Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yr adroddiad hwn yw ein hadroddiad terfynol ac mae'n ymdrin â'r gwaith aruthrol a'r cynnydd a wnaed yng Nghymru mewn partneriaeth â'r darparwyr arbenigol, rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys yr Heddlu, Awdurdodau Lleol, ac asiantaethau partner. Rhaid i lais ac anghenion y goroeswyr barhau i fod yn rhan annatod o’n gwaith wrth inni barhau i sicrhau bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn cael yr ymrwymiad a'r flaenoriaeth sydd eu hangen arnom yng Nghymru i ddileu pob ffurf ar drais yn erbyn menywod a merched.

Mae Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr yn dangos bod 2.3 miliwn o bobl y gwyddys amdanynt wedi profi cam-drin domestig rhwng 2019 a 2020, gydag 1.6 miliwn o'r dioddefwyr yn fenywod. Mae traean o achosion o gam-drin domestig yn cynnwys trais rhywiol a/neu gam-drin rhywiol. Gallwn dybio'n ddiogel nad yw’r ffigurau hyn yn adlewyrchu graddfa'r trais yn erbyn menywod a merched na'r rhai sydd mewn perygl o niwed. Amlygodd y pandemig COVID-19 effaith beryglus cam-drin domestig a thynnu sylw at ei gymhlethdodau drwy'r cynnydd mewn cam-drin ar-lein yng nghydwybod y cyhoedd. Rhaid inni barhau i ddarparu amcanion clir ac uchelgeisiol drwy gydol yr adroddiad terfynol hwn a sicrhau, lle y bo'n bosibl, bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael ei ddileu. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod, yn briodol, y systemau rhyngddibynnol o wahaniaethu a gormes. Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn annog trais yn erbyn menywod a merched.

Er mwyn llwyddo i atal VAWDASV, mae angen rhoi mwy o bwyslais ar y penderfynyddion ehangach. Mae'r pandemig wedi amlygu'r gwahaniaethau ac wedi atgyfnerthu'r angen i fynd i'r afael â nhw. Mae achosion diweddar gan gynnwys llofruddiaeth Sarah Everad a Sabina Nessa i enwi ond ychydig, yn dangos bod angen dull newydd o fynd i'r afael â'r troseddau mwyaf treisgar yn erbyn menywod a merched. Fodd bynnag, rhaid inni hefyd ystyried trawma a phrofiadau'r rhai sy’n profi blynyddoedd o gam-drin emosiynol a seicolegol sy'n cael effaith sylweddol ar adferiad y dioddefwr a'r plant sy'n dioddef o gam-drin domestig. Ni allwn fychanu effaith hirdymor cam-drin domestig a cham-drin rhywiol, y gost economaidd a hefyd y gost i'n cymdeithas. Nid dyma'r amser i bwyso a mesur, mae'n bryd bwrw ymlaen ag uchelgais, eglurder a phwrpas i ymgorffori'r newid diwylliannol a chymdeithasol sydd ei angen arnom yng Nghymru. Bydd hyn yn sicrhau y gellir diogelu pawb sydd mewn perygl ac atal cam-drin, gan ddwyn cyflawnwyr i gyfrif mewn system sy'n rhoi'r sicrwydd a'r canlyniadau y mae dioddefwyr yn eu haeddu.

Mae hyn yn rhyngblethu â mathau eraill o wahaniaethu a gormes megis hiliaeth, homoffobia, gwahaniaethu ar sail anabledd a statws mewnfudo. Er enghraifft, mae menywod o gymunedau du ac ethnig lleiafrifol sy'n adrodd am drais rhywiol yn wynebu rhwystrau ychwanegol o ran cael mynediad at systemau cyfiawnder troseddol oherwydd hiliaeth systemig. Mae’n bosibl y bydd menywod nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus yn amharod i adrodd am drais a cham-drin domestig oherwydd pryderon ynghylch statws mewnfudo. Rhaid inni hefyd ystyried agweddau eraill ar wahaniaethu a sut maent yn rhyngblethu ag anabledd, rhywedd, hil ac LHDTC+.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod bod cysylltiad cryf rhwng trais a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd – hynny yw, yr amodau a'r amgylcheddau lle caiff pobl eu geni a’u magu a lle maent yn byw, dysgu a gweithio. Mae'r rhain yn cynnwys datblygiad plentyndod cynnar, ansawdd tai, cyrhaeddiad addysgol a chyflogaeth ac incwm. Mae gwahaniaethau yn y penderfynyddion cymdeithasol iechyd yn golygu bod rhai pobl yn fwy tebygol o ddioddef o drais a/neu ei gyflawni. Er mwyn llwyddo i atal VAWDASV, mae angen rhoi mwy o bwyslais ar y penderfynyddion ehangach.

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at y gwahaniaethau ac wedi atgyfnerthu'r angen i fynd i'r afael â nhw. Yma yng Nghymru, mae gwasanaethau arbenigol VAWDASV ochr yn ochr â gwasanaethau cyhoeddus wedi gweithio mewn partneriaeth i ddarparu ymateb cadarn wedi’i gydlynu i ddioddefwyr ar yr adeg dyngedfennol hon. O ganlyniad, mae llawer o wersi i'w dysgu ac arferion da i'w rhannu. Hefyd, mae mwy a mwy o dystiolaeth o natur a graddfa VAWDASV mewn mannau ar-lein gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys bygythiadau o drais rhywiol, gwyliadwriaeth ddigidol a seiberstelcio, aflonyddu rhywiol, a rhannu delweddau o natur bersonol heb gydsyniad.

Rhaid ystyried y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â cham-drin, mae gan gam-drinwyr ffordd o gyrraedd y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, felly mae angen ymateb beiddgar i ddwyn cyflawnwyr i gyfrif. Drwy ein hadroddiad byddwn yn blaenoriaethu ac yn atgyfnerthu anghenion Cymru er mwyn sicrhau diogelwch y rhai sydd mewn perygl yn ogystal ag atal. Mae ein cynlluniau blynyddol wedi tynnu sylw at yr angen am ddull mwy cydgysylltiedig yng Nghymru o ddileu pob ffurf ar drais yn erbyn menywod a merched gan ganolbwyntio ar ddwyn troseddwyr i gyfrif ac annog pobl i gefnogi dioddefwyr y mae angen cymorth arnynt. Mae ein hadroddiad terfynol yn ystyried y cynnydd sylweddol a wnaed yng Nghymru. Mae hefyd yn tynnu sylw, yn gwbl briodol, at y meysydd allweddol y mae rhaid inni ganolbwyntio arnynt yn awr i sicrhau bod VAWDASV yn parhau i fod yn flaenoriaeth genedlaethol gan gydnabod bod cam-drin domestig yn effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched. Dim ond drwy ddeall bod y drosedd hon o ran ei natur yn effeithio mwy ar fenywod a merched a chydnabod anghenion penodol pob dioddefwr a goroeswr y gallwn ni wirioneddol ffynnu fel cymdeithas gadarn, iach a ffyniannus.

Yn ein hadroddiad mae rhaid inni hefyd gydnabod bod y dirwedd yng Nghymru a Lloegr wedi newid, nid yn fwy na phan gyflwynwyd Deddf Cam-drin Domestig 2021 ond bydd y llu o fesurau a newidiadau cyfreithiol sydd ar ddigwydd yn arwyddocaol i Gymru yn ystod y deuddeg mis nesaf.

Cyd-destun Cymru a Lloegr

Yn hanesyddol, mae’r cyfrifoldeb i weithredu yn rhy aml wedi’i roi ar y dioddefwr a'r goroeswr. Rhaid i'n gwaith yng Nghymru o atal, diogelu a chefnogi osod trywydd newydd. Felly, wrth symud ymlaen, rhaid inni bennu amcanion clir sy’n targedu’r rhai sy'n cyflawni cam-drin domestig er mwyn atal troseddwyr tro cyntaf, ad-droseddwyr a throseddwyr cyfresol.

Mae ein hadroddiad blynyddol terfynol yn galw am systemau gwell a fydd yn ceisio atal VAWDASV rhag digwydd yn y lle cyntaf, systemau sy’n sicrhau deilliannau gwell i ddioddefwyr a goroeswyr ac sy’n ddidostur wrth fynd ar drywydd cyflawnwyr. Y rhai sy'n troseddu sydd angen newid eu hymddygiad a chyfrifoldeb cymdeithas yw gwrthod ymddygiad annerbyniol, mewn mannau digidol, gartref ac mewn mannau cyhoeddus.

Rhaid i ddull gweithredu mwy cydlynol yng Nghymru gynnwys deialog fwy cydlynol â Lloegr a rhaid i’r dull gyflwyno deddfwriaeth newydd, gan gynnwys y Bil Dioddefwyr sydd ar y gweill, yn codi oedran cyfreithiol priodas ac yn gwneud profion gwyryfdod a hymenoplasti yn anghyfreithlon. Mae pob un o’r rhain o fewn ein golwg ond mae rhaid i Gymru barhau i gael ei chynnwys yn y sgwrs fel Llywodraeth ddatganoledig. Hefyd, rhaid ystyried newidiadau mewn deddfwriaeth ar gyfer Cymru a Lloegr o fewn ein tirwedd a’n blaenoriaethau VAWDASV cenedlaethol.

Deddf Cam-drin Domestig 2021

Ailgyflwynwyd y ddeddfwriaeth ym mis Mawrth 2020 fel Bil Cam-drin Domestig 2019-21, a chafodd gydsyniad brenhinol ar 29 Ebrill 2021.

Roeddem yn croesawu ymrwymiad y llywodraeth i fynd i'r afael â cham-drin domestig. 

Mae’r Ddeddf:

Ymgynghoriad ar y Bil Dioddefwyr

Bydd y Bil Dioddefwyr a'r mesurau cysylltiedig yn un o golofnau hanfodol y gwaith eang ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod anghenion dioddefwyr yn cael eu blaenoriaethu, drwy fwy o fuddsoddiad, deddfwriaeth wedi'i thargedu, a ffyrdd gwell o weithio ar draws partneriaid gweithredol.

Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a merched

Mae elfennau'r Strategaeth hon sy'n ymwneud â throseddu, plismona a chyfiawnder yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Mae'r elfennau sy'n ymwneud ag iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg wedi'u datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon felly maent yn berthnasol i Loegr yn unig.

Strategaeth cam-drin domestig

Cafodd cyfreithiau diogelwch ar-lein Llywodraeth y DU eu dwyn gerbron Senedd y DU ar 17 Mawrth. Mae'r Bil Diogelwch Ar-lein yn garreg filltir yn y frwydr am oes ddigidol newydd sy'n fwy diogel i ddefnyddwyr ac sy'n dwyn cewri byd technoleg i gyfrif. Bydd yn amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol fel pornograffi ac yn cyfyngu ar faint o gynnwys anghyfreithlon fydd pobl yn ei weld, gan ddiogelu rhyddid i lefaru. Rydym yn croesawu'r Bil newydd a'r pecyn cymorth cysylltiedig gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, a rhaid inni sicrhau bod hyn yn cael ei gyfleu'n effeithiol ar gyfer ein tirwedd yng Nghymru a'i weithrediad.

Ar hyn o bryd, mae'r Comisiynydd Cam-drin Domestig yn cynnal ymarfer mapio a monitro cynhwysfawr, sy'n cwmpasu darpariaeth gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol yng Nghymru a Lloegr. Drwy brosiectau mapio amrywiol mae'n gobeithio nodi bylchau yn y ddarpariaeth a helpu i fynd i'r afael â'r 'loteri cod post' presennol. Mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) wedi argymell y byddai'r Llywodraeth yn elwa ar ymrwymiad tebyg ar gyfer gwasanaethau trais a cham-drin rhywiol arbenigol. Byddai comisiynydd pwrpasol ar gyfer trais rhywiol a throseddau rhywiol difrifol mewn sefyllfa dda i fwrw ymlaen â hyn. Mae llawer o waith yn cael ei wneud ar draws Llywodraeth y DU, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i fynd i'r afael â'r sefyllfa bresennol ac i ddod â mwy o gyflawnwyr trais rhywiol gerbron llys. Ond erys y ffaith bod lefelau cyhuddo, erlyn ac euogfarnau yn gywilyddus o isel. Rhaid inni wneud hynny er mwyn dioddefwyr a goroeswyr, a oedd yn haeddu cael eu hamddiffyn ac a ddylai bellach fod yn cael eu cefnogi a'u galluogi i gael cyfiawnder. Er nad yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn gallu cael canlyniadau priodol ac amserol a bod cyflawnwyr yn cael eu dal yn gyfrifol am eu gweithredoedd.

Yn 2021, daeth arolygiad gan HMICFRS i’r casgliad bod gwelliannau mawr wedi'u gwneud yn yr ymateb plismona i Strategaeth  Trais yn erbyn Menywod a Merched dros y degawd diwethaf, ond nad oedd y rhain yn ddigon. Canfu'r adroddiad hefyd anghysondebau sylweddol yn y gwasanaeth y mae heddluoedd yn ei ddarparu i fenywod a merched ledled Cymru a Lloegr. Argymhellodd yr arolygiaeth newid sylfaenol mewn blaenoriaethau, gyda'r nod o sicrhau mwy o gysondeb a safonau uwch i bawb. Gyda strategaethau, cynlluniau gweithredu a fframweithiau amrywiol ar gyfer Cymru a Lloegr, mae'n hanfodol nad ydym yn colli golwg ar yr angen i gydlynu ein hymdrechion yma yng Nghymru. Mae’n hanfodol ein bod yn cadw golwg ar dirwedd y DU, ond rhaid inni sicrhau bod ein hymdrechion a'n gweithredoedd ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn parhau i fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac anghenion. Er mwyn gwneud hyn, rhaid inni barhau i gynnwys yr awdurdodau datganoledig a rhaid inni allu llesio ein barn a dylanwadu ar lefel y DU lle bynnag y bo modd.

Gellir casglu’n gyflym fod Llywodraeth y DU wedi deffro i natur frys yr angen i fynd i'r afael â'r problemau o fewn agenda VAWDASV y DU. Yn ein barn ni, y brys yng Nghymru sydd wedi achosi i Lywodraeth y DU gyflymu'r broses. Pasiodd Cymru y Ddeddf VAWDASV hollgynhwysol 7 mlynedd yn ôl. Mae Cymru bellach yn ail flwyddyn ei Strategaethau Cenedlaethol 5 mlynedd. Mae Cymru wedi cael yr hyn sy'n cyfateb i gomisiynydd Cam-drin Domestig, sef ni, ers sawl blwyddyn.

Bydd y pwerau newydd sydd wedi'u cynnwys yn neddfwriaeth newydd a deddfwriaeth arfaethedig y DU gan gynnwys y troseddau newydd a'r offer diogelu newydd yn effeithio'n uniongyrchol ar ddinasyddion y wlad hon. Mae cryn orgyffwrdd â mentrau presennol Llywodraeth Cymru. Rhaid inni felly sicrhau bod y rhai sy’n darparu gwasanaethau wedi cael yr hyfforddiant a’r adnoddau i wneud hynny. Rhaid inni sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn ymgysylltu'n llawn. O wneud hynny, bydd pob dinesydd yn ymwybodol o'r hyn y gallant ei gael a beth mae rhaid i wasanaethau ei gynnig. Bydd y Cynghorwyr Cenedlaethol yn parhau i ddwyn ynghyd y rhanddeiliaid perthnasol i fynd i'r afael â'r camau sy'n ofynnol gan gynnal y ffocws ar lais y dioddefwr a'r goroeswr.

Cynnydd o ran blaenoriaethau

Yn ein cynllun blynyddol ar gyfer 2021 i 2022, gwnaethom amlinellu nifer o feysydd blaenoriaeth allweddol y byddem am eu datblygu fel Cynghorwyr Cenedlaethol. Gyda'n telerau fel Cynghorwyr Cenedlaethol yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2022, rydym hefyd wedi ystyried cynnydd o ran ein blaenoriaethau ar gyfer 2022 i 2023 hyd yma. Mae'r adran a ganlyn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd yn erbyn y meysydd blaenoriaeth hyn ac yn tynnu sylw at ein hargymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru wrth symud ymlaen.

Ymgorffori dull iechyd y cyhoedd

Ein cynnydd

Mae ein cynlluniau blynyddol yn nodi’n barhaus y dylai Cymru fabwysiadu dull iechyd y cyhoedd wrth godi ymwybyddiaeth o VAWDASV ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol. Maent hefyd yn ceisio sicrhau, pe byddai ar bobl angen gwasanaethau ar ryw adeg yn y dyfodol, y byddai ganddynt yr wybodaeth am yr hyn y maent hwy neu'r rhai o'u cwmpas yn ei brofi ac yn gwybod ble i fynd am gymorth a chefnogaeth. Drwy ddeall yr achos sylfaenol i bennu risgiau cysylltiedig gellir gweithredu ymyriadau effeithiol a ddylai gynnwys monitro'r effeithiau ar ffactorau risg. Mae lleoliadau addysg yn hanfodol i nodi camdriniaeth yn y blynyddoedd cynnar, ymyriadau mewn lleoliad ysgol i atal VAWDASV fel rhan o ddull ysgol gyfan, gan gynnwys perthnasoedd iach, addysg a sgiliau ar gyfer y rhai sy’n ymwybodol o achosion o gam-drin. Mae plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol felly maent wedi cael sylw ym mhob un o’n cynlluniau.

Argymhellion

Mae lleoliadau addysg yn hanfodol i nodi camdriniaeth yn y blynyddoedd cynnar, ymyriadau mewn lleoliad ysgol i atal VAWDASV fel rhan o ddull ysgol gyfan, gan gynnwys perthnasoedd iach, addysg a sgiliau ar gyfer y rhai sy’n ymwybodol o achosion o gam-drin. Mae plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol felly maent wedi cael sylw ym mhob un o’n cynlluniau. Rydym yn argymell bod hwn yn faes ffocws ym mhob cynllun strategol a phob cam gweithredu lleol.

Archwilio dull glasbrint ar gyfer cyflwyno Strategaeth Genedlaethol pum mlynedd nesaf VAWDASV

Ein cynnydd

Mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn broblem gymdeithasol barhaus ac yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol i Gymru wrth gyflawni’r weledigaeth a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sef y nod o wneud Cymru yn fwy cydnerth, iach a chyfartal, yn wlad o gymunedau mwy cydlynus a thyfu’n gymdeithas deg a llewyrchus. Rydym yn parhau i weithio gyda chyrff cyhoeddus, rhanddeiliaid allweddol a darparwyr arbenigol. Rydym wedi ymrwymo i wrando ar leisiau goroeswyr i ddylanwadu ar strategaethau atal gyda'r dull system gyfan cydweithredol a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol a'r glasbrint wedi hynny.

Er mai'r tîm VAWDASV sy'n gyfrifol am gyflawni'r Strategaeth, mae'r gwaith o gyflawni'r dull glasbrint yn cynnwys partneriaid datganoledig a rhai nad ydynt wedi'u datganoli. Mae gwaith eisoes wedi dechrau rhwng swyddfeydd Llywodraeth Cymru, yr heddlu a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a bydd yn cael ei ddatblygu gyda goroeswyr, darparwyr arbenigol a chyrff cyhoeddus eraill i gynllunio'r glasbrint a sefydlu rhai o'r strwythurau llywodraethu a alluogodd y cynllun i gyflawni cyn gynted ag y cyhoeddwyd y strategaeth ym mis Mai 2022. Rydym yn darparu cyngor annibynnol i grwpiau strategol Cymru a Lloegr fel y gallwn sefydlu dull gweithredu cydlynol ar draws pob maes polisi allweddol ac o fewn adrannau'r Llywodraeth.

Argymhellion

Gyda chynifer o gynlluniau a strategaethau, mae'n hanfodol ein bod yn darparu dolenni a chyfeiriadau clir wrth symud ymlaen i fesur effaith y dull glasbrint ac effeithiolrwydd canlyniadau i ddioddefwyr cam-drin domestig, trais rhywiol a phob niwed sy'n gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod a merched.

Parhau i ymgysylltu â gwasanaethau arbenigol trais rhywiol er mwyn sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt

Ein cynnydd

Mae hyn yn parhau ac yn dilyn ein harolwg o ddarparwyr gwasanaethau trais rhywiol. Un agwedd newydd fu'r grŵp a hwyluswyd gan Cymorth i Ferched Cymru sy'n ystyried camau a all gynorthwyo menywod sy'n cael eu hecsbloetio'n rhywiol, a’r Cynghorwyr Cenedlaethol sy’n cadeirio.

Argymhellion

Efallai y bydd yn amserol ail-arolygu darparwyr yn y cyfnod hwn ar ôl i’r cyfyngiadau covid gael eu codi er mwyn deall a oes angen mynd i'r afael â heriau newydd. Hefyd, mae'r ymateb cyfiawnder troseddol cymharol wael yn ddiweddar i drais rhywiol a throseddau rhywiol wedi annog cryn ymdrech i sicrhau gwelliannau, ond mae angen adolygu hyn yn barhaus fel y gellir cyflwyno unrhyw arferion da a nodwyd yn gyflym ledled y wlad.

Ymgysylltu â goroeswyr

Ein cynnydd

Rydym yn parhau i weithio gyda sefydliadau sector arbenigol, dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru i sicrhau bod croestoriadedd a chydraddoldeb yn cael eu hystyried yn y gwasanaethau a ddarperir ac yn helpu i nodi'r bylchau sy'n dal i fodoli. Mae'r pwyslais ar bwysigrwydd lleisiau cynrychioliadol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol, mae'r Bwrdd Partneriaeth VAWDASV Cenedlaethol sydd newydd ei benodi hefyd wedi cynnwys Panel craffu a chynnwys Llais Goroeswyr a fydd yn rhoi sicrwydd pellach i sicrhau y gall lleisiau goroeswyr ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol.

Argymhellion

Mae angen adolygu gwaith ymgysylltu â goroeswyr, yn enwedig o ystyried ymrwymiadau'r strategaeth genedlaethol newydd, ynghyd â chymorth ac adnoddau digonol wedi'u neilltuo ar gyfer ymgysylltu ystyrlon a chynaliadwy. Nid yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael yr un effaith ar bawb, mae'n effeithio ar bobl wahanol mewn ffyrdd gwahanol, felly byddwn yn canolbwyntio ar ein hymateb i sicrhau bod ein canlyniadau yn hyrwyddo cydraddoldeb.

Ariannu cynaliadwy a chomisiynu effeithiol

Ein cynnydd

Ar hyn o bryd, mae ystod eang o drefniadau cytundebol rhwng comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru, sy’n golygu bod y sefyllfa o ran cyllid yn gymhleth. Mae cyllid sy'n croesi ffiniau datganoledig a heb eu datganoli yng Nghymru, sy'n aml â gwahanol drefniadau a gofynion, yn ychwanegu at y cymhlethdod hwn. I gydnabod dulliau integredig a chydweithredol sydd eisoes yn bodoli rhwng awdurdodau perthnasol a darparwyr gwasanaethau eraill, dylai grŵp Comisiynu VAWDASV Cymru Gyfan adeiladu ar y rhain pan fyddant yn gweithio a datblygu cysylltiadau ffurfiol â threfniadau adrodd i bartneriaethau rhanbarthol. Rydym yn parhau i weithio i sicrhau bod fframweithiau comisiynu lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn cyd-fynd yn well â'i gilydd.

Argymhellion

Bydd y grŵp Comisiynwyr VAWDASV yn helpu i fodloni amcanion y Canllawiau Statudol ar gyfer Comisiynu Gwasanaethau yng Nghymru i helpu i hyrwyddo gwaith comisiynu cydweithredol o ansawdd uchel sy'n darparu gwasanaethau mwy cyson ac effeithiol er mwyn atal VAWDASV a diogelu a chefnogi dioddefwyr ledled Cymru. Dylai partneriaethau comisiynu fod yn effro i dirweddau sy'n newid, mae argyfwng pandemig COVID-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithredu effeithiol ar gyfer atal, amddiffyn a chefnogi yn y tymor hir ddioddefwyr a goroeswyr sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd amcanion i’r dyfodol a osodir wrth ddatblygu glasbrint VAWDASV angen eu hystyried wrth ddatblygu dull hirdymor o ymgysylltu â goroeswyr a chomisiynu gwasanaethau.

Sicrhau bod anghenion dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu hadlewyrchu o fewn strategaethau lleol

Ein cynnydd

Rydym yn ddiolchgar am yr wybodaeth a ddarperir yn rheolaidd gan y rhai sy'n cyflwyno strategaethau lleol. Mae’r dull o ddarparu gwasanaethau i ddioddefwyr a goroeswyr yn anghyson o hyd, ond mae enghreifftiau o arferion da. Rydym wedi ymrwymo i dynnu sylw at arferion da a nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwella. Un maes o’r fath yw’r eglurder sy'n ofynnol ar gyfer cymorth i fenywod sydd wedi mudo yr effeithir arnynt gan VAWDASV a'r dull anghyson o ariannu mewn awdurdodau lleol.

Argymhellion

Mae angen rhannu arferion da yn rheolaidd ac yn gadarn ac mae angen monitro gweithrediad i leihau'r siawns o loteri cod post.

Cyfathrebu'n well â Swyddfa Gartref y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Ein cynnydd

O ystyried yr agenda ddeddfwriaethol sylweddol yn Llywodraeth y DU a’r gwaith o ffurfioli swyddfa’r comisiynwyr Cam-drin Domestig, mae hyn wedi golygu ymgysylltu cyson i sicrhau bod barn Llywodraeth Cymru a gwasanaethau arbenigol sy'n gweithio yng Nghymru yn cael eu hystyried.

Argymhellion

Mae deddfwriaeth arfaethedig heb ei chwblhau o hyd a fydd yn gofyn am ymgysylltu parhaus a hefyd o ran gweithredu'r hyn sydd eisoes wedi'i ddeddfu. Mae angen cynnal ein perthynas gadarn â’r comisiynydd Cam-drin Domestig a'i swyddfa o fewn cyd-destun ehangach y DU. Dylai ystyried deddfwriaeth sy'n dod i'r amlwg fod yn rhan o strwythur llywodraethu'r glasbrint er mwyn sicrhau bod pob partner yn gallu cyfrannu ato a llywio’r hyn fydd yn ei olygu i Gymru.

Cefnogi gwaith Grŵp Arwain Cymru ar Drais ar sail Anrhydedd a mynd i'r afael â phrofion gwyryfdod a hymenoplasti

Ein cynnydd

Mae rhaglen ddeddfwriaethol ac anneddfwriaethol Deddf VAWDASV 2015 yn tynnu sylw at bwysigrwydd atal, amddiffyn a chefnogi pawb sy'n dioddef camdriniaeth a niwed, gan gynnwys y rhai sydd mewn perygl o cam-drin, trais neu niwed ar sail anrhydedd. Yng Nghymru, mae gwaith Grŵp Arwain Cymru ar Drais ar sail Anrhydedd yn llwyfan i ddarparwyr statudol, anstatudol ac arbenigol greu gwell dealltwriaeth o raddfa a chyffredinrwydd drwy gyfuniad o ddata, ymchwil ac arbenigedd rheng flaen i helpu gwasanaethau i wella a dylanwadu ar bolisi ledled Cymru.

Yn 2022, yn unol â'r gwaith o adnewyddu'r Strategaeth Genedlaethol, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i fynd i'r afael â'r rhwystrau a brofir gan ddioddefwyr cam-driniaeth a thrais ar sail anrhydedd, a chryfhau eto ein hymdrechion ar y cyd drwy Grŵp Arwain Cymru ar Drais ar sail Anrhydedd.

Fel aelodau o Banel Arbenigol yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gwnaethom ystyried amrywiaeth o dystiolaeth a sicrhau bod tirwedd Cymru yn cael ei hystyried gan arwain at y ddeddfwriaeth i wahardd profion gwyryfdod a hymenoplasti. Mae gwaharddiad ar brofion gwyryfdod yn cael ei danseilio heb waharddiad ar hymenoplasti gan fod cysylltiad anorfod rhwng y ddau beth. Cyn belled â bod yr opsiwn o hymenoplasti ar gael, bydd menywod yn cael eu rhoi dan bwysau i fynd drwy'r weithdrefn. Dim ond drwy sicrhau bod hyn yn drosedd y bydd hi’n ddiogel iddynt wrthod.

Argymhellion

Mae arweinyddiaeth ledled Cymru yn gofyn am ddealltwriaeth ehangach o'r dangosyddion allweddol; sut mae asiantaethau'n cofnodi achosion, o ble y daw atgyfeiriadau a sut mae asiantaethau'n ymateb iddynt gyda'i gilydd. Mae hyfforddiant ar drais ar sail anrhydedd ac asesiadau risg cynhwysfawr yn arwain at reoli achosion yn well a lleihau ymyriadau brys. O ran y canllawiau ar gyfer gwneud profion hymenoplasti a phrofion gwyryfdod, bydd angen arweiniad ar Fyrddau Iechyd Cyhoeddus a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a bydd hefyd angen cyflwyno llwybrau diogelu a chanllawiau amlasiantaeth. Rhaid inni barhau i ymgysylltu â chymunedau yr effeithir arnynt a chynyddu ein dealltwriaeth o'r rhwystrau sy’n atal pobl rhag adrodd.

Rhoi cyngor arbenigol o ran y rhai sy'n ffoi rhag VAWDASV ond nad oes ganddynt hawl i arian cyhoeddus (NRPF)

Ein cynnydd

Rydym wedi cadeirio'r rhan fwyaf o gyfarfodydd grŵp rhanddeiliaid NRPF Llywodraeth Cymru gan sicrhau bod y mater yn cael y lefel uchaf o sylw. Mae ein cynrychiolaeth o fewn grŵp arbenigol Swyddfa'r Comisiynydd Cam-drin Domestig - Cefnogi Goroeswyr sy’n Fudwyr yn helpu i lunio modelau cymorth ar gyfer ymyriadau NRPF. Mae hyn yn cynnwys nodi tystiolaeth yng Nghymru o gymorth presennol i oroeswyr sy’n fudwyr, heriau a manteision modelau costio amrywiol, fisâu cam-drin domestig arbennig i ddioddefwyr heb ddogfennau yn ogystal ag ystod o gynigion sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

Argymhellion

Disgwylir i'r grŵp rhanddeiliaid ystyried ymchwil gan swyddfa'r Comisiynydd Cam-drin Domestig a gwerthusiad y Swyddfa Gartref ei hun o gynlluniau peilot a gynhaliwyd yn ddiweddar i fynd i'r afael â rhai o'r heriau y mae NRPF yn eu hachosi i'r rhai sy'n ffoi rhag VAWDASV ac yn bwydo i mewn i ymchwil ledled y DU i sicrhau bod tirwedd a goroeswyr Cymru yn cael eu cynnwys wrth ddatblygu cynigion newydd.

Sicrhau y caiff anghenion plant fel dioddefwyr ac fel tystion eu hystyried ac yr eir i'r afael â nhw'n briodol

Ein cynnydd

Drwy ymgysylltu, yn enwedig gydag arbenigwr gwasanaethau arbenigol yn y maes, rydym wedi parhau i sicrhau bod plant yn cael eu hystyried yn briodol a byddwn yn parhau i hyrwyddo cydberthnasau iach yn y ffordd yr ydym yn cefnogi teuluoedd ac unigolion sy'n agored i niwed. Drwy hyrwyddo cysyniad cyson o'r hyn sy'n gyfystyr â chydberthnasau iach, byddwn yn cefnogi ein dull cymdeithas gyfan ac yn hwyluso'r drafodaeth angenrheidiol.

Argymhellion

Bydd y strategaeth genedlaethol newydd yn helpu i sicrhau bod anghenion plant bob amser yn flaenllaw ac yn ganolog. Mae hyrwyddo a chefnogi cydberthnasau iach eisoes yn rhan allweddol o'n dull gweithredu a, chan gydnabod natur hirdymor ein huchelgais, mae eisoes wedi llywio'r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd. Mae angen inni leihau nifer y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a brofir gan blant a phobl ifanc, gan liniaru eu heffeithiau a deall yr effaith y maent wedi ei chael ar y rhai sydd wedi profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae hyn yn golygu bod angen i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau ddeall effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r angen i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd sydd wedi’i llywio gan drawma, wedi’i harwain gan anghenion ac yn seiliedig ar gryfderau. Dylai dealltwriaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac ymateb mewn ffordd sydd wedi'i llywio gan drawma, felly, lywio prosesau dylunio, comisiynu a gwerthuso er mwyn sicrhau llwyddiant.

Cefnogi’r Llywodraeth mewn ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth pellach

Ein cynnydd

Mae ymgyrchoedd cyfathrebu rhagorol Llywodraeth Cymru yn parhau i godi ymwybyddiaeth, yn enwedig y ffocws ar drais gan ddynion a chasineb at fenywod sy'n rhan flaenllaw ohono; bydd yn parhau i fod yn arf allweddol i hwyluso mesurau atal ac mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i ehangu'r gwaith cyfathrebu hwn.

Argymhellion

Rhaid manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y strategaeth genedlaethol ddiwygiedig a'r dull glasbrint a fydd yn cynnwys ymgyrchoedd a grëwyd yn ofalus i godi ymwybyddiaeth. Rydym hefyd am gryfhau ein hymyriadau ymwybyddiaeth gyhoeddus ehangach i adlewyrchu ein dull iechyd y cyhoedd. Diben hyn fydd hwyluso newid mewn ymddygiad ar lefel cymdeithas gyfan drwy drafodaeth gyhoeddus a fyddai'n dadnormaleiddio trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r agweddau sy'n eu cefnogi.

Cyfiawnder troseddol

Mae ymateb yr heddlu yn bwysig i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Mae'r heddluoedd yn parhau i gofnodi digwyddiadau, yn darparu hyfforddiant gwell ac yn sicrhau ymateb cadarn i ddwyn y rhai sy'n cyflawni'r troseddau i gyfrif. Hefyd, maent yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd i ddarparu ymateb cydgysylltiedig a chydlynol.

Er nad yw plismona yng Nghymru wedi'i ddatganoli o dan y setliad presennol, rydym yn falch o adrodd am y berthynas gadarn â'n heddluoedd yng Nghymru sy'n ymgysylltu'n rheolaidd ar lefel Weinidogol ac ar lefel swyddogol ar ystod eang o faterion. Yn fwy penodol, gwnaethom gefnogi tasglu VAWDASV Plismona Cymru yn llwyr ac edrychwn ymlaen at weld y gwaith cydgysylltiedig hwn yn parhau fel rhan o’r glasbrint VAWDASV. Mae llysoedd teulu yn hanfodol i amddiffyn plant a dioddefwyr.

Codi Ymwybyddiaeth y Cyhoedd

Mae angen i ddioddefwyr a goroeswyr gael mynediad at ystod eang o gymorth a gwybodaeth am sut a ble i geisio cymorth. Roedd darparu gwybodaeth yn flaenoriaeth allweddol o hyd drwy gydol y pandemig felly darparodd Llywodraeth Cymru ymgyrchoedd parhaus wedi'u targedu, gan gynnwys yr ymgyrch 'Dim Esgus', yn galw ar y cyhoedd (dynion yn arbennig) i herio rhagdybiaethau am aflonyddu ar fenywod – ymddygiad a ystyrir yn anghywir yn aml yn ymddygiad 'diniwed' ymysg cyfoedion, ffrindiau a chyd-weithwyr. Y nod yw helpu pobl i sylwi ar ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag aflonyddu ar y stryd ac mae'n cydnabod bod profiadau menywod a merched yn ddifrifol, yn gyffredin ac yn gallu achosi ofn, braw a gofid. Rhaid inni barhau i fod yn gyson yn ein dull o ddiwallu anghenion pob dioddefwr felly mae cyfathrebu drwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol drwy gydol ein cynlluniau a rhaid i hynny barhau i fod yn un o'n hamcanion.

Archwiliodd yr ymchwil ‘Bystander’ a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru brofiadau ac ymddygiad y rhai a dystiodd i gam-drin domestig yn ystod y pandemig COVID-19, er mwyn helpu i lywio polisi a rhaglenni hyfforddiant ymyrryd yn ystyried y newidiadau i fywydau bob dydd a achoswyd yn sgil y cyfyngiadau COVID-19. Mae gwaith pellach ar hyn yn cael ei wneud i sicrhau bod y newid cymdeithasol sydd ei angen arnom yng Nghymru i ddileu pob ffurf ar drais yn erbyn menywod a merched yn cael ei ddatblygu a'i brofi gan gynnwys datblygu pecynnau cymorth a rhaglenni hyfforddi.

Ymgysylltu â Goroeswyr

Mae lleisiau goroeswyr yn hanfodol ar gyfer nodi bylchau a gwella gwasanaethau, a dylid rhoi blaenoriaeth o hyd i ymgysylltu â hwy yn ystyrlon a sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed ar y lefel uchaf er mwyn inni fynd i'r afael â VAWDASV yn effeithiol. Rydym yn falch o gynnydd y Fframwaith Ymgysylltu â Goroeswyr sydd wedi ceisio sicrhau mewnbwn gan grŵp amrywiol o bobl sydd yn oroeswyr pob math o VAWDASV. Bydd datblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr yn cyfuno ffyrdd amrywiol i oroeswyr ddylanwadu ar waith Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn gyfrwng i oroeswyr eirioli drostynt eu hunain ac addysgu eu cyfoedion, eu cymunedau a'u cyd-weithwyr.

Rydym wedi adrodd yn barhaus ar y dull glasbrint ledled Cymru a bydd y partneriaid cynnydd, sector arbenigol VAWDASV a’r fframwaith ymgysylltu â goroeswyr yn ceisio ymgorffori safbwyntiau goroeswyr o'r amrywiaeth o brofiadau o drais o'r fath, yn ogystal â'r rheini sydd eisoes yn gweithio gyda grwpiau a sefydlwyd o'r blaen. Ein nod yw creu llwybr cenedlaethol cyson a chynhwysol sy'n rhoi cyfle i'r rheini sydd â phrofiadau bywyd lywio cyfeiriad polisïau.

Arweinyddiaeth

Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt a Llywodraeth Cymru wedi dangos ymgyrch ac ymrwymiad aruthrol i fynd i'r afael â VAWDASV ledled Cymru i’r graddau y maent wedi sefydlu Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV.

Cynnydd a chynllunio at y dyfodol

Er mwyn i Gymru barhau â'r ymdrechion a'r camau i ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae angen seilwaith a threfniadau llywodraethu cryf sy'n addas i'r diben arnom. O'r herwydd, bydd ffurfio'r glasbrint a'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol a gwaith dilynol i grwpiau eraill i gysoni ymdrechion ac ymrwymiad yn helpu i lywio'r newid cymdeithasol sydd ei angen arnom yng Nghymru.

Fel y dangosodd digwyddiadau'r blynyddoedd diwethaf, mae menywod yn dal i gael eu llofruddio a'u cam-drin gan ddynion treisgar. Mae cynifer o bobl yn dal i fod yn ofnus gartref, a hynny oherwydd y rhai y dylent allu ymddiried ynddynt, ond sydd yn hytrach yn camddefnyddio'r pŵer sydd ganddynt. Mae'n amlwg y bydd y strategaeth newydd a'r dull glasbrint yn dwyn ynghyd y gwahanol asiantaethau, rhai datganoledig a rhai sydd heb eu datganoli, sy’n gyfrifol am gyfrannu at fynd i’r afael â'r mater hwn er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r nodau sydd gennym i gyd o atal VAWDASV a diogelu a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr.

Mae Deddf VAWDASV yn glir wrth geisio gwella ymatebion y sector cyhoeddus i ddioddefwyr, ond wrth wneud hynny rhaid inni gydnabod gwaith aruthrol y sector arbenigol, y mae ei aelodau wedi'u cynnwys ym mhob un o'r llwyfannau strategol sydd eu hangen i wneud y newidiadau angenrheidiol ar lefel leol a chenedlaethol. Bydd y dull cyson hwn yn gwella canlyniadau ac yn sicrhau bod atebolrwydd mewn arweinyddiaeth yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol wrth symud ymlaen.

Rydym yn cefnogi’r gwaith o greu ‘storfa ganolog o wybodaeth’ ar ffurf corff wedi'i staffio i gydlynu a lledaenu gwybodaeth am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r hyn sy'n gweithio, ac i lywio ymchwil yn y dyfodol. Bydd y storfa hon yn ceisio cydlynu a dwyn ynghyd y gwaith ymchwil a gwerthuso sy'n cael ei wneud gan bob parti perthnasol er mwyn sicrhau bod y sylfaen dystiolaeth sydd ar gael i lywio penderfyniadau, gan gynnwys penderfyniadau comisiynu, yn fwy cynhwysfawr. Bydd yn cydlynu’r data ansoddol a meintiol er mwyn llywio dealltwriaeth o amlder, angen ac effaith sy'n hanfodol i sicrhau'r ddealltwriaeth orau o gymhlethdodau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a chyflwyno hyn yn y ffordd fwyaf hawdd ei defnyddio i fesur llwyddiant a llywio'r hyn rydym yn ei wneud.

O wneud hyn, bydd adolygu ac adnewyddu rôl y Byrddau VAWDASV Rhanbarthol yn sicrhau atebolrwydd i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol, gweithgarwch ymgysylltu gan bartneriaid ar lefel uchel, cydberthnasau cydlynol â strwythurau rhanbarthol eraill ac eglurder o ran y gydberthynas â gwasanaethau cynllunio a chomisiynu lleol.

Bydd newid diben Grŵp Comisiynu Cynghorwyr Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol er mwyn ffurfio is-grŵp i’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn helpu i sefydlu fframwaith cydweithredu ac atebolrwydd newydd sy'n nodi'r cydberthnasau rhwng y Bwrdd Cenedlaethol, strwythurau Rhanbarthol a Lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol er mwyn sicrhau bod gwaith cynllunio a chomisiynu yn cyflawni yn erbyn y fframwaith cenedlaethol ac yn darparu gwasanaethau cynaliadwy o safon. Felly, cydlynu’n well gynlluniau gweithredu a thynnu sylw at fylchau yn y ddarpariaeth bresennol a'r cyfle i ddatblygu model ar gyfer ymgysylltu lleol a rhanbarthol i lywio cynllunio a chomisiynu.

Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR)

Mae cyflwyno bwrdd Gweinidogol SUSR yn cadarnhau ymhellach yr ymrwymiad a'r ysgogiad i wella canlyniadau a dysgu ar gyfer lladdiadau domestig yng Nghymru. Diben cyffredinol yr is-grŵp yr ydym yn ei gadeirio yw creu proses lle mae argymhellion Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn cael eu rhoi ar waith ledled Cymru, lle mae gwersi thematig o adolygiadau yn cael eu hymgorffori mewn polisi a gweithdrefnau a lle mae sianeli cyfathrebu wedi’u diffinio yn dda yn cael eu defnyddio i gyfleu’r gwersi i bob partner, rhai datganoledig a rhai heb eu datganoli. Rydym yn falch o adrodd ar y cynnydd sylweddol a wnaed, gyda'r cam gweithredu bellach yn cael ei gynllunio.

Casgliad

Drwy gydol ein tymor rydym yn cydnabod y cynnydd sylweddol y mae Cymru wedi'i wneud. Y ddeddfwriaeth oedd y catalydd ar gyfer gweithgarwch eithriadol sydd wedi newid y dirwedd yn fawr iawn. Mae'r Strategaeth Genedlaethol gyntaf a'i diweddariad yn uchelgeisiol, yn enwedig o ran y ffocws ar fesurau atal.

Mae'r cynnydd wedi parhau drwy bandemig byd-eang a gall gyflymu nawr ein bod yn dechrau byw gydag ef. Mae'r ymateb brys llwyddiannus sy'n cefnogi gwasanaethau VAWDASV yn arwydd o Strategaeth sy'n gydnerth ac yn hyblyg.

Mae cydnabyddiaeth bod cyfathrebu'n hanfodol wedi’i ddangos drwy ymgyrchoedd uchel eu parch yn rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd, ac mae'n parhau i fod yn allweddol sicrhau bod pawb yn ymwybodol o VAWDASV.

Gyda mesurau atal, mae angen cyfleu negeseuon anodd i ddynion o gofio bod trais gan ddynion wrth wraidd VAWDASV, ond nid yw Cymru'n osgoi hynny.

Mae'r rhai sydd wedi dioddef a goroeswyr wedi cael eu rhoi wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru. Mae eu teithiau wedi llywio pob datblygiad ac wedi dylanwadu ar newidiadau angenrheidiol i'r system i ddiogelu'r rhai sydd mewn perygl. Mae'n amlwg bod mwy i'w wneud, ond byddant yn sbarduno'r newid y mae angen inni ei weld er mwyn sicrhau ein huchelgais a'n gweledigaeth ar gyfer creu'r lle mwyaf diogel i fenywod a merched.

Gan mai hwn yw ein hadroddiad diwethaf, hoffem gloi drwy ddiolch i Weinidogion Cymru am y cyfle i wasanaethu yn y rolau hyn. Rydym hefyd am ddiolch i aelodau blaenorol a phresennol tîm VAWDASV Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i'n helpu i gyflawni ein huchelgeisiau yn y rolau hyn yn ogystal â'r gwasanaethau VAWDASV arbenigol ymroddedig ac angerddol y cawsom y fraint o weithio ochr yn ochr â nhw. Fodd bynnag, rhaid inni ddiolch yn olaf i ddioddefwyr a goroeswyr VAWDASV – mae eich lleisiau wedi bod yn ganolog i'n gwaith a diolchwn ichi am rannu eich profiadau, eich cyngor a'ch awgrymiadau ar gyfer gwelliannau fel y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd i wneud Cymru y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.