Neidio i'r prif gynnwy

Mae timau arobryn o swyddogion trwyddedu a gorfodi anifeiliaid yn gwneud gwahaniaeth ledled Cymru, fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae prosiect Trwyddedu Anifeiliaid Cymru, a ganolbwyntiodd i ddechrau ar fridio a gorfodi cŵn, wedi'i ymestyn hyd at 2025, yn dilyn adborth cadarnhaol gan awdurdodau lleol a phartneriaid lles anifeiliaid. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu i wella cymwysterau arolygwyr lles anifeiliaid.

Cafodd y prosiect ei gydnabod fel enghraifft o arfer da yn uwchgynhadledd perchenogaeth gyfrifol ar gŵn yr hydref diwethaf ar ôl cyflwyno pum cwrs hyfforddi i 58 o swyddogion ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r prosiect wedi cael ei ganmol gyda'r uwch swyddog casglu gwybodaeth cyntaf a hyfforddwyd yn cael ei enwebu ar gyfer gwobr Ffederasiwn y Diwydiant Anifeiliaid Anwes a'r rhaglen ei hun yn derbyn gwobr 'Ôl-troed Arloesi' yr RSPCA.

Rhwng mis Chwefror a mis Rhagfyr 2023 derbyniodd y tîm 252 o alwadau cudd-wybodaeth mewn perthynas â bridwyr cŵn heb drwydded a arweiniodd at 73 o ymchwiliadau a chynnal 391 o arolygiadau ar draws 8 Awdurdod Lleol gan arwain at gyflwyno 58 o Hysbysiadau Gwella o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae'r tîm hefyd wedi gweithredu ym mhorthladdoedd Cymru gan sicrhau cydymffurfiaeth â'r cynllun teithio ar gyfer anifeiliaid anwes a symud anifeiliaid anwes yn fasnachol.

Cyfarfu'r Gweinidog ag arweinydd y Tîm Prosiect a rhai o'r swyddogion ar safle bridiwr cŵn arbenigol yn Sir Fynwy.  Mae Dynamic K9 yn arbenigo mewn bridio cŵn Alsasaidd. Maent yn cynnig rhaglen gymdeithasu a gwella ymddygiad helaeth ynghyd â hyfforddiant tracio, ufudd-dod ac amddiffyn un i un. Mae uned hydrotherapi ar y safle a 6 erw o laswelltir i'r cŵn ymarfer.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

Mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wella lles anifeiliaid yng Nghymru, ac un o'n hymrwymiadau oedd gwella'r hyfforddiant a'r cymwysterau ar gyfer swyddogion gorfodi awdurdodau lleol.  Mae prosiect Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Rydym yn gwybod bod sicrhau bod sefydliadau bridio cŵn o safon uchel ac enw da yn chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, ac mae'r swyddogion yn sicrhau newid gwirioneddol yma. 

Mae'n dda cwrdd â rhai o'r tîm ac ymweld â Dynamic K9 sy'n enghraifft o fridiwr cŵn sydd â chyfleusterau rhagorol.

Dywedodd Gareth Walters, arweinydd prosiect Trwyddedu Anifeiliaid Cymru:

Mae'r prosiect hwn yn darparu hyfforddiant ledled Cymru, gan wella pwerau gorfodi i awdurdodau lleol.  Rydym yn falch ei fod wedi'i ymestyn tan 2025 a bydd yn darparu gwersi a phrofiad gwerthfawr ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Eevie Meechan perchennog Dynamic K9: 

Rydym yn falch iawn ac yn teimlo'n ostyngedig iawn fod y Gweinidog wedi dewis ymweld a'n sefydliad bridio ni heddiw. Rydym yn ymdrechu i gynnal y safonau bridio gorau ac er ei fod yn waith caled, mae'n un sy'n ein gwneud yn fodlon iawn. Rydyn ni'n hapus o weld ein cŵn bach i gyd yn ffynnu yn eu bywydau newydd.

Rhoddodd y Gweinidog ddiweddariad hefyd ar sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo perchenogaeth a bridio cŵn yn gyfrifol trwy gyfres o weithdai a digwyddiadau, yn dilyn llwyddiant uwchgynhadledd mis Hydref y llynedd.