Neidio i'r prif gynnwy

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, mae tîm brysbennu clinigol yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi helpu i atal yn ddiogel filoedd o siwrneiau ambiwlans i’r ysbyty.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae mwy nag un o bob deg o alwadau 999 gan gleifion a wnaed yn ystod y flwyddyn wedi’u brysbennu gan Dîm Gofal Integredig yr Ymddiriedolaeth a rhoddwyd gofal amgen i gleifion yn hytrach na’u cludo i’r ysbyty.

Mae’r Tîm Gofal Integredig yn cynnwys 83 o glinigwyr ledled Cymru, yn barafeddygon, yn nyrsys ac yn glinigwyr iechyd meddwl.

Mae parafeddygon y ddesg trawma hefyd ar gael i helpu a chynghori pan fo claf wedi’i anafu’n ddifrifol.

Mae clinigwyr yn adolygu cleifion sy’n aros ac yn siarad yn uniongyrchol â’r rhai sy’n ffonio 999 er mwyn sefydlu a allai mathau eraill o ofal fod yn addas, neu a yw’n ddiogel rhyddhau’r person yn y fan a’r lle, yn ogystal â sicrhau nad oes angen newid y flaenoriaeth a neilltuwyd i’r alwad.

Ers 1 Ionawr eleni, mae’r Tîm Gofal Integredig wedi ymdrin â 96,572 o alwadau, sy’n cynrychioli tua 25% o weithgarwch 999 ar gyfer y flwyddyn.

O’r galwadau hynny, ymatebwyd i 39,269 ohonynt gan roi cyngor clinigol dros y ffôn ac osgoi cludo’r claf i’r ysbyty mewn ambiwlans. Mae hyn yn rhyddhau adnoddau ambiwlansys i ymateb i alwadau brys eraill yn y gymuned.

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi canmol y tîm yn dilyn ei hymweliad â Chanolfan Gyswllt Glinigol Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Dywedodd:

Mae sefydlu’r Tîm Gofal Integredig, gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, wedi gwella effeithlonrwydd gwasanaethau ambiwlans ac adrannau brys a lleihau’r pwysau arnynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig yr adeg hon o’r flwyddyn pan fo’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd ar ei fwyaf sylweddol.

Mae’r tîm hefyd wedi trawsnewid ansawdd y gofal sy’n cael ei roi i bobl yn y gymuned drwy ddarparu ymyrraeth glinigol gynharach iddynt yn y fan a’r lle, gan helpu i gadw capasiti ymateb ambiwlansys i’r rhai sydd fwyaf mewn angen.

Mae gwaith sylweddol i’w wneud i wella amseroedd ymateb ambiwlansys, a hynny yn bennaf wrth i Fyrddau Iechyd wella perfformiad o ran trosglwyddo cleifion ambiwlans, ond roeddwn yn falch iawn o weld gyda’m llygaid fy hun waith pwysig y tîm hwn yn cyflawni ar gyfer cleifion.

Dywedodd Penny Durrant, Rheolwr Gwasanaeth Tîm Gofal Integredig Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:

Rydyn ni’n falch iawn o’r tîm hwn sy’n cyfeirio cleifion at y gwasanaethau mwyaf priodol gan eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain yn ogystal â rhyddhau ambiwlansys i ymateb i alwadau brys eraill yn y gymuned.

Dyma’r parafeddygon a’r nyrsys sydd, yn draddodiadol, wedi helpu cleifion wyneb yn wyneb, ond sydd bellach yn defnyddio’u sgiliau mewn ffordd wahanol gan frysbennu cleifion dros y ffôn.

Ar adeg pan fo’r pwysau’n fwy amlwg nag erioed, dyma enghraifft o’r Ymddiriedolaeth yn meddwl yn wahanol am y modd y mae’n darparu gwasanaethau.

Mae’n ymwneud â chwarae ein rhan ni i leddfu’r pwysau ar draws y system ehangach a gwella profiadau i’n cleifion.