Neidio i'r prif gynnwy

Mae theatr fodwlar newydd wedi agor yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ar ôl derbyn gwerth £1.7m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Agorodd yr uned newydd, sydd wedi cael ei chynllunio'n arbennig, ar 29 Tachwedd 2017. Bydd yn allweddol ar gyfer helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ostwng amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau orthopedig. 

Cafodd dwy theatr yr oedd Canolfan Orthopedig Caerdydd a'r Fro yn eu defnyddio eu datgomisiynu yn ddiweddar. Mewn wythnos gyffredin, byddai'r theatrau hynny wedi gweld tua 55 o gleifion orthopedig; felly byddai eu cau wedi cael effaith sylweddol ar amseroedd aros.

Y theatr fodwlar dros dro newydd hon yw'r cam cyntaf yn y broses o roi sylw i'r mater wrth gynllunio ateb mwy parhaol i gymryd lle'r ddwy theatr wreiddiol.

Amcangyfrifir y bydd rhwng 100 a 130 o gleifion yn cael eu trin yn y theatr fodwlar dros dro newydd rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2018.

Mae'r defnydd o theatr fodwlar yn golygu bod llai o bwysau ar y bwrdd iechyd i ddiwallu gofynion drwy gyflenwyr allanol, ac yn sicrhau gwelliannau o ran triniaeth a chanlyniadau i gleifion. Ar ben hynny, bydd ansawdd y gwasanaethau ar y safle yn Llandochau yn gwella i safonau cydnabyddedig, er budd cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol fel ei gilydd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Rwy'n falch iawn bod y theatr fodwlar wedi agor ar safle Llandochau, yn dilyn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn lleddfu'r pwysau ar y bwrdd iechyd, gan ganiatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wneud eu gwaith yn effeithiol, yn ddiogel ac i safon uchel.

"Rwy'n hyderus mai dyma'r ffordd orau ymlaen o ran gwerth am arian ar gyfer ateb dros dro. Bydd er budd pobl Caerdydd a'r Fro, ac yn helpu i bontio'r bwlch wrth i strwythur mwy parhaol gael ei osod yn ei le." 

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Len Richards:

"Rydyn ni'n falch tu hwnt bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'n timau llawfeddygol wrth gomisiynu'r theatr fodwlar newydd yng Nghanolfan Orthopedig Caerdydd a'r Fro ar safle Ysbyty Llandochau. Mae'r theatr newydd hon yn golygu bod modd i'r Bwrdd Iechyd helpu i drin cleifion yn effeithiol ar draws Caerdydd a'r Fro, pan fo angen llawdriniaeth orthopedig i wella'u hiechyd ac ansawdd eu bywydau."