Neidio i'r prif gynnwy

Defnyddiwch y canllaw hwn i helpu pobl i ddeall cynllunio ar eich gwefan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Am y canllaw

Mae’r canllaw hwn yn eich helpu i:

  • ysgrifennu mewn iaith syml
  • egluro termau cynllunio yn glir
  • gwneud cynnwys yn haws i'w ddeall
  • lleihau dryswch a chyswllt diangen
  • dilyn rheolau arddull a hygyrchedd LLYW.CYMRU

Pam fod iaith syml yn bwysig

  • Mae termau cyfreithiol a chynllunio yn anodd i'w deall
  • Gall iaith aneglur achosi dryswch
  • Mae pobl angen gwybod beth sydd angen ei wneud a phryd

Mae iaith syml yn helpu pobl i gymrd y camau cywir ar yr amer cywir. Mae’n haws i'w ddarllen a’i gyfieithu.

Mathau o delerau cynllunio

Termau i'w hosgoi 

Defnyddiwch iaith syml yn lle hynny. Mae'r termau hyn yn drysu defnyddwyr.

Termau i'w defnyddio, ond esbonio

Mae angen rhai termau yn ôl y gyfraith, polisi, neu ddefnydd cyffredin. Defnyddiwch nhw ond esboniwch yn glir y tro cyntaf.

Newidiwch y termau hyn gydag iaith syml

CymraegSaesneg

Caniatâd hysbyseb

Defnyddiwch: Caniatâd i osod arwyddion a hysbysebion

Mae angen cymeradwyaeth i arddangos arwyddion, posteri neu hysbysebion yn gyhoeddus.

Advertisement consent

Use: Permission to put up signs and adverts

Approval needed to display signs, posters, or adverts in public.

Asiant

Defnyddiwch: Rhywun sy'n gwneud cais ar eich rhan.

Gweithiwr proffesiynol sy'n cyflwyno cais cynllunio ar eich rhan.

Agent

Use: Someone who applies for you.

A professional who submits a planning application on your behalf.

 

Defnydd ategol

Defnyddiwch: Rhywbeth sy'n cefnogi'r prif bwrpas

Defnydd llai neu eilaidd nad yw'n effeithio ar brif bwrpas adeilad, er enghraifft, swyddfa gartref.

Ancillary use

Use: Something that supports the main purpose

A smaller or secondary use that does not affect the main purpose of a building, for example, a home office.

Ymgeisydd

Defnyddiwch: Y person sy'n gwneud cais

Y person sy'n cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio.

Applicant

Use: The person applying

The person who submits an application for planning permission.

 

Newid defnydd

 Defnyddiwch: Defnyddio adeilad ar gyfer rhywbeth arall

Pan fyddwch am ddefnyddio adeilad mewn ffordd wahanol, fel troi siop yn gaffi.

Change of use

Use: Use a building for something else

When you want to use a building in a different way, like turning a shop into a café.

Cwrtil

Defnyddiwch: Tir o amgylch adeilad

Y tir neu'r ardal o amgylch adeilad sy'n cael ei ddefnyddio fel gardd neu dreif. Efallai na fydd hyn yn cynnwys yr holl dir rydych chi'n berchen arno.

Curtilage

Use: Land around a building

The land or area around a building that is used with it, such as a garden or driveway. This may not include all the land you own.

Estyniad

Defnyddiwch: Golygfa ochr adeilad

Lluniad sy'n dangos sut olwg oedd ar adeilad o'r blaen, y cefn neu'r ochrau.

Elevation

Use: Side view of a building

A drawing showing what a building looks like from the front, back or sides.

Caniatâd cynllunio deiliad tŷ

Defnyddiwch: Cynllunio sy'n cynnwys estyniadau neu addasiadau i dŷ

Y math o ganiatâd cynllunio sydd ei angen i newid neu roi estyniad ar dŷ.

Householder planning permission

Use: Planning involving extensions or alterations to a house

The type of planning permission needed to change or extend a house.

Cais deiliad tŷ

Defnyddiwch: Cais i newid cartref

Cais cynllunio symlach ar gyfer estyniadau neu addasiadau i dŷ.

Householder application

Use: Application to change a home

A simpler planning application for extensions or alterations to a house.

Dyraniad defnydd tir

Defnyddiwch: Pa dir y gellir ei ddefnyddio

Penderfyniad yn y Cynllun Datblygu Lleol ynghylch sut y gellir defnyddio tir penodol, er enghraifft, ar gyfer cartrefi, siopau, neu barciau.

Land use allocation

Use: What land can be used for

A decision in the Local Development Plan about how certain land can be used, for example, for homes, shops, or parks.

Disgrifiad lleoliad

Defnyddiwch: Lle mae'r safle

Esboniad ysgrifenedig o ble mae'r tir neu'r adeilad.

Location description

Use: Where the site is

A written explanation of where the land or building is.

Hysbysu cymydogion

Defnyddiwch: Rhoi gwybod i gymdogion am gais cynllunio

Rydym yn rhoi gwybod i bobl sy'n byw gerllaw am gynlluniau adeiladu a allai effeithio arnynt. Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt ddarparu eu sylwadau.

Neighbour notification

Use: Letting neighbours know about a planning application

We let people who live nearby know about building plans that might affect them. This gives them a chance to provide their comments.

 

Apêl cynllunio

Defnyddiwch: Gofynnwch am edrych ar benderfyniad eich cais eto.

Os gwrthodir eich cais cynllunio neu os oes ganddo amodau rydych yn anghytuno â nhw, gallwch apelio. Ni all cymdogion a'r cyhoedd apelio.

Planning appeal

Use: Ask for the decision on your application to be looked at again.

If your planning application is refused or has conditions you disagree with, you can appeal. Neighbours and the public cannot appeal.

Porth cynllunio

Defnyddiwch: Gwnewch gais ar-lein, neu chwiliwch am wybodaeth gynllunio

Gwefan fasnachol lle gallwch wneud cais am ganiatâd cynllunio, olrhain eich cais, a chael cyngor cynllunio. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi am y gwasanaeth hwn.

Planning portal

Use: Apply online, or search for planning information

A commercial website where you can apply for planning permission, track your application, and get planning advice. You may have to pay a fee for this service.

Cyn-ymgeisio (statudol/wedi'i wella/ yn ddewisol/pwrpasol)

Defnyddiwch: Cyn i chi wneud cais

Gallwch gael cyngor cyn cyflwyno cais.

Pre-application (statutory/enhanced/ discretionary/bespoke)

Use: Before you apply

You can get advice before submitting an application.

Cymeradwyaeth ymlaen llaw

Defnyddiwch: Sicrhewch gytundeb gan eich awdurdod cynllunio lleol cyn i chi ddechrau

Ar gyfer rhywfaint o waith adeiladu, rhaid i chi gael cymeradwyaeth y cyngor ar gyfer rhai manylion cyn i chi ddechrau, hyd yn oed os nad oes angen caniatâd cynllunio llawn arnoch.

Prior approval

Use: Get agreement from your local planning authority before you start

For some building work, you must get the council’s approval for certain details before you start, even if you don’t need full planning permission.

Cofrestru

Defnyddiwch: Ychwanegwch eich cais at y system

Mae hyn yn rhoi mynediad i'r cyhoedd weld a rhoi sylwadau arno.

Registration

Use: Add your application to the system

This makes it available for the public to view and comment on.

Ymgynghorydd statudol

Defnyddiwch: Sefydliad y mae'n rhaid inni ymgynghori gyda

Mae angen cyngor arbenigol ar rai ceisiadau cynllunio. Mae ymgynghorai statudol yn sefydliad y mae'n rhaid i ni ymgynhgori gyda, fel Cyfoeth Naturiol Cymru neu'r gwasanaeth tân.

Statutory consultee

Use: Organisation we must consult

Some planning applications need expert advice. A statutory consultee is an organisation we must ask, like Natural Resources Wales or the fire service.

Dilysu

Defnyddiwch: Gwiriwch fod eich cais wedi'i gwblhau

Pan fyddwn yn gwirio eich cais cynllunio sy’n cynnwys yr holl ddogfennau a'r wybodaeth gywir.

Validation

Use: Check your application is complete

When we check your planning application includes all the right documents and information.

 

Eglurwch y termau hyn mewn iaith syml

CymraegSaesneg

Tai fforddiadwy

Tai i bobl na allant fforddio rhentu neu brynu ar y farchnad agored. Mae'r cartrefi hyn yn aros yn fforddiadwy i drigolion yn y dyfodol.

Affordable housing

Housing for people who cannot afford to rent or buy on the open market. These homes stay affordable for future residents.

Amwynder 

Sicrhau nad yw datblygiadau newydd yn achosi problemau i bobl sy'n byw gerllaw. Mae hyn yn cynnwys pethau fel sŵn, preifatrwydd, golau dydd, a sut mae'r ardal yn edrych.

Amenity  

Making sure new developments do not cause problems for people living nearby. This includes things like noise, privacy, daylight, and how the area looks. 

Cyfarwyddyd Erthygl 4

Rheolau cynllunio ychwanegol sy'n dileu hawliau datblygu a ganiateir mewn ardal benodol.

Article 4 direction

Extra planning rules that remove permitted development rights in a specific area.

Ceisiadau cynllunio sy’n cael eu galw mewn

Proses lle gall yr awdurdod cynllunio lleol neu'r cyhoedd ofyn i Lywodraeth Cymru gymryd drosodd (galw mewn) cais cynllunio os oes ganddynt bryderon yn ei gylch.

Call-in

A process where the local planning authority or the public can ask the Welsh Government to take over (call-in) a planning application if they have concerns about it.

Galwyd i mewn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd drosodd penderfyniad cais cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol.

Called in

The Welsh Government has taken over the decision of a planning application from the local planning authority. 

Tystysgrif cyfreithloni

Tystysgrif gan yr awdurdod cynllunio lleol yn cadarnhau bod yr hyn yr ydych yn ei wneud, neu'n bwriadu ei wneud, yn gyfreithiol mewn termau cynllunio, neu ddim.

Certificate of lawfulness

Certificate (proof) from the local planning authority confirming that what you are doing, or plan to do, is legal in planning terms, or not.

Gorchymyn Prynu Gorfodol 

Pŵer cyfreithiol i brynu tir neu adeiladau heb i'r perchennog gytuno. Er enghraifft, i adeiladu ffordd neu ysgol newydd.

Compulsory Purchase Order 

Legal power to buy land or buildings without the owner agreeing. For example, to build a new road or school.

Ardal gadwraeth

Man lle mae adeiladau a choed yn cael eu diogelu am eu cymeriad arbennig.

Conservation area

A place where buildings and trees are protected for their special character.

Hysbysiad penderfyniad

Dogfen ffurfiol yn eich hysbysu os cafodd eich cais ei gymeradwyo neu ei wrthod.

Decision notice

An official document stating if your application was approved or refused.

Datganiad dylunio a mynediad (DAS)

Dogfen a ysgrifennwyd gan weithiwr proffesiynol, fel pensaer neu ymgynghorydd cynllunio, yn esbonio eich dyluniad a sut y bydd pobl yn defnyddio'r safle.

Design and access statement (DAS)

A document written by a professional, such as an architect or planning consultant, explaining your design and how people will use the site.

Canllaw dylunio

Canllaw sy'n dangos sut y dylai adeiladau newydd edrych yn yr ardal leol.

Design guide

A guide showing how new buildings should look in the local area.

Datblygu

Unrhyw beth sydd angen caniatâd cynllunio, fel adeiladu neu newid defnydd.

Development

Anything that needs planning permission, like building or changing use.

Cynllun datblygu

Set o ddogfennau sy'n arwain yr hyn y gellir ac na ellir ei adeiladu mewn ardal.

Development plan

A set of documents that guides what can and cannot be built in an area.

Rhybudd gorfodaeth

Mae hyn yn datgan wrth rywun i gael gwared neu newid datblygiad anerbynniol sy'n torri rheolau cynllunio.

Enforcement notice

This notifies someone to remove or change unacceptable development (work) that breaks planning rules.

Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA)

Astudiaeth o sut y gall datblygiad effeithio ar yr amgylchedd.

Environmental Impact Assessment (EIA)

A study of how a development may affect the environment.

Datganiad amgylcheddol

Adroddiad sy'n egluro sut y gallai datblygiad newydd effeithio ar bethau fel bywyd gwyllt a phobl leol.

Environmental statement

A report that explains how a new development could affect things like wildlife and local people.

Cais cynllunio llawn

Pan gyflwynir holl fanylion prosiect adeiladu i'w hystyried.

Full planning application

When all details of a building project are submitted for consideration.

Datganiad treftadaeth

Adroddiad ar sut mae datblygiad yn effeithio ar adeilad rhestredig neu ardal hanesyddol.

Heritage statement

A report on how a development affects a listed building or historic area.

Tystysgrif datblygu cyfreithlon

Tystysgrif gan yr awdurdod cynllunio lleol bod yr hyn yr ydych yn ei wneud, neu'n bwriadu ei wneud, yn gyfreithiol.

Lawful development certificate

Certificate (proof) from the local planning authority that what you are doing, or plan to do, is legal.

Adeilad rhestredig

Adeilad gwarchodedig o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

Listed building

A protected building of special architectural or historic interest.

Cynllun Datblygu Lleol

Dogfen sy’n gosod allan polisiau cynllunio am beth ellir ei ddatblygu ac yn lle.

Local Development Plan

A document that sets out planning policies about what can be built and where.

Ystyriaethau materol (sy’n cael ei adnabod fel ystyriaethau perthnasol)

Ffactorau y mae'n rhaid i ni eu hystyried wrth benderfynu ar gais cynllunio, fel sŵn, traffig, neu golli preifatrwydd. Nid yw pethau fel gwerth eiddo neu golli golygfa yn cael eu hystyried.

Material considerations (also called relevant considerations)

Factors we must consider when deciding on a planning application, like noise, traffic, or loss of privacy. Things like property value or loss of view are not considered.

Amlinellu caniatâd cynllunio 

Pan fyddwn yn cytuno â'ch syniad mewn egwyddor. Yna mae’n rhaid i chi anfon cais materion neilltuedig gyda chynlluniau manwl cyn y gallwch ddechrau adeiladu.

Outline planning permission

When we agree to your idea in principle. You must then send a reserved matters application with detailed plans before you can start building.

Datblygiadau caniataol 

Datblygiad gallwch ei wneud heb orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio cyhyd a’ch bod yn dilyn y meini prawf perthnasol.

Permitted developments

Development that can be undertaken without the need of applying for planning permission providing you follow relevant criteria.

Rhwymedigaeth cynllunio: Adran 106

Cytundeb cyfreithiol rhwng yr awdurdod cynllunio lleol a datblygwr neu dirfeddiannydd. Mae'n helpu i reoli effaith datblygiad newydd, er enghraifft drwy wella ffyrdd neu ariannu gwasanaethau lleol.

Planning obligation: Section 106

A legal agreement between the local planning authority and a developer or landowner. It helps manage the impact of a new development, for example by improving roads or funding local services.

Rhwymedigaeth gynllunio: Ardoll Seilwaith Cymunedol

Mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn codi tâl ar ddatblygiadau newydd i helpu i dalu am ffyrdd lleol, ysgolion neu iechyd.

Planning obligation: Community Infrastructure Levy

The Community Infrastructure Levy is a charge on new developments to help pay for local roads, schools or health.

Cytundeb Perfformiad Cynllunio

Cytundeb rhyngoch chi a'r awdurdod cynllunio lleol sy'n nodi sut a phryd y caiff eich cais cynllunio ei drin. Codir tâl am hyn.

Planning Performance Agreement

An agreement between you and the local planning authority that sets out how and when your planning application will be handled. There is a charge for this.

Ystyriaethau materol (sy’n cael ei adnabod fel ystyriaethau perthnasol)

Ffactorau y mae'n rhaid i ni eu hystyried wrth benderfynu ar gais cynllunio, fel sŵn, traffig, neu golli preifatrwydd. Nid yw pethau fel gwerth eiddo neu golli golygfa yn cael eu hystyried.

Material considerations (also called relevant considerations)

Factors we must consider when deciding on a planning application, like noise, traffic, or loss of privacy. Things like property value or loss of view are not considered.

Materion neilltuedig

Y cam nesaf ar ôl caniatâd cynllunio amlinellol. Yma, rydych chi'n rhoi manylion terfynol eich cynlluniau i ni, fel ble mae pethau'n cael eu gosod a sut maen nhw'n edrych.

Reserved matters

The next step after outline planning permission. Here, you give us the final details of your plans, like where things go and how they look.

Cynllun lleoliad safle

Cynllun yn dangos y tir sydd yn destun cais i ddatblygu.

Site location plan

A map showing the land subject to an application for development.

Hysbysiad safle

Rhybudd ar neu cyfagos a’r tir i ddweud wrth y cyhoedd am gynnig cynllunio.

Site notice

A notice on or near the land to tell the public about a planning proposal.

Canllawiau Cynllunio Atodol

Cyngor ychwanegol i helpu i gymhwyso'r Cynllun Datblygu Lleol.

Supplementary Planning Guidance

Extra advice to help apply the Local Development Plan.

Gorchymyn Cadw Coed

Gorchymyn gan y Cyngor mewn perthynas a coed neu coedtiroedd sydd yn atal gwneud gwaith i goed wedi’u diogelu, heb ganiatád blaenorol y Cyngor.

Tree Preservation Order

An order made by the Council in respect to trees or woodlands which prohibits work to protected trees without the Council’s prior consent. 

Dosbarth defnydd

Y dosbarth mae’r defnydd o adeilad neu dir yn disgyn o fewn.

Use class

The class within which the use of a building or land falls.

Mae'r canllaw hwn yn cefnogi prosiect cynllunio digidol Llywodraeth Cymru, a gyflwynir mewn partneriaeth â CDPS. Nod y prosiect yw gwella sut mae gwasanaethau cynllunio yn gweithio. 

Bydd CDPS yn gweithio gydag awdurdodau cynllunio lleol a sefydliadau cynllunio eraill i ddiweddaru'r geirfa.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch planningservices@digitalpublicservices.gov.wales