Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhoddwyd gwybod i'r heddlu yn y Deyrnas Unedig am 750,000 o achosion o gam-drin domestig yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019. Er bod cam-drin domestig yn gallu digwydd yn unrhyw le ac i unrhyw un, mae menywod yn dioddef i raddau anghymesur. Yn ystod y cyfnod o dair blynedd rhwng 2015 a 2018, cafodd 270 eu lladd gan eu partneriaid.  Dim ond crafu'r wyneb yw hyn; mae Arolwg Troseddu Prydain yn awgrymu bod mwy na 2 filiwn o ddioddefwyr, yn ogystal â'r degau o filoedd o ymosodiadau rhywiol a mathau eraill o drais yn erbyn menywod a merched. Mae'n deg dweud mai dyma epidemig yr oes sydd ohoni, a bod llawer o waith i'w wneud o hyd, er gwaethaf y cynnydd a wnaed gennym.

Nid yw hyn yn ddim syndod i'r rhai sy'n gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr. Mae'n fraint cael ymgysylltu ag elfennau amrywiol y sector ac adrodd ar y cynnydd parhaus sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Gwnaethom amlygu yn ein hadroddiad blynyddol y llynedd fod y cynllun y mae'r adroddiad hwn yn seiliedig arno yn hynod uchelgeisiol a'n bod wedi camfarnu'r adnoddau a oedd ar gael ar gyfer rhaglen mor uchelgeisiol. Serch hyn, mae'n bleser gennym ddangos isod ein bod wedi cyflawni llawer o'n hamcanion, ac y bydd y rhai na chawsant eu cyflawni yn cael eu trosglwyddo i'n cynllun nesaf. Credwn yn gryf fod yr amcanion a bennwyd gennym y llynedd yn helpu i drawsnewid y cyd-destun o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Y cynnydd a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2019 i 2020

Adolygiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Comisiynwyd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (y Ganolfan) gan Brif Weinidog blaenorol Cymru ym mis Tachwedd 2018 i adolygu'r ddarpariaeth cam-drin domestig a thrais rhywiol.  Mae adroddiad y Ganolfan ar gam-drin domestig wedi'i ohirio tan hydref 2020, ac ni chynhaliwyd adolygiad ar gyfer trais rhywiol. Cydnabu adroddiad drafft y Ganolfan y cynnydd sylweddol a wnaed yng Nghymru ers Deddf 2015, a nodwyd meysydd lle gellid gwneud mwy. Gwnaethom ymgysylltu â'r Ganolfan yn ystod ei hadolygiad, ac yn dilyn yr adolygiad, gwnaethom drafod ei chanfyddiadau â swyddogion a rhanddeiliaid. Roedd disgwyl i nifer o'r argymhellion gael eu trafod yn y gynhadledd genedlaethol roeddem wedi bwriadu ei threfnu yn ystod y gwanwyn ond y bu'n rhaid ei gohirio oherwydd y pandemig.

Anghenion dioddefwyr a goroeswyr i gael eu hadlewyrchu o fewn strategaethau lleol

Mae hwn yn weithgarwch blynyddol parhaus. Mae strategaethau lleol yn cael eu hadolygu i nodi arferion gorau, a rennir yn briodol wedyn. Rydym wedi nodi themâu allweddol o fewn y strategaethau a gaiff eu cynnwys yn yr adborth y byddwn yn ei roi ar gyfer pob un o'r meysydd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn ein barn ni, nid oes angen adrodd ar y gweithgarwch hwn yn ein hadroddiad blynyddol bellach am ei fod wedi'i brif-ffrydio i gynllun gwaith yr adran. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen gwella data a thystiolaeth, a bod angen i ddefnyddwyr gwasanaethau nodi bylchau yn y ddarpariaeth er mwyn ategu hyn.

Adolygu gwaith ar nodi bylchau mewn data ymchwil a chasglu data a nodi arferion gorau ym maes gwerthuso

Mae hwn yn weithgarwch blynyddol parhaus. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol. Dyma rai enghreifftiau:

  • Hwyluso'r broses o baru myfyrwyr Meistr â gwasanaethau cyflawnwyr i'w gwerthuso fel rhan o'u prosiectau ymchwil, a darparu cymorth parhaus a chydoruchwyliaeth ar gyfer y prosiectau hyn,
  • Nodi a rhannu darnau o ymchwil Genedlaethol a Rhyngwladol gyda llif gwaith amlasiantaeth Bwrdd Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru ar gyfer gweithio gyda chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sydd hefyd wedi'i arwain gan Lywodraeth Cymru,
  • Cymhwyso'r gwersi a ddysgwyd o werthusiad Prifysgol Bryste o Brosiect Drive a'r adroddiad rhanbarthol at wraidd y mater,
  • Ei gwneud yn ofynnol i brosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru weithio gyda chyflawnwyr i gynnwys gwerthusiad lle y bo'n berthnasol,
  • Hyrwyddo'r defnydd o Safonau Gwasanaethau Cyflawnwyr Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys gwybodaeth am y ffordd y dylid gwerthuso gwasanaethau cyflawnwyr

Rydym wedi datblygu dadansoddiad SWOT ar gyfer y sector trais rhywiol a fydd yn darparu gwybodaeh am heriau penodol y mae'n eu hwynebu. Mae Bwrdd Menywod mewn Cyfiawnder Cymru Gyfan hefyd wedi datblygu arolwg er mwyn helpu i ddeall y cyd-destun cyfredol o ran darparu gwasanaethau i fenywod sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, neu'n wynebu risg o ddod yn rhan ohoni. Ynghyd â'r gwaith ar gyflawnwyr a arweinir gan Dr Cerys Miles, mae'n rhaid i ni atgyfnerthu ein sail wybodaeth a chyflwyno data a thystiolaeth sy'n ategu'r gwahanol safbwyntiau sy'n ymwneud â bylchau presennol yn y system.

Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyhoeddi dangosyddion cenedlaethol terfynol

Ymgynghorwyd ar y dangosyddion cenedlaethol mewn gweithdai drwy gydol 2019. Gwnaethom gadeirio rhai o'r gweithdai hyn a sefydlwyd i gytuno ar set derfynol o ddangosyddion i'w datblygu a'u cyhoeddi er mwyn ymgynghori arnynt ag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol. Cafodd y dangosyddion eu mireinio drwy'r broses hon. Disgwyliwyd y byddai'r dangosyddion cenedlaethol terfynol yn cael eu cyhoeddi yn y gwanwyn ond bu'n rhaid gohirio oherwydd y pandemig.

Chwarae rôl weithgar yn y Grŵp Trawslywodraethol a sicrhau y bydd lleisiau dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu clywed ar lefel genedlaethol

Cytunwyd â'r Ysgrifennydd Parhaol mai'r ffordd orau o ymgysylltu ar draws y Llywodraeth oedd cyfarfod yn rheolaidd â'r pedwar Cyfarwyddwr Cyffredinol i drafod materion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a bu hyn yn fecanwaith llywodraethu newydd pwysig sydd wedi meithrin mwy o ddealltwriaeth a chydweithio trawslywodraethol. Cynhaliwyd y cyfarfodydd hyn cyn y cyfarfodydd ffurfiol â rhanddeiliaid fel bod modd bwydo'r dulliau gweithredu trawslywodraethol yn uniongyrchol i drafodaethau â'n rhanddeiliaid. Yn ogystal, mae pob Cyfarwyddwr Cyffredinol wedi sicrhau eu bod nhw eu hunain neu uwch-aelod o'u timau yn y cyfarfodydd hyn â rhanddeiliaid. Mae'r sector wedi croesawu hyn ac mae wedi ein galluogi i lywio cynlluniau gwaith ym mhob rhan o'r Llywodraeth. Fis Rhagfyr diwethaf, gwnaethom gyfarfod yn ffurfiol â'r Ysgrifennydd Parhaol ei hun i drafod materion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a bu hyn yn gynhyrchiol iawn.

Cadeirio'r Panel Academaidd Arbenigol

Bwriadwyd i'r Panel Academaidd Arbenigol sicrhau ein bod yn deall y rhwymedigaethau rhyngwladol o dan Gonfensiwn Istanbwl a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW) yn llawn. Yn gynnar yn y broses, penderfynodd y grŵp ei hun nad oedd angen iddo gyfarfod yn ffurfiol a bod ei aelodau yn barod i gynnig cyngor ar sail ad-hoc. Gwnaethom fwrw ati gan ddilyn y drefn honno. Diwygiwyd y fframwaith llywodraethu yn unol â hyn.

Er nad yw'r grŵp yn weithredol bellach, mae'r aelodau yn dal i ymgysylltu â ni yn ôl yr angen, er enghraifft, i drafod sut mae ymrwymiadau Confensiwn Istanbwl yn cael eu bodloni.

Cadeirio'r Grŵp Rhanddeiliad Arbenigol

Sefydlwyd y Grŵp Rhanddeiliaid Arbenigol ym mis Medi 2019. Y prif ddiben a nodwyd ar gyfer y grŵp hwn oedd defnyddio gwybodaeth arbenigol a chyngor i gefnogi a dylanwadu ar waith pellach i weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Disgwyliwyd y byddai'r grŵp yn tynnu sylw ar yr hyn a oedd yn gweithio a'r hyn nad oedd yn gweithio, ac yn nodi blaenoriaethau a oedd yn dod i'r amlwg yng Nghymru mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Cynrychiolwyr allanol oedd yr aelodau yn bennaf, ynghyd â Chyfarwyddwyr a Chyfarwyddwyr Cyffredinol Llywodraeth Cymru. Rol y Cyfarwyddwyr hyn oedd rhyngweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid allanol a nodi cysylltiadau â'r gwaith a wnaed gan eu grwpiau a'u hadrannau perthnasol; annog a meithrin cydweithio trawslywodraethol ar faterion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am ddatblygiadau yn y llywodraeth a'u helpu i weld y darlun mawr.

Cyfarfu'r grŵp ddwywaith ym mis Medi a mis Ionawr, ac roeddem yn dechrau meithrin cydberthnasau a chanfod tir cyffredin. Trefnwyd y trydydd cyfarfod ar gyfer mis Ebrill ond yn anffodus, bu'n rhaid ei ganslo oherwydd y pandemig.

Cadeirio'r Grŵp Cyllido Cynaliadwy

Mae cyfarfodydd y Grŵp Cyllido Cynaliadwy wedi cyfrannu'n sylweddol at ein dealltwriaeth o'r heriau a wynebir gan y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Roedd y cyfarfodydd cychwynnol yn ddefnyddiol er mwyn nodi materion, ond yn llai effeithiol wrth ddod o hyd i atebion ymarferol. Fodd bynnag, penderfynwyd ar gynllun gwaith a chytunwyd arno yn ystod ein cyfarfod diweddaraf.

fel Cadeirydd y Grŵp Cyllido Cynaliadwy, rydym wedi cymryd camau penodol i ystyried pa ffynonellau sefydledig o gyllid sydd ar gael i'r trydydd sector a pha ffynonellau cyllid eraill y gellid manteisio arnynt. Mae'r darlun yng Nghymru yn wahanol iawn i'r hyn ydoedd pan gafodd yr ymarfer ei gynnal am y tro cyntaf gan Cymorth i Fenywod Cymru yn 2017, ac mae'n bwysig bod gennym ddarlun cyfredol diweddar ar gyfer Cymru, a hynny gan y comisiynwyr sector cyhoeddus ac yn uniongyrchol gan wasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru.

Integreiddio gwersi a ddysgwyd i arferion

Swyddogion sydd wedi arwain y gwaith hwn hyd yma ac mae wedi cynnwys arolwg i nodi'r dulliau ymgysylltu a ffefrir er mwyn cysylltu â goroeswyr nad ydynt wedi ymgysylltu o'r blaen, a chynnull panel peilot.

Cyfathrebu'n well â Swyddfa Gartref y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Rydym wedi darparu tystiolaeth lafar ddwy waith i'r pwyllgor craffu ar gyfer y Bil Cam-drin Domestig, gan dynnu sylw at y gwaith a wnaed yng Nghymru. Cafodd y gwaith hwnnw ei groesawu. Gwnaethom hefyd gymryd rhan mewn digwyddiad bord gron , a gadeiriwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â'r Darpar Gomisiynydd Cam-drin Domestig ac wedi cytuno sut y gallwn gydweithio yn y dyfodol. Mae hi'n cydnabod y meysydd datganoli sydd y tu allan i'w chylch gwaith ond hefyd yn nodi meysydd lle y bydd cydweithio yn gynhyrchiol. 

Mae Adolygiad Diogelu Unedig Unigol Llywodraeth Cymru yn un o'r meysydd gwaith allweddol sy'n atgyfnerthu'r cydweithrediad rhwng adrannau'r Llywodraeth. Mae Yasmin Khan yn aelod o'r grŵp llywio ac yn cadeirio'r Is-grŵp Dysgu a Hyfforddiant. Roedd yr adolygiadau yn disgrifio dyhead am ddull gweithredu mwy canolog, rhagweithiol, strwythuredig er mwyn hwyluso prosesau ar gyfer dysgu o adolygiadau o ddigwyddiadau angheuol, sydd, er ei fod yn canolbwyntio ar Gymru, yn rhoi llwyfan i rannu arferion ledled Cymru a Lloegr.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i gorff cyffredin gynnig llywodraethiant a goruchwyliaeth er mwyn cymryd perchenogaeth dros y gwaith o gasglu adolygiadau, chwilio am wersi a ddysgwyd a'u rhannu'n themâu, lledaenu'r gwersi a sicrhau y gweithredir arnynt.

Mae ein rôl fel Cynghorwyr Cenedlaethol Annibynnol yn rhoi cyfleoedd inni greu proses lle caiff argymhellion o Adolygiad Diogelu Unedig Unigol eu rhoi ar waith dros Gymru gyfan, lle caiff dysgu thematig o adolygiadau o ddigwyddiadau angheuol ei ymwreiddio mewn polisi a gweithdrefnau a lle defnyddir cyfryngau cyfathrebu diffiniedig i gyfathrebu'r dysgu â phob partner, boed yn ddatganoledig neu beidio.

Gwaith mapio a dadansoddi bylchau cadarn ar gyfer gwasanaethau cyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol er mwyn mynd ati'n effeithiol i gynllunio a chomisiynu gwasanaethau sy'n ymateb i risg ac yn diwallu anghenion

Mae diffyg dealltwriaeth gydgysylltiedig o broffil risg ac anghenion y rhai sy'n cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru, yn ogystal â'r gwasanaethau sydd ar waith i ddiwallu eu hanghenion yn ddigonol er mwyn mynd i'r afael â risg yn effeithiol. Mae ymarferion mapio a nodi bylchau yn cael eu cefnogi ledled Cymru ac mae'r rhain wedi'u cwblhau mewn rhai rhanbarthau. Bwriedir i'r ymarferion hyn nodi'r rhaglenni cyflawnwyr presennol (a gwasanaethau ehangach) a weithredir gan sefydliadau statudol ac anstatudol (boed yn ddatganoledig neu beidio), er mwyn cadarnhau pa adnoddau sydd ar waith yn rhanbarthol a pha adnoddau sydd eu hangen, er mwyn llywio gwaith comisiynu yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau cyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r hyn a ddysgwyd o'r ymarferion hyn wedi'i rannu â rhanbarthau ledled Cymru er mwyn llywio eu dull gweithredu.

Datblygu dull cyson o nodi a chyfeirio unigolion at wasanaethau arbenigol

Mae swyddogion wedi arwain ar waith i ddatblygu canllawiau arfer da sy'n cynnwys llif gwaith amlasiantaeth ar gyfer gwaith cyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o dan 'fframwaith i gefnogi newid positif ar gyfer y rheini sydd mewn risg o droseddu yng Nghymru' Bwrdd Rheoli Integredig Troseddwyr (IOM) Cymru. Mae'r llif gwaith hwn wedi goruchwylio prosiectau grwpiau gorchwyl a gorffen, fel rhoi gwybod i gomisiynwyr am wasanaethau cyflawnwyr a chreu dogfen ganllaw ar gyfer ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau.

Cefnogi gwaith Grŵp Arwain Cymru Gyfan ar Drais ar sail Anrhydedd, Priodas Dan Orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod

Mae Llywodraeth Cymru yn cyd-gadeirio y Grŵp Arwain ar Drais ar sail Anrhydedd / Priodas Dan Orfod / Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod ac wedi gweithio i fireinio'r cylch gorchwyl, presenoldeb a'r cynllun cyflawni. Aethom i'r cyfarfod ar 9 Rhagfyr.

Mae'n bwysig sicrhau y caiff priodas dan orfod, camdriniaeth ar sail anrhydedd ac anffurfio organau cenhedlu benywod eu dosbarthu'n gywir er mwyn sicrhau bod nifer yr achosion ac atgyfeiriadau yn adlewyrchu graddau'r gamdriniaeth. Er bod y fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn cynnig trosolwg, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau atgyfeirio a chyrff cyhoeddus i nodi'r risgiau ac ymyrryd yn gynharach.

Gweithio gyda'r comisiynydd plant i adolygu gwaith parhaus i ddatblygu polisïau er mwyn sicrhau y caiff anghenion plant fel dioddefwyr a thystion eu hystyried ac yr eir i'r afael â nhw'n briodol

Gwnaethom gyfarfod â Chomisiynydd Plant Cymru ac rydym wedi nodi'r angen i waith Llywodraeth Cymru fod yn ddigon cydgysylltiedig er mwyn arwain at y canlyniadau gorau i blant.  

Mae ein cyfarfodydd rheolaidd â'r NSPCC yn llywio ein dealltwriaeth o faterion ac yn sicrhau bod y plant eu hunain yn cael eu hystyried yn ddioddefwyr.

Rhoi ystyriaeth bellach i'r hawliau ychwanegol y dylid eu rhoi i ddioddefwyr camdriniaeth

Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2016 i 2021 yn cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith ymgysylltu â goroeswyr cenedlaethol cynaliadwy er mwyn sicrhau y deellir anghenion a phrofiadau goroeswyr, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf ac sy'n wynebu anfanteision lluosog wrth gael gafael ar gymorth. Mae'n galonogol gweld cymaint o waith lle mae lleisiau a phrofiadau yn ganolog i lywio'r gwaith parhaus o ddatblygu a gweithredu deddfwriaeth, polisïau, strategaethau a chyfathrebu er mwyn sicrhau bod systemau a gwasanaethau yn diwallu anghenion goroeswyr yn y ffordd orau.

Mae Bil Cam-drin Domestig Llywodraeth y DU yn cyflwyno hawliau newydd i oroeswyr, gan gynnwys rhagdybiaeth y dylid darparu mesurau arbennig yn y llys i ddioddefwyr cam-drin domestig, a gwahardd cyflawnwyr rhag croesholi dioddefwyr yn bersonol mewn llysoedd, er bod y ddau ddiwygiad hyn wedi'u cyflwyno y tu allan i'r amserlen ar gyfer yr adroddiad hwn.

“Llwybr partneriaeth i ddioddefwyr”

Aethom i gyfarfod Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru ym mis Gorffennaf 2019 i drafod ffyrdd posibl o wella llwybrau atgyfeirio mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y sector iechyd, yn enwedig ar gyfer dioddefwyr camdriniaeth rywiol a chamdriniaeth hanesyddol. Pwysleisiwyd gwella canlyniadau iechyd ar gyfer grwpiau amrywiol, ac mae hyn yn parhau'n flaenoriaeth wrth fynd ymlaen. Nid yw'r Panel Dysgu wedi cyfarfod eto. Bydd yn ystyried rheolaeth achosion ar gyfer dioddefwyr BAME, cylchoedd gorchwyl a deilliannau dysgu disgwyliedig. Bydd y cyfarfod cyntaf yn ymgysylltu â darparwyr arbenigol a goroeswyr.

Gwnaethom hefyd gymryd rhan arweiniol yn 'Moving from Strategy to Action: A Workshop for VAWDASV ar 10 Rhagfyr. Bwriad y gweithdy oedd herio syniadau a'r meddylfryd presennol am Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol drwy roi Strategaeth Mynd i'r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched Heddlu De Cymru ar waith drwy gysoni Dull Gweithredu Iechyd Cyhoeddus a mabwysiadu Egwyddor Datblygu Cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol er mwyn datblygu Fframwaith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Cynnal digwyddiad Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol cenedlaethol

Ni fu'n bosibl cynnal digwyddiad oherwydd pandemig y Coronafeirws a'r cyfyngiadau symud dilynol; fodd bynnag, efallai y bydd modd ei gynnal y flwyddyn nesaf. Ymgynghorwyd â'r Panel Arbenigol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol er mwyn nodi negeseuon allweddol ar gyfer Cynhadledd Genedlaethol. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Chymorth i Fenywod Cymru a darparwyr trais rhywiol er mwyn sicrhau ein bod yn nodi anghenion a heriau sy'n dod i'r amlwg yn y sector. Ein nod yw sicrhau bod llais y goroeswr yn cael ei gynnwys; i'r perwyl hwn, byddwn yn ceisio eu barn ac yn ceisio eu cynnwys ar gamau cynnar y broses gynllunio.

Asesiad y Cynghorwyr Cenedlaethol o gyflawniadau Llywodraeth Cymru 2019 i 2020

Mae'r Strategaeth Genedlaethol yn nodi'r hyn y bydd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn ei wneud i gyfrannu at ddiben y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae'r strategaeth yn amlinellu chwe amcan y mae Gweinidogion Cymru yn anelu at eu cyflawni erbyn 2021.

Hyd at eleni, ac yn ystod y flwyddyn hon, sy'n nodi pum mlynedd ers i'r Ddeddf ddod i rym, bu cyflawniadau yn erbyn pob un o'r amcanion yn y strategaeth. Darperir rhai o'r enghreifftiau isod, ynghyd â'n hasesiad o'r gwaith cyffredinol a wnaed er mwyn cyflawni pob un o'r amcanion.

Amcan 1: Cynyddu ymwybyddiaeth a herio agweddau ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws poblogaeth Cymru

Cafodd 'Cam-drin Rhywiol yw hyn', sef cam olaf yr ymgyrch 'Nid cariad yw hyn: Rheolaeth yw hyn', ei lansio ar 6 Chwefror 2020 yn ystod wythnos ymwybyddiaeth o drais rhywiol. Mae rheolaeth yn elfen allweddol o gam-drin rhywiol, trais a threisio. Mae'r cam hwn yn tynnu sylw at y modd y mae camfanteisio, paratoi i bwrpas rhyw, manipiwleiddio ac ofn yn rhan o gydberthnasoedd personol lle bydd rhywun yn cael ei gam-drin yn rhywiol.

Yn ein hasesiad, mae'r ymgyrch hon, fel pob un o ymgyrchoedd blaenorol Llywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, wedi bod yn effeithiol iawn wrth gyrraedd y gynulleidfa darged. Roedd rhan camdriniaeth rywiol yr ymgyrch "Nid cariad yw hyn: rheolaeth yw hyn" yn cyfleu negeseuon allweddol i ddangos y gwahanaieth rhwng camdriniaeth gorfforol, rheolaeth drwy orfodaeth a chamdriniaeth rywiol. Mae cyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn gallu adnabod y gwahanol ffurfiau ar gamdriniaeth.  Mae ymgysylltu â goroeswyr wedi bod wrth wraidd y dulliau gweithredu a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a'i rhanddeiliaid. Mae'r maes gwaith hwn yn parhau i daflu goleuni ar y niwed a wneir i wahanol grwpiau. Yn ogystal, mae gweithio gyda darparwyr arbenigol i ddylunio'r ymgyrchoedd wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i'r ystyriaethau o ran y cynnydd mewn atgyfeiriadau sy'n deillio o ymgyrchoedd penodol.

Amcan 2: Cynnydd yn ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o bwysigrwydd perthnasoedd diogel, cyfartal ac iach a'r ffaith bod ymddygiad camdriniol yn anghywir bob amser

Roedd ymgyrch cyfathrebu "Nid cariad yw hyn: rheolaeth yw hyn" yn cynnwys cam wedi'i anelu at bobl ifanc, eu rhieni a'u gofalwyr. Eleni hefyd, gwelwyd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei datblygu fel rhan o'r cwricwlwm newydd, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am ei phenderfyniad i'w chyflwyno.

Rydym yn hyderus bod y gwaith a wneir i ddiogelu plant a phobl ifanc yn mynd rhagddo i sicrhau bod gwasanaethau a llwybrau yn ymwybodol o'r risgiau ac yn ymyrryd yn gynnar.  Byddem hefyd yn hoffi gweld darpariaeth well ar gyfer plant sy'n ceisio lloches a phlant sy'n ffoaduriaid. Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi gwybodaeth am effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod ar y plant hyn ac yn darparu adnoddau i leoliadau addysg sy'n glir, yn gryno ac yn llawn gwybodaeth; sef maes arfer da y dylid ei gyflwyno lle y bo'n bosibl.

Amcan 3: mwy o ffocws ar ddwyn cyflawnwyr i gyfrif, a darparu cyfleoedd iddynt newid eu hymddygiad gyda phwyslais ar ddiogelwch y dioddefwr

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar weithio gyda chyflawnwyr ac mae'n parhau i arwain llif gwaith amlasiantaeth Bwrdd IOM Cymru ar gyfer gweithio gyda chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n cyfarfod bob chwarter.

Mae'r maes gwaith hwn yng Nghymru wedi creu argraff fawr arnom ac mae'n parhau i ysgogi arloesedd a threfniadau cydweithredu rhwng rhaglenni ac ymyriadau sefydledig sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn amlygu arferion da.

Amcan 4: rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal

Caiff Grŵp Arwain Cymru Gyfan ar Gamdriniaeth ar sail Anrhydedd ei  gyd-gadeirio gan Lywodraeth Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Bawso. Mae'r Grŵp yn llunio matrics hyfforddiant i bartneriaid er mwyn nodi ble y ceir bylchau mewn gwybodaeth.

Credwn fod ymyrraeth gynnar ac atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn allweddol er mwyn sicrhau y gweithredir pan welir niwed. Mae dull y Llywodraeth o sicrhau bod goroeswyr wedi'u grymuso i gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu fframwaith sy'n darparu cymorth gan gymheiriaid drwy gydweithredu a phrofiad yn dangos ymrwymiad i newid a gwella gwasanaethau.

Amcan 5: hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr

Mae'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn uwchsgilio gwasanaethau cyhoeddus er mwyn ymateb yn fwy effeithiol i'r rhai sy'n profi camdriniaeth.  Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gwnaed gwaith sylweddol i fodloni gofynion statudol y Fframwaith ar gyfer hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth sylfaenol o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn yr awdurdodau perthnasol.

Rydym yn falch o weld y cymhelliant a'r ymrwymiad i gynnwys y gweithlu yn ei ddatblygiad. Mae'r targedau a'r cyfraddau cyflawni yn parhau i roi hyder i weithwyr proffesiynol sy'n ymateb i anghenion dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth.

Amcan 6: Rhoi mynediad cyfartal i ddioddefwyr at wasanaethau ledled Cymru, a’r rheini’n wasanaethau holistaidd o ansawdd uchel y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy’n seiliedig ar gryfderau, sy’n cael eu harwain gan anghenion ac sy’n ymatebol i rywedd

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol ar Gomisiynu Gwasanaethau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ym mis Mai 2019, i hyrwyddo gwaith comisiynu cydweithredol o ansawdd uchel sy'n darparu gwasanaethau mwy cyson ac effeithiol er mwyn atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a diogelu a chefnogi'r rhai sydd wedi dioddef trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru. 

Er y bu rhywfaint o oedi wrth roi dull cyllido cynaliadwy ar waith, mae'r gwaith yn y rhanbarthau wedi addasu i'r fframwaith comisiynu newydd. Rydym yn fodlon ar y cymorth a ddarperir i bob Bwrdd Rhanbarthol er mwyn sicrhau y gallant drosglwyddo i'r trefniadau newydd.

Mae'r gweithdai Dangosyddion Cenedlaethol wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid ac wedi helpu i sicrhau bod y dangosyddion arfaethedig yn darparu data mesuradwy. Rydym wedi bod yn rhan o'r gweithdai, a oedd yn ddiddorol ac a ddenodd llawer o bobl.

 

Heriau ac ymatebion

Roedd 2019-20 yn flwyddyn o atgyfnerthu, pan ddechreuwyd y darpariaethau llywodraethu newydd ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac aethpwyd ati i'w hymwreiddio. Roedd hefyd yn gyfnod o newid mawr o fewn y sector wrth i rai rhanddeiliaid drawsnewid ac wrth i eraill baratoi ar gyfer arweinyddiaeth a heriau newydd.

Cafodd Llywodraeth Cymru Brif Weinidog a Chabinet newydd, ond nid amharwyd dim ar yr ymrwymiad i'r gwaith hwn ac, mewn gwirionedd, mae wedi'i adfywio. Mae swyddogion trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n ddiflino i'w cefnogi nhw, ni a'r sector. Mae'r gwaith ymgysylltu newydd gyda'r Cyfarwyddwyr Cyffredinol ar draws y Llywodraeth wedi amlygu'i hun yn gyflym fel cyfrwng ar gyfer gwella ymwybyddiaeth a chyflawni.

Mae tîm cyfathrebu Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda swyddogion, wedi datblygu a chyfleu negeseuon hynod effeithiol gydag ymgyrchoedd sy'n torri tir newydd. Yr her wrth godi ymwybyddiaeth, a ddaeth i'r amlwg yn gyflym, yw bod angen paratoi'r sector fel bod modd iddo ymateb i'r cynnydd sylweddol yn yr achosion y rhoddir gwybod amdanynt o ganlyniad i hynny. Roedd yn galonogol gweld bod yr ymgyrchoedd wedi dod yn fwy cydweithredol a bod y sector wedi cyfrannu'n helaeth at eu hansawdd a'u hamseru.

Casgliad

Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, gwnaethom ganolbwyntio ar sefydlu'r strwythur llywodraethu newydd ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a sefydlu'r trefniadau newydd ar gyfer ymgynghori â rhanddeiliaid. Gwnaethom helpu hefyd i sicrhau y cafodd mentrau cyfathrebu rhagorol gan Lywodraeth Cymru yr effaith a gawsant. Mae rhan helaeth o'r flwyddyn wedi ymwneud â chefnogi'r newid a arweinir gan swyddogion a pharhau i nodi arferion gorau lle y maent yn bodoli.

Mae'n hanfodol ein bod yn parhau'n gadarn yn ein dull gweithredu er mwyn sicrhau bod lleisiau a phrofiadau goroeswyr yn dod yn ganolog i lywio'r gwaith  parhaus o ddatblygu a gweithredu deddfwriaeth, polisïau, strategaethau a chyfathrebu er mwyn sicrhau bod systemau a gwasanaethau yn diwallu anghenion goroeswyr yn y ffordd orau.

Mae Bil Cam-drin Domestig 2019-20 Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn ofynnol i ymgysylltu â'r Darpar Gomisiynydd Cam-drin Domestig er mwyn sicrhau y nodir cyfleoedd ar gyfer cydweithio ac y manteisir ar y cyfleoedd hynny. Mae gennym gydberthynas gryf a chynhyrchiol â hi ac rydym eisoes wedi nodi ffyrdd posibl o ymgymryd â gwaith ymchwil a gyd-gomisiynir.

Mae'r ffaith bod rhai o'n hamcanion wedi cario drosodd i 2020-21 yn dangos bod llawer o waith i'w wneud ond rydym yn hyderus ein bod yn symud i'r cyfeiriad cywir.

Yasmin Khan a Nazir Afzal OBE

Cynghorwyr cenedlaethol, trais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol.