Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar gyfer blynyddoedd blaenorol, rydym wedi cyhoeddi cyhoeddiad mwy helaeth ar ddata traffig ffyrdd ochr yn ochr â diweddaru ein set ddata StatsCymru. Oherwydd bod y data'n cael ei gyhoeddi ar wefan yr Adran Drafnidiaeth, rydym wedi lleihau'r datganiad hwn i ganolbwyntio ar y pwyntiau allweddol i Gymru ac ni fyddwn yn diweddaru set ddata StatsCymru. Byddem yn croesawu barn defnyddwyr ar y newid hwn – cysylltwch â ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru.

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd lefel y traffig ffyrdd yng Nghymru 1.3% yn 2024 o'i chymharu â 2023, i 30.2 biliwn o gilomedrau cerbyd (bvk), ond arhosodd tua 1.6% yn is na'r lefelau cyn y pandemig (30.7bvk yn 2019).
  • Yn 2024, cyfanswm lefel y traffig modur yng Nghymru oedd 30.2bvk. Mae hyn yn cyfateb i 9,544 o gilomedrau cerbyd (5,930 milltir) fesul person.
  • Roedd y rhan fwyaf o'r traffig (64.2%) ar brif ffyrdd (traffyrdd neu ffyrdd A). Roedd y traffig arall ar isffyrdd – h.y. ffyrdd B, C a ffyrdd heb eu dosbarthu.
  • Yn 2024, cynyddodd lefel y traffig 2.6% ar brif ffyrdd ac nid oedd unrhyw newid ar isffyrdd, o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Ceir a thacsis oedd y prif gategori ar bob dosbarth o ffyrdd yn 2024, gan gyfrif am 23.3bvk (77.2% o gerbydau modur), ac yna LGVs ar 5.4bvk (17.9%) a HGVs ar 1.1bvk (3.6%).
  • Yng Nghaerdydd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Caerffili a Sir Gaerfyrddin roedd y lefelau uchaf o draffig cerbydau modur. Roedd lefel gyfunol y rhain yn cynrychioli 40.5% o gyfanswm y traffig yng Nghymru.
  • Yng Ngheredigion, Ynys Môn, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful roedd y lefelau isaf o draffig cerbydau modur, gyda lefel gyfunol y rhain yn cyfrif am 7.7% yn unig o gyfanswm y traffig yng Nghymru.

Cofrestriadau newydd a cherbydau trwyddedig

  • Yn 2024 cafodd 95,000 o gerbydau newydd eu cofrestru, gostyngiad o 3.0% (3,000) o'u cymharu â 2023.
  • Yn 2024, gwelwyd y cynnydd mwyaf yn nifer y bysiau a choetsis newydd a gafodd eu cofrestru o unrhyw fath o gerbyd, cynnydd o 221 o gerbydau newydd yn 2023 i 635 yn 2024.
  • Dyma'r nifer uchaf o fysiau a choetsis i gael eu cofrestru ers 2006.
  • Cynyddodd nifer y ceir newydd a gafodd eu cofrestru 1.3%, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Gwelodd cerbydau nwyddau ysgafn y gostyngiad mwyaf, sef 18.8%, ac wedyn cerbydau eraill 10.4%, beiciau modur 5.9% a cherbydau nwyddau trwm 5.2%.

Sut rydym yn mesur lefelau traffig

Mae lefelau traffig yn cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio data cyfrifiadau traffig a gesglir gan yr Adran Drafnidiaeth (DfT). Mae data o gyfrifiadau traffig â llaw yn cael eu cyfuno â data o gyfrifyddion traffig awtomatig i amcangyfrif cyfartaledd blynyddol y llif dyddiol (AADF). Mae'r llifoedd dyddiol hyn yn cael eu cyfuno â darnau o ffyrdd i gyfrifo nifer y cilomedrau cerbyd a deithir bob blwyddyn yn ôl math o gerbyd, categori ffordd a rhanbarth. Yn y datganiad hwn, cyflwynir amcangyfrifon mewn biliynau o gilometrau cerbyd (bvk).

Mae rhagor o fanylion yn nodyn methodoleg amcangyfrifon traffig ffyrdd yr Adran Drafnidiaeth.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ystadegau Trafnidiaeth
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image