Neidio i'r prif gynnwy

Nodwyd gwall yn natganiad 2021 a oedd yn dangos ffigur anghywir ar gyfer cofrestriadau cerbydau modur newydd yn Siartiau 8a ac 8b. Diweddarwyd hwn ar 4 Hydref 2023.

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd lefelau traffig yng Nghymru 12.8% yn 2021, gymharu â 2020.
  • Yn 2021 cyfanswm y traffig cerbydau modur yng Nghymru oedd 26.5 biliwn o gilometrau cerbyd (bvk). Mae hyn yn cyfateb i 8,405 o gilometrau cerbyd (5,223 o filltiroedd) y person.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r traffig (61.9%) ar brif ffyrdd (traffyrdd neu ffyrdd 'A'). Roedd y 38.1% o draffig arall ar ffyrdd bach – h.y. ffyrdd 'B' ac 'C' a ffyrdd diddosbarth.

Effaith COVID-19 ar lefelau traffig

Gostyngodd lefelau traffig yn sylweddol yn ystod 2020 yn sgil pandemig COVID-19 (gostyngiad o 23.4% o’u cymharu â 2019). Parhaodd cyfyngiadau COVID-19 effeithio ar deithio yn 2021, er dim cymaint ag yn 2020. Yn 2021, gwelwyd cynnydd o 12.8% yn lefel y traffig o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol ond mae’n parhau i fod yn is na’r lefelau cyn y pandemig.

Sut rydym yn mesur lefelau traffig

Mae lefelau traffig yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio data cyfrifiadau traffig a gesglir gan yr Adran Drafnidiaeth. Cyfunir data cyfrifiadau traffig llaw â data cyfrifyddion traffig awtomatig i gyfrifo cyfartaledd blynyddol y llif dyddiol. Cyfunir y llifoedd dyddiol hyn â darnau o ffyrdd i gyfrifo nifer y milltiroedd cerbyd a deithir bob blwyddyn yn ôl math o gerbyd, categori ffordd a rhanbarth.  Yn y datganiad hwn, fe’u cyflwynir fel biliwn cilometrau cerbyd (bvk).

Ceir rhagor o fanylion yn nodyn methodoleg amcangyfrifon traffig ffyrdd yr Adran Drafnidiaeth.

Tueddiadau yn nhraffig ffyrdd yng Nghymru

Mae Siart 1 yn dangos y duedd hirdymor ar gyfer lefelau traffig rhwng 1993 a 2021. Rhwng 1993 a 2019, mae lefelau’r traffig wedi cynyddu 39.0% yn gyffredinol, gan gyrraedd ei anterth o 30.7 biliwn cilometr cerbyd yn 2019.  Gwelwyd cynnydd graddol yn lefelau’r traffig hyd at 2007 a chwymp yn ystod y dirywiad economaidd yn 2008-09.  Ers 2012, gwelwyd cynnydd eto yn lefelau’r traffig cyn gostyngiad sylweddol yn 2020 o ganlyniad i gyfyngiadau teithio’r coronafeirws (COVID-19).  Yn 2021, mae lefelau traffig wedi cynyddu 12.8% i 26.5bvk o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Image
Yn 2021 cyfanswm y traffig cerbydau modur yng Nghymru oedd 26.5 biliwn o gilometrau cerbyd (bvk).

Cyfanswm traffig yn ôl dosbarthiad ffyrdd a blwyddyn (StatsCymru)

Er bod gostyngiad sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau teithio eang yn 2020, mae amrywiaeth o ffactorau eraill yn gallu dylanwadu ar lefel y traffig. Er enghraifft: gall newidiadau yn y farchnad lafur (cyflogaeth/diweithdra, gweithio o bell neu weithio gartref) arwain at ostwng y traffig cymudo; mae'n bosibl y bydd prisiau tanwydd uwch yn peri i yrwyr newid i ddulliau eraill o drafnidiaeth, neu osgoi teithiau diangen; gall cynnydd neu ostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynd ar wyliau ar Ynysoedd Prydain – sy'n gysylltiedig â phunt gref neu wan – gael effeithiau cyfatebol ar draffig.

Traffig yn ôl dosbarthiad ffordd

Roedd prif ffyrdd yn cyfrif am 62% o gyfanswm y traffig yng Nghymru yn 2021, ac roedd ffyrdd llai yn cyfrif am 38%. Yn fras, mae’r ffigyrau hyn wedi bod yn debyg yn ystod y 26 o flynyddoedd diwethaf. Ers 1993, mae lefelau traffig ar brif ffyrdd wedi cynyddu 20.7% ac 18.7% ar ffyrdd llai, Siart 2.

Cynyddodd lefelau traffig ar brif ffyrdd 14.7% yn 2021, a chynyddodd traffig ar ffyrdd llai 9.8% o’u cymharu â 2020.

Image
Roedd prif ffyrdd yn cyfrif am 62% o gyfanswm y traffig yng Nghymru yn 2021, ac roedd ffyrdd llai yn cyfrif am 38%.

Cyfanswm traffig yn ôl dosbarthiad ffyrdd a blwyddyn (StatsCymru)

Traffyrdd a ffyrdd A yw priffyrdd (ffyrdd sy’n darparu cysylltiadau trafnidiaeth ar raddfa fawr o fewn a rhwng ardaloedd).  Rhennir ffyrdd A yn ‘gefnffyrdd A’ (rhan o rwydwaith ffyrdd strategol sy’n eiddo i’r llywodraeth ac yn cael ei rheoli ar ei rhan) a ‘ffyrdd sirol A’ (pob ffordd ‘A’ arall). Mae Siart 3 isod yn dangos y newidiadau i lefel y traffig ar gyfer y tri chategori o briffyrdd ers 1993. Mae ffyrdd sirol yn cyfrif am lefelau uwch o draffig na chefnffyrdd A a thraffyrdd – er y bu cynnydd uwch yn lefel y traffig ar gefnffyrdd yn y blynyddoedd diwethaf.

Roedd lefel y traffig yn 2021 wedi cynyddu ar yr holl ffyrdd o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn traffig ar gefnffyrdd A o’i gymharu â 2020 (18.9%), wedyn traffyrdd (14.3%), ac wedyn ffyrdd sirol A (12.8%).

Image
Yn 2021, gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn traffig ar gefnffordd A o'i gymharu â 2020 (18.9%), yna traffyrdd (14.3%), ac wedyn ffyrdd sirol A (12.8%).

Cyfanswm traffig yn ôl dosbarthiad ffyrdd a blwyddyn (StatsCymru)

Er mwyn rhoi cyd-destun ar gyfer y ffigurau hyn, hyd y draffordd yng Nghymru yw 135 km, hyd y rhwydwaith cefnffyrdd yw 1,576 km, hyd yr holl ffyrdd sirol yw 2,773 km a hyd yr holl ffyrdd categori B, C a ffyrdd bach yw 30,625 km. Mae Siart 4 yn dangos, er bod ffyrdd B, C a mân ffyrdd yn cyfrif am yr hyd fwyaf o ffyrdd (km) yng Nghymru, bod traffyrdd yn cyfrif am y cyfaint traffig uchaf (km a deithiwyd) fesul km o'r ffordd.

Image
Mae Siart 4 yn dangos, gan ystyried hydoedd ffyrdd gwahanol a lefelau traffig, fod lefel y traffig fesul cilometr o ffordd yn llawer uwch ar draffyrdd o gymharu â'r dosbarthiadau ffordd eraill. Sylwer: Mae gwybodaeth am hyd ffyrdd yn seiliedig ar ddata 2021.

Cyfanswm traffig yn ôl dosbarthiad ffyrdd a blwyddyn (StatsCymru)

Lefel y traffig yn ôl math o gerbyd a dosbarthiad ffordd

Dangosir cyfrannau llif y traffig fesul math o gerbyd yn Siart 5A a Siart 5B. Mae ceir a thacsis (20bvk) a faniau (5bvk) yn cyfrif am 75.1% o gyfanswm lefel y traffig cerbydau modur yn 2021.

Image
Roedd ceir a thacsis yn cyfrif am y gyfran fwyaf, sef 75.0%, wedi'u dilyn gan faniau a oedd yn cyfrif am 19.0% o lefel y traffig.

Traffig ffyrdd yn ôl y dosbarthiad ffyrdd a math o gerbyd (StatsCymru)

Image
Yn 2021 gostyngodd traffig beiciau pedal 17.6% o’i gymharu â 2020.

Traffig ffyrdd yn ôl math o gerbyd a blwyddyn (StatsCymru)

Ceir a thacsis oedd y prif gategori ar bob dosbarthiad ffordd yn 2021, gan gyfrif am 20 bvk (75.1% o draffig cerbydau modur), ac wedyn faniau ysgafn yn 5 bvk (19.2%) a cherbydau nwyddau trwm yn 1.1bvk (4.2%).

Traffig ffyrdd yn ôl y dosbarthiad ffyrdd a math o gerbyd (StatsCymru)

Traffig fesul rhanbarth economaidd ac awdurdod lleol

Heb gynnwys cefnffyrdd (Rhan o’r rhwydwaith ffyrdd strategol sy’n berchen i’r Llywodraeth ac yn cael ei gweithredu ganddi), Mae De-ddwyrain Cymru yn cyfrif am y gyfran uchaf o'r holl draffig yng Nghymru (50.1%) gyda Gogledd Cymru yn cyfrif am y gyfran isaf (21.3%)  (Siart 6). Mae'r gwasgariad hwn yn gyson dros amser ac mae'n adlewyrchu’n fras lle mae poblogaeth Cymru yn byw ac yn gweithio.

Image
Mae De-ddwyrain Cymru yn cyfrif am y gyfran uchaf o'r holl draffig yng Nghymru (50.0%).

Traffig ffyrdd yn ôl Awdurdodau Lleol a blwyddyn (StatsCymru)

Mae Siart 7 dangos lefel traffig amcangyfrifedig ar gyfer 22 awdurdod lleol Cymru yn 2021, o’i gymharu â 2020.

  • Gwelwyd y lefelau uchaf o draffig cerbydau modur yng Nghaerdydd, Rhondda Cynon Taf, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Gyda'i gilydd roedd y lefelau traffig yn yr ardaloedd hyn yn 34.1% o gyfanswm y traffig yng Nghymru.
  • Gwelwyd y lefelau isaf o draffig cerbydau modur yn Nhorfaen, Merthyr Tydfil, Blaenau Gwent ac ar Ynys Môn. Gyda'i gilydd roedd y lefelau traffig yn yr ardaloedd hyn yn 7.8% yn unig o gyfanswm y traffig yng Nghymru.
  • O’r 22 awdurdod lleol, Caerdydd a gofrestrodd y lefel traffig uchaf yn 2021 ar 3bvk, a oedd 11.1% yn is na 2020. Ar y cyfan, mae’r ffigurau hyn yn adlewyrchu lle mae pobl yn byw a gweithio yng Nghymru.
Image
O'r holl 22 awdurdod lleol, Caerdydd oedd yr uchaf gyda 3.0 biliwn o gilometrau cerbyd.

Traffig ffyrdd yn ôl awdurdod lleol a dosbarthiad ffyrdd (StatsCymru)

Cofrestriadau newydd a cherbydau trwyddedig

Nodyn diwygio

Nodwyd gwall yn natganiad 2021 a oedd yn dangos ffigur anghywir ar gyfer cofrestriadau cerbydau modur newydd yn Siartiau 8a ac 8b. Diweddarwyd hwn ar 4 Hydref 2023.

Mae Siart 8a yn dangos bod cofrestriadau cerbydau newydd yng Nghymru ers 2002 ar eu huchaf yn 2004 ac wedyn bu tuedd ar i lawr tan 2011. Wedyn bu tuedd ar i fyny, gan gyrraedd 115,000 yn 2016 cyn gostwng unwaith eto. Yn 2021 cofrestrwyd 86,600(d) o gerbydau newydd, cynnydd o 3.3%(d) (3,000(d)) o’i gymharu â 2020.

Image
Yn 2021 cynyddodd nifer y cerbydau newydd a gafodd eu cofrestru 37.1% (30,000) o’u cymharu i 2020 i 111,000.

Cofrestru cerbydau modur newydd yn ôl math o gerbyd a blwyddyn (StatsCymru)

Bu cynnydd o 3.3%(d) yn nifer y cerbydau a gafodd eu cofrestru yn 2021 o’i gymharu â 2020. Cofrestriadau cerbyd nwyddau ysgafn cynyddodd y mwyaf (cynnydd o 31.4%(d)), ac yna cerbydau nwyddau trwm (16.9%(d)) a beiciau modur (11.8%(d)).

Mae'r rhagolygon tymor hir ar gyfer cerbydau ac eithrio car yn amrywiol (Siart 8b). Rhwng 2007 a 2009 gostyngodd nifer y faniau newydd a gafodd eu cofrestru yn sydyn. Er y gwelwyd cynnydd ers hynny ar y cyfan, mae’r ffigyrau yn dal i fod gryn dipyn o dan y lefelau uchaf.

Image
Roedd cynnydd o 37.1% yng nghofrestriadau cerbydau yn 2021 o'i gymharu â 2020.

Cofrestru cerbydau modur newydd yn ôl math o gerbyd a blwyddyn (StatsCymru)

Mae Siart 8c yn dangos nifer y ceir a phob cerbyd sydd wedi’u trwyddedu yng Nghymru ers 2010. Mae'r duedd ar gyfer ceir a phob cerbyd dros amser yn debyg. Yn 2021 bu cynnydd bach o 0.6% yn nifer y ceir trwyddedig i 1.6 miliwn, gyda nifer yr holl gerbydau’n codi 1.5% i 2.0 miliwn.

Image
Yn 2021 bu cynnydd bach o 0.6% yn nifer y ceir trwyddedig i 1.6 miliwn, gyda nifer yr holl gerbydau’n codi 1.5% i 2.0 miliwn.

Cofrestru cerbydau modur newydd yn ôl math o gerbyd a blwyddyn (StatsCymru)

Nodiadau

Y Cyd-destun

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Mae'r Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu ystadegau traffig sy'n rhoi amcangyfrifon o'r milltiroedd a deithir bob blwyddyn ym Mhrydain Fawr, yn ôl math o gerbyd, categori o ffordd a rhanbarth:

Mae Transport Scotland yn cynhyrchu cyhoeddiad o'r enw ‘Transport and Travel in Scotland’ sy'n cynnwys gwybodaeth am gerbydau, traffig a gyrru.

Ffynhonnell data

Mae Amcangyfrifon traffig ar y ffyrdd ar gyfer Cymru yn cael eu paratoi gan yr Adran Drafnidiaeth ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar y cyfrifiadau traffig â llaw sy'n cael eu cynnal wrth ochr y ffordd ledled Cymru yn ystod pob blwyddyn a’r data cyfrifiadau traffig awtomatig, sy’n cael eu cyfuno gyda ffigyrau hydoedd ffyrdd i gynhyrchu amcangyfrifon traffig cyffredinol.

Diffiniadau

Cynnwys

Mae'r amcangyfrifon traffig ar gyfer pob prif ffordd yn seiliedig ar gyfrifiad o bob ffordd o'r fath, ond mae amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd bach yn cael eu cynhyrchu drwy gyfrifo cyfraddau tyfu o sampl benodol o fannau ar y rhwydwaith ffyrdd bach. Mae rhagor o fanylion ynglŷn â'r fethodoleg ar gael gan yr Adran Drafnidiaeth.

Lefel y traffig

Mae lefelau traffig yn cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio cyfrif data sy’n cael eu casglu gan yr Adran Drafnidiaeth.  Caiff data o gyfrif traffig â llaw eu cyfuno gyda data o’r cyfrifyddion traffig awtomatig i gyfrifo cyfartaledd blynyddol y llif bob dydd.  Caiff y llif dyddiol hwn ei gyfuno gyda hyd y ffyrdd i gyfrifo nifer y milltiroedd cerbyd sy’n cael eu teithio pob blwyddyn yn ôl math y cerbyd, categori y ffordd a’r rhanbarth.  Yn y datganiad hwn mae’r amcangyfrifon yn cael eu cyflwyno fel biliwn o gilomedrau cerbyd.

Math o gerbyd

Beiciau pedal

Mae hyn yn cynnwys pob beic heb fodur.

Beiciau modur

Cerbydau modur dwy olwyn, gan gynnwys mopeds, sgwteri modur a chyfuniadau.

Ceir a thacsis

Mae hyn yn cynnwys ceir stad, pob fan ysgafn â ffenestri y tu ôl i sedd y gyrrwr, cerbydau teithwyr â naw sedd neu lai, ceir tair olwyn, cerbydau â modur i bobl anabl, Land Rovers, Range Rovers and Jîps. Ystyrir mai un cerbyd yw ceir sy'n tynnu carafanau neu drelars.

Bysiau a choetsys

Mae hyn yn cynnwys pob cerbyd gwasanaethau cyhoeddus a bysiau gwaith ar wahân i gerbydau â llai na deg sedd.

Faniau ysgafn

Pob cerbyd nwyddau hyd at bwysau cerbyd gros o 3,500kg. Mae hyn yn cynnwys pob fan sy'n seiliedig ar fodel o gar a'r rhai yn y categori cludo uwch fel faniau transit. Mae hefyd yn cynnwys ambiwlansys, faniau picyp, faniau llaeth neu gerbydau modur a reolir gan gerddwyr. Mae'r rhan fwyaf o'r cerbydau yn y grŵp hwn yn faniau dosbarthu o ryw fath neu ei gilydd.

Cerbydau nwyddau (HGVs)

Pob cerbyd nwyddau dros bwysau cerbyd gros o 3,500kg. Mae hyn yn cynnwys tractorau (heb drelars), rholwyr ffyrdd, faniau bocs a faniau mawr tebyg. Mae uned tractor modur dwy echel heb drelar yn cael ei chynnwys hefyd.

Pob cerbyd modur

Pob cerbyd ar wahân i feiciau pedal.

Dosbarthiadau ffyrdd

Mae pob ffordd ag arwyneb yn cael ei chynnwys yn yr amcangyfrifon.

Prif ffyrdd
Traffyrdd

Ffyrdd deuol sy’n cael eu cynllunio ar gyfer traffig cyflym gan gerbydau modur yn unig, gydag ychydig o leoedd i ymuno â’r draffordd neu ei gadael.  Yr unig draffordd yng Nghymru yw yr M4.

Prif ffyrdd

Rhan o’r rhwydwaith ffyrdd strategol sy’n berchen i’r Llywodraeth ac yn cael ei gweithredu ganddi.

Ffyrdd sirol

Pob ffordd A arall.

Mae amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd A ar gael hefyd gyda is-gategorïau ar gyfer ffyrdd trefol a gwledig ar StatsCymru.  Ffyrdd trefol yw’r rhai hynny o fewn ffiniau setliadau gyda phoblogaeth o 10,000 neu fwy, a ffyrdd gwledig yw pob prif ffordd arall sydd ddim yn draffordd.

Ffyrdd llai
Ffyrdd B

Ffyrdd sydd â’r bwriad o gysylltu gwahanol ardaloedd, a bwydo traffig rhwng ffyrdd A a ffyrdd llai ar y rhwydwaith.

Ffyrdd dosbarthiadol heb rif

Ffyrdd llai â'r nod o gysylltu ffyrdd diddosbarth â ffyrdd A a B, sydd yn aml yn cysylltu ystad tai neu bentref â gweddill y rhwydwaith. Maent yn debyg i 'is-ffyrdd' ar fap Arolwg Ordnans, ac weithiau cyfeirir atynt yn answyddogol fel ffyrdd C.

Ffyrdd annosbarthedig

Ffyrdd lleol sydd ar gyfer traffig lleol.  Mae mwyafrif llethol y ffyrdd yn syrthio o fewn y categori hwn.

Gwybodaeth ansawdd

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn i arwain y llywodraeth, y cyfryngau a'r gymdeithas ac maent yn cael eu defnyddio'n fewnol ar gyfer llunio a monitro polisïau. Nid oes unrhyw ffynonellau data cynhwysfawr eraill i alluogi cynhyrchu ystadegau traffig ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr.  Dyma rai o'r ffyrdd mae'r data'n cael eu defnyddio: Mae dangosyddion Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru yn cynnwys y data hyn ar lif traffig. Mae'r dangosyddion hyn yn mesur y newid i lifoedd traffig ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd ac ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol unigol.

  • Bydd y data hyn hefyd yn cael eu defnyddio'n rhan o'r cyfrifiadau i ateb unrhyw geisiadau am wybodaeth am y gyfradd anafusion yn ôl lefel y traffig ar rannau gwahanol o ffyrdd.
  • Mae gwybodaeth am allyriadau CO2 cenedlaethol a lleol sy'n gysylltiedig â thraffig yn defnyddio'n amcangyfrifon hyn o lifoedd traffig.

Cywirdeb

Mae'r amcangyfrifon o draffig ar y ffyrdd yn seiliedig ar ganlyniadau'r cyfrifiadau â llaw 12 awr sy'n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, sy'n cael eu grosio i amcangyfrifon o gyfartaledd blynyddol llifoedd bob dydd gan ddefnyddio ffactorau ehangu sy'n seiliedig ar ddata o gyfrifiadau traffig awtomatig ar ffyrdd tebyg. Mae angen y cyfartaleddau hyn er mwyn ystyried traffig ar adegau tawel, ar y penwythnos ac yn yr haf a'r gaeaf (pan fydd cyfrifiadau arbennig yn unig yn cael eu cynnal) wrth asesu'r traffig ar bob safle.  Mae'r Adran Drafnidiaeth bellach yn rhannu'r mathau o ffyrdd yn 22 grŵp (dim ond 7 a fu yn flaenorol). Mae hyn yn gwneud cymharu lleoliadau cyfrifiadau â llaw a lleoliadau cyfrifiadau awtomatig yn haws. Roedd y grwpiau hyn yn seiliedig ar ddadansoddiadau manwl o’r canlyniadau o holl leoliadau’r cyfrifiadau awtomatig unigol, ac maent yn ystyried grwpiau rhanbarthol, categorïau ffyrdd (h.y. dosbarthiad trefol/gwledig a chategori'r ffordd), a lefelau llif y traffig. 

Mae amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd bach yn cael eu cyfrifo’n wahanol i brif ffyrdd. Oherwydd nifer fawr y ffyrdd bach, nid yw'n bosibl cyfrif pob un ohonynt – yn hytrach mae sampl gynrychiadol o ffyrdd bach yn cael eu cyfrif bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol y bydd yr amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd bach yn llai cywir nag ar gyfer prif ffyrdd.

Mae data ar gofrestriadau cerbydau modur yn cael eu casglu gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a'u cyhoeddi gan yr Adran Drafnidiaeth. Ystyrir bod cronfa ddata'r DVLA bron â bod yn gyflawn o ran nifer y cerbydau sydd wedi'u cofrestru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth amcangyfrifon traffig ar y ffyrdd ar gyfer Prydain Fawr yn 2020 ar 28 Ebrill 2021.  Mae ein datganiad yn defnyddio data yn y cyhoeddiad hwn ac mae fel arfer yn dilyn oddeutu tri mis yn ddiweddarach.

Diwygiad

Mae'r tîm ystadegau traffig ffyrdd (Adran Drafnidiaeth y DU) yn cynnal ymarfer meincnodi traffig ar gyfer ffyrdd bach tua phob 10 mlynedd, gyda'r nod o wella cywirdeb amcangyfrifon traffig ar gyfer ffyrdd bach. Cynhaliwyd yr ymarfer hwn yn 2020 (a chafodd ei gynnwys yn ein cyhoeddiad ym mis Hydref 2020) ac roedd yn cynnwys diwygiadau i'r amcangyfrifon traffig ar gyfer ffyrdd bach ar gyfer 2010 i 2018. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymarfer meincnodi ffyrdd bach, cyfeiriwch at ddogfennaeth ymarfer 2019.

Hygyrchedd ac eglurder

Hysbysir am y bwletin ystadegol hwn ymlaen llaw ac mae wedyn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil. Bydd data traffig ffyrdd ar gyfer Cymru cael eu hychwanegu at wefan StatsCymru.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae’r ystadegau sy’n cael eu cyflwyno yma o gasgliad data yr Adran Drafnidiaeth ac mae’n bosibl eu cymharu a’u cyfuno gyda’r amcangyfrifon ar gyfer Prydain Fawr.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan nodi eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth i'r cyhoedd.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Cenedlaethol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau yn bodloni'r safonau uchaf a ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus. Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror 2011 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer

Ers yr adolygiad diwethaf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol: 

  • Wedi mireinio ac ychwanegu at wybodaeth am agweddau ar ansawdd ac wedi disgrifio cysylltiadau â pholisïau.
  • Wedi gwella ein dealltwriaeth o'r amryw ffynonellau data a'r fethodoleg y tu ôl iddynt, gan gynnwys eu cryfderau a'u cyfyngiadau.
  • Wedi ychwanegu ffynonellau data perthnasol newydd i roi trosolwg ehangach o'r pwnc.

Wedi gwella deunyddiau gweledol drwy dacluso a safoni siartiau a thablau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau disgwyliedig ar gyfer Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu nad yw'r ystadegau hyn yn parhau i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir tynnu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a'i roi yn ôl pan fydd safonau'n cael eu cyrraedd unwaith eto.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y cyhoeddiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol i'w defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer eu hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn sydd i’w anfon mewn e-bost at ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SB 36/2022