Terfynau ffioedd dysgu i fyfyrwyr sy'n byw yn yr Ardal Deithio Gyffredin (SFWIN 06/2025)
Yn egluro'r polisi ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Mae'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn egluro'r terfynau ffioedd dysgu a'r personau cymhwysol at ddibenion codi ffioedd gan Sefydliadau Cymru mewn perthynas â myfyrwyr cymwys sy'n preswylio fel arfer yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.
Terfyn ffioedd dysgu i fyfyrwyr cymwys o'r Ardal Deithio Gyffredin
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 ("Rheoliadau 2015") yn cyfyngu'r ffioedd dysgu a godir ar grwpiau penodol ar gyrsiau penodol.
Mae Categori 2A o Atodlen Rheoliadau 2015 yn nodi'r meini prawf i berson sy'n preswylio fel arfer yn yr Ardal Deithio Gyffredin fod yn fyfyriwr cymwys a chymhwyso ar gyfer y terfyn ffioedd dysgu. Mae'r Ardal Deithio Gyffredin yn cynnwys y DU, yr Ynysoedd (a ddiffinnir fel Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) a Gweriniaeth Iwerddon.
Mae gan ddinasyddion Iwerddon a phobl o'r Ynysoedd sydd wedi ymgartrefu yn y DU yn unol â threfniadau'r Ardal Deithio Gyffredin, fynediad at statws ffioedd cartref a therfynau ffioedd dysgu ar sail tair blynedd o breswylio yn yr Ardal Deithio Gyffredin.
Mae pob myfyriwr cymwys o'r Ardal Deithio Gyffredin yn parhau i elwa ar statws ffioedd cartref a'r cap ffioedd dysgu wrth astudio yng Nghymru. Dyma'r polisi sy'n bod ar hyn o bryd ac nid yw wedi newid.
Personau cymhwysol at ddibenion codi ffioedd
O dan reoliad 4(1) o Reoliadau 2015, person cymhwysol yw person sy'n dod o fewn categori rhagnodedig (megis Categori 2A) ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd. Mae’r cyfeiriad at ddiwrnod cyntaf 'blwyddyn academaidd' yn rheoliad 4(1) yn cyfeirio at pryd mae'r cwrs yn dechrau ac nid y dehongliad technegol o flwyddyn academaidd, h.y. 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf, 1 Medi, sy'n gymwys mewn rhai mannau eraill yn y Rheoliadau.
Gwnaeth diwygiadau rheoleiddiol diweddar a wnaed drwy Reoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025 ("Rheoliadau 2025") newidiadau i reoliadau cymorth myfyrwyr a diogelu ffioedd, gan gynnwys Rheoliadau 2015, i ddileu'r gofyniad i fod wedi setlo ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd er mwyn galluogi myfyrwyr sy'n cael statws preswylydd sefydlog yn ystod blwyddyn academaidd i ddod yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr yn ystod blwyddyn academaidd a chymhwyso ar gyfer statws ffioedd cartref a'r cap ffioedd dysgu yn y flwyddyn academaidd ganlynol. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa reoleiddiol ynghylch y gofynion o ran preswylio fel arfer yn parhau heb ei newid.
Felly, mae angen i bersonau o'r Ardal Deithio Gyffredin fod yn preswylio fel arfer yn y DU ar ddyddiad dechrau gwirioneddol y cwrs, ac nid cyn, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer terfynau ffioedd dysgu.
Rhaid i Sefydliadau Cymru sicrhau y codir ffioedd ar fyfyrwyr cymwys sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n cynnwys y DU, yr Ynysoedd a Gweriniaeth Iwerddon yn unol â'r Rheoliadau perthnasol a pholisi Llywodraeth Cymru, fel yr eglurir yn y cyngor hwn.
Ymholiadau
Os oes gennych ymholiadau am geisiadau, sut i wneud cais, taliadau neu unrhyw agwedd arall ar y gwasanaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn, e-bostiwch Is-adran Strategaeth a Chyllid Llywodraeth Cymru.
Gallwch ofyn am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.
