Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau allweddol

  • Cynyddodd lefelau traffig ffyrdd yng Nghymru 10.2% o gymharu â'r flwyddyn gynt, i 29.2bvk, ond roedd dal tua  5% yn is na'r lefelau cyn y pandemig (30.7 biliwn o gilometrau cerbyd (BVK) yn 2019).
  • Yn 2022, cyfanswm y traffig cerbydau modur yng Nghymru oedd 29.2 biliwn o gilometrau cerbyd (bvk). Mae hyn yn cyfateb i 9,403 o gilometrau cerbyd (5,755 o filltiroedd) y person.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r traffig (63%) ar brif ffyrdd (traffyrdd neu ffyrdd 'A'). Roedd y 37% o draffig arall ar is-ffyrdd – h.y. ffyrdd 'B' ac 'C' a ffyrdd diddosbarth.

Sut rydym yn mesur lefelau traffig

Mae lefelau traffig yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio data cyfrifiadau traffig a gesglir gan yr Adran Drafnidiaeth. Cyfunir data cyfrifiadau traffig llaw â data cyfrifyddion traffig awtomatig i gyfrifo cyfartaledd blynyddol y llifau dyddiol. Cyfunir y llifau dyddiol hyn â darnau o ffyrdd i gyfrifo nifer y milltiroedd cerbyd a deithir bob blwyddyn yn ôl math o gerbyd, categori o ffordd a rhanbarth.  Yn y datganiad hwn, fe’u cyflwynir far ffurf biliwn o gilometrau cerbyd (bvk).

Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn nodyn yr Adran Drafnidiaeth ar fethodoleg amcangyfrifon traffig ffyrdd (Adran Drafnidiaeth).

Tueddiadau o ran traffig ar y ffyrdd yng Nghymru

Mae Ffigur 1 yn dangos y duedd hirdymor ar gyfer lefelau traffig rhwng 1993 a 2021. Rhwng 1993 a 2019, mae lefelau’r traffig wedi cynyddu 39.0% yn gyffredinol, gan gyrraedd ei anterth o 30.7 biliwn cilometr cerbyd yn 2019. Gwelwyd cynnydd graddol yn lefelau’r traffig hyd at 2007 a chwymp yn ystod y dirywiad economaidd yn 2008-09. Ers 2012, gwelwyd cynnydd eto yn lefelau’r traffig cyn gostyngiad sylweddol yn 2020 o ganlyniad i gyfyngiadau teithio’r coronafeirws (COVID-19).  Yn 2022, mae lefelau traffig wedi cynyddu 10.2% i 29.2bvk o’u cymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Ffigur 1: Lefelau traffig yng Nghymru rhwng 1993 a 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos y duedd o ran lefelau traffig yng Nghymru dros amser. Yn 2022, roedd cyfanswm y traffig modurol yng Nghymru yn 29.2 biliwn o gilometrau cerbyd (bvk). Mae hynny'n cyfateb i 9,403 o gilometrau cerbyd (5,755 o filltiroedd) y person.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata am lifau dyddiol cyfartalog blynyddol (AADF).

Mae amrywiaeth o ffactorau eraill yn gallu dylanwadu ar lefel y traffig. Er enghraifft: gall newidiadau yn y farchnad lafur (cyflogaeth/diweithdra, gweithio o bell neu weithio gartref) arwain at ostwng y traffig cymudo; mae'n bosibl y bydd prisiau tanwydd uwch yn peri i yrwyr newid i ddulliau eraill o drafnidiaeth, neu osgoi teithiau diangen; gall cynnydd neu ostyngiad yn nifer y bobl sy'n mynd ar wyliau ar Ynysoedd Prydain – sy'n gysylltiedig â phunt gref neu wan – gael effeithiau cyfatebol ar draffig. Gwelwyd gostyngiad mawr yn lefelau’r traffig yn ystod 2020 oherwydd y pandemig COVID-19. Parhaodd cyfyngiadau COVID-19 i effeithio ar deithio yn 2021, ond i raddau llai.

Traffig yn ôl dosbarth y ffordd

Roedd prif ffyrdd yn cyfrif am 63% o gyfanswm y traffig yng Nghymru yn 2022, ac roedd ffyrdd llai yn cyfrif am 37%. Yn fras, mae’r ffigyrau hyn wedi bod yn debyg yn ystod y 35.3 o flynyddoedd diwethaf. Ers 1993, mae lefelau traffig ar brif ffyrdd wedi cynyddu 20.7% ac 27.1% ar is-ffyrdd, Ffigur 2.

Cynyddodd lefelau traffig 12.2% ar brif ffyrdd yn 2022, a chynyddodd traffig 6.9% ar is-ffyrdd, o’u cymharu â’r flwyddyn gynt.

Ffigur 2: Lefelau traffig yn ôl y prif fathau o ffyrdd yng Nghymru rhwng 1993 a 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart linell sy'n dangos y duedd o ran lefelau traffig yn ôl y prif fathau o ffyrdd dros amser. Yn 2022 prif ffyrdd oedd i gyfrif am 63% o gyfanswm y lefelau traffig yng Nghymru.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata am lifau dyddiol cyfartalog blynyddol (AADF)

Lefelau traffig ar y ffyrdd yn ôl dosbarthiad y ffordd ac yn ôl blwyddyn (StatsCymru)

Traffyrdd a ffyrdd A yw priffyrdd (ffyrdd sy’n darparu cysylltiadau trafnidiaeth ar raddfa fawr o fewn a rhwng ardaloedd).  Rhennir ffyrdd A yn ‘gefnffyrdd A’ (rhan o rwydwaith ffyrdd strategol sy’n eiddo i’r llywodraeth ac yn cael ei rheoli ar ei rhan) a ‘ffyrdd sirol A’ (pob ffordd ‘A’ arall). Mae Siart 3 isod yn dangos y newidiadau i lefel y traffig ar gyfer y tri chategori o briffyrdd ers 1993. Mae ffyrdd sirol yn cyfrif am lefelau uwch o draffig na chefnffyrdd A a thraffyrdd – er y bu cynnydd uwch yn lefel y traffig ar gefnffyrdd yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn 2022, ar gefnffyrdd y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn traffig (15.9%) o gymharu â 2021, wedyn traffyrdd (15.6%), ac wedyn ffyrdd sirol (7.1%).

Ffigur 3: Lefelau traffig yng Nghymru yn ôl categorïau o brif ffyrdd rhwng 1993 a 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell sy'n dangos y duedd o ran lefelau traffig yn ôl categorïau o brif ffyrdd dros amser. Yn 2022, cefnffyrdd welodd y cynnydd mwyaf (15.9%) o'i gymharu â 2021.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata am lifau dyddiol cyfartalog blynyddol (AADF)

Lefelau traffig ar y ffyrdd yn ôl dosbarthiad y ffordd ac yn ôl blwyddyn (StatsCymru)

Er mwyn helpu i roi cyd-destun i’r ffigurau hyn, hyd y draffordd yng Nghymru yw 135 km, hyd y rhwydwaith cefnffyrdd yw 1,926 km, hyd yr holl ffyrdd sirol yw 2,795 km a hyd yr holl ffyrdd categori B, C ac is-ffyrdd yw 30,667 km.

Mae Ffigur 4 yn dangos, er mai ffyrdd B, C ac is-ffyrdd sydd i gyfrif am y rhan fwyaf o hyd y ffyrdd (km) yng Nghymru, mai traffyrdd sydd i gyfrif am y lefelau uchaf o draffig (km a deithiwyd) fesul cilometr o ffordd.

Ffigur 4: Hyd y ffyrdd a lefelau traffig cerbydau modur yng Nghymru yn 2020 yn ôl dosbarth o ffordd, Cymru, 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae Ffigur 4 yn dangos, ar ôl ystyried y gwahaniaeth o ran hyd y ffyrdd ac o ran lefelau’r traffig, fod lefel y traffig fesul cilometr o ffordd yn uwch o lawer ar draffyrdd o'i chymharu â'r dosbarthiadau eraill o ffyrdd.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata am lifau dyddiol cyfartalog blynyddol (AADF)

Lefelau traffig ar y ffyrdd yn ôl dosbarthiad y ffordd ac yn ôl blwyddyn (StatsCymru)

Traffig yn ôl math o gerbyd a dosbarth y ffordd

Mae Ffigur 5A a Ffigur 5B yn dangos cyfrannau llif y traffig yn ôl y math o gerbyd. Mae ceir a thacsis (22.2bvk) a cherbydau nwyddau ysgafn (5.5 bvk) yn cyfrif am 76% o gyfanswm lefel y traffig cerbydau modur yn 2022.

Ffigur 5a: Lefelau traffig ar y ffyrdd yng Nghymru yn 2022 yn ôl math o gerbyd

Image

Disgrifiad o Ffigur 5a: Siart golofn sy'n dangos lefelau traffig ar y ffyrdd, yn ôl math o gerbyd, yn 2022. Ceir a thacsis oedd i gyfrif am y gyfran fwyaf, 76%.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata am lifau dyddiol cyfartalog blynyddol (AADF)

Lefelau traffig ar y ffyrdd yn ôl math o gerbyd ac yn ôl blwyddyn (StatsCymru)

Ceir a thacsis oedd y prif gategori ar traffig ffyrdd o bob dosbarth yn 2022, gan gyfrif am 22.2bvk (76% o draffig cerbydau modur), ac wedyn cerbydau nwyddau ysgafn ar 5.5bvk (18.8%) a cherbydau nwyddau trwm ar 1.1bvk (3.8%).

Ffigur 5b: Nifer y ceir a thacsis, Cymru, 1996 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 5b: Ffigurau llinell sy'n dangos tueddiadau o ran traffig ar y ffyrdd yn ôl math o gerbyd dros amser. Yn 2022 cynyddodd 'Ceir a thacsis' 11.6% o gymharu â 2021.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata am lifau dyddiol cyfartalog blynyddol (AADF)

Lefelau traffig ar y ffyrdd yn ôl math o gerbyd ac yn ôl blwyddyn (StatsCymru)

Ffigur 5c: Nifer yr HGVs a LGVs, Cymru, 1996 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 5c: Ffigurau llinell sy'n dangos tueddiadau o ran traffig ar y ffyrdd yn ôl math o gerbyd dros amser. Yn 2022 cynyddodd LGVs 7.8% tra nad oedd unrhyw newid mewn Cerbydau Nwyddau Trwm o gymharu â 2021

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata am lifau dyddiol cyfartalog blynyddol (AADF)

Lefelau traffig ar y ffyrdd yn ôl math o gerbyd ac yn ôl blwyddyn (StatsCymru)

Traffig yn ôl rhanbarthau economaidd ac awdurdodau lleol

Arc eithrio cefnffyrdd (rhan o’r rhwydwaith ffyrdd strategol sy’n eiddo i’r Llywodraeth ac sy’n cael ei gweithredu ganddi), De-ddwyrain Cymru oedd i gyfrif am y gyfran uchaf o'r holl draffig yng Nghymru (50.4%) a Chanolbarth Cymru oedd i gyfrif am y gyfran isaf (7.3%) (Ffigur 6). Mae'r dosraniad hwn yn parhau’n gyson dros amser ac mae'n adlewyrchu’n fras lle mae poblogaeth Cymru yn byw ac yn gweithio.

Ffigur 6: Cyfran y traffig cerbydau modur yng Nghymru yn ôl rhanbarthau economaidd yn 2022, ac eithrio cefnffyrdd [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart doesen sy'n dangos cyfran y traffig cerbydau modur yn ôl rhanbarthau economaidd yn 2022. De-ddwyrain Cymru oedd i gyfrif am y gyfran uchaf o gyfanswm y traffig yng Nghymru (50.4%).

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata am lifau dyddiol cyfartalog blynyddol (AADF)

[Nodyn 1]: Efallai na fydd y cyfanswm yn 100% oherwydd bod y ffigurau wedi'u talgrynnu.

Mae Ffigur 7 yn dangos amcangyfrif o lefelau’r traffig yn y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn 2022, o’u cymharu â lefelau 2021, ac eithrio cefnffyrdd.

  • Gwelwyd y lefelau uchaf o draffig cerbydau modur yng Nghaerdydd, Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Sir Gaerfyrddin a Chaerffili. Gyda'i gilydd, roedd lefelau’t traffig yn yr ardaloedd hynny yn 40.4% o gyfanswm y traffig yng Nghymru.
  • Gwelwyd y lefelau isaf o draffig cerbydau modur yng Ngheredigion, ar Ynys Môn, ym Mlaenau Gwent a Merthyr Tudful. Gyda'i gilydd. roedd lefelau’r traffig yn yr ardaloedd hynny yn cyfrif am 7.7% yn unig o gyfanswm y traffig yng Nghymru.

O blith y 22 o awdurdodau lleol, Caerdydd a gofrestrodd y lefelau uchaf o draffig yn 2022, sef 2.3bvk. Mae’r ffigurau hyn, yn gyffredinol, yn adlewyrchu lle mae pobl yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

Ffigur 7: Lefelau’r traffig cerbydau modur yng Nghymru yn 2021 a 2022 yn ôl awdurdod lleol, ac eithrio cefnffyrdd

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart bar sy'n dangos lefelau'r traffig cerbydau modur yn ôl awdurdod lleol yn 2022, ar gyfer pob un o'r 22 o awdurdodau lleol. Caerdydd oedd yr awdurdod lleol uchaf â 2.3 biliwn o gilometrau cerbyd.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata am lifau dyddiol cyfartalog blynyddol (AADF)

Lefelau traffig ffyrdd yn ôl awdurdod lleol ac yn ôl blwyddyn, ac eithrio cefnffyrdd (biliynau o gilometrau cerbyd) (StatsCymru)

Nifer y cerbydau newydd a gofrestrwyd a cherbydau trwyddedig

Mae Ffigur 8a yn dangos nifer y cerbydau newydd a gofrestrwyd yng Nghymru ers 2002. Roedd y niferoedd a gofrestrwyd ar eu huchaf yn 2004 a gwelwyd tuedd ar i lawr wedyn tan 2011. Wedyn, gwelwyd tuedd ar i fyny, gan gyrraedd 115,000 yn 2016 cyn gostwng unwaith eto. Yn 2022, cofrestrwyd 82,000 o gerbydau newydd, gostyngiad o 0.9% (-760) o gymharu â 2021.

Ffigur 8a: Nifer y cerbydau newydd a gofrestrwyd yng Nghymru rhwng 2002 a 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 8a: Siart linell sy’n dangos y duedd o ran nifer y cerbydau modur newydd a gofrestrwyd yng Nghymru dros amser. Yn 2022, cofrestrwyd 82,000 o gerbydau newydd, gostyngiad o 0.9%.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata am lifau dyddiol cyfartalog blynyddol (AADF)

[Nodyn 1]: Nid yw hyn yn cynnwys 'cerbydau eraill', sydd â chyrff gwahanol, ac sy'n cynnwys Cerbydau Hacni, cerbydau â chyfarpar cloddio ar y cefn, wagenni codi, rholeri, ambiwlansys, cerbydau tair olwyn, beiciau tair olwyn a cherbydau amaethyddol.

[Nodyn 2] Nodwyd bod gwall yn natganiad 2021 a oedd yn rhoi ffigur anghywir ar gyfer nifer y cerbydau modur newydd a gofrestrwyd. Mae wedi cael ei newid.

Nifer y cerbydau modur newydd a gofrestrwyd yn ôl math o gerbyd ac yn ôl  blwyddyn (StatsCymru)

O ran  nifer y cerbydau a gofrestrwyd, nifer y cerbydau nwyddau trwm a gynyddodd fwyaf (cynnydd o 14.8%), ac wedyn ceir (0.9%). Gwelwyd gostyngiadau o 7.8% a 19.1%, yn y drefn honno, yn nifer y cerbydau nwyddau ysgafn a’r bysiau a gofrestrwyd yn 2022, o gymharu â'r flwyddyn gynt.

Mae'r rhagolygon tymor hir ar gyfer cerbydau ac eithrio ceir yn amrywiol (Ffigur 8b). Rhwng 2007 a 2009, gwelwyd gostyngiad sydyn yn nifer y cerbydau nwyddau ysgafn newydd a gafodd eu cofrestru. Er bod cynnydd cyffredinol wedi’i weld ers hynny, mae’r ffigurau’n parhau gryn dipyn yn is na phan oedd y lefelau ar eu huchaf.

Ffigur 8b: Nifer y cerbydau newydd a gofrestrwyd yng Nghymru yn ôl math o gorff rhwng 2002 a 2022 (ac eithrio ceir)

Image

Disgrifiad o Ffigur 8b: Siart linell sy'n dangos y duedd o ran nifer y cerbydau modur newydd, yn ôl y math o gorff, a gofrestrwyd dros amser. Yn 2022, gwelwyd cynnydd o 14.8% yn nifer y cerbydau nwyddau trwm a gofrestrwyd.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata am lifau dyddiol cyfartalog blynyddol (AADF)

Nifer y cerbydau modur newydd a gofrestrwyd yn ôl math o gerbyd ac yn ôl blwyddyn (StatsCymru)

Figure 8c shows the number of cars and all vehicles licensed in Wales since 2010. The trend for cars and all vehicles is similar over time. In 2022, the number of licenced cars increased by 0.8% to 1.6 million while all vehicles increased by 1.3% to 2 million.

Ffigur 8c: Nifer y ceir a nifer yr holl gerbydau a gafodd eu trwyddedu yng Nghymru rhwng 2009 a 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 8c: Siart linell sy'n dangos y duedd o ran nifer y cerbydau a gofrestrwyd dros amser. Yn 2022, cynyddodd nifer y ceir trwyddedig i 1.6 miliwn a chynyddodd nifer yr holl gerbydau i 2 filiwn.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata am lifau dyddiol cyfartalog blynyddol (AADF) (StatsCymru)

Nifer y cerbydau modur newydd a gofrestrwyd yn ôl math o gerbyd ac yn ôl blwyddyn

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn i arwain y llywodraeth, y cyfryngau a'r gymdeithas ac maent yn cael eu defnyddio'n fewnol ar gyfer llunio a monitro polisïau. Nid oes unrhyw ffynonellau data cynhwysfawr eraill i alluogi cynhyrchu ystadegau traffig ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr.  Dyma rai o'r ffyrdd mae'r data'n cael eu defnyddio:

  • Mae’r data yma’n cael eu defnyddio fel mesur monitro yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru (Trafnidiaeth Cymru). Mae’r dangosydd yn mesur y newid mewn llif traffig ar gyfer Cymru gyfan ac awdurdodau lleol unigol.
  • Mae’r data yma yn cael eu defnyddio i gyfrifo’r gyfradd anafusion yn ôl lefel y traffig.
  • Mae gwybodaeth am allyriadau CO2 cenedlaethol a lleol sy'n gysylltiedig â thraffig yn defnyddio'n amcangyfrifon hyn o lifoedd traffig.

Cywirdeb

Mae’r amcangyfrifon o draffig ar y ffyrdd yn seiliedig ar ganlyniadau cyfrifiadau â llaw 12 awr a wnaed rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd, sy'n cael eu grosio i amcangyfrifon o gyfartaledd blynyddol llifoedd bob dydd gan ddefnyddio ffactorau ehangu sy'n seiliedig ar ddata o gyfrifiadau traffig awtomatig ar ffyrdd tebyg. Mae angen y cyfartaleddau hyn er mwyn ystyried traffig ar adegau tawel, ar y penwythnos ac yn yr haf a'r gaeaf (pan fydd cyfrifiadau arbennig yn unig yn cael eu cynnal) wrth asesu'r traffig ar bob safle.  Mae ffyrdd wedi'u grwpio'n 10 strata yn seiliedig ar y math o ffordd, y lleoliad, a'r AADF amcangyfrifedig.

Mae'r prif ffyrdd (traffyrdd a ffyrdd ‘A’) yn cael eu cynrychioli gan gyfres o gysylltiadau, sy'n rhannau unigryw o'r ffordd sy'n ffurfio'r rhwydwaith prif ffyrdd yn ei gyfanrwydd. Defnyddir lleoliad ar bob un o'r cysylltiadau hyn i gyfrif cerbydau. Mae maint y rhwydwaith ffyrdd yn golygu nad yw'n bosibl cyfrif traffig ar bob darn o'r ffordd bob blwyddyn, felly mae dull Cyfrifiad treigl yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prif ffyrdd. Lle na chynhaliwyd cyfrif â llaw yn y flwyddyn gyfeirio, mae ffactorau twf yn cael eu cymhwyso i AADF y flwyddyn flaenorol. Mae ffactorau twf yn cael eu cyfrifo o'r newid rhwng y flwyddyn gyfeirio a'r flwyddyn flaenorol o ddata o gyfrifyddion traffig awtomatig ar ffyrdd tebyg. Unwaith y mae AADF wedi'i gyfrifo ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf ar gyfer holl gysylltiadau'r rhwydwaith prif ffyrdd, mae'r ffigurau'n cael eu cyfuno â darnau o ffyrdd i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer faint o gilometrau cerbyd a yrrwyd yn y flwyddyn.

Mae'r amcangyfrifon ar gyfer is-ffyrdd yn cael eu cyfrifo'n wahanol i brif ffyrdd. Oherwydd y nifer mawr o is-ffyrdd, nid yw'n bosibl cyfrif pob un ohonynt, yn hytrach mae sampl gynrychioliadol o is-ffyrdd yn cael eu cyfrif bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol y bydd yr amcangyfrifon ar gyfer is-ffyrdd yn llai cywir nag ar gyfer prif ffyrdd. Defnyddir y sampl o safleoedd is-ffyrdd sy'n cael eu cyfrif bob blwyddyn i amcangyfrif y newid mewn lefelau traffig rhwng blynyddoedd. Mae'r ffigurau hyn wedyn yn cael eu cymhwyso i ffigurau traffig is-ffyrdd y flwyddyn flaenorol, yn ogystal â'r newid o ran hyd is-ffyrdd, i gyfrifo'r amcangyfrifon traffig is-ffyrdd ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf.

Mae data ar gofrestriadau cerbydau modur yn cael eu casglu gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a'u cyhoeddi gan yr Adran Drafnidiaeth. Ystyrir bod cronfa ddata'r DVLA bron â bod yn gyflawn o ran nifer y cerbydau trwyddedig.

Amseroldeb a phrydlondeb

Cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth amcangyfrifon traffig ar y ffyrdd ar gyfer Prydain Fawr yn 2022 ac ar 7 Medi 2023. Mae’n datganiad ni yn defnyddio’r data hynny am draffig ar y ffyrdd yn y cyhoeddiad hwn ac mae, fel arfer, yn dilyn rhyw dri mis yn ddiweddarach, er ein bod yn bwriadu i’r bwlch hwnnw fod yn fyrrach yn y dyfodol.

Diwygio

Mae'r Adran Drafnidiaeth yn cynnal ymarfer meincnodi traffig ar gyfer is-ffyrdd bob rhyw 10 mlynedd, a'r nod yw gwella cywirdeb yr amcangyfrifon traffig ar gyfer is-ffyrdd. Cynhaliwyd yr ymarfer hwnnw yn 2020 (a chafodd ei gynnwys yn ein cyhoeddiad ym mis Hydref 2020) ac roedd yn cynnwys diwygiadau i'r amcangyfrifon traffig ar gyfer is-ffyrdd ar gyfer 2010 i 2018. Cafodd tabl a oedd yn manylu ar y diwygiadau hynny ei gyhoeddi yn ein datganiad ystadegol ar gyfer 2020. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymarfer meincnodi is-ffyrdd, dylech gyfeirio at y dogfennau ar gyfer ymarfer 2019 (Adran Drafnidiaeth).

Hygyrchedd ac eglurder

Mae hysbysiad yn cael ei roi am y bwletin ystadegol hwn ymlaen llaw ac mae’n cael ei gyhoeddi wedyn ar y wefan Ystadegau ac Ymchwil. Mae data ar draffig ffyrdd ar gyfer Cymru yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae’r ystadegau sy’n cael eu cyflwyno yma yn dod o’r data a gesglir gan yr Adran Drafnidiaeth, gellir eu cymharu’n llawn â’r amcangyfrifon ar gyfer Prydain Fawr, ac maent yn gwbl gydlynol â nhw.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan nodi eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth i'r cyhoedd.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Cenedlaethol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau yn bodloni'r safonau uchaf a ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus. Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror 2011 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer

Ers yr adolygiad diwethaf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol: 

  • Wedi mireinio ac ychwanegu at wybodaeth am agweddau ar ansawdd ac wedi disgrifio cysylltiadau â pholisïau.
  • Wedi gwella ein dealltwriaeth o'r amryw ffynonellau data a'r fethodoleg y tu ôl iddynt, gan gynnwys eu cryfderau a'u cyfyngiadau.
  • Wedi ychwanegu ffynonellau data perthnasol newydd i roi trosolwg ehangach o'r pwnc.
  • Wedi gwella deunyddiau gweledol drwy dacluso a safoni siartiau a thablau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau disgwyliedig ar gyfer Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu nad yw'r ystadegau hyn yn parhau i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir tynnu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a'i roi yn ôl pan fydd safonau'n cael eu cyrraedd unwaith eto.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y cyhoeddiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol i'w defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer eu hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn sydd i’w anfon mewn e-bost at ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 34/2023

Image
Ystadegau Gwladol