Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi plant a hawliau plant wrth wraidd popeth y mae yn ei wneud.

Mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith ddifrifol ar ein economi, ein cymdeithas a’n cymunedau. Mae wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli a’u gwaethygu, a’r rhai sy’n teimlo hyn fwyaf yw’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Mae’r cyfnod hwn yn gyfnod lle mae gwneud popeth sy’n ymarferol bosibl i liniaru effeithiau tlodi cyn bwysiced ag erioed. Dengys ein data diweddaraf bod 31% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai).

Yn ystod tymor y Senedd ddiwethaf, ymrwymodd y Prif Weinidog i ailwampio rhaglenni sydd eisoes yn cael eu cyllido, er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar fywydau plant sy’n byw mewn tlodi. Arweiniodd hyn at ddatblygu Tlodi Plant: Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm.

Roedd y cynllun hwnnw yn cynnwys cyfres o gamau gweithredu ymarferol a fyddai’n helpu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru i wneud y gorau o’u hincwm, gan roi cefnogaeth iddynt i feithrin cadernid ariannol.

Mae effaith y Cynllun hwn yn cael ei asesu fel bod y gwersi a ddysgwyd yn helpu i lywio gwaith yn y dyfodol, gan sicrhau ein bod yn parhau i gymryd y camau gweithredu mwyaf effeithiol i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru.

Byddwn yn parhau i fod yn feiddgar, yn uchelgeisiol ac yn flaengar wrth i ni geisio gwneud Cymru'n wlad sy’n rhydd o dlodi plant.

Jane Hutt AS

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyflwyniad

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn darparu’r fframwaith ddeddfwriaethol ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru. Mae’n rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus a enwir i gyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant, sy’n gosod amcanion ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant a’r camau gweithredu y byddant yn eu cymryd er mwyn cyrraedd yr amcanion hyn.

Cyhoeddwyd Strategaeth Tlodi Plant bresennol Llywodraeth Cymru yn 2015. Mae’r blaenoriaethau sydd yn y Strategaeth Tlodi Plant wedi’u seilio ar yr hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddangos i ni ynghylch sut y gallwn gael yr effaith mwyaf mewn perthynas â gwella canlyniadau i deuluoedd incwm isel. Maent hefyd yn adlewyrchu’r mecanweithiau polisi sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae’r amcanion yn canol bwyntio ar:

  • lleihau nifer y teuluoedd sy'n byw mewn aelwydydd heb waith
  • cynyddu sgiliau rhieni a phobl ifanc fel eu bod yn gallu sicrhau cyflogaeth sy’n talu'n dda
  • lleihau’r anghydraddoldebau o ran canlyniadau iechyd, addysg ac economaidd plant a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi
  • defnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael i greu economi a marchnad lafur gref sy’n cefnogi’r agenda trechu tlodi ac yn lleihau tlodi mewn gwaith yng Nghymru
  • helpu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi i gynyddu incwm eu haelwyd trwy gyngor ynghylch dyledion a chyngor ariannol, a chamau gweithredu i fynd i’r afael â’r “premiwm tlodi”.

Tynnodd Tlodi Plant: Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm sylw at ein buddsoddiad a’n ffocws parhaus o ran mynd i’r afael â thlodi plant gan ddefnyddio’r mecanweithiau sydd ar gael i ni. Roedd gan y cynllun bedwar prif amcan, sef:

  • mae teuluoedd yng Nghymru yn cael cymorth i hawlio’r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo
  • mae costau anfon plant i’r ysgol yn cael eu gostwng
  • ymdrinnir â chost a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc
  • mae teuluoedd yng Nghymru yn cael cymorth i fod yn ariannol gadarn.

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi rhai o’r pethau a gyflawnwyd yn ystod cyfnod y cynllun gweithredu, ac yn tynnu sylw at y camau nesaf a’r blaenoriaethau er mwyn parhau i wneud y gorau o incwm teuluoedd sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru.

Crynodeb o’r hyn a gyflawnwyd

Ceir isod grynodeb o gamau gweithredu/mentrau ar draws y pedwar amcan sy’n cyfuno gwaith sydd eisoes yn bodoli a gwaith newydd, ac yn canolbwyntio ar gyflawni rhwng mis Tachwedd 2020 a Mawrth 2021.

Amcan 1: Mae teuluoedd yng Nghymru yn cael cymorth i hawlio’r holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo

Ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth am fudd-daliadau

  • Cyflwynwyd yr ymgyrch gyfathrebu gyntaf i godi ymwybyddiaeth am fudd-daliadau yng Nghymru, i dynnu sylw at y budd-daliadau sydd ar gael ac at gymorth ariannol arall y mae modd i bobl gael mynediad ato.
  • O ganlyniad i’r ymgyrch, hawliwyd £651,504 ychwanegol gan yr rhai hynny oedd â hawl i fudd-daliadau.

Gwasanaethau cyngor

  • Buddsoddwyd £800,000 mewn prosiect gwasanaethau cynghori sy’n helpu’r rheini sydd mewn perygl o ddioddef tlodi, gan gynnwys cyflwyno prosiect sy’n cynnig hyfforddiant am ddim ar godi ymwybyddiaeth o fudd-daliadau i bobl sy’n gweithio gydag aelwydydd a ddylai fod yn hawlio budd-daliadau.
  • Roedd y prosiectau peilot yn ymwneud â 1,440 o aelwydydd yn eu cefnogi i hawlio incwm ychwanegol o £2,468,052.

Arweinlyfr Arferion Gorau

  • Ddatblygwyd Arweinlyfr Arferion Gorau i helpu Awdurdodau Lleol i ystyried sut y gallent symleiddio eu system ymgeisio ar gyfer budd-daliadau datganoledig gan eu gwneud yn fwy hygyrch i bobl sydd angen y cymorth hwn.

Amcan 2: Mae costau anfon plant i’r ysgol yn cael eu gostwng

Grant Amddifadedd Disgyblion: Mynediad

  • Drwy sianeli cyfryngau wedi'u targedu a thrwy’r awdurdodau lleol a chonsortia cyflwynwyd ymgyrch gyfathrebu yn hyrwyddo'r defnydd o'r Grant Amddifadedd Disgyblion: Mynediad (mae grant ar gael i ddysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim i helpu i brynu gwisg ysgol, offer, cit chwaraeon a phecyn ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol i blant).
  • Ar gyfer blwyddyn academaidd 2020 i 2021, estynwyd y Grant Amddifadedd Disgyblion: Mynediad i ddwy flynedd ysgol ychwanegol ar gyfer ysgolion cynradd a thair blynedd ychwanegol ar gyfer ysgolion uwchradd.

Prydau ysgol am ddim  

  • Darparwyd £11 miliwn i awdurdodau lleol roi mesurau ar waith i sicrhau bod plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i elwa ar y ddarpariaeth yn ystod gwyliau’r ysgol hyd at a chan gynnwys Pasg 2021 - dyrannwyd £700K o'r arian hwn i gefnogi colegau gyda'r ddarpariaeth gyfatebol ar gyfer dysgwyr cymwys.
  • Darparwyd cyllid ychwanegol o £23m i sicrhau bod darpariaeth prydau ysgol am ddim ar gael yn ystod gwyliau'r ysgol yn ystod blwyddyn ariannol 2021 i 2022.
  • O fis Ionawr 2021, rhoddwyd cyfle i awdurdodau lleol hawlio cyllid i ddarparu lwfans brecwast ychwanegol i ddisgyblion blwyddyn 7 sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae Llywodraeth Cymru'n cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fonitro'r nifer sy'n manteisio ar y lwfans.

Tlodi Mislif

  • Dyrannwyd dros £3.3m ar gyfer 2021 i 2022 i sicrhau bod cynhyrchion mislif rhad ac am ddim ar gael i bawb sydd eu hangen mewn ysgolion, colegau a chymunedau ledled Cymru. Mae'r cyllid yn parhau ar yr un lefel â blynyddoedd blaenorol, gan ddangos ein hymrwymiad parhaus i fynd i'r afael ag urddas mislif a thlodi mislif.

Canllawiau Fframwaith Ysgol Gyfan

  • Lansiwyd fframwaith ar sefydlu dull gweithredu ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol.
  • Bwriad y Fframwaith yw cefnogi ysgolion, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion a lleoliadau addysg, wrth adolygu eu gweithdrefnau llesiant a datblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'u gwendidau ac adeiladu ar eu cryfderau.

Amcan 3: Ymdrinnir â chost a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc

Cynllun peilot Fflecsi

  • Estynnwyd y cynllun peilot Fflecsi yn Sir Benfro, Conwy, Blaenau Gwent a Chasnewydd - mae'r cynllun yn darparu gwasanaeth bws lleol sy'n ymateb i'r galw i alluogi mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Mae dros 42,000 o deithiau wedi'u gwneud ar wasanaethau Fflecsi ledled Cymru. Mae'r rhan fwyaf o deithwyr yn archebu eu teithiau drwy ddefnyddio’r ap digidol.

Amcan 4: Mae teuluoedd yng Nghymru yn cael cymorth i fod yn ariannol gadarn

Y Gronfa Gynghori Sengl

  • Yn ystod 2020/21, helpodd gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl dros 127,000 o bobl i ddelio â 286,666 o broblemau lles cymdeithasol. (Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Gynghori Sengl i annog gwell cydweithio ymysg darparwyr cyngor a sicrhau bod mwy o bobl ledled Cymru yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt).
  • Mae gwasanaethau cynghori yn amhrisiadwy o ran helpu pobl drwy'r system fudd-daliadau i ddeall yr hyn y gallent fod â hawl iddo a sut i'w hawlio. Fe wnaeth y gwasanaethau cynghori ar fudd-daliadau a ddarperir drwy'r Gronfa Gynghori Sengl gefnogi pobl i gael incwm ychwanegol o dros £43 miliwn.

Undebau credyd

  • Er mwyn meithrin gwydnwch ariannol, dyfarnwyd £2.5m i undebau credyd yn 2020 i 2021 i ddarparu credyd teg a fforddiadwy a chynlluniau arbedion cyflogres yn seiliedig ar waith.

Tlodi Bwyd

  • Darparwyd £2m o gyllid Pontio'r Undeb Ewropeaidd i awdurdodau lleol i gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol i gyrraedd mwy o bobl, adeiladu eu gwydnwch a dysgu gwersi yn sgil pandemig Covid-19. Fe wnaeth  yr arian helpu nifer gynyddol o bobl sy'n wynebu tlodi bwyd drwy gryfhau mentrau bwyd cymunedol ar draws ardaloedd gan gynnwys canolbwyntio ar weithgarwch sy'n helpu i fynd i'r afael â’r achosion sydd wrth wraidd tlodi bwyd.
  • Defnyddiwyd cyllid i ddarparu cymorth arbenigol ar gyfer mentrau fel gwaith allgymorth, hyfforddiant i wirfoddolwyr (e.e. cymwysterau trin bwyd) ac i feithrin cydnerthedd cymunedol drwy ddatblygu canolfannau cymunedol sy'n cydleoli amrywiaeth o wasanaethau cymorth megis cyngor ar ddyledion a thai, mentrau cymdeithasol a gwasanaethau cynghori, sydd wedi'u hadeiladu o amgylch darpariaeth bwyd cymunedol fel cynlluniau newyn gwyliau, banciau bwyd a chaffis cymunedol.

Tlodi Tanwydd

  • Dechreuodd cynllun peilot cyngor ym mis Ionawr 2021 i fynd ati'n rhagweithiol i gefnogi aelwydydd incwm is i leihau cost yr ynni sydd ei angen i gynnal trefn wresogi foddhaol. Bydd yn para tan ddiwedd mis Medi 2021.
  • Mae 113 o aelwydydd yn rhan o’r peilot derbyn cyngor a chymorth ynni. Bydd yn mesur yr effaith y mae'r ymyriad yn ei gael ar aelwydydd sy'n cymryd rhan a bydd yn lleihau nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o wneud hynny.
  • Lansio’r Strategaeth Tlodi Tanwydd 2021-2035.

Y camau nesaf a’r blaenoriaethau ar gyfer y dyfofol

Rydym wedi ymrwymo i gynyddu incwm teuluoedd sy'n byw mewn tlodi i'r eithaf ac rydym yn gweithio'n gyflym i nodi pa ymyriadau ychwanegol a allai helpu i liniaru tlodi plant yng Nghymru yn y tymor hwy.

Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus byddwn yn parhau i ymgysylltu ag Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd, yn ogystal â'r trydydd sector, sefydliadau cyhoeddus a rhanddeiliaid allweddol y mae gan bob un ohonynt rôl allweddol i'w chwarae o ran lleihau tlodi plant a'r effeithiau y mae'n eu cael ar iechyd a lles plant.

Bydd rhai o'r camau gweithredu yn y cynllun yn rhoi'r dystiolaeth a'r data sydd eu hangen arnom i lywio datblygiad polisi a strategaethau yn y maes hwn yn y dyfodol. Mae'r Senedd newydd yn rhoi cyfle i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar y canlynol:

  • cydgysylltu gweithgareddau ar draws yLlywodraeth sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â thlodi plant
  • parhau â'n gwaith gydag awdurdodau lleol, gan edrych ar welliannau pellach i ddatblygu system symlach ar gyfer sicrhau budd-daliadau datganoledig
  • parhau i leddfu'r pwysau ariannol ar deuluoedd sy'n gysylltiedig ag ysgolion
  • gweithredu Llwybr Newydd: y Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru gyda'r weledigaeth gyffredinol o gael  'system drafnidiaeth fwy hygyrch a chynaliadwy'
  • adolygu canfyddiadau cynlluniau peilot y Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm gyda golwg ar ddatblygu camau gweithredu ar gyfer y tymor hwy yn nes ymlaen yn 2021 ac wedi hynny.