Sut mae milfeddygon yn gofyn am dystysgrif wag ac enghraifft yn dangos yr wybodaeth ofynnol.
Dogfennau
Tocio cynffonnau cŵn gwaith: tystysgrif , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Manylion
Rydym yn anfon tystysgrifau at filfeddygon iddynt eu cwblhau.
Gall milfeddygon eu cael drwy gysylltu â’r tîm lles anifeiliaid
- Ffôn: 03000 251519 / 03000257901
- E-bost: companionanimalwelfare@gov.wales
Gall milfeddygon gynllunio eu tystysgrifau eu hunain, ond mae’n rhaid iddynt gydymffurfio ag Atodlen 2 o Reoliadau Tocio Cynffonnau Cŵn Gweithio (Cymru) 2007. Er mwyn helpu i sicrhau bod pawb yn gweithio mewn modd effeithiol rydym yn argymell bod milfeddygon yn archebu tystysgrifau gennym ni.
