Neidio i'r prif gynnwy

Terfynau dal blynyddol a misol ar gyfer cychod pysgota cregyn moch a ganiateir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Yng Nghymru, mae cregyn moch yn cefnogi pysgodfa gwerth uchel gyda:

  • glaniadau yn yr ystod o 3500 i7000 tunnell bob blwyddyn
  • gwerth gwerthiant amcangyfrifedig cyntaf o £4 i £8M

Mae cynnydd fesul cam yn y maint glanio isaf wedi caniatáu mwy o gregyn moch i fridio cyn cael eu dal:

  • o 45mm i 55mm yn 2019
  • o 55mm i 65mm yn 2020

Yn ddiweddar, gwnaethom gyflwyno mesurau rheoli pellach i ddiogelu'r stoc a'r amgylchedd. Mae'r rhain yn cynnwys rheolaeth addasol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y bysgodfa.

Trwyddedau cregyn moch

Cyfnod caniatáu 1 Mawrth 2023 i 29 Chwefror 2024

Ffi’r drwydded: £285

Terfyn Dal Blynyddol (ACL): 4,768 tunnell

Dyma gyfanswm y cregyn moch y gall pob cwch a ganiateir ei gymryd gyda'i gilydd yn ystod cyfnod trwydded.

Terfyn Dal Misol Hyblyg (MCL):

Mis Terfyn Dal

Mawrth

50 tunnell

Ebrill 50 tunnell
Mai 50 tunnell
Mehefin 50 tunnell
Gorffennaf 50 tunnell
Awst 50 tunnell
Medi 50 tunnell
Hydref 50 tunnell
Tachwedd 50 tunnell

Dyma uchafswm y cregyn moch y gall pob lcwch a ganiateir ei gymryd mewn mis penodol. Bydd pob cwch a ganiateir yn cael yr un MCL, a gaiff ei ddiweddaru yma bob mis.

Byddwn yn defnyddio'r MCL i sicrhau nad yw’n uwch na’r ACL. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod buddiannau y bysgodfa'n cael ei ledaenu ar draws cyfnod y drwydded yn unol â phatrymau pysgota hanesyddol. (Gweler Pysgodfa cregyn y moch – y fethodoleg ar gyfer cyfrif terfynau dal Ffigur 2 a Ffigur 3 ar dudalen 12 a 13)

Cyfanswm y Ddalfa wedi'i Lanio: 3007 tunnell

Dyma gyfanswm y cregyn moch a laniwyd hyd yma yn ystod cyfnod y trwydded hwn.

Cyfnod caniatáu: 1 Mawrth 2022 i 28 Chwefror 2023

Terfyn Dal Blynyddol (ACL): 5,298 tunnell

Dyma gyfanswm y cregyn moch y gall pob cwch a ganiateir ei gymryd gyda'i gilydd yn ystod cyfnod trwydded.

Cyfanswm y Ddalfa wedi'i Lanio: 4,250 tunnell

Dyma gyfanswm y cregyn moch a laniwyd hyd yma yn ystod cyfnod y trwydded hwn.