Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2017 ar agor, ac mae tîm rhagorol yn ei le yn barod i ddarganfod pwy yw’r bobl yng Nghymru sy’n gwneud pethau eithriadol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r gwobrau hyn, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, yn cydnabod llwyddiannau pobl ar hyd a lled Cymru. Fe sefydlwyd y Gwobrau i gydnabod y gweithredoedd a’r cyfraniadau gwych sy’n cael eu gwneud gan bobl o bob rhan o gymdeithas.

Mae’r tîm, a gafodd y dasg anodd o lunio’r rhestr fer ar gyfer pob un o’r wyth categori drwy ddewis o blith y bobl a enwebwyd gan y cyhoedd, yn cynnwys: Emma Watkins, Cyfarwyddwr CBI Cymru, a Peter Fuller, a enillodd y wobr am ddewrder y llynedd ar ôl atal ymosodiad ffiaidd gyda chyllell machete mewn archfarchnad yn yr Wyddgrug.

Dyma’r categorïau yng Ngwobrau Dewi Sant: Dewrder; Diwylliant; Menter; Dinasyddiaeth; Arloesedd a Thechnoleg; Rhyngwladol; Chwaraeon; Person Ifanc a Gwobr Arbennig Prif Weinidog Cymru.

Caiff y gwobrau eu cyflwyno i’r enillwyr mewn digwyddiad yn y Senedd ar 23 Mawrth 2017. Bydd Angharad Mair, y gyflwynwraig teledu, a Nigel Owens, y dyfarnwr rygbi sy’n adnabyddus ar draws y byd ac sydd wedi ennill un o Wobrau Dewi Sant ei hunan yn y gorffennol, wrth y llyw.

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:

“Ddydd ar ôl dydd, mae 'na grwpiau o bobl ac unigolion yn mynd y filltir ychwanegol er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, goresgyn anawsterau, a chyflawni pethau sy’n wir ysbrydoliaeth i eraill.


“Mae Cymru yn llawn o bobl wych sy’n gwneud pethau eithriadol ac allan o’r cyffredin. Beth am roi iddyn nhw’r gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu, gan ddangos iddyn nhw bod eu cyfraniad yn bwysig a’ch bod yn gwerthfawrogi eu gwaith a’u hymdrechion diflino. Beth am eu henwebu nhw ar gyfer un o Wobrau Dewi Sant.”


Wrth siarad am y Gwobrau, dywedodd y dyfarnwr Nigel Owens:

“Mae’n wych bod nosweithiau fel hyn yn cael eu cynnal i werthfawrogi cyfraniad pobl o bob rhan o’n cymdeithas. Dw i’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r seremoni a chyfarfod â’r holl bobl eithriadol yma sy’n dod o bob cefndir ac sy’n hoelion wyth eu cymunedau. Dyma’r bobl sy’n gwneud Cymru yn wlad mor arbennig.”


Dywedodd Uzo Iwobi, Prif Weithredwr Race Council Cymru:

“Dw i wrth fy modd o gael fy ngwahodd i fod yn aelod o Bwyllgor Gwobrau Dewi Sant, a dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghyd-aelodau i ddewis dinasyddion teilwng.


“Yr unigolion hyn yw’r gorau oll a byddan nhw’n cael eu gweld fel pobl sy’n cynnig esiampl dda i eraill yn y gymuned. Bydd hon yn flwyddyn gyffrous, felly ewch ati i enwebu rhywun yn eich cymuned.”


I enwebu rhywun ar gyfer un o Wobrau Dewi Sant, ewch i www.stdavidawards.org.uk gan wneud hynny erbyn canol nos ar 21 Hydref 2016.

Aelodau'r pwyllgor ymgynghorol yw:

  • Emma Watkins - Cyfarwyddwr CBI Cymru,
  • Chris Davies – Prif Swyddog  Tân Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Uzo Iwobi – Prif Swyddog CEO Race Council Cymru
  • Dr Paul Thomas –Cadeirydd Chwaraeon Cymru
  • Peter Fuller - Enillydd y wobr am ddewrder 2016
  • Sioned Hughes –Prif Swyddog Urdd Gobaith Cymru
  • Rhian Burke –Enillydd Gwobr Dinasyddiaeth 2015 / Sefydlydd, 2WishUpon
  • Catrin Pascoe – Golygydd, Western Mail
  • Dr Phil George – Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru