Neidio i'r prif gynnwy

Yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau hyn i arwain y llywodraeth, y cyfryngau a'r gymdeithas ac maent yn cael eu defnyddio'n fewnol ar gyfer llunio a monitro polisïau. Nid oes unrhyw ffynonellau data cynhwysfawr eraill i alluogi cynhyrchu ystadegau traffig ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr. Dyma rai o'r ffyrdd mae'r data'n cael eu defnyddio: Mae dangosyddion Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol Cymru yn cynnwys y data hyn ar lif traffig. Mae'r dangosyddion hyn yn mesur y newid i lifoedd traffig ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd ac ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol unigol.

Bydd y data hyn hefyd yn cael eu defnyddio'n rhan o'r cyfrifiadau i ateb unrhyw geisiadau am wybodaeth am y gyfradd anafusion yn ôl lefel y traffig ar rannau gwahanol o ffyrdd.

Mae gwybodaeth am allyriadau CO2 cenedlaethol a lleol sy'n gysylltiedig â thraffig yn defnyddio'n amcangyfrifon hyn o lifoedd traffig. 

Cywirdeb

Mae'r amcangyfrifon o draffig ar y ffyrdd yn seiliedig ar ganlyniadau'r cyfrifiadau â llaw 12 awr sy'n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, sy'n cael eu grosio i amcangyfrifon o gyfartaledd blynyddol llifoedd bob dydd gan ddefnyddio ffactorau ehangu sy'n seiliedig ar ddata o gyfrifiadau traffig awtomatig ar ffyrdd tebyg. Mae angen y cyfartaleddau hyn er mwyn ystyried traffig ar adegau tawel, ar y penwythnos ac yn yr haf a'r gaeaf (pan fydd cyfrifiadau arbennig yn unig yn cael eu cynnal) wrth asesu'r traffig ar bob safle.  Mae'r Adran Drafnidiaeth bellach yn rhannu'r mathau o ffyrdd yn 22 grŵp (dim ond 7 a fu yn flaenorol). Mae hyn yn gwneud cymharu lleoliadau cyfrifiadau â llaw a lleoliadau cyfrifiadau awtomatig yn haws. Roedd y grwpiau hyn yn seiliedig ar ddadansoddiadau manwl o’r canlyniadau o holl leoliadau’r cyfrifiadau awtomatig unigol, ac maent yn ystyried grwpiau rhanbarthol, categorïau ffyrdd (h.y. dosbarthiad trefol/gwledig a chategori'r ffordd), a lefelau llif y traffig.

Mae amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd bach yn cael eu cyfrifo’n wahanol i brif ffyrdd. Oherwydd nifer fawr y ffyrdd bach, nid yw'n bosibl cyfrif pob un ohonynt – yn hytrach mae sampl gynrychiadol o ffyrdd bach yn cael eu cyfrif bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu ei bod yn debygol y bydd yr amcangyfrifon ar gyfer ffyrdd bach yn llai cywir nag ar gyfer prif ffyrdd.

Mae data ar gofrestriadau cerbydau modur yn cael eu casglu gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a'u cyhoeddi gan yr Adran Drafnidiaeth. Ystyrir bod cronfa ddata'r DVLA bron â bod yn gyflawn o ran nifer y cerbydau sydd wedi'u cofrestru.
 

Amseroldeb a phrydlondeb

Cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth amcangyfrifon traffig ar y ffyrdd ar gyfer Prydain Fawr yn 2018 ar 14 Mai 2019.  Mae ein datganiad yn defnyddio data yn y cyhoeddiad hwn ac mae fel arfer yn dilyn oddeutu tri mis yn ddiweddarach.

Hygyrchedd ac eglurder

Hysbysir am y bwletin ystadegol hwn ymlaen llaw ac mae wedyn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau ac Ymchwil. Bydd data traffig ffyrdd ar gyfer Cymru cael eu hychwanegu at wefan StatsCymru.

Cymharedd a chydlyniaeth

Mae’r ystadegau sy’n cael eu cyflwyno yma o gasgliad data yr Adran Drafnidiaeth ac mae’n bosibl eu cymharu a’u cyfuno gyda’r amcangyfrifon ar gyfer Prydain Fawr.  

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan nodi eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ddibynadwyedd, ansawdd a gwerth i'r cyhoedd.

Dylai'r holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Cenedlaethol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen rheoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau yn bodloni'r safonau uchaf a ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus. Cadarnhawyd bod yr ystadegau hyn wedi cael eu dynodi'n Ystadegau Gwladol ym mis Chwefror 2011 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diwethaf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:  

  • wedi mireinio ac ychwanegu at wybodaeth am agweddau ar ansawdd ac wedi disgrifio cysylltiadau â pholisïau
  • wedi gwella ein dealltwriaeth o'r amryw ffynonellau data a'r fethodoleg y tu ôl iddynt, gan gynnwys eu cryfderau a'u cyfyngiadau
  • wedi ychwanegu ffynonellau data perthnasol newydd i roi trosolwg ehangach o'r pwnc
  • wedi gwella deunyddiau gweledol drwy dacluso a safoni siartiau a thablau
  • cynhyrchu'r datganiad diweddaraf mewn fformat syml newydd yn HTML am y tro cyntaf.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau disgwyliedig ar gyfer Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu nad yw'r ystadegau hyn yn parhau i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod yn brydlon. Gellir tynnu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a'i roi yn ôl pan fydd safonau'n cael eu cyrraedd unwaith eto.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Y rhain yw Cymru fwy cyfartal, Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, Cymru o gymunedau cydlynus a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.   O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae'n rhaid eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 dangosydd cenedlaethol eu gosod ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau yn y cyhoeddiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol i'w defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer eu hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.