Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru wedi cael cryn sylw mewn nifer o gyhoeddiadau adnabyddus yn y DU ac yn rhyngwladol yn ystod y misoedd diwethaf, ac ar drothwy gwyliau’r ysgol, mae Traeth y Castell yn Ninbych-y-pysgod wedi cael ei enwi'n Draeth y Flwyddyn 2019 gan y Sunday Times.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cydnabyddir mai Great British Beach Guide y Sunday Times, sydd bellach yn cael ei gyhoeddi am yr unfed flynedd ar ddeg, yw’r rhestr ddiffiniol o’n cyrchfannau glan môr. Bu’r Prif Newyddiadurwr Teithio, Chris Haslam, yn archwilio 422 o draethau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd. Iwerddon ar gyfer argraffiad 2019 o’r teithlyfr, gan gwtogi’r rhestr hir i 40 o draethau gorau Prydain, gyda Thraeth y Castell yn dod i’r brig. 

Dywedodd Chris:

“Nid dim ond y bobl hyfryd, y cyfleusterau gwych na harddwch anhygoel y lle sydd i gyfrif am ei lwyddiant. Mae yno rywbeth arall: mae’r dref glan môr hon yn un gwbl hudolus sy’n deffro’r plentyn ym mhob un ohonom. Dyna’r rhinweddau sydd i gyfrif am y ffaith bod Traeth y Castell yn bell ar y blaen ac mai ef yw Traeth y Flwyddyn y Sunday Times ar gyfer 2019.”

Ar ôl i wyth traeth lwyddo i gyrraedd y 40 uchaf, mae’n haf bendigedig i arfordir Cymru. Cyrhaeddodd Traeth Marloes a Rhosili y deg uchaf. Roedd Abermo’n rhif 12, Porth Iago yn Llŷn yn rhif 22; Bae Swanlake yn rhif 26; a Bae Tor a Mwnt yn rhif 36 a 37.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Mae'n newyddion gwych i Gymru – ar ddechrau gwyliau'r haf fel hyn – mai Traeth y Castell yn Ninbych-y-pysgod yw Traeth y Flwyddyn y Sunday Times ar gyfer 2019. Rhaid bod y dewis hwn yn un hynod anodd – o gofio bod cynifer o draethau anhygoel yng Nghymru – ac ar draws y DU hefyd. Mae hyn - ar ffaith fod yna sawl traeth arall o Gymru ymhlith y 40 uchaf yn tystio i’r cyfoeth sydd gan Gymru i'w gynnig – ac mae cael cymeradwyaeth yn y cyfryngau teithio yn y DU ac yn rhyngwladol yn ffordd hynod werthfawr o godi proffil Cymru, ac o ysgogi pobl i feddwl am Gymru mewn ffordd wahanol a, gobeithio, i ddod i ymweld â ni cyn bo hir."

Dywedodd Jane Rees-Baynes, perchennog Elm Grove Country House ger Dinbych-y-pysgod a Chadeirydd Twristiaeth Sir Benfro: 

“Dw i wrth fy modd bod Traeth y Castell yn Ninbych-y-pysgod wedi ennill y wobr nodedig hon. Mae'n newyddion gwych i dwristiaeth yn y dref, ac i Sir Benfro gyfan. Gobeithio y bydd yn annog hyd yn oed mwy o bobl o bob cwr o'r DU, a thu hwnt, i ddod i weld ein traethau arobryn ac i brofi'r hyn sydd gan Ddinbych-y-pysgod a'r sir i'w gynnig. A siarad yn bersonol, mae gennyf lu o atgofion melys am Draeth y Castell ‒ ganol haf ac yn ystod y gaeaf hefyd ‒ a galla i ddeall yn iawn pam iddo gael ei enwi'n Draeth Gorau'r DU.”

Mae'r wobr ddiweddaraf hon yn dilyn yr erthygl am y Big Trip yn y Sunday Times y mis diwethaf a oedd yn rhoi sylw i Gymru. Dyma’r tro cyntaf erioed i rywle yn y DU gael lle amlwg yn y Big Trip. Roedd y darn yn canolbwyntio ar daith 10 diwrnod sy'n mynd â'r darllenydd o Benrhyn Gŵyr yr holl ffordd i Landudno. Yn yr erthygl honno, mae'r newyddiadurwr James Stewart yn dweud bod gwlad harddaf Prydain yn llwyddo i gynnig llawer mwy na'r disgwyl o ystyried ei maint. Dywed bod Cymru wedi:

"blodeuo yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn – mae’n cynnig gwestai bach hyfryd, bwyd amheuthun a gweithgareddau anturus – gan wneud hynny heb aberthu'r enaid a oedd yn ei gwneud mor ddeniadol yn y lle cyntaf.”

Ar ôl ymweliad a drefnwyd gan Croeso Cymru, cafodd Cymru sylw hefyd mewn cyfres o 29 o dudalennau ffasiwn yn Harpers Bazaar yn yr Iseldiroedd. Ymhlith rhai o'r uchafbwyntiau eraill yr oedd erthyglau yng Nghylchgrawn Geo yn yr Almaen a oedd yn enwi Cymru'n 'Lle Delfrydol y Dydd', a sylw yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys yn y Los Angeles Times a Forbes.