Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cwrdd ag aelodau blaenllaw o sectorau’r amgylchedd ac amaethyddiaeth i drafod goblygiadau penderfyniad y DU i adael yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd arweinwyr undebau’r ffermwyr, pobl fusnes cefn gwlad a chynrychiolwyr cyrff pysgodfeydd a amgylcheddol ymhlith y rheini ddaw ynghyd ar gyfer trafodaeth ford gron yng Nghaerdydd.

Y Prif Weinidog fydd yn arwain trafodaethau Cymru â Llywodraeth y DU ynghylch amodau’r Deyrnas Unedig ar gyfer gadael yr UE. Mae’r cyfarfod heddiw’n gyfle iddo glywed barn a phryderon sectorau’r amgylchedd a materion gwledig.

Bydd Carwyn Jones a Lesley Griffiths yn tawelu meddyliau pobl ynghylch y cyfnod union wedi’r bleidlais gan addo y bydd ffermwyr a grwpiau amgylcheddol Cymru’n dal i gael eu talu o dan raglenni’r UE, gan gynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Bydd y Gweinidogion yn atgoffa’r diwydiant ffermio hefyd y bydd dal gofyn i ffermwyr gadw at reolau amgylcheddol pwysig yr UE.  

Meddai’r Prif Weinidog:

“Nid oes amheuaeth bod penderfyniad Prydain i adael yr UE wedi creu ansicrwydd i sectorau’r amgylchedd ac amaeth, yn enwedig o gofio’r lefelau arwyddocaol o arian a help y mae’r UE yn eu rhoi iddyn nhw.  n wir, o holl feysydd gwaith Llywodraeth Cymru, yr amgylchedd a materion gwledig sydd â’r cysylltiadau cryfaf â’r UE.

“Dyma pam, ers cyhoeddi canlyniadau’r refferendwm, dwi wedi bod yn frwd dros gwrdd â’r sectorau hyn.  

“Heddiw yw cam cyntaf taith hir ac ansicr, a galla i ddim addo bod gen i’r atebion i gyd. Yr hyn y galla i ei addo serch hynny yw y bydda i’n gweithio’n ddiflino i geisio addewidion gan Lywodraeth y DU na fydd Cymru ar ei cholled yn ariannol am fod y DU yn gadael yr UE.

“Gwrando fydd ein nod heddiw. Nid oes unrhyw bwnc yn waharddedig a bydda i’n sicrhau bod y safbwyntiau a godir heddiw yn cael eu gwyntyllu wrth imi negodi â Llywodraeth y DU ynghylch amseriad ac amodau ymadawiad y DU â’r UE”.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn cwrdd â ffermwyr y Gogledd yn ddiweddarach wythnos hon. Meddai:

“Rwy’n benderfynol o gwrdd ag amrywiaeth mor eang o bobl â phosib yn fy mhortffolio dros yr wythnosau i ddod.  Yn ogystal â chyfarfod heddiw, bydda i’n cwrdd â ffermwyr, pobl fusnes cefn gwlad, grwpiau amgylcheddol a llawer mwy, pob un yn teimlo effaith gadael yr UE.

“Mae Llywodraeth Cymru’n gwbl ymroddedig i weithio’n fwy clos â mudiadau amgylcheddol a’r diwydiant amaeth er mwyn iddyn nhw allu parhau i greu dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i Gymru. Rwy’n edrych ymlaen at gynllunio ffordd ymlaen gyda nhw dros yr wythnosau i ddod er mwyn inni fedru bod yn y sefyllfa orau bosib i wireddu’r amcan hwnnw.”