Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Tachwedd 2024.
Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 223 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar addasu terfynau gwariant ymgyrchoedd etholiadol pleidiau gwleidyddol yn etholiadau'r Senedd i'w defnyddio o dan y system etholiadol newydd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (Deddf SCME) yn newid y system etholiadol ar gyfer etholiadau'r Senedd o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Wrth baratoi ar gyfer y newid hwnnw, rydym yn ymgynghori ar gynigion i addasu terfynau treuliau etholiadol presennol ar gyfer pleidiau cofrestredig i'w defnyddio gyda'r system newydd.
Mae angen gosod terfynau newydd i adlewyrchu'r symudiad i system gwbl gyfrannol gydag 16 o etholaethau aml-aelod, a dileu rhanbarthau etholiadol.