Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae amddifadedd materol yn mesur tlodi hirdymor ac effaith hynny (sef, i ba raddau mae pobl yn gallu fforddio pethau sylfaenol fel bwyd a gwres). Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys cyfres safonol o gwestiynau am amddifadedd materol bob blwyddyn.

Mae’r canlyniadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023. Mae rhai canlyniadau o flynyddoedd blaenorol wedi’u cynnwys i roi cyd-destun. Fodd bynnag, oherwydd newid ym modd yr arolwg (symud o wyneb yn wyneb i dros y ffôn yn 2020) a newid gwirioneddol posibl oherwydd pandemig COVID-19 (coronafeirws), dylid bod yn ofalus wrth wneud gymharu â chanlyniadau o 2019-20 ac yn gynharach.

Mae gan y gwahanol ddadansoddiadau a amlygwyd yn yr adroddiad hwn gysylltiad annibynnol ag amddifadedd materol, hyd yn oed ar ôl ystyried ystod o ffactorau eraill. Fel gyda phob dadansoddiad o’r math hwn, wrth inni drafod cysylltiadau rhwng gwahanol ffactorau, ni allwn briodoli achos ac effaith i’r cysylltiadau hyn, nac ystyried ffactorau na chawsant eu mesur yn yr arolwg. Gweler gwybodaeth am ansawdd.

Prif bwyntiau

Yn 2022-23:

  • roedd 16% o’r holl oedolion yn wynebu amddifadedd materol
  • roedd 19% o oedolion o oedran gweithio yn wynebu amddifadedd materol
  • roedd 4% o bensiynwyr yn wynebu amddifadedd materol
  • roedd 9% o blant yn wynebu amddifadedd materol
16%

o oedolion yn wynebu amddifadedd

Amddifadedd materol

Oedolion sy’n wynebu amddifadedd materol

Mae canran y bobl sy’n wynebu amddifadedd materol wedi cynyddu ers yr adroddiad diwethaf yn 2021-22, pan oedd 11% o oedolion yn wynebu amddifadedd materol, yn ogystal â bod yn uwch nag a gofnodwyd yn 2019-20, pan oedd 13% o oedolion yn wynebu amddifadedd materol.

Cynhaliwyd dadansoddiad manwl i ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng amddifadedd materol ac amrywiaeth o ffactorau demograffig, cymdeithasol ac iechyd. Wrth reoli cysylltiadau â ffactorau eraill, roedd y canlynol yn gysylltiedig yn annibynnol ag wynebu amddifadedd materol:

Oedran, gyda 21% o bobl 16 i 44 oed yn wynebu amddifadedd materol, o’i gymharu â 17% o bobl 45-64 oed a 6% o bobl 65 oed a hŷn.

Canfuwyd bod rhyw hefyd yn ffactor cysylltiedig: roedd 19% o fenywod yn wynebu amddifadedd materol o’i gymharu â 12% o ddynion.

Roedd statws economaidd hefyd yn gysylltiedig yn annibynnol ag amddifadedd materol. Cofnodwyd bod 42% o bobl ddi-waith yn wynebu amddifadedd, tra bod 14% o bobl mewn cyflogaeth a 17% o’r rheini a oedd yn economaidd anweithgar yn wynebu amddifadedd materol. 

Roedd prynu neu dderbyn eitemau ail-law yn ystod y 12 mis diwethaf yn gysylltiedig ag amddifadedd materol, gyda 17% o’r bobl a wnaeth hynny’n byw mewn amddifadedd materol o’i gymharu â 10% o’r rheini nad oeddent wedi gwneud hynny.

Pobl a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol oedd y grŵp deiliadaeth mwyaf tebygol o wynebu amddifadedd, gyda 46% o bobl yn byw yn y math hwn o dai yn wynebu amddifadedd materol. O’i gymharu, roedd 28% o rentwyr preifat a 6% o’r rheini sy’n byw mewn tai sy’n eiddo i berchen-feddianwyr yn wynebu amddifadedd materol.

Roedd byw gyda phlant 16 oed neu iau yn ffactor arall a oedd yn gysylltiedig yn annibynnol ag amddifadedd materol, gyda 25% o bobl o’r fath yn wynebu amddifadedd materol, o’i gymharu â 11% o bobl mewn cartrefi heb blant.

Canfuwyd bod statws priodasol yn gysylltiedig ag amddifadedd materol, fel y dangosir yn Ffigur 1.

Ffigur 1: Amddifadedd materol yn ôl statws priodasol

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart far yn dangos amddifadedd materol wedi’i ddadansoddi yn ôl statws priodasol. Ar hyn o bryd, canfuwyd mai bod wedi gwahanu o briodas neu bartneriaeth sifil oedd â’r tebygolrwydd uchaf o bobl yn wynebu amddifadedd materol: roedd 36% o bobl wedi gwahanu’n wynebu amddifadedd materol; roedd 22% o bobl sengl yn wynebu amddifadedd materol, a 22% o bobl a oedd wedi ysgaru; ac roedd 10% o bobl a oedd wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil yn wynebu amddifadedd materol. Roedd 10% o weddwon a phartneriaethau sifil hefyd yn adrodd eu bod yn wynebu amddifadedd materol.

Canfuwyd bod iechyd yn ffactor cysylltiedig ag amddifadedd materol, gyda phobl a ddywedodd bod eu hiechyd cyffredinol yn ‘ddrwg’ neu’n ‘ddrwg iawn’ yn wynebu amddifadedd materol mewn 41% o’r achosion, o’i gymharu â 22% o bobl sy’n ystyried eu hunain mewn iechyd ‘teg’ a 10% o bobl syn ystyried eu hunain mewn iechyd ‘da’ neu ‘dda iawn’.

Yn yr un modd, canfuwyd bod cysylltiad annibynnol hefyd rhwng salwch cyfyngus hirdymor ac amddifadedd materol, gyda 17% o bobl a oedd â salwch o’r fath yn byw mewn amddifadedd materol o’i gymharu â 10% o’r rheini heb salwch o’r fath.

Roedd lefelau llesiant goddrychol hefyd yn gysylltiedig ag amddifadedd materol. Roedd gan bobl a oedd yn wynebu amddifadedd materol lefelau is o foddhad â bywyd na’r rheini nad oeddent yn wynebu amddifadedd (Ffigur 2).

Ffigur 2: Amddifadedd materol yn ôl boddhad â bywyd

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far yn dangos amddifadedd materol wedi’i ddadansoddi yn ôl boddhad â bywyd ar raddfa o 0 i 10, wedi’i rannu’n 4 grŵp. Roedd 52% o’r bobl a ddywedodd eu bod yn teimlo boddhad isel â bywyd yn wynebu amddifadedd materol, a 7% o'r bobl a nododd eu bod yn teimlo’n wael iawn am eu bywyd.

Canfuwyd hefyd bod unigrwydd yn gysylltiedig ag amddifadedd materol. Gan ddefnyddio graddfa unigrwydd De Jong Gierveld, roedd 42% o bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn ‘unig’ yn byw mewn amddifadedd materol. Mewn cymhariaeth, roedd 15% o’r rhai a oedd yn ystyried eu hunain fel ‘unig weithiau’, a 9% o’r bobl a oedd ‘ddim yn unig’ yn byw mewn amddifadedd materol.

Roedd y cymhwyster addysgol  uchaf hefyd yn ffactor, fel y dangosir yn Ffigur 3.

Ffigur 3: Amddifadedd materol yn ôl y cymhwyster addysgol uchaf

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far yn dangos amddifadedd materol wedi’i ddadansoddi yn ôl cymhwyster addysgol. Pobl â Chymhwyster Cenedlaethol Lefel 4 neu gymwysterau uwch oedd y lleiaf tebygol o fod yn wynebu amddifadedd materol. Pobl heb gymwysterau oedd y mwyaf tebygol o wynebu amddifadedd materol, gyda 23% o bobl o’r fath yn wynebu amddifadedd.

Fel y gellid disgwyl, roedd pobl a oedd yn profi amddifadedd materol yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd daearyddol mwy difreintiedig, yn seiliedig ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Canfuwyd bod 55% o bobl sy’n byw mewn amddifadedd materol yn byw yn 40% o’r ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru. 

Ni nodwyd bod cysylltiad annibynnol rhwng ethnigrwydd, credoau crefyddol a chyfeiriadedd rhywiol ac amddifadedd materol: hynny yw, roedd unrhyw wahaniaethau mewn amddifadedd materol gan y grwpiau hyn yn cael eu hegluro’n well gan y ffactorau a restrir uchod.

Oedolion o oedran gweithio sy’n wynebu amddifadedd materol

Yn 2022-23, roedd 19% o bobl o oedran gweithio yn wynebu amddifadedd materol – sy’n uwch na’r 14% a nodwyd yn 2021-22 a 16% yn 2019-20. 

Ailadroddwyd y dadansoddiad uchod ar gyfer pobl o oedran gweithio yn unig. Roedd y ffactorau sy’n gysylltiedig yn annibynnol yn debyg iawn i’r rhai a nodwyd yn flaenorol, ond canfuwyd rhai gwahaniaethau. Nid oedd y math o gartref ac amddifadedd ardal yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn cael eu nodi fel ffactorau annibynnol mwyach. Nodwyd bod yr holl ffactorau cysylltiedig eraill a nodwyd uchod yn gysylltiedig yn annibynnol ag amddifadedd materol ar gyfer oedolion o oedran gweithio yn yr un ffyrdd ag a drafodwyd yn flaenorol.

Canfuwyd bod mesur ychwanegol o lesiant goddrychol yn gysylltiedig ag amddifadedd materol pobl o oedran gweithio: y lefel pryder a adroddwyd ddoe. Roedd pobl a oedd yn adrodd lefelau uchel o bryder (sy’n cael ei ddiffinio fel sgôr o 6 neu uwch allan o 10) yn byw mewn amddifadedd materol 33% o’r amser o gymharu â 22% o oedolion a oedd yn adrodd lefelau canolig o bryder (5 neu 6), 15% o’r rheini a oedd yn adrodd lefelau isel o bryder (2 neu 3), a 11% o’r rheini a oedd yn adrodd lefelau isel iawn o bryder (0 neu 1).

Yn ychwanegol, roedd dim mynediad at gar neu fan yn y cartref hefyd yn gysylltiedig â byw mewn amddifadedd materol ar gyfer pobl o oedran gweithio. Roedd 47% o bobl o oedran gweithio heb gar neu fan yn byw mewn amddifadedd materol o’i gymharu â 15% o’r rheini a oedd â mynediad i’r cerbydau hyn.

Fel yn flaenorol, nid oedd ethnigrwydd, credoau crefyddol na chyfeiriadedd rhywiol yn cael eu nodi fel ffactorau sy’n gysylltiedig yn annibynnol ag amddifadedd materol gyda phobl o oedran gweithio.

Pensiynwyr sy’n wynebu amddifadedd materol

Credir bod pobl hŷn weithiau’n tan-adrodd eu hamddifadedd materol gan ddefnyddio’r cwestiynau safonol, ac felly gofynnir set wahanol o gwestiynau i bobl sy’n hŷn nag oedran ymddeol y wladwriaeth i fesur lefel eu hamddifadedd; mae’r cwestiynau hyn yn ymwneud yn fwy â hanfodion ar gyfer yr unigolyn nag anghenion y cartref.

Yn 2022-23, roedd 5% o bensiynwyr yn wynebu amddifadedd materol – sy’n uwch nag yn 2021-2022 (4%), ond nid oeddent yn dangos unrhyw wahaniaeth sylweddol o’i gymharu â 2019-20.

O’u dadansoddi ar gyfer ffactorau cysylltiedig annibynnol, canfuwyd bod llai o ffactorau cysylltiedig annibynnol ag amddifadedd materol pensiynwyr o’u cymharu â’r holl oedolion a’r oedolion o oedran gweithio. 

Canfuwyd bod iechyd cyffredinol, statws priodasol, unigrwydd, rhyw, math o gartref ac amddifadedd ardal yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru i gyd yn gysylltiedig yn annibynnol â phensiynwyr sy’n wynebu amddifadedd materol, gyda’r un tueddiadau â’r rhai a drafodwyd yn flaenorol. 

Yn yr un modd ag oedolion o oedran gweithio, roedd dim mynediad at gar neu fan yn y cartref yn gysylltiedig â lefelau is o amddifadedd materol, gyda 4% o bensiynwyr â mynediad i gerbydau yn byw mewn amddifadedd o’i gymharu â 14% o’r rheini nad oedd ganddynt y mynediad hwn.

Roedd pryder uchel hefyd yn cael ei nodi unwaith eto fel ffactor cysylltiedig â chyfraddau uwch o amddifadedd materol i bensiynwyr. Roedd 11% o bensiynwyr a oedd yn nodi lefelau uchel o bryder (6 i 10) yn byw mewn amddifadedd, sy’n uwch nag ar gyfer unrhyw lefel pryder arall, nad oedd yn fwy na 6%. Nid oedd unrhyw wahaniaethau sylweddol rhwng cyfraddau amddifadedd pensiynwyr sy’n adrodd lefelau pryder ‘canolig’, ‘isel’ neu ‘isel iawn’.

Unwaith eto, ni chafodd ethnigrwydd, credoau crefyddol na chyfeiriadedd rhywiol eu nodi fel ffactorau a oedd yn gysylltiedig yn annibynnol â phensiynwyr sy’n wynebu amddifadedd materol. Hefyd, ni chafodd salwch cyfyngus hirdymor ei nodi fel ffactor annibynnol ar gyfer amddifadedd materol ymysg pensiynwyr.

Plant sy’n wynebu amddifadedd materol

Gofynnir set o gwestiynau ar wahân i rieni [troednodyn 1] i fesur lefel yr amddifadedd materol y mae eu plant yn ei brofi; yn yr un modd â phensiynwyr, mae’r cwestiynau hyn yn ymwneud mwy â’r unigolyn nag anghenion y cartref. 

Fel y nodwyd uchod, roedd 25% o’r bobl a oedd â phlant yn eu cartref yn wynebu amddifadedd materol, o’i gymharu â 11% o bobl mewn cartrefi heb blant. Fodd bynnag, roedd gan gyfran is o rieni blant a oedd yn profi amddifadedd materol eu hunain: 9%. Roedd hyn yn gynnydd o’r adeg y’i mesurwyd ddiwethaf yn 2019-20, pan oedd gan 6% o rieni blant a oedd yn profi amddifadedd materol.

Unwaith eto, cynhaliwyd dadansoddiad manwl i ymchwilio i'r cysylltiadau rhwng amddifadedd materol ac amrywiaeth o ffactorau demograffig, cymdeithasol ac iechyd. Wrth reoli cysylltiadau â ffactorau eraill, roedd y canlynol yn gysylltiedig yn annibynnol â phlant sy’n wynebu amddifadedd materol:

Canfuwyd bod statws economaidd rhieni yn gysylltiedig â phlant sy’n wynebu amddifadedd materol, gyda 5% o rieni cyflogedig â phlant sy’n wynebu amddifadedd materol o’i gymharu â 29% o rieni sy’n economaidd anweithgar. Nid oedd digon o ymatebwyr yn ddi-waith i fesur cyfraddau amddifadedd materol plant â rhieni di-waith.

Canfuwyd hefyd fod unigrwydd ymhlith rhieni, a fesurwyd yn ôl graddfa unigrwydd De Jong Gierveld, yn gysylltiedig ag amddifadedd materol ymysg plant. O’r rhieni a ddywedodd eu bod yn ‘unig’, roedd gan 31% blant sy’n wynebu amddifadedd materol o’i gymharu â 8% o rieni a oedd yn ystyried eu hunain yn ‘unig weithiau’ a 4% o rieni a oedd yn ystyried eu hunain ‘ddim yn unig’.

Canfuwyd bod boddhad cyffredinol â bywyd yn gysylltiedig ag amddifadedd materol ymysg plant. Roedd rhieni a oedd yn adrodd lefelau uwch o foddhad â bywyd yn llai tebygol o fod â phlant yn wynebu amddifadedd materol, gyda 5% o bobl gyda boddhad ‘uchel’ (7 i 8) neu ‘uchel iawn’ (9 i 10) â bywyd yn cynnwys plant sy’n wynebu amddifadedd, o’i gymharu â 26% o’r plant gyda rhieni’n dweud bod eu boddhad â bywyd yn ‘isel’ (0 i 4) neu’n ‘ganolig’ (5 i 6).

Roedd y math o ddeiliadaeth yn gysylltiedig ag amddifadedd plant, gyda 3% o rieni sy’n berchen-feddianwyr â phlant yn wynebu amddifadedd materol, o’i gymharu â 15% o rieni mewn llety rhent preifat a 32% o rieni mewn tai cymdeithasol.

Ar wahân i’r ffactorau hyn sy’n gorgyffwrdd ag amddifadedd materol ymysg oedolion, canfuwyd bod amddifadedd materol plant hefyd yn gysylltiedig â boddhad rhieni â chlybiau plant a gweithgareddau wedi’u trefnu yn yr ardal leol. Roedd 6% o'r rhieni a oedd yn fodlon â chlybiau a gweithgareddau yn yr ardal leol â phlant yn wynebu amddifadedd materol, tra roedd 18% o'r rhieni nad oeddent yn fodlon â chlybiau/gweithgareddau yn yr ardal leol â phlant yn wynebu amddifadedd materol.

Yn ychwanegol, roedd cael rhiant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos hefyd yn gysylltiedig â lefelau is o amddifadedd materol ymysg plant. Roedd gan 5% o rieni a gymerodd ran yn y lefel hon o chwaraeon blant yn wynebu amddifadedd materol, o’i gymharu â 18% o rieni nad oeddent yn cymryd rhan yn y lefel hon o chwaraeon.

Nid oedd gan oedran, rhyw, ethnigrwydd, credoau crefyddol, cyfeiriadedd rhywiol, statws anabledd na statws priodasol rhieni gysylltiad annibynnol â’r tebygolrwydd bod eu plant yn wynebu amddifadedd materol.

Cymharu â ffynonellau eraill

Mae ystadegau eraill Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â thlodi ac amddifadedd i’w gweld ar y dudalen ystadegau sy’n gysylltiedig â thlodi. Mae’r cwestiynau am amddifadedd materol a gafodd eu gofyn yn yr Arolwg Cenedlaethol yn seiliedig ar y rhai yn yr Arolwg o Adnoddau Teulu, sy’n arolwg ledled y DU. Fodd bynnag, mae’r Arolwg Cenedlaethol yn wahanol i’r Arolwg o Adnoddau Teulu o ran sut mae’n cael ei gynnal ac o ran y pynciau eraill mae’n ymdrin â nhw. Mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gael y dangosydd amddifadedd materol hefyd yn amrywio rhwng y ddau arolwg. Mae hyn yn golygu nad oes modd cymharu’r cyfrannau cyffredinol o oedolion a phensiynwyr sy’n wynebu amddifadedd materol ar sail canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol â’r cyfrannau cyffredinol a ddarparwyd gan yr Arolwg o Adnoddau Teulu. 

Ers mis Ebrill 2019, mae’r Arolwg o Adnoddau Teulu wedi gofyn cwestiynau am ddiogelwch bwyd cartrefi ac ers mis Ebrill 2021, mae hefyd wedi gofyn cwestiynau am ddefnyddio banciau bwyd. Mae’r canlyniadau diweddaraf ar gyfer 2021-22 yn debygol o gael eu cyhoeddi yng Ngwanwyn 2023.

Dylid ystyried amcangyfrifon yr arolwg a gyhoeddwyd yn y bwletin hwn ochr yn ochr â datganiadau ystadegol eraill Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud ag amddifadedd ac incwm isel ac sy’n defnyddio’r Arolwg o Adnoddau Teulu a’r gyfres Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (HBAI) fel ffynonellau data. Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru yn darparu mesur cymharol o amddifadedd yn ôl ardal ddaearyddol ac yn ychwanegu rhagor o gyd-destun at ganlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol.

Gwybodaeth am ansawdd

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymruyn arolwg hapsampl, parhaus dros y ffôn, ar raddfa fawr sy’n cynnwys pobl ledled Cymru.  Caiff cyfeiriadau eu dewis ar hap, a bydd gwahoddiadau’n cael eu hanfon drwy’r post yn gofyn am rif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellir darparu’r rhif ffôn drwy borth ar-lein, llinell ymholiadau dros y ffôn, neu’n uniongyrchol i rif ffôn symudol y cyfwelydd ar gyfer yr achos hwnnw. Os na ddarperir rhif ffôn, gall cyfwelydd alw yn y cyfeiriad a gofyn am rif ffôn. 

Mae siartiau a thablau canlyniadau manwl ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. I gael gwybodaeth am gasglu data a methodoleg, gweler ein tudalennau adroddiad ansawdd, adroddiad technegol, ac adroddiad atchweliad.

Mae croes-ddadansoddi’n awgrymu y gall ffactorau amrywiol fod yn gysylltiedig â’r ymatebion a roddwyd i bob cwestiwn a ofynnir yn yr Arolwg Cenedlaethol. Fodd bynnag, mae’r ffactorau hyn yn aml yn gysylltiedig â’i gilydd (er enghraifft, gall pobl sydd â chyflwr hirdymor cyfyngol fod yn hŷn hefyd). Er mwyn cael dealltwriaeth gliriach o effaith pob ffactor unigol, rydym wedi defnyddio dulliau ystadegol i wahanu effaith unigol pob ffactor. Mae’r dulliau hyn yn caniatáu inni edrych ar effaith un ffactor gan gadw'r ffactorau eraill yn gyson – a elwir weithiau’n “rheoli ar gyfer ffactorau eraill”. Nodwyd pob dadansoddiad a ddisgrifir yn yr adroddiad hwn fel ffactor unigol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007 ac yn dangos ei fod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn cyrraedd y safonau uchaf o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai’r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau’r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn poeni a yw’r ystadegau hyn yn dal i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal ar ôl eu hadfer.

Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn yn cael eu dynodi’n Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2020 yn dilyn gwiriad cydymffurfio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (llythyr cadarnhau). Cafodd yr ystadegau hyn eu hasesu’n llawn ddiwethaf (adroddiad llawn) yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2013. 

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, drwy, er enghraifft: 

  • darparu dadansoddiadau manylach yn y dangosydd canlyniadau
  • diweddaru pynciau’r arolwg yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion polisi sy’n newid
  • parhau i gynnal dadansoddiad atchweliad fel rhan safonol o’n hallbynnau, i helpu defnyddwyr i ddeall cyfraniad ffactorau penodol at ganlyniadau o ddiddordeb

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016 ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys 1 o’r dangosyddion cenedlaethol sef 19 – canran y bobl sy’n byw mewn cartrefi ac yn wynebu amddifadedd materol.

Fel dangosydd cenedlaethol o dan y Ddeddf rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau lleol pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn nodi bod yn rhaid gosod cerrig milltir cenedlaethol a fyddai “...ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y gwyddom fod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae i'w chyflawni. 

Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol, ond maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru. 

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Troednodiadau

[1] Yn cynnwys gwarcheidwaid cyfreithiol.

Manylion cyswllt

Tîm arolygon
E-bost: arolygon@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 3/2024