Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

“Rydyn ni’n benderfynol yn ein hymroddiad i fabwysiadu gyda’n gilydd safbwynt cwbl anoddefgar tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Mae gan bob unigolyn yr hawl i fyw’n gwbl rydd rhag ofn a niwed.”

Mae manylion penodiad a swyddogaethau'r Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i'w gweld yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae'n ofynnol iddynt gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn. Rhaid i'r adroddiad hwn fanylu ar yr hyn a gyflawnwyd gan y Cynghorwyr Cenedlaethol o ran y blaenoriaethau a bennwyd ar gyfer y flwyddyn ac unrhyw weithgareddau perthnasol eraill.

Wrth gyflwyno'r adroddiad hwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023, cydnabyddir tymor 6 mis olaf Nazir Afzal a Yasmin Khan fel Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a thymor 6 mis cyntaf Johanna Robinson yn y rôl ochr yn ochr â Yasmin Khan wrth inni ddechrau'r tymor 3 blynedd newydd.

Fel y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru, rydym yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol ar gyfer 2022 i 2023, sy'n rhoi sylw i'r heriau parhaus sy'n ein hwynebu wrth geisio dileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, er ein bod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, mae'n hanfodol cydnabod difrifoldeb y materion sy'n ein hwynebu. Yn ôl data gan Arolwg Troseddu Prydain a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae cam-drin domestig a thrais rhywiol yn parhau i daflu cysgod hir ledled Cymru a Lloegr. Amcangyfrifodd ffigurau diweddar gan Arolwg Troseddu Prydain 1.6 miliwn o achosion o gam-drin domestig a 786,000 o ymosodiadau rhywiol yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.

Mae'r ystadegyn syfrdanol hwn yn tanlinellu mor wirioneddol bwysig yw ein gwaith, er nad yw'n cynnwys y rhai sy'n dioddef yn dawel heb unrhyw ymyrraeth a/neu gefnogaeth. At hynny, mae canfyddiadau Adolygiad Llywodraeth y DU o Drais Rhywiol ac Adroddiad y Llysoedd Teulu a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gomisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr yn 2023 wedi ychwanegu haen newydd o gymhlethdod i'n hymdrechion, gan amlygu'r angen am newidiadau holistaidd a systemig wrth fynd i'r afael â'r materion difrifol hyn. Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn dyst i'r gwaith yr ydym wedi'i gyflawni ac mae ein hymrwymiad i greu dyfodol mwy diogel i bawb yng Nghymru yn parhau wrth feddwl am y gwaith y byddwn yn ei wneud am weddill ein tymor.

Ym mis Mai 2022 cyhoeddwyd y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol newydd ar gyfer 2022-2026. Datblygwyd y strategaeth hon wrth inni geisio dod dros y pandemig, ar adeg pan oedd y pwysau ar wasanaethau arbenigol a chyhoeddus yn dal i gynyddu, a straen ychwanegol yn sgil yr heriau economaidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan ei hymrwymiad i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenyw fyw.

Mae hyn wedi ei ymgorffori o fewn y strategaeth drwy gynnwys glasbrint sy'n dwyn ynghyd gyfrifoldebau a chamau gweithredu yr holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn rhai sydd wedi'u datganoli ac yn wasanaethau a gadwyd gan y DU. 

Er bod hon yn rhaglen waith uchelgeisiol mewn cyfnod pan fo'r pwysau yn fawr, ac adnoddau yn cael eu herio, credwn fod newid a gwelliannau yn bosibl i atal trais a cham-drin, diogelu a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr yng Nghymru, a gwarchod cenedlaethau'r dyfodol rhag cael eu cam-drin. Rydym yn falch o'r cyfle hwn a'r ymdrech i adnewyddu ac ailffocysu'r ymrwymiad, a byddwn yn gweithio yn ystod ein tymor i sicrhau llwyddiant a, lle bo angen, i herio er gwell.

Mae dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth yng Nghymru yn parhau i wynebu heriau sylweddol, a waethygir yn aml gan amrywiol ffactorau, gan gynnwys y pwysau sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd. Mae ganddynt rôl, swyddogaeth a dyletswydd hanfodol, yn unol â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 i asesu anghenion y boblogaeth a chymryd camau i atal trais a cham-drin, a diogelu a chefnogi goroeswyr. Rydym yn cydnabod bod yr her hon yn codi yng nghyd-destun pwysau economaidd sy'n drwm ar Gymru, fel yng ngweddill y DU.

Un o'r problemau mwyaf dybryd sy'n wynebu dioddefwyr a goroeswyr yw mynediad at wasanaethau cymorth, ac i ba raddau y mae'r rheini ar gael. Dim ond drwy gynyddu'r adnodd hanfodol hwn y gellir datrys hyn. Er bod y Ddeddf Trais a Cham-drin wedi gwella'r fframwaith ar gyfer mynd i'r afael â'r materion hyn heb os nac oni bai, mae'r galw am wasanaethau yn parhau i fod yn fwy na'r adnoddau sydd ar gael. Mae llawer o oroeswyr yn nodi anawsterau wrth geisio cael gafael ar gymorth amserol a phriodol, yn amrywio o ymyrraeth mewn argyfwng i gwnsela tymor hirach a chymorth llety. Mae'r straen hwn ar wasanaethau nid yn unig yn rhwystro adferiad ond hefyd yn cynnal y cylch trais i'r rhai na allant gael gafael ar gymorth pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

At hynny, mae'r pwysau economaidd yng Nghymru yn cael effaith ddofn ar unigolion ac yn eu gwneud yn fwy agored i gam-drin domestig a thrais rhywiol. Gall cyfraddau diweithdra uchel, cyflogaeth annigonol a diffyg mynediad at lety fforddiadwy gadw goroeswyr mewn cydberthnasau camdriniol oherwydd dibyniaeth ariannol. Gall ansicrwydd economaidd hefyd atal dioddefwyr rhag gadael sefyllfaoedd camdriniol, gan eu bod yn ofni colli eu bywoliaeth neu'r gallu i ddarparu ar gyfer eu plant. Mae'r cysylltiad rhwng pwysau economaidd a thrais yn tanlinellu pwysigrwydd darparu cefnogaeth gynhwysfawr sy'n rhoi sylw i bryderon diogelwch heddiw a grymuso economaidd wrth edrych i'r dyfodol.

Er mwyn lleihau'r heriau hyn, rhaid wrth ddull aml-haenog. Mae'n hanfodol cynyddu buddsoddiad mewn gwasanaethau a seilwaith cymorth er mwyn sicrhau bod help ar gael yn hwylus ac yn amserol i oroeswyr. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig gwasanaethau argyfwng, ond hefyd gefnogaeth hirdymor i helpu goroeswyr i ailadeiladu eu bywydau. Yn ogystal, gall mynd i'r afael â phwysau economaidd drwy greu swyddi, mentrau llety fforddiadwy, a rhaglenni grymuso ariannol leihau'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â cham-drin domestig a thrais rhywiol.

Er mwyn diwallu anghenion amrywiol dioddefwyr, goroeswyr, plant a phobl ifanc, yn ogystal ag ymestyn cymorth i fenywod mudol yng Nghymru, rhaid cael dull cynhwysfawr ac ymateb ar lefel ranbarthol, o ystyried natur ddatganoledig llywodraeth leol, maes tai a gwasanaethau iechyd. Ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr, mae angen brys am wasanaethau cymorth hygyrch a sensitif yn ddiwylliannol, gan gydnabod bod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio ar unigolion o bob cefndir.

Mae hyn yn galw am gydymdrechu gan awdurdodau lleol, darparwyr iechyd, a'n darparwyr arbenigol ar gyfer goroeswyr sydd eu hunain wedi bod drwy'r un profiad, i sicrhau bod unigolion yn derbyn gofal sy'n ystyriol o drawma, gwasanaeth eirioli ac atebion i'w hanghenion llety sydd wedi'u teilwra i'w hamgylchiadau unigryw nhw. Mae'r un mor hanfodol blaenoriaethu anghenion plant a phobl ifanc sydd wedi dod ar draws trais o'r fath, drwy wella rhaglenni addysgol, gwasanaethau therapiwtig, a mannau diogel lle gallant wella a ffynnu.

Ar ben hynny, dylai cefnogaeth i fenywod mudol gynnwys cymorth cyfreithiol, gwasanaethau iaith, a gofal iechyd sy'n ddiwylliannol gymwys o fewn y systemau datganoledig, gan sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl na'i wthio ymhellach i'r cyrion oherwydd eu statws mewnfudo. Drwy fabwysiadu dull holistaidd, ac ymateb ar lefel ranbarthol, gallwn fynd i'r afael yn well ag anghenion penodol y poblogaethau bregus hyn a gweithio tuag at Gymru lle mae diogelwch, urddas a chydraddoldeb o fewn cyrraedd pawb.

Cynnydd

Cynnydd o ran amcanion 2021 i 2022

Amcan 1: cadeirio Panel Cenedlaethol Craffu ar Lais Goroeswyr

Mae ymgysylltu â goroeswyr a sicrhau bod unigolion sy'n arbenigwyr drwy brofiad yn rhan o'r gwaith o lunio polisïau a chraffu ar yr hyn sy'n digwydd ar bob lefel yn hanfodol. Yn dilyn gwaith ymchwil ac ymgynghori Llywodraeth Cymru, gwnaed ymrwymiad i greu Panel Cenedlaethol Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr. Yn chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol hon, gwnaed gwaith pellach i sicrhau tegwch a chydraddoldeb yn y prosesau recriwtio.  Roedd hyn yn cynnwys sicrhau rôl aelodau'r panel fel goroeswyr annibynnol sy’n cyflawni rôl graffu ar fodel gweithredu’r Glasbrint, gan wneud yn siwr bod aelodau’r panel yn cael eu cydnabod fel rhai â rôl annatod yn y broses oruchwylio, ac o’r herwydd, sy’n cael eu talu am eu hamser a’u hymrwymiad.

Dechreuodd y gwaith o hysbysebu a recriwtio ar gyfer y panel ym mis Tachwedd 2022, ac roedd ein cyfraniad a'n harweiniad ni yn cynnwys mynd i fforymau rhanbarthol amrywiol gyda goroeswyr a chwrdd ag unigolion a oedd â diddordeb. Yn dilyn hynny, gan weithio gyda'r sector arbenigol i sicrhau ystod amrywiol o brofiadau a chefndiroedd, aethom ati i gyfweld â phob ymgeisydd. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y panel ym mis Mai 2023, ac yn y cyfarfodydd dilynol canolbwyntiwyd ar gynlluniau gweithredu pob un o ffrydiau gwaith y Glasbrint. Rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth drwy gyfarfodydd un-i-un ar gyfer pob un o aelodau'r panel er mwyn sicrhau bod unrhyw bryderon, heriau ac anghenion cymorth yn cael sylw priodol.

Rhaid i'r panel a holl waith y Glasbrint barhau i adlewyrchu gymaint â phosibl amrywiaeth a chymhlethdodau profiad goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae dioddefwyr anabl o dan anfantais arbennig, yn ogystal â menywod sy'n cael eu hecsbloetio'n rhywiol a dioddefwyr hŷn. Mae angen ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a gwrando arnynt yn gynnar, yn enwedig mewn lleoliadau addysg, gan greu cyfleoedd i wella'r broses o atal trais a cham-drin ac ymyrryd yn gynnar. Mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn ein nod i ddileu camdriniaeth.

Amcan 2: ymgorffori dull iechyd cyhoeddus

Un o'r ffactorau hollbwysig wrth weithredu dull iechyd cyhoeddus yw bod pob gwasanaeth yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o atal problem a rhoi cefnogaeth. Mae hyn yn gyson â Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) a'i diben i atal trais a cham-drin, a diogelu a chefnogi pobl y mae trais a cham-drin yn effeithio arnynt. Mae hefyd yn gosod dyletswydd ar wasanaethau cyhoeddus i weithio tuag at y diben hwn wrth geisio dod o hyd i achos yn gynnar a mynd i'r afael ag ef drwy ymdrin â datgeliadau yn gynharach ar daith dioddefwr. Un o'r heriau niferus yw sicrhau bod ystod o gymorth ar gael i'r rhai sydd mewn perygl, gan gynnwys addysg, ymwybyddiaeth a'r lefel gywir o ymyrraeth.

Ni all un asiantaeth unigol ddarparu hyn ar ei phen ei hun: rhaid i wasanaethau cyhoeddus weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael y cymorth angenrheidiol o ran diogelwch drwy ddull iechyd cyhoeddus, gan fod angen ymdrechu ar y cyd i fynd i'r afael â'r holl ffactorau cymhleth - iechyd corfforol a meddyliol, cymdeithasol a chyfreithiol, sy'n effeithio ar oroeswyr, gan feithrin cymuned fwy diogel ac iachach i bawb yn y pen draw. Aethom ati i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn 2023 i amlinellu ein hasesiad o beth yn rhagor y gellir ei gyflawni. Mae'r manylion yn Atodiad 1. Rydym yn parhau i weithio i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu hatgoffa o'u dyletswyddau a bod yna graffu ar eu cyflawni. Rydym wedi rhoi cyngor i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am rai gwelliannau yr ydym yn eu hystyried yn angenrheidiol ac rydym yn disgwyl gweld y rhain yn cael eu gweithredu yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae ffrwd waith Dull System Gyfan Cynaliadwy y Glasbrint yn rhoi mecanwaith sylweddol inni i greu cynllun cydweithredol ar gyfer gweithredu dull iechyd cyhoeddus ar gyfer y system gyfan a fydd yn sicrhau bod goroeswyr trais a cham-drin yn cael ymateb effeithiol ar draws gwasanaethau cyhoeddus a'u cefnogi i gael gafael ar wasanaethau arbenigol. Drwy brosesau gwell i asesu anghenion a nodi'r camau gofynnol, bydd modd dadlau dros wella prosesau atal trais a cham-drin ac ymyrryd yn gynharach ar lefel eang ac amrywiol i leihau'r gost i boblogaeth Cymru. Dylid deall y gost hon mewn dwy ffordd: niwed uniongyrchol i fenywod, plant a dynion fel dioddefwyr, ond gan gydnabod hefyd gost y niwed hwn, yn ei dro, i wasanaethau cyhoeddus sy'n delio â chanlyniadau'r niwed a'r gamdriniaeth.

Yng Nghymru, er mwyn mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy ddull iechyd cyhoeddus, mae angen cydlynu swyddogaethau holl feysydd polisi Llywodraeth Cymru ac ar draws cyrff cyhoeddus sy’n ymwneud â strategaethau a mentrau. Rhaid inni barhau i ddarparu tystiolaeth o sut mae’r dull iechyd cyhoeddus yn holistaidd ac yn rhagweithiol o ran mynd i’r afael â thrais a cham-drin, gan anelu nid dim ond i ddelio â’r canlyniadau uniongyrchol, ond hefyd i’w atal a chreu Cymru fwy diogel i bawb.

Amcan 3: archwilio dull glasbrint ar gyfer cyflwyno Strategaeth Genedlaethol bum mlynedd nesaf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Cyhoeddwyd strategaeth trais a cham-drin Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2022. Mae'r strategaeth yn cynnwys dull glasbrint gyda'r diben o dynnu'r holl wasanaethau ynghyd. Mae hyn yn cynnwys asiantaethau cyfiawnder troseddol sydd, er yn faes heb ei ddatganoli, yn hanfodol er mwyn gweithredu dros oroeswyr a mynd i'r afael â thrais a cham-drin. Mae'r sector arbenigol hefyd yn cael ei gynrychioli ym mhob maes, gan gynnwys eu profiadau o ddarparu gwasanaethau trais a cham-drin pwrpasol a phrofiadau'r goroeswyr sy'n manteisio ar y gwasanaethau hynny. Rydym yn mynd i bob un o'r cyfarfodydd sy'n berthnasol i lywodraethiant y strategaeth a'r Glasbrint. Mae Yasmin yn un o gyd-gadeiryddion ffrwd waith Dull System Gyfan Cynaliadwy, a Johanna yn gyd-gadeirydd ar ffrwd gwaith Aflonyddu ar sail Rhywedd mewn Mannau Cyhoeddus.

Rydym wedi rhoi cyngor a gwybodaeth i dîm gweithredu'r Glasbrint, yr uwch swyddogion cyfrifol a'r tîm polisi ar faterion amrywiol, gan gynnwys y model "Damcaniaeth Newid" yn ogystal â'r cynlluniau gweithredu manwl lefel uchel gwahanol. Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda'r Cynghorwyr Rhanbarthol a'r Sector Arbenigol i sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli'n briodol, ac i sicrhau bod sianeli cyfathrebu â'r rhanddeiliaid ehangach yn cael eu gwella. Rydym hefyd wedi ffurfio'r Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol sy'n ceisio rhoi llais o fewn y sector arbenigol i unigolion sydd eu hunain wedi bod drwy'r un profiad. Mae'r grŵp hwn yn craffu ar ein gwaith ac yn rhoi cyfle inni weithio gyda'r sector i sicrhau bod polisi a darpariaeth Llywodraeth Cymru yn cael eu llywio gan eu profiad a'u harbenigedd nhw.

Amcan 4: parhau i ymgysylltu â gwasanaethau arbenigol trais rhywiol er mwyn sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid i'r gwasanaethau trais rhywiol arbenigol ledled Cymru. Mae Llywodraeth y DU yn darparu cyllid drwy'r Gronfa Cymorth Trais i wasanaethau yng Nghymru yn ogystal â chyllid ychwanegol drwy Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu ar gyfer Eiriolwyr Trais Rhywiol Annibynnol a chymorth trais rhywiol arall. Mae hyn i gyd wedi cynyddu o ganlyniad i well gwybodaeth a dealltwriaeth o raddfa trais rhywiol ledled Cymru a Lloegr.

Mae Rhaglen Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru yn parhau i fod yn rhaglen sylweddol i ddarparu gwell gwasanaethau i ddioddefwyr a goroeswyr trais rhywiol yng Nghymru. Rydym yn ymgysylltu â chyfarwyddwr y rhaglen yn fisol, yn mynychu cyfarfodydd y bwrdd a bwrdd cynghori Eiriolwyr Trais Rhywiol Annibynnol sy'n trefnu'r gwaith o ailgomisiynu gwasanaethau Eiriolwyr Trais Rhywiol Annibynnol. Hefyd, Johanna oedd prif siaradwr cynhadledd Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru eleni, ac aeth i gynadleddau a gynhaliwyd gan y sector trais rhywiol arbenigol.

Mae Yasmin yn parhau i gadeirio grŵp gweithredol Cymru Gyfan ar gyfer menywod sy’n cael eu hecsbloetio’n rhywiol ac i amlygu'r rhwystrau systematig y maent yn eu hwynebu. Mae'r gwaith hwn hefyd yn dechrau datgelu'r bylchau mewn hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ledled Cymru. Bydd adborth gan y grŵp hwn yn parhau i fynd i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau sy'n wynebu dioddefwyr, gan gynnwys adnabod cam-drin yn gynnar a'r bylchau mewn gwasanaethau.

Amcan 5: ystyried sut y gall y broses gomisiynu fod yn fwy effeithiol a chyson

Er mwyn comisiynu mewn ffordd gynaliadwy y gwasanaethau priodol sy'n angenrheidiol i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, rhaid inni sicrhau bod gennym y strwythurau cywir ar gyfer deall yr angen, cynllunio a chaffael ar waith ledled Cymru. Rydym yn adolygu'r sefyllfa a'r broses ariannu ledled Cymru. Dylai hyn fod yn rhan o gylch cynllunio strategol sy'n cynnwys caffael, ond sy'n caniatáu dull gweithredu system gyfan, llawn. Mae hyn yn elfen sylweddol o gydweithrediad partneriaid yn ffrwd waith Dull System Gyfan Cynaliadwy y Glasbrint.

Mae'r Cynllun i adolygu ac adnewyddu'r trefniadau rhanbarthol a chenedlaethol presennol ar y gweill. Gan weithio gyda chomisiynwyr ac arweinwyr polisi rydym yn rhagweld y caiff trefniadau eu gwneud sy'n seiliedig ar anghenion i gryfhau ac alinio'r gweithdrefnau yn well â diben Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (2015).

Mae'r dull glasbrint sy'n cwmpasu cyrff datganoledig a chyrff heb eu datganoli yn adolygu'r strwythurau a'r mecanweithiau presennol i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus statudol yn ymateb i anghenion dioddefwyr a goroeswyr. Yn ogystal, bydd y dull hwn yn asesu a ellir gwella'r dull caffael i sicrhau cynaliadwyedd o fewn y sector arbenigol, i gefnogi cydweithio effeithiol rhwng comisiynwyr yng Nghymru a gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau.

Amcan 6: sicrhau bod anghenion dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu hadlewyrchu o fewn strategaethau lleol

Mae strategaethau trais a cham-drin lleol newydd wedi'u drafftio yn ystod 2022 i 2023, fel sy'n ofynnol yn sgil cyhoeddi'r strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer 2022 i 2026. Caiff y strategaethau hyn eu cyhoeddi yn 2023 i 2024. Rydym wedi gweithio gyda'r Cynghorwyr Rhanbarthol wrth adolygu strategaethau drafft. Yn ystod y cyfnod hwn rydym hefyd wedi bod yn ymgysylltu, fel y nodwyd uchod, gyda goroeswyr a'r gwasanaethau trais a cham-drin arbenigol. Rydym hefyd wedi craffu ar yr asesiadau o anghenion a ddefnyddiwyd i lywio'r strategaethau lleol. Rydym yn cydnabod bod y strategaethau yn ddibynnol ar gyfraniad yr holl wasanaethau yng Nghymru at yr asesiad o anghenion a'r broses o nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu. Mae hwn yn faes y mae angen ei wella'n sylweddol, ac rydym wedi cynnig her a chefnogaeth i sicrhau bod canllawiau a gwaith craffu mewn perthynas â gweithgarwch i’r dyfodol yn cydnabod hyn. Byddwn yn parhau i ddarparu’r her a’r gefnogaeth hon. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyflawni'n bennaf drwy'r Glasbrint ac, yn benodol, drwy ffrwd waith Dull System Gyfan Cynaliadwy.

Amcan 7: cyfathrebu'n well â Swyddfa Gartref y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Darparodd Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr adroddiad cynhwysfawr yn 2022 "A Patchwork of provision: mapping report" sut i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru a Lloegr. Amlygodd yr adroddiad hwn yr heriau o ran gallu dioddefwyr a goroeswyr i gael gafael ar gymorth cwnsela, roedd gwahaniaeth o 21 pwynt canran rhwng yr ardal orau (58% yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr) a'r ardal waethaf (37% yng Nghymru). Ar ben hynny, wrth geisio dwyn cyflawnwyr trais i gyfrif a gweithredu’r ymyriadau newid ymddygiad penodol, dywedodd 16% o oroeswyr yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr fod cymorth newid ymddygiad ar gael i’w camdriniwr, o'i gymharu â 3% yng Nghymru. Mae'r wybodaeth hon yn cefnogi'r adborth anecdotaidd a gawn gan randdeiliaid allweddol a dioddefwyr, sy'n ategu'r angen am fecanweithiau a systemau gwell i nodi bylchau mewn gwasanaethau ac asesiadau o anghenion. Rydym wedi gweithio gyda chynrychiolwyr o swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig i rannu canfyddiadau o'r adroddiad a chamau gweithredu y mae angen eu cymryd ar unwaith, sy’n mynd i'r afael â'r pryderon a'r argymhellion a nodwyd.

Rydym yn parhau i ymgysylltu â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Swyddfa Gartref ar feysydd perthnasol sy’n cynnwys datblygiadau o ran deddfwriaeth, polisi a chanllawiau, ee sy’n ymwneud â phrofion gwyryfdod a thriniaeth hymenoplasti, comisiynu dioddefwyr a thrais rhywiol.

Amcan 8: mynd i'r afael â phrofion gwyryfdod a thriniaeth hymenoplasti a rhoi cyngor arbenigol ar ffoi rhag trais a cham-drin pan nad oes gan y dioddefwr hawl i arian cyhoeddus

Mae profion gwyryfdod a thriniaeth hymenoplasti yn fathau o drais yn erbyn menywod a merched ac maent yn rhan o'r cylch o gam-drin 'ar sail anrhydedd' fel y'i gelwir. Gyda chefnogaeth gweithwyr proffesiynol, darparodd Yasmin arbenigedd i'r rhai sy'n datblygu'r canllawiau anstatudol sy'n cynnig cyngor i brif weithredwyr, cyfarwyddwyr, uwch reolwyr, gweithwyr proffesiynol rheng flaen o fewn asiantaethau ac unrhyw un arall a allai ddod i gysylltiad â menywod a merched yr effeithir arnynt gan brofion gwyryfdod a thriniaeth hymenoplasti. Maent yn annog asiantaethau i gydweithredu i ddiogelu a chefnogi'r rhai sy’n wynebu perygl y gweithdrefnau hyn, neu sydd eisoes wedi mynd drwyddynt.

I gydnabod y rhwystrau penodol y mae goroeswyr nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus yn eu profi ac yn sôn amdanynt, a'r rhwystrau sylweddol wrth geisio cael gafael ar gymorth a sefyllfa ddiogel, rydym yn falch bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ymrwymo i sicrhau cefnogaeth ychwanegol i oroeswyr nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus yng Nghymru. Rhoesom gyngor i'r Gweinidog a swyddogion yn ystod y broses o gynllunio a gwneud penderfyniadau.  Rydym hefyd yn croesawu argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i wella'r ymateb gan wasanaethau cyhoeddus drwy gyflawni dyletswyddau a osodir arnynt drwy'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ogystal â'r Ddeddf Trais a Cham-drin. Byddwn yn monitro effaith y camau cadarnhaol hyn er mwyn sicrhau newid i oroeswyr yn ystod 2023 i 2024.

Amcan 9: cefnogi Llywodraeth Cymru mewn ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth pellach

Drwy ymgyrchoedd Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru, rydym wedi parhau i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys ar y stryd ac mewn mannau cyhoeddus eraill. Mae'r ymgyrchoedd hyn yn rhoi cyngor ymarferol i'r rhai a allai fod yn cael eu cam-drin ac yn tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i alluogi ffrindiau, teulu a'r gymuned ehangach i adnabod achosion o gam-drin a chymryd camau gweithredu diogel. Mae'r ymgyrchoedd yn gyfrwng i hyrwyddo llinell gymorth Byw Heb Ofn, sef ein gwasanaeth 24/7 sydd ar gael am ddim i bawb sydd wedi dioddef a goroesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a'r rhai sy'n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr.

Ym mis Tachwedd 2022, fe wnaethom weithio’n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ynghyd â chefnogwyr benywaidd y Wal Goch i greu fideo Cwpan y Byd i gyd-fynd â Diwrnod y Rhuban Gwyn. Rhannwyd y fideo ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol Byw Heb Ofn, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru gan gefnogwyr a rhanddeiliaid, a chan ychwanegu ato.

Mae mynd i’r afael â thrais a cham-drin yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i ni fel Cynghorwyr Cenedlaethol Annibynnol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Rydym yn cydnabod y camau breision y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd wrth fynd i’r afael â’r broblem. Eleni, rydym wedi gwneud ymdrech benodol i fynd i’r afael â gwreiddyn trais, gan ganolbwyntio nid dim ond ar gefnogi goroeswyr, ond hefyd ar weithredu mesurau rhagweithiol i atal ymddygiad niweidiol. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r ymdrech hon yn glir, o’r ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, y rhaglenni ar gyfer cyflawnwyr trais, y mentrau addysgol, i’r mesurau deddfwriaethol sy’n dwyn unigolion i gyfrif. Gyda’n gilydd, rydym yn gosod y sylfaen ar gyfer cymdeithas fwy diogel, sy’n sicrhau mwy o barch yng Nghymru, lle gellir torri’r cylch trais, a lle gall unigolion gael gafael ar y cymorth sydd ei angen i newid eu hymddygiad.

Mae ein gwaith yn cynnwys cydweithio â swyddfa’r Comisiynydd Cam-drin Domestig fel rhan o’r Grŵp Cyfeirio Strategol ar gyflawnwyr cam-drin domestig. Mae’r grŵp hwn yn cefnogi’r Comisiynydd yn ei chylch gwaith i hybu arferion da a gwneud argymhellion o fewn asiantaethau cyfiawnder troseddol i gysylltu tystiolaeth newydd ac arferion sy’n datblygu ar draws Cymru a Lloegr. Nod y grŵp hwn yw datblygu arweinyddiaeth drawsddisgyblaethol ar ymatebion effeithiol i gyflawnwyr trais.

Rhwng diwedd 2022 a 2023, aethom ati hefyd i weithio gyda thîm polisi trais a cham-drin Llywodraeth Cymru i ddatblygu ‘Iawn’, ymgyrch ymyrryd yn gynnar ac atal trais a cham-drin yn targedu dynion ifanc rhwng 18 a 34 oed, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2023.

Mae'r ymgyrch yn annog dynion ifanc i bwyso a mesur eu hymddygiad eu hunain a gwneud dewisiadau personol cadarnhaol i ddechrau sgyrsiau agored gyda'u cyfoedion, gan godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach.

Casgliad

Mae ein Hadroddiad Blynyddol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2022 i 2023 yn nodi blwyddyn arall o ymrwymiad diflino i fynd i'r afael â'r rhwystrau penodol sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Fel Cynghorwyr Cenedlaethol, rydym wedi gweld cynnydd a heriau sy'n ein hatgoffa o'r gwaith aruthrol sydd o'n blaenau. Mae'r ystadegau, fel ag a ddatgelwyd gan Arolwg Troseddu Prydain a data'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn tanlinellu’r brys sydd yna i gyflawni ein cenhadaeth, gan dynnu sylw at y ffaith bod cam-drin domestig a thrais rhywiol yn treiddio i bob rhan o Gymru a Lloegr.

Drwy gydol y flwyddyn hon, rydym wedi gweithio i gefnogi goroeswyr, nodi gwell gwasanaethau, a chydweithio â rhanddeiliaid ledled Cymru. Un o brif wersi yr adroddiad hwn yw pwysigrwydd hanfodol ymgorffori lleisiau goroeswyr mewn unrhyw newidiadau ar draws pob rhanbarth yng Nghymru. Drwy roi gwerth ar brofiadau bywyd goroeswyr, gallwn lunio strategaethau mwy ymatebol, empathig ac effeithiol ar gyfer atal trais, a diogelu a chefnogi unigolion.

Ar ben hynny, mae ymateb y sector cyhoeddus yn ganolog yn ein taith tuag at roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n gofyn am ymrwymiad diwyro, cyllid cadarn, ac ymdrechion cydgysylltiedig i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, waeth beth fo'u hamgylchiadau. Mae cydweithio rhwng asiantaethau llywodraeth leol, gofal iechyd, tai a chyfiawnder troseddol yn hanfodol er mwyn cynnig diogelwch cynhwysfawr ac ymyrraeth briodol.

Wrth inni symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf, rhaid inni barhau i fod yn benderfynol yn ein hymroddiad i greu Cymru lle nad yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dderbyniol mwyach, gan fabwysiadu safbwynt cwbl anoddefgar tuag at bob math o drais a niwed. Rhaid inni ganolbwyntio ar bob ystadegyn sy'n cynrychioli bywyd unigolyn, gobaith i oroeswr, a chymuned sy'n ymdrechu i sicrhau diogelwch. Gyda'n gilydd, gan roi’r lle blaenaf i leisiau goroeswyr, gallwn adeiladu dyfodol lle bydd optimistiaeth yn drech nag ofn trais.