Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o achosion o dipio anghyfreithlon, camau gorfodi a chanlyniadau erlyn ar gyfer Ebrill 2022 i Mawrth 2023.

Nid yw’r ystadegau yn cynnwys achosion o dipio ar dir preifat.

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r ffigurau hyn oherwydd:

  • newidiadau parhaus a gwelliannau mewn prosesau cofnodi data a chanllawiau
  • effaith y pandemig COVID-19; nid yw’n glir pa effeithiau sy’n rhai tymor byr a pha rai allai barhau dros y tymor hir, sy’n gwneud cymariaethau rhwng blynyddoedd yn anodd

Ceir gwybodaeth bellach yn yr adroddiad ansawdd.

Prif bwyntiau

  • cofnodwyd 39,853 o achosion o dipio yng Nghymru. Mae’r ffigur hwn 4% yn is na’r flwyddyn flaenorol, ac 14% yn uwch na 2018-19.[troednodyn 1
  • roedd y newid blynyddol yn nifer yr achosion yn amrywio ar draws Cymru. Cofnododd 10 awdurdod lleol ostyngiad, a chofnododd 12 awdurdod lleol cynnydd.
  • cafwyd y cynnydd blynyddol mwyaf yn Wrecsam a Cheredigion. Roedd y nifer o achosion pedair gwaith yn fwy yn Wrecsam, a dwywaith yn fwy yng Ngheredigion . Yn ôl yr awdurdodau lleol, roedd hyn yn rhannol oherwydd prosesau cofnodi gwell.
  • cafwyd y gostyngiad blynyddol uchaf yn Merthyr Tudful (36%) gyda gostyngiadau nodedig yng Nghastell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, a Gwynedd (22%, 22%, a 20% yn y drefn honno).
  • roedd 70% o achosion yn ymwneud â gwastraff cartref (bag du neu wastraff arall y cartref).
  • amcangyfrifir fod costau clirio tipio yng Nghymru tua £1.83 miliwn [troednodyn 2].
  • cymerwyd 27,373 o gamau gorfodi yng Nghymru. Mae’r ffigur hwn 8% yn is na’r flwyddyn flaenorol [troednodyn 3].
  •  o’r 59 cam gorfodi, arweiniodd 93% at ddirwy.

Troednodiadau

[1] Yn dilyn eglurhad o ganllawiau ar dipio anghyfreithlon yn 2017, nid yw gwastraff ochr (gormod o wastraff a osodir wrth ymyl bin)  bellach yn cael eu cofnodi fel digwyddiadau tipio anghyfreithlon.

[2] Mae costau clirio amcangyfrifedig yn seiliedig ar nifer yr achosion wedi'u cofnodi yn ôl maint. Ni chofnodir y wybodaeth hon ar gyfer pob digwyddiad. Yn 2022-23, darparwyd gwybodaeth am faint yr achos tipio ar gyfer 93% o achosion.

[3] Oherwydd y pandemig COVID-19 cafodd llawer o achosion cyfreithlon eu gohirio, gan arwain at gynnydd mawr mewn camau gorfodi a adroddir yn 2021-22. Felly, roedd gostyngiad mewn camau gorfodi yn 2022-23 yn ddisgwyliedig.

Gwybodaeth Gefndir

Mae'r ystadegau yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol i’r gronfa ddata ‘Waste Data Flow’. Er y cofnodir rhai achosion, nid yw’r ystadegau yma yn cynnwys pob achos o dipio anghyfreithlon ar dir preifat, ac ni chofnodir pob digwydd tipio anghyfreithlon gydag awdurdod lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Stuart Neil

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.