Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd i ehangu mynediad at ofal plant fforddiadwy i deuluoedd ledled Cymru.
Bydd y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol, a fydd ar gael o fis Ebrill 2027, yn galluogi teuluoedd cymwys i ddefnyddio taliadau Gofal Plant Di-dreth a Gofal Plant Credyd Cynhwysol gydag ystod ehangach o ddarparwyr, gan helpu i leihau costau gofal plant a chefnogi rhieni.
Mae hyn yn golygu y bydd cronfa fwy o ddarparwyr gofal plant cymeradwy, a fydd yn ei gwneud yn haws i rieni ddod o hyd i wasanaethau sy'n diwallu anghenion eu teuluoedd.
Bydd angen i ddarparwyr gofal plant sy'n cymryd rhan fodloni meini prawf penodol, gan gynnwys gwiriadau diogelwch penodol a rhoi sicrwydd ychwanegol i rieni wrth ddewis gofal i'w plant. Bydd gofyn i ddarparwyr hefyd gwblhau cwrs hyfforddi a ddatblygwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae hwn yn gynllun gwirfoddol ar gyfer darparwyr gofal plant, cyfleoedd chwarae a gweithgareddau nad oes angen iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Bydd canllawiau clir yn cael eu cyhoeddi i helpu rhieni i ddeall y gwahaniaeth rhwng darparwyr a gymeradwywyd o dan y cynllun gwirfoddol a'r rhai sydd wedi'u cofrestru'n ffurfiol gydag AGC.
Mae'r penderfyniad i fwrw ymlaen â'r cynllun yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng Awst a Tachwedd 2025.
Bydd gwaith yn digwydd nawr i ddatblygu'r cynllun ymhellach.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:
Rydym yn symud ymlaen gyda'r cynllun pwysig hwn, a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd ledled Cymru.
Bydd yn helpu i gefnogi rhieni a gwella mynediad plant at gyfleoedd cyfoethogi gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau trwy ehangu'r gronfa o ddarparwyr cymeradwy
