrthodwyd (os talwyd y swm eisoes);
  4.  i wrthod y Nwyddau (yn gyfan gwbl neu ran ohonynt) a’u dychwelyd i’r Cyflenwr ar risg a chost y Cyflenwr ei hun a bydd gan y Cwsmer yr hawl i gael ad-daliad llawn am y Nwyddau hynny neu am ran o’r Nwyddau a dychwelwyd yn briodol;
  5. i brynu’r un Nwyddau neu Nwyddau tebyg gan gyflenwr arall ac i adennill unrhyw dreuliau a godwyd wrth brynu nwyddau gan gyflenwr arall a fydd yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gostau gweinyddol, amser staff taladwy a chostau dosbarthu ychwanegol.

7. Eiddo a gwarant teitl

7.1. Heb effeithio ar unrhyw hawliau neu rhwymedïau y Cwsmer, bydd teitl a risg yn y Nwyddau yn cael eu pasio i’r Cwsmer pan fydd y gwaith o Ddosbarthu’r Nwyddau wedi’i gwblhau (gan gynnwys dadlwytho a stacio)

7.2. Mae'r Cyflenwr yn gwarantu:

  1. ei fod yn meddu ar deitl clir a dilyffethair ar gyfer yr holl Nwyddau;
  2. ar ddyddiad Dosbarthu unrhyw Nwyddau, bydd ganddo hawl, pŵer ac awdurdod llawn ac anghyfyngedig i werthu, trosglwyddo a dosbarthu’r holl Nwyddau i’r Cwsmer. Ar ôl Dosbarthu, bydd y Cwsmer yn caffael teitl dilys a dilyffethair ar gyfer y Nwyddau.

8. Staff

8.1. Os yw’r Cwsmer yn credu’n rhesymol bod unrhyw un o’r staff yn anaddas i ymgymryd â gwaith mewn perthynas â’r Cytundeb, gall, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Cyflenwr wneud y canlynol:

  1. gwrthod mynediad i’r person(au) perthnasol i safle’r Cwsmer;
  2. dweud wrth y Cyflenwr i atal y person(au) perthnasol rhag cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu’r Nwyddau a/neu
  3. ei gwneud yn ofynnol bod y Cyflenwr yn llenwi lle unrhyw berson a gafodd ei atal o dan y cymal hwn gyda pherson cymwys addas arall gan sicrhau y dychwelir unrhyw bas diogelwch a roddwyd gan y Cwsmer i’r person a gafodd ei atal,

a bydd y Cyflenwr yn cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad o’r fath.

8.2. Bydd y Cyflenwr yn:

  1. sicrhau bod yr holl staff yn cael eu fetio yn unol â Gweithdrefnau Fetio Staff ac os gofynnir, eu bod yn cydymffurfio â Gweithdrefnau Fetio Staff fel y’i cyflenwir o bryd i’w gilydd;
  2. os gofynnir iddynt, yn rhoi rhestr i’r Cwsmer yn cynnwys enwau a chyfeiriadau (ac unrhyw wybodaeth berthnasol) pob person a all fod angen mynediad i safle’r Cwsmer mewn perthynas â’r Cytundeb; ac
  3. yn sicrhau bod pob aelod o Staff yn cydymffurfio ag unrhyw reolau, rheoliadau a gofynion a bennir yn rhesymol gan y Cwsmer.

9. Aseinio ac is-gontractio

9.1. Ni fydd y cyflenwr, heb ganiatâd ysgrifenedig gan y Cwsmer, yn aseinio, is-gontractio, trosglwyddo neu mewn unrhyw ffordd yn gwaredu buddion a/neu faich y Cytundeb neu unrhyw ran o’r Cytundeb. Gall y Cwsmer, wrth roi caniatâd o’r fath, ddarparu ar gyfer telerau ac amodau ychwanegol sy’n ymwneud ag eseiniad, is-gontract, trosglwyddiad neu warediad o’r fath. Bydd y Cyflenwr yn gyfrifol am weithredoedd ac esgeulustod ei is-gontractwyr fel pe bai’r gweithredoedd a’r esgeulustodau hynny’n rhai’r Cyflenwr ei hun.

9.2. Os bydd y Cwsmer wedi cydsynio i osod is-gontractau, bydd y Cyflenwr yn sicrhau bod is-gontractwyr a’i gyflenwyr wedi derbyn y goblygiadau sy’n cyfateb o’r rhai a nodir yn y Contract a’u bod yn cydymffurfio gyda goblygiadau o’r fath.

9.3. Pan fo’r Cwsmer wedi cydsynio i osod is-gontractau, bydd y Cyflenwr yn, ar gais y Cwsmer, anfon copïau o bob is-gontract, at y Cwsmer cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

9.4. Gall y Cwsmer aseinio, trosglwyddo, neu fel arall, gwaredu ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y Cytundeb heb ganiatâd y Cyflenwr ar yr amod na fydd aseiniad, trosglwyddiad na gwarediad o’r fath yn ychwanegu at faich rhwymedigaethau’r Cyflenwr o dan y Cytundeb.

10. Eiddo deallusol ac indemniad

10.1. Mae’r Cyflenwr yn rhoi trwydded barhaol, di-freindal, ac anghyfyngedig na ellir ei dirymu (gan gynnwys heb gyfyngiad i hawl y Cwsmer i roi is-gontractau mewn perthynas â’r un peth) i ddefnyddio holl hawliau eiddo deallusol yn y deunyddiau a gaiff eu creu neu eu datblygu yn unol â’r Cytundeb ac unrhyw hawliau eiddo deallusol sy’n codi o ganlyniad i ddarpariaeth y Gwasanaethau, gan gynnwys unrhyw addasiadau neu fersiynau deilliadol o unrhyw hawliau eiddo deallusol o’r fath, sy’n rhesymol angenrheidiol i’r Cwsmer er mwyn arfer ei hawliau a manteisio ar y Cytundeb gan gynnwys y gwasanaethau a ddarperir.

10.2. Bydd y Cyflenwr yn indemnio, ac yn parhau indemnio, y Cwsmer yn llawn yn erbyn pob cost, treuliant, difrod a cholled (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), gan gynnwys unrhyw log, cosbau a ffioedd cyfreithiol rhesymol a ffioedd proffesiynol eraill a ddyfernir yn erbyn neu sydd wedi’u codi neu eu talu gan y Cwsmer o ganlyniad i, neu mewn cysylltiad ag unrhyw hawliad a wneir yn erbyn y Cwsmer am doriad gwirioineddol neu honedig yn erbyn eiddo deallusol trydydd parti sy’n codi o, neu mewn cysylltiad â chyflenwi neu ddefnyddio’r Nwyddau, i’r graddau y mae modd gwneud cysylltiad rhwng yr hawliad a gweithredoedd neu esgeulustod y Cyflenwr neu unrhyw aelod o Staff.

10.3. Bydd y Cwsmer yn hysbysu’r Cyflenwr ar unwaith o unrhyw hawliad am doriad a wneir yn ei erbyn mewn perthynas ag unrhyw Nwyddau, ac, yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaeth statudol sy’n gofyn i’r Cwsmer ymateb, bydd yn rhoi’r hawl i’r Cyflenwr, yn ôl ei ddisgresiwn ei hun i dybio, amddiffyn, setlo neu waredu hawliad o’r fath. Bydd y Cwsmer yn rhoi cymorth i’r Cyflenwr am ei bod yn bosibl y bydd angen gwaredu’r hawliad yn rhesymol ac ni fydd yn gwneud unrhyw ddatganiad a allai fod yn niweidiol i setliad neu amddiffyniad yr hawliad.

11. Llywodraethiant a chofnodion

11.1. Bydd y Cyflenwr yn:

  1. mynychu cyfarfodydd gyda’r Cwsmer ar adegau a bennir gan y Cwsmer ac yn sicrhau bod ei gynrychiolwyr yn gymwys ac yn addas i fynychu cyfarfodydd o’r fath; a
  2. chyflwyno adroddiadau cynnydd i’r Cwsmer ar adegau ac mewn fformat a bennir gan y Cwsmer.

11.2. Bydd y Cyflenwr yn cynnal a chadw hyd at 10 mlynedd ar ôl i’r Cytundeb ddod i ben, neu am gyfnod y mae’r Partïon wedi cytuno arno, cofnodion llawn a chywir o’r Cytundeb gan gynnwys y Nwyddau sydd wedi’u darparu yn rhan ohono, a phob taliad a wneir gan y Cwsmer. Bydd y Cyflenwr, ar gais, yn gofyn i’r Cwsmer neu gynrychiolwyr y Cwsmer am fynediad i’r cofnodion hynny am y gal y Cwsmer ofyn amdanynt mewn cysylltiad â’r Cytundeb.

12. Cyfrinachedd, tryloywder a chyhoeddusrwydd

12.1. Bydd y Cyflenwr, gan gynnwys yr holl weithwyr, cynrychiolwyr, asiantau a/neu is-gontractwyr sy’n gweithio ar ran y Cyflenwr, yn cydymffurfio â phob rhwymedigaeth ‘swyddogion perthnasol’ mewn perthynas â gwybodaeth trethdalwyr gwarchodedig o dan adrannau 17 i 19 o’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, gan gynnwys gwneud datganiad o gyfrinachedd os yw’r Cwsmer yn ystyried hyn yn berthnasol.

12.2. Yn amodol ar gymal 12.1, bydd pob Parti yn:

  1. ymdrin â’r holl Wybodaeth Gyfrinachol y mae’n ei derbyn yn gyfrinachol, yn diogelu’r wybodaeth ac yn peidio â’i datgelu i unrhyw berson arall heb gael caniatâd ysgrifenedig y Parti sy’n datgelu cyn gwneud hynny; ac
  2. peidio â defnyddio na manteisio ar Wybodaeth Gyfrinachol y Parti mewn unrhyw ffordd oni bai am at y dibenion a ragwelwyd o dan y Cytundeb.

12.3. Er gwaethaf cymal 12.1, gall Parti ddatgelu Gwybodaeth Gyfrinachol y mae’n ei dderbyn gan Barti arall:

  1. os oes cyfraith berthnasol neu lys o awdurdodaeth gymwys sy’n ei wneud yn ofynnol i ddatgelu;
  2. i’w archwilwyr at ddibenion gofynion rheoleiddio;
  3. ar sail gyfrinachol, i’w ymgynghorwyr proffesiynol;
  4. i’r Swyddfa Twyll Difrifol os oes gan y Parti sail resymol i greu bod y Parti arall yn ymwneud â gweithgarwch a all fod yn drosedd o dan y Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010;
  5. os mai’r Cyflenwr yw’r Parti sy’n derbyn, i’r Staff os oes angen iddynt wybod er mwyn gallu gweithredu ar rwymedigaethau’r Cyflenwr o dan y Cytundeb ar yr amod bod y Cyflenwr yn sicrhau bod unrhyw Staff sy’n cael gwybod am Wybodaeth Gyfrinachol yn unol â’r cymal hwn 12.2.5, yn cadw at rwymedigaethau’r Cyflenwr o ran cyfrinachedd o dan y Cytundeb; a
  6. os mai’r Cwsmer yw’r Parti sy’n derbyn;
    1. ar sail cyfrinachedd i’r gweithwyr, asiantau, ymgynghorwyr a chontractwyr y Cwsmer;
    2. ar sail cyfrinachedd i unrhyw Gorff Llywodraeth Ganolog arall, unrhyw gorff olynol i Gorff Llywodraeth Ganolog neu unrhyw gwmni y mae’r Cwsmer yn trossglwyddo neu’n bwriadu trosglwyddo’i fusnes yn gyfan gwbl, neu unrhyw ran o’i fusnes iddynt;
    3. i’r graddau y mae’r Cwsmer (sy’n gweithredu’n rhesymol) yn penderfynu bod datgelu gwybodaeth yn angenrheidiol neu’n briodol wrth gyflawni ei swyddogaethau cyhoeddus; neu
    4. yn unol â chymal 13.

ac at ddibenion yr uchod, bydd cyfeiriadau at ddatgelu ar rain cyfrinachedd yn golygu datgelu sy’n ddarostyngedig i gytundeb neu drefniant cyfrinachedd sy’n cynnwys telerau nad ydynt yn llai llym na’r rhai a osodwyd ar gyfer y Cwsmer o dan y cymal 12 hwn.

12.4. At ddibenion yr uchod, bydd cyfeiriadau at ddatgelu ar sail cyfrinachedd yn golygu datgelu sy’n ddarostyngedig i gytundeb neu drefniant cyfrinachedd sy’n cynnwys telerau nad ydynt yn llai llym na’r rhai a osodwyd ar gyfer y Cwsmer o dan y cymal 11 hwn. Mae’r Partïon yn cydnabod, oni bai am unrhyw Wybodaeth sy’n esempt o’r gofynion datgelu yn unol â darpariaethau’r FOIA, nad yw cynnwys y Cytundeb yn Wybodaeth Gyfrinachol ac mae’r Cyflenwr felly yn rhoi ei ganiatâd i’r Cwsmer gyhoeddi’r Cytundeb yn ei gyfanrwydd i’r cyhoedd (ond wedi golygu unrhyw Wybodaeth sy’n esempt o’r gofynion datgelu yn unol â’r FOIA) gan gynnwys unrhyw newidiadau i’r Cytundeb a gytunwyd arnynt o bryd i’w gilydd. Gall y Cwsmer ymgynghori â’r Cyflenwr i roi gwybod am ei benderfyniad mewn perthynas ag unrhyw ddiffyg gweithredu ond bydd yn rhaid iddo gadw’r penderfyniad terfynol yn ei ddisgresiwn absoliwt p’un a yw cynnwys y Cytundeb yn esempt o’r gofynion datgelu yn unol â darpariaethau’r FOIA.

12.5. Ni fydd y Cyflenwr yn gwneud unrhyw ddatganiadau i’r wasg nac yn gwneud y Cytundeb, na unrhyw ran o’r Cytundeb yn gyhoeddus, a bydd yn cymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw unrhyw un o’i Staff yn gwneud hynny ychwaith, oni bai ei fod wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan y Cwsmer i wneud hynny yn gyntaf.

13. Rhyddid gwybodaeth

13.1. Mae’r Cyflenwr yn cydnabod bod y Cwsmer yn ddarostyngedig i ofynion y FOIA a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a bydd:

  1. yn darparu’r holl gymorth a chydweithrediad angenrheidiol fel y gofynnir yn rhesymol gan y Cwsmer i alluogi’r Cwsmer i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau o dan y FOIA a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004;
  2. yn trosgwyddo pob Cais am Wybodaeth i’r Cwsmer mewn perthynas â’r Cytundeb y mae’n ei dderbyn cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac mewn unrhyw achos o fewn 2 Diwrnod Gwaith o’i dderbyn;
  3. yn darparu copi o’r holl Wybodaeth i’r Cwsmer y gofynnir amdano yn y Cais am Wybodaeth sydd yn ei feddiant neu ei reolaeth mewn ffurf y mae’r Cwsmer wedi gofyn amdano o fewn 5 Diwrnod Gwaith (neu gyfnod rhesymol y mae’r cwsmer wedi’i nodi) o gais y Cwsmer am Wybodaeth o’r fath; ac
  4. ni fydd yn ymateb yn uniongyrchol i Gais am Wybodaeth oni bai bod y Cwsmer wedi’i awdurdodi’n ysgrifenedig i wneud hynny.

13.2. Mae’r Cyflenwr yn cydnabod y gallai fod angen i’r Cwsmer, o dan y FOIA a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, ddatgelu Gwybodaeth sy’ ymwneud â’r Cyflenwr neu’r Nwyddau (gan gynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif) heb ymgynghori na chael caniatâd gan y Cyflenwr. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Cwsmer, yn unol ag unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi’u cyhoeddi dan y FOIA, yn cymryd camau rhesymol, lle bo hynny’n briodol, i roi hysbysiad ymlaen llaw i’r Cyflenwr, neu os na fydd yn gallu gwneud hynny, yn tynnu’r datgeliad at sylw’r Cyflenwr yn dilyn unrhyw ddatgeliad o’r fath.

13.3. Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Cytundeb, bydd y Cwsmer yn gyfrifol am benderfynu, drwy ddefnyddio’i ddisgresiwn absoliwt, a yw unrhyw Wybodaeth sy’n ymwneud â’r Cyflenwr neu’r Nwydau yn esempt o’r gofynion datgelu yn unol â’r FOIA a/neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

14. Diogelu a diogelwch data

14.1. Bydd y Cyflenwr yn, ac yn sicrhau bod ei holl Staff a’i is-gontractwyr yn, cydymffurfio ag unrhyw ofynion hysbysu o dan y GDPR a’r DPA a bydd y ddau Barti yn gweithredu ar eu rhwymedigaethau’n briodol o dan y GDPR a’r DPA sy’n codi mewn perthynas â’r Cytundeb.

14.2. Wrth ymdrin â data Cwsmer, bydd y Cyflenwr yn sicrhau diogelwch y data yn unol â gofynion diogelwch y Cwsmer a gaiff eu hysbysu i’r Cyflenwr o dro i dro.

15. Atebolrwydd

15.1. Ni fydd y Cyflenwr yn gyfrifol am unrhyw anaf, colled, difrod, cost neu dreuliau’r Cwsmer os ac i’r graddau y mae wedi’i achosi gan esgeulustod neu gamymddwyn bwriadol gan y Cwsmer neu sydd wedi’i achosi gan y Cwsmer yn torri’i rhwymedigaethau o dan y Cytundeb.

15.2. Yn amodol bob amser ar gymal 15.3 a 15.4:

  1. bydd atebolrwydd cyfanredol y Cyflogwr mewn perthynas ag unrhyw ddiffygdaliadau, hawliadau, colledion neu ddifrod a achoswyd, boed yn deillio o dorri’r Cytundeb, y cyflenwad neu fethiant i gyflenwi’r Nwyddau, camliwiad (boed yn anuniongyrchol neu’n statudol), camweddau (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol neu fel arall, byth yn fwy na swm sy’n hafal i 125% o’r Taliadau a dalwyd neu sy’n daladwy i’r Cyflenwr;
  2. ac eithrio mewn achos o’r hawliadau sy’n codi o dan gymalau 10.2 ac 19.3, ni fydd unrhyw Barti, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol i’r Parti arall am unrhyw un o’r canlynol:
    1. colledion elw;
    2. colli busnes;
    3. colli refeniw;
    4. colli neu niweidio ewyllys da;
    5. colli cynilion (boed hynny’n rhagweladwy neu fel arall); a/neu
    6. unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol.

15.3. Ni fydd unrhyw beth yn y Cytundeb yn cael ei ddehongli i gyfyngu neu eithrio atebolrwydd y naill Barti neu’r llall dros y canlynol:

  1. marwolaeth neu anaf personol a achoswyd gan ei esgeulustod neu esgeulustod ei Staff;
  2. twyll neu gamliwio twyllodrus ganddo ef neu ei Staff;
  3. torri unrhyw rwymedigaeth ynghylch teitl a ensynnir yn adran 12 o Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979 neu adran 2 o Ddeddf Cyflenwi Nwyddau a Gwasanaethau 1982; neu
  4. nac unrhyw fater arall na chaniateir ei eithrio na’i gyfyngu, yn ôl y gyfraith.

15.4. Bydd atebolrwydd y Cyflenwr dan yr indemniad yng nghymalau 10.2 ac 19.3 yn ddiderfyn.

16. Force majeure (amgylchiadau y tu hwn i reolaeth dyn)

Ni fydd unrhyw Barti yn atebol nac yn cael eu beio am dorri’r Cytundeb am unrhyw oedi neu fethiannau yn eu gwaith o weithredu ar y Cytundeb oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Parti yr effeithir arnynt. Bydd pob Parti yn hysbysu’r Parti arall yn ysgrifenedig pan fydd amgylchiadau o’r fath yn achosi oedi neu fethiant a phan fyddant yn peidio â gwneud hynny. Os bydd amgylchiadau o’r fath yn parhau am gyfnod parhau o fwy na 30 diwrnod, gall y naill Barti neu’r llall derfynu’r Cytundeb drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r Parti arall.

17. Terfynu

17.1. Heb effeithio ar unrhyw hawliau neu rhwymedïau y gallai fod ganddo, gall y Cwsmer derfynu’r Cytundeb yn gyfan gwbl neu’n rhannol cyn Dosbarthu neu ar ôl Dosbarth (lle mai dim ond rhan o’r Nwyddau sydd wedi’u Dosbarthu) drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r Cyflenwr, a hynny ar unwaith, os yw’r Cyflenwr:

  1. (heb effeithio ar gymal 17.1.5), yn torri unrhyw rwymedigaeth berthnasol o dan y Cytundeb nad oes modd unioni;
  2. yn torri unrhyw un o delerau ac amodau'r Cytundeb dro ar ôl tro fel ffordd o gyfiawnhau’r safbwynt bod ei ymddygiad yn anghyson â’r bwriad neu’r gallu i roi telerau ac amodau’r Cytundeb ar waith;
  3. yn torri unrhyw rwymedigaeth berthnasol y gellir ei hunioni, ac nad yw’r toriad hwnnw’n cael ei unioni o fewn 25 o’r Cyflenwr yn cael hysbysiad sy’n nodi’r toriad ac yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei unioni;
  4. yn mynd drwy’r broses o newid rheolaeth (diffinnir ‘rheoli’ yn adran 1124 o Ddeddf y Dreth Gorfforaeth 2010), o fewn y Cyflenwr neu ei Riant-Gwmni ar yr amod y caniateir i’r Cleient arfer ei hawliau yn unol â’r Amod hwn 44.1.2 am chwe (6) mis calendr ar ôl newid rheolaeth o’r fath ac ni chaniateir iddynt roi’r hawliau o’r fath ar waith lle mae’r Cleient wedi cytuno ymlaen llaw yn ysgrifenedig i’r newid penodol mewn rheolaeth a bod y newid hwnnw yn digwydd fel y cynigiwyd;
  5. yn torri darpariaethau cymalau 8.2, 12, 13, 14 ac 18;
  6. yn dod yn fethdalwr, neu os gwneir gorchymyn neu fod penderfyniad yn cael ei basio ar gyfer dod â’r Cyflenwr i ben (ac eithrio’n wirfoddol at ddiben uno neu adlunio ariannol), neu os penodir gweinyddwr neu dderbynnydd gweinyddol mewn perthynas ag asedau neu fusnes llawn neu rannol y Cyflenwr, neu os yw’r Cyflenwr yn gwneud unrhyw gyfansoddiad gyda’i gredydwyr neu’n cymryd unrhyw gamau tebyg neu gyfatebol (i unrhyw un o’r gweithredoedd a fanylir arnynt yn y cymal hwn 17.1.6) o ganlyniad i ddyled mewn unrhyw awdurdodaeth; neu
  7. yn methu â chydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol ym meysydd cyfraith amgylcheddol, gymdeithasol neu lafur.

17.2. Bydd y Cyflenwr yn hysbysu’r Cwsmer cyn gynted ag y bo’n ymarferol am unrhyw newid rheolaeth fel y cyfeirir ato yng nghymal 16.2.4 neu unrhyw newid rheolaeth posibl o’r fath.

17.3. Yn ogystal â hawliau statudol y Cyflenwr, gall y Cyflenwr derfynu’r Cytundeb drwy hysbysu’r Cwsmer yn ysgrifenedig os nad yw’r Cwsmer wedi talu unrhyw symiau nad ydynt yn cael eu herio o fewn 90 ohonynt yn dod yn ddyledus.

17.4. Ni fydd terfynu na dod â’r Cytundeb i ben yn effeithio ar hawliau’r naill Barti na’r llall sy’n deillio o gyn terfynu’r Cytundeb neu cyn i’r Cytundeb ddod i ben ac ni fydd yn effeithio ar hawliau parhaus y Partïon o dan gymalau 2, 3.2, 3.3, 8, 10, 11.2, 12, 13, 14, 15, 17.5, 18.4, 19.3, 20 ac 21.7 ac unrhyw delerau ac amodau eraill yn y Cytundeb sy’n dod i effaith ar ôl terfynu naill ai yn benodol neu drwy ensyniad.

17.5. Ar ôl terfynu neu ddod â’r Cytundeb i ben, bydd y Cyflenwr yn:

  1. rhoi pob cymorth rhesymol i’r Cwsmer ac unrhyw gyflenwr Nwyddau newydd; ac
  2. yn dychwelyd yr holl ddogfennau, gwybodaeth a’r data y gofynnwyd amdanynt i’r Cwsmer cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

18. Cydymffurfiaeth

18.1. Bydd y Cyflenwr yn hysbysu’r Cwsmer yn brydlon am unrhyw beryglon iechyd a diogelwch a all godi mewn cysylltiad â’r gwaith o gyflawni’i rwymedigaethau o dan y Cytundeb. Bydd y Cwsmer yn hysbysu’r Cyflenwr yn brydlon am unrhyw beryglon iechyd a diogelwch a all fod yn bresennol neu a all godi ar safle’r Cwsmer ac a all effeithio ar waith y Cyflenwr o gyflawni’i rwymedigaethau o dan y Cytundeb.

18.2. Bydd y Cyflenwr yn:

  1. cydymffurfio â gofynion rhesymol trefniadau diogelwch y Cwsmer;
  2. cydymffurfio â holl fesurau iechyd a diogelwch y Cwsmer;
  3. hysbysu’r Cwsmer ar unwaith os bydd unrhyw ddigwyddiad yn digwydd wrth iddo gyflawni’i rwymedigaethau ar safle’r Cwsmer o dan y Cytundeb lle mae’r mater hwnnw yn achosi unrhyw anaf personol neu ddifrod i eiddo a allai achosi anaf personol;
  4. cyflawni ei rwymedigaethau o dan y Cytundeb ac yn unol â phob Cyfraith cydraddoldeb a pholisi cydraddoldeb ac amrywiaeth y Cwsmer fel y darperir i’r Cyflenwr o bryd i’w gilydd;
  5. cymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth pob aelod o Staff â chymal 18.2.4; ac
  6. yn cyflenwi’r Nwyddau ac unrhyw becynnau yn unol â pholisi amgylcheddol y Cwsmer fel y darperir o bryd i’w gilydd.

18.3. Bydd y Nwyddau’n cael eu pecynnu a’u marcio mewn modd priodol ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a bennir yn y Llythyr Dyfarnu, mewn unrhyw reoliadau statudol ac unrhyw ofynion y cludwyr. Bydd yr holl ddeunyddiau pecynnu yn cael eu hystyried yn ddi-ddychweladwy. Bydd y Cyflenwr yn indemnio’r Cwsmer yn erbyn pob achos cyfreithiol, hawliad, gorchymyn, colled, taliad, costau a threuliau y gall y Cwsmer eu profi o ganlyniad i, neu mewn cysylltiad â thorri’r cymal 18.3 hwn mewn unrhyw ffordd.

18.4. Bydd y Cyflenwr yn cydymffurfio â, ac yn sicrhau bod ei Staff yn cydymffurfio â darpariaethau:

  1. Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1911 i 1989; ac
  2. adran 182 Deddf Cyllid 1989

19. Atal twyll a llygredd

19.1. Ni fydd y Cyflenwr yn cynnig, yn rhoi, nac yn cytuno i roi unrhyw beth, i unrhyw berson fel cymhelliad i wneud neu wobr am wneud, am beidio â gwneud, neu am fod wedi gwneud neu wedi peidio â gwneud, unrhyw weithred mewn perthynas â gweithredu’r Cytundeb neu am ddangos neu beidio â dangos ffafriaeth neu anffafriaeth i unrhyw berson mewn perthynas â’r Cytundeb.

19.2. Bydd y Cyflenwr yn cymryd pob cam rhesymol, yn unol ag arferion da’r diwydiant, i atal twyll gan Staff a’r Cyflenwr (gan gynnwys ei randdeiliaid, ei aelodau a’i gyfarwyddwyr) mewn perthynas â’r Cytundeb a bydd yn hysbysu’r Cwsmer ar unwaith os oes ganddo reswm i amau bod unrhyw dwyll wedi digwydd, yn digwydd neu’n debygol o ddigwydd.

19.3. Os yw’r Cyflenwr neu’r Staff yn ymgmryd ag ymddygiad a waherddir gan gymal 19.1, neu’n cyflawni twyll mewn perthynas â’r Cytundeb neu unrhyw gontract arall gyda’r Goron (gan gynnwys y Cwsmer), gall y Cwsmer wneud y canlynol:

  1. terfynu’r Cytundeb a hawlio ad-daliad o swm unrhyw golledion gan y Cyflenwr o ganlyniad i’r terfyniad, gan gynnwys y gost o wneud trefniadau eraill am gyflenwad o’r Nwyddau ac unrhyw dreuliau ychwanegol i’r Cwsmer drwy gydol gweddill y Cytundeb; neu
  2. hawlio ad-daliad llawn gan y Cyflenwr am unrhyw golledion eraill i’r Cwsmer o ganlyniad i dorri’r cymal hwn mewn unrhyw ffordd.

20. Datrys anghydfod

20.1. Bydd y Partïon yn mynd ati’n ddidwyll i geisio setlo unrhyw anghydfod rhyngddynt sy’n deillio o’r Cytundeb a bydd ymdrechion o’r fath yn cynnwys dwysáu'r anghydfod i uwch gynrychiolydd priodol o bob Parti.

20.2. Os na all y Partïon ddatrys yr anghydfod o fewn mis o gael ei ddwysáu fel y cyfeirir ato yng nghymal 20.1, gall yr anghydfod, drwy gytundeb rhwng y Partïon, gael ei gyfeirio at gynghorydd niwtral neu eiriolydd (yr ‘Eiriolwr’) a ddewiswyd drwy gytundeb rhwng y Partïon. Bydd yr holl drafodaethau sy’n gysylltiedig â’r anghydfod yn cael eu cynnal yn gyfrinachol a heb effeithio ar hawliau’r Partïon mewn unrhyw achosion pellach.

20.3. Os yw’r Partïon yn methu â phenodi Eiriolwr o fewn un mis, neu os nad ydynt yn gallu ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig sy’n datrys yr anghydfod o fewn mis o benodi’r Eiriolwr, gall y naill Barti neu’r llall arfer unrhyw rwymedïau sydd ganddo o dan gyfraith berthnasol. 

20.4. Ni fydd rhwymedigaethau pob Parti o dan y Cytundeb hwn yn dod i ben nac yn cael eu gohirio wrth agor y weithdrefn datrys anghydfod.

21. Cyffredinol

21.1. Mae pob un o’r Partïon yn cynrychioli ac yn gwarantu i’r llall bod ganddo allu ac awdurdod llawn, a’r holl gydsyniadau, trwyddedau a chaniatadau i ddechrau ar a chwblhau eu rhwymedigaethau o dan y Cytundeb, ac y gweithredir ar y Cytundeb gan ei gynrychiolydd sydd wedi’i awdurdodi’n briodol.

21.2. Ni fydd gan berson nad yw’n rhan o’r Cytundeb yr hawl i orfodi unrhyw un o’i ddarpariaethau sydd, yn benodol neu drwy ensyniad, yn rhoi budd iddo, heb gael cytundeb ysgrifenedig blaenorol gan y Partïon yn gyntaf.

21.3. Ni ellir newid y Cytundeb hwn ac eithrio’n ysgrifenedig a thrwy gael llofnod gan gynrychiolydd awdurdodedig priodol y ddau Barti.

21.4. Mae’r Cytundeb hwn yn cynnwys y cytundeb cyflawn rhwng y Partïon ac mae’n disodli ac yn cymryd lle unrhyw gytundebau, sylwadau neu ddealltwriaethau, rhyngddynt yn ysgrifenedig neu ar lafar. Mae’r Partïon yn cadarnhau nad ydynt wedi ymrwymo i’r Cytundeb ar sail unrhyw sylw nad yw wedi’i hymgorffori i’r Cytundeb yn benodol. Ni fydd unrhyw beth yn y cymal hwn yn cyfyngu atebolrwydd am dwyll neu gamliwio twyllodrus.

21.5. Bydd unrhyw lacio neu addasiadau i’r telerau ac amodau’r Cytundeb hwn yn rhannol neu’n gyfan gwbl ond yn ddilys os yw’r Parti wedi rhoi gwybod i’r Parti arall yn ysgrifenedig gan nodi’n glir bod y telerau ac amodau wedi’u llacio a’u haddasu. Ni fydd newid unrhyw hawliau neu rwymedïau sy’n deillio o dorri contract yn hepgor unrhyw hawliau neu rwymedïau sy’n deillio o dorri’r Cytundeb mewn unrhyw ffordd arall.

21.6. Ni fydd y Cytundeb yn golygu nac yn awgrymu unrhyw bartneriaeth, menter ar y cyd, asiantaeth, perthynas ymddiriedol nac unrhyw berthynas arall rhwng y Partïon ac eithrio’r berthynas gytundebol a nodir yn benodol yn y Cytundeb. Ni fydd gan unrhyw Barti, nac yn cynrychioli bod ganddo, unrhyw awdurdod i wneud unrhyw ymrwymiadau ar ran y Parti arall.

21.7. Oni nodir fel arall yn y Cytundeb, bydd rhwymedïau’r Parti am dorri’r Cytundeb (boed hynny o dan y Cytundeb, cyfraith statudol neu gyfraith gyffredin) yn cronni a gellir eu harfer yn gydamserol neu ar wahân, ac ni ystyrir arfer unrhyw un o’r rhwymedïau fel ffordd o eithrio rhwymedïau eraill.

21.8. Os bydd cyfraith yn gwahardd neu lys yn barnu bod unrhyw un o ddarpariaethau’r Cytundeb yn anghyfreithlon, yn ddirym neu na ellir ei orfodi, bydd y ddarpariaeth yn, i’r graddau gofynnol, cael ei dynnu o’r Cytundeb a’i ystyried yn aneffeithiol cyn belled ag y bo’n bosibl heb addasu gweddill darpariaethau’r Cytundeb, ac ni fydd mewn unrhyw ffordd yn effeithio ar amgylchiadau eraill nac ar ddilysrwydd na gorfodaeth y Cytundeb.

22. Hysbysiadau

22.1. Bydd unrhyw hysbysiad a roddir o dan y Cytundeb yn cael ei wneud yn ysgrifenedig a’i gyflwyno’n bersonol, yn ddosbarth cyntaf wedi’i gofnodi neu, yn ddarostyngedig i gymal 22.3, dros e-bost i gyfeiriad y Parti perthnasol a nodir yn y Llythyr Dyfarnu, neu unrhyw gyfeiriad arall y gall y Parti, o dro i dro, ei ddefnyddio i roi gwybod wrth y Parti arall yn unol â’r cymal hwn.

22.2. Bydd hysbysiadau a gyflwynir fel yr uchod yn cael eu hystyried fel hysbysiadau a gyflwynir ar Ddiwrnod Gwaith y dosbarthiad, ar yr amod bod y dosbarthiad wedi’i gwblhau cyn 5:00pm ar Ddiwrnod Gwaith. Fel arall, ystyrir bod y dosbarthiad wedi’i gwblhau ar y Diwrnod Gwaith nesaf. Ystyrir bod e-bost wedi’i ddosbarthu pan fydd wedi’i anfon oni bai y derbynnir neges gwall.

22.3. Gellir cyflwyno hysbysiadau o dan gymalau 16 (Force Majeure) ac 17 (Terfynu) ar e-bost dim ond os yw’r hysbysiad gwreiddiol yn cael ei anfon wedyn at y derbynnydd drwy ei gyflwyno’n bersonol neu drwy’r post wedi’i gofnodi yn y modd y nodir yng nghymal 22.1.

23. Cyfraith lywodraethol a barnwrol

23.1. Bydd dilysrwydd, adeiladwaith, a gweithrediad y Cytundeb, ac unrhyw faterion cytundebol ac anghytundebol, yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr a bydd yn ddarostyngedig i farnwriaeth llysoedd Lloegr y mae’r Partïon yn uffuddhau iddi.