Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cwrdd ag aelodau blaenllaw o sectorau’r amgylchedd ac amaethyddiaeth i drafod goblygiadau penderfyniad y DU i adael yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet wedi pwysleisio bod polisi amaeth ac amgylchedd wedi’i ddatganoli’n llwyr i Gymru a bod hynny’n creu cyfle i’r sector a Llywodraeth Cymru gydweithio i lunio rhaglenni, polisïau a rheoliadau sy’n unigryw i ateb anghenion penodol Cymru. 

Mae’r Sioe Fawr yn Llanelwedd yn dod â phobl sydd â diddordeb ym mhob agwedd ar ffermio, bwyd a’r amgylchedd at ei gilydd ac yn rhoi cyfle i barhau â’r drafodaeth am ddyfodol Cymru y tu allan i’r UE.

Wrth siarad cyn y Sioe, meddai Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Perthynas Cymru â’r UE yw man cychwyn bron pob maes yn fy mhortffolio, o’r farchnad sengl a chysylltiadau masnachol, i reoliadau, cymhorthdal a buddsoddi. 

“Mae penderfyniad Prydain i adael yr UE wedi creu ansicrwydd, yn enwedig wrth inni ddisgwyl i Lywodraeth y DU gychwyn y trafod ar adael a’n perthynas ag Ewrop.  Wedi dweud hynny, hoffwn ddefnyddio’r wythnos hon i argyhoeddi’r diwydiant fy mod wedi ymroi i ddiogelu buddiannau cefn gwlad ac i ystyried pob cyfle all ddod â budd i’r sectorau ffermio, rheoli tir a bwyd. 

“Mae’r Sioe yn gyfle hefyd i ddathlu ac arddangos y diwydiant byrlymus hwn a phopeth y mae wedi’i wneud ac y gall ei wneud. 

“Yn dilyn llwyddiant Brexit, rwyf wedi gweld parodrwydd mawr yn y sector cyfan i weithio gyda’i gilydd.  Rhaid meithrin hyn i wynebu’r heriau a chydio yn y cyfleoedd y mae’r penderfyniad a’r setliad datganoli’n eu cynnig i lunio polisïau Cymreig ac i feithrin trywydd newydd gwahanol ar gyfer sectorau ffermio, bwyd ac amgylcheddol Cymru.” 

Yn ystod diwrnod cyntaf y Sioe Fawr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnal ail gyfarfod ford gron â chynrychiolwyr sectorau gwledig ac amgylcheddol Cymru i drafod y dyfodol ar ôl y bleidlais i adael. 

Ar frig agenda’r cyfarfod fydd trafodaethau am yr effeithiau ar fasnach.  Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau ei phenderfyniad i sicrhau’r trefniadau masnachu gorau posibl i’n sectorau.  

Mae’r cyfarfod hwn yn dilyn y cyfarfod cyntaf llwyddiannus lle bu’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet yn gwrando ar bryderon ffermwyr a physgotwyr, busnesau gwledig a mudiadau amgylcheddol. 

Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Am y tro, rydym dal yn aelodau o’r UE a rhaid cadw at yr holl reolau fel ag o’r blaen.  Fyddan nhw ddim yn newid ar eu hunion na chwaith cynlluniau buddsoddi ac ariannu cyfredol yr UE. 

“Mae’r Prif Weinidog wedi addo ei fod am weithio’n ddiflino i gael gwarant gan Lywodraeth y DU na fydd Cymru’n cael bod yn waeth ei byd yn ariannol yn sgil gadael yr UE.  Mae angen sicrhau hefyd bod gan fusnesau a buddsoddwyr yng Nghymru fynediad di-dor i’r Farchnad Sengl, nawr ac yn y dyfodol. 

“Rwy’n credu bod yr argoelion tymor hir i amaethyddiaeth Cymru’n para’n dda ac rwy’n ymrwymo i dreulio’r wythnos yn gwrando ar y diwydiant a gofalu bod ei safbwyntiau a’i syniadau’n sylfaen i’n trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch amodau’r DU ar gyfer gadael yr UE.”