Mae brand 'Cymru Wales' Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â Thîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2026, gan nodi'r tro cyntaf i'r brand ymddangos ar ddillad athletwyr wrth iddynt gystadlu ar lwyfan y byd yr haf hwn.
Bydd y bartneriaeth yn gweld logo Cymru Wales yn ymddangos ar lawes dillad podiwm drwy gydol y Gemau, ochr yn ochr â rhaglen ehangach o weithgareddau ar y cyd sydd wedi'u cynllunio i arddangos Cymru i gynulleidfa fyd-eang.
Fel rhan o'r cydweithrediad, bydd brandio Cymru Wales hefyd i'w weld yn amlwg yn Nhŷ Tîm Cymru yng nghanol Glasgow, lle bydd rhaglen o ddigwyddiadau yn dod â gwerthoedd, diwylliant a hunaniaeth Cymru yn fyw i bobl bwysig sy'n ymweld, y cyfryngau, arweinwyr busnes a gwesteion drwy gydol cyfnod y Gemau.
Bydd cynnwys creadigol hefyd yn cael ei greu gan gynnwys cyfres yn adrodd straeon athletwyr a ffilm sy'n archwilio teithiau personol athletwyr Tîm Cymru. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio yn y cyfnod cyn y Gemau, a thrwy gydol y Gemau i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd o Gymru a'r tu hwnt.
Dywedodd y Gweinidog Chwaraeon, Jack Sargeant:
Mae Gemau'r Gymanwlad yn ymgorffori llawer o'r gwerthoedd sy'n bwysig i ni yng Nghymru - tegwch, cynhwysiant a rhagoriaeth. Mae'n wych cyhoeddi ein bod yn noddi cit Tîm Cymru am y tro cyntaf. Bydd logo 'Cymru Wales' yn ymddangos yn falch ar lawes dillad ein hathletwyr wrth iddynt fynd i'r podiwm yn Glasgow i gasglu eu medalau.
Mae chwaraeon yng Nghymru yn golygu mwy nag ennill medalau. Mae'n golygu creu cyfleoedd, llunio hunaniaeth a meithrin balchder cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i hyrwyddo chwaraeon ar bob lefel, ac mae ein partneriaeth â Thîm Cymru yn dangos ein penderfyniad i helpu athletwyr o Gymru i ragori ar lwyfan y byd, gan wybod bod cenedl gyfan yn gefn iddynt.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Tîm Cymru, Rebecca Edwards-Symmons:
Rydym yn hynod falch o gyhoeddi ein partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru yn y cyfnod cyn Gemau'r Gymanwlad 2026 yn Glasgow. Mae'r cydweithrediad hwn yn garreg filltir arwyddocaol i Dîm Cymru, ac rydym yn arbennig o falch y bydd Cymru Wales yn cael ei arddangos yn amlwg ar ddillad hamdden Tîm Cymru, am y tro cyntaf.
Mae'r gwelededd hwn yn adlewyrchu nid yn unig ein balchder cenedlaethol, ond hefyd cryfder ein partneriaeth a'n hymrwymiad cyffredin i gefnogi athletwyr ar y cae chwarae ac oddi arno. Mae'r gefnogaeth a gawsom gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn rhagorol.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'n holl bartneriaid yn Nhŷ Tîm Cymru drwy gydol y Gemau, i sicrhau bod gan ein hathletwyr, ein staff a'n cefnogwyr yr amgylchedd gorau posibl i berfformio a dathlu chwaraeon Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Daw'r cyhoeddiad wrth i athletwyr ledled Cymru gael eu hystyried ar gyfer Tîm Cymru nawr, cyn cyhoeddi’r tîm terfynol ym mis Mehefin.
