• Mae cynllun newydd yn darparu llwybr uniongyrchol ar gyfer codi pryderon am iechyd mam neu fabi sy'n gwaethygu.
• Mae'n cael ei gyflwyno mewn ysbytai ledled Cymru.
• Mae'n adeiladu ar wiriadau presennol y mae staff eisoes yn eu defnyddio i weld a yw cyflwr claf yn gwaethygu.
Mae dull newydd o godi pryderon brys am iechyd mam neu fabi yn cael ei gyflwyno mewn ysbytai ledled Cymru.
Mae Galwad am Bryder yn llwybr clir i fenywod, rhieni a theuluoedd ofyn am gymorth brys os ydynt yn poeni bod iechyd rhywun yn gwaethygu.
Teuluoedd yn aml yw'r rhai cyntaf i sylwi pan nad yw rhywbeth yn iawn, p'un a yw hynny'n fam yn mynd yn fwyfwy sâl, neu'n fabi yn ymddwyn yn wahanol. Mae Galwad am Bryder yn sicrhau bod y pryderon hynny'n cael eu clywed, a bod gweithredu cyflym ar sail hynny.
Mae dwy ran i'r cynllun: cofnodi sut mae claf yn teimlo, a llwybr clir i gleifion a theuluoedd ofyn am adolygiad clinigol pellach.
Mae Galwad am Bryder yn ychwanegol i'r gwiriadau y mae staff ysbytai eisoes yn eu defnyddio i chwilio am yr arwyddion bod iechyd claf yn dirywio. Mae'r gwiriadau hyn yn cynnwys Sgoriau Rhybudd Cynnar Mamolaeth (MEWS) Cymru Gyfan, a'r system rhybudd cynnar ‘sbardun ac olrhain’ ar gyfer babanod newydd-anedig (NEWTT2). Mae'r cynllun yn debyg i Reol Martha yn Lloegr ac i Reol Ryan yn Awstralia.
Mae'n cael ei gyflwyno ar draws wardiau oedolion, pediatrig, mamolaeth a newyddenedigol mewn ysbytai ledled Cymru.
Dywedodd Delyth Jewell, y Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod:
Mae teuluoedd yn aml yn gwybod pan nad yw rhywbeth yn iawn, p'un a yw hynny yn achos mam, neu'n achos ei babi. Pan fyddan nhw'n codi pryderon, mae angen i'r pryderon hynny gael eu clywed, ac mae angen gweithredu ar sail hynny.
Rydyn ni eisiau i bob mam, babi a theulu yng Nghymru gael gofal sy'n ddiogel ac yn ymatebol i'w hanghenion. Mae Galwad am Bryder yn ffordd gliriach iddyn nhw fynegi pryderon, ac yn ffordd arall i staff weithredu'n gynnar.
