Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yr adroddiad blynyddol hwn yw ein hadroddiad blynyddol ar y cyd olaf fel Cynghorwyr Cenedlaethol ar y cyd o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar fynd i'r afael â bylchau pwysig yn y ddarpariaeth gwasanaethau, ar gryfhau ymatebion diogelu drwy ddulliau unedig a sicrhau bod fframwaith VAWDASV Cymru yn diwallu anghenion yr holl oroeswyr, yn enwedig y rhai sy'n wynebu gwendidau lluosog a chymhleth. Gan mai hwn yw adroddiad olaf Yasmin Khan ar ôl cyfnod o 2 dymor dros 7 mlynedd, mae'r adroddiad hwn yn darparu trosolwg o flaenoriaethau penodol a chrynodeb o'r cynnydd.

Fe wnaethom ymrwymo ar y cyd i wneud darpariaeth cymorth yn hygyrch ac yn gynhwysol i bob goroeswr trwy ddulliau gweithredu cynaliadwy system gyfan  a hyrwyddo hawliau pob dioddefwr. Rydym yn cydnabod y risgiau lluosog y maent yn eu hwynebu, gan gynnwys menywod a merched sy'n cael eu hecsbloetio'n rhywiol, dioddefwyr â nodweddion gwarchodedig gan ganolbwyntio'n arbennig ar fynd i'r afael â rhwystrau sy'n atal goroeswyr rhag cael gafael ar gymorth.

Cynnydd

Y Cyd-destun Strategol a'r Fframwaith Deddfwriaethol

Mae Cymru'n parhau i arwain gyda Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, deddfwriaeth nodedig a'r gyntaf o'i math yn y DU ac Ewrop, ochr yn ochr â Strategaeth VAWDASV 2022 i 2026 sy'n adnewyddu'r ymrwymiad i wneud Cymru'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

Datblygiadau Deddfwriaethol y DU 2024 i 2025

Mae Deddf Dioddefwyr a Charcharorion 2024  yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu eiriolwr annibynnol i gefnogi dioddefwyr digwyddiadau mawr ac yn gwneud newidiadau i system barôl Cymru a Lloegr. Mae'r Ddeddf yn gosod egwyddorion y Cod Dioddefwyr yn y gyfraith ac yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyfiawnder troseddol adolygu eu cydymffurfiaeth, gan greu trefniadau atebolrwydd newydd a fydd yn effeithio ar ymatebion cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae deddfwriaeth newydd sy'n weithredol ers 1 Hydref 2025 yn effeithio ar gymalau cyfrinachedd, gan amddiffyn gallu dioddefwyr i adrodd am droseddau a chwilio am gymorth heb i gytundebau peidio â 
datgelu allu rhoi taw arnynt. Yn ogystal, mae'n ofynnol i arolygiaethau cyfiawnder troseddol ymgynghori â'r Comisiynydd Dioddefwyr ar eu fframweithiau a'u rhaglenni arolygu, gan greu cyfleoedd newydd i safbwyntiau Cymreig ddylanwadu ar brosesau arolygu. Mae'r datblygiadau hyn yn gofyn am integreiddio gofalus â chyfrifoldebau datganoledig Cymru a'r fframwaith VAWDASV presennol.

Heriau Cyrff Rheoleiddio a'r Fframwaith Arolygu

Mae'r diffyg fframwaith rheoleiddio pwrpasol sy'n benodol i VAWDASV, wedi creu heriau sylweddol i weithredu dyletswyddau statudol yn effeithiol o dan Ddeddf VAWDASV.  Er bod y Ddeddf yn gosod dyletswyddau clir ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd, awdurdodau tân ac achub, ac ymddiriedolaethau'r GIG, mae'r diffyg trefniadau arolygu a goruchwylio rheoleiddiol wedi'u safoni wedi arwain at ddulliau anghyson o weithredu VAWDASV ledled Cymru. Mae'r bwlch rheoleiddiol hwn wedi ei gwneud hi'n anodd monitro cydymffurfiaeth â'r Ddeddf, nodi arfer gorau, a mynd i'r afael â thanberfformiad yn systematig. Mae'r model Adolygiad Diogelu  Unedig Sengl wedi dod i'r amlwg fel mecanwaith addawol o ran llywodraethu, sy'n dangos sut y gall cynrychiolaeth strategol ac  uwch arweinwyr sy'n ymgysylltu â'r maes yrru newid effeithiol. Mae'r dull Adolygiad Diogelu  Unedig Sengl yn dwyn ynghyd uwch arweinwyr o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus, gan greu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau integredig sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau cymdeithasol cymhleth fel VAWDASV.

Gall y model llywodraethu hwn ddarparu'r dull sy'n golygu y gall atal VAWDASV esgor ar newid ystyrlon, gan symud y tu hwnt i ymatebion gwasanaethau unigol i beri trawsnewid yn y system gyfan a fydd yn mynd i'r afael â'r ffactorau sylfaenol sy'n cyfrannu at drais ar sail rhywedd. Rhaid i oruchwylio, llywodraethu ac ymgysylltu ag arweinyddiaeth wrth atal a mynd i'r afael â VAWDASV fod yn flaenoriaeth ar gyfer y strategaeth nesaf.

Y sefyllfa o ran Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol yng Nghymru 

Mae Cymru'n parhau i arwain y DU mewn perthynas â fframweithiau deddfwriaethol sy'n mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched. Fodd bynnag, mae gweithredu yn parhau i fod yn anghyson, yn enwedig wrth gyrraedd goroeswyr sy'n wynebu rhwystrau lluosog rhag cael gafael ar gymorth. Mae ein rôl ymgynghorol eleni wedi canolbwyntio ar nodi a mynd i'r afael â'r bylchau systematig hyn wrth ymateb i heriau sy'n dod i'r amlwg gan gynnwys cynnydd mewn rhaniadau cymdeithasol ac ofn o fewn cymunedau.

Heriau Allweddol 

Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol yng Nghymru

Comisiynwyd Rhaglen Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru yn 2014 yn dilyn adolygiad gan Lywodraeth Cymru i'r ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer dioddefwyr ymosodiadau rhywiol ledled Cymru. Sefydlwyd y rhaglen i gynllunio a gweithredu model ar gyfer darparu Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs) ledled Cymru. Yr uchelgais oedd, ac yn parhau i fod, darparu gwasanaethau ymosodiadau rhywiol sy'n canolbwyntio ar gleifion a dioddefwyr gydag anghenion iechyd fel y flaenoriaeth allweddol, er mwyn darparu'r canlyniadau gorau i ddioddefwyr trais rhywiol. Mae hyn i gael ei gyflawni drwy raglen dan arweiniad iechyd, gyda'r GIG yn gweithio mewn partneriaeth â phlismona a sefydliadau rhanddeiliaid allweddol eraill.

Fodd bynnag, nid yw'r rhaglen wedi cyflawni'r camau gweithredu a'r canlyniadau arfaethedig. Nid yw'r model gwasanaeth na'r cyllid  yn ddiogel hyd heddiw. Mae partneriaid ar fwrdd WSAS wedi datgan yr hoffent gael sicrwydd o'r ymrwymiad i gyflawni'r rhaglen fel y cytunwyd arni cyn pontio i 'fusnes fel arfer'. 

Er bod hyn y tu allan i fodel cyflawni Glasbrint, mae'r rhain yn wasanaethau hanfodol i oroeswyr VAWDASV. Mae'n werth nodi hefyd cyd-ddibyniaeth y gwaith hwn â chynllun gweithredu Cam-drin Plant yn Rhywiol ac â derbyn argymhelliad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) ynghylch gwasanaethau therapiwtig ar gyfer rhai sy'n goroesi cam-drin yn rhywiol yn ystod eu plentyndod. Nid yw hyn ychwaith  yn cael ei gyflawni ac mae mewn perygl o waethygu'n sylweddol.

Mae cymunedau gwledig yn wynebu heriau, gyda goroeswyr yn teithio pellteroedd sylweddol i gael mynediad at SARCs, gan greu rhwystrau i fenywod heb gludiant, y rhai ag anableddau, neu fenywod sy'n ffoi rhag cyflawnwyr a allai fod yn monitro eu symudiadau. Mae menywod du a lleiafrifol yn adrodd rhwystrau ychwanegol gan gynnwys diffyg IDVA/ISVA's diwylliannol benodol, gwasanaethau cyfieithu ar y pryd cyfyngedig, a SARCs nad ydynt yn  darparu ar gyfer anghenion crefyddol neu ddiwylliannol mewn perthynas ag archwiliadau corfforol personol. O'i gymharu â Lloegr, lle mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ariannu gwasanaeth ISVA cenedlaethol a GIG Lloegr yn comisiynu SARCs, mae'r model datganoledig wedi creu anghysondeb, gyda rhai byrddau iechyd yn darparu gwasanaethau cynhwysfawr tra bod eraill yn dibynnu ar sefydliadau trydydd sector sydd dan bwysau gormodol ac yn gweithredu ar grantiau tymor byr. Mae'r bwlch rhwng uchelgais ddeddfwriaethol ac adnoddau'n cael eu darparu i'w gyflawni yn golygu na all llawer o oroeswyr, yn enwedig y rhai sy'n wynebu anfanteision sy'n croestorri, gael gafael ar y gefnogaeth amserol sy'n cael ei addo gan bolisïau Cymru. 

Dull Cynaliadwy ar draws Systemau fel rhan o'r model glasbrint o gyflawni yng Nghymru

Mae Glasbrint Llywodraeth Cymru i gyflawni strategaeth VAWDASV yn darparu fframwaith uchelgeisiol ac angenrheidiol ar gyfer integreiddio llwybrau comisiynu, gweithio mewn partneriaeth a thrywydd goroeswyr ar draws gwasanaethau statudol a'r trydydd sector. Mae'r weledigaeth hon yn gofyn am ymgysylltiad parhaus ar draws sawl sector, pob un yn gweithredu o fewn gwahanol strwythurau llywodraethu, cylchoedd cyllido, a blaenoriaethau strategol. Mae ymdrechion cyfredol i ymgysylltu ag uwch arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn dangos ymrwymiad i gydweithredu traws-sector, ond mae cymhlethdodau alinio â phwysau cystadleuol ar wasanaethau statudol, a lefelau amrywiol o ddealltwriaeth am drais yn erbyn menywod yn cyflwyno heriau gwirioneddol i gyflymder gweithredu. Mae cynnydd y cynllun cyflawni o reidrwydd yn gynyddol gan ei fod yn ceisio ymgorffori newid systemig yn hytrach na chydgysylltu arwynebol. Mae hyn yn gofyn nid yn unig am gytundebau partneriaeth ond newidiadau sylfaenol yn y ffordd y mae gwasanaethau yn cael eu comisiynu, sut mae gweithwyr proffesiynol yn cael eu hyfforddi, a sut mae atebolrwydd yn cael ei weithredu ar draws y system. 

Croestoriadedd

Mae'r dystiolaeth mai'r risg mwyaf i fenywod yw dyn y maent yn ei adnabod yn eu cartref eu hunain yn wirionedd sydd wedi'i hen sefydlu ac yn un yr ydym wedi methu â'i newid. Rydym hefyd yn gwybod bod menywod du ac o gymunedau ymylol mewn mwy o berygl o niwed. O ran y menywod hynny heb hawl i arian cyhoeddus, maent deirgwaith yn fwy tebygol o brofi VAWDASV. Rhaid i ni gydnabod profiadau pob dioddefwr a goroeswr a dylem deimlo dan orfodaeth i atal pob niwed. Mae canolbwyntio ar un fersiwn o niwed a'i bwysleisio uwchlaw pob niwed arall, yn ein gwneud ni i gyd yn llai diogel yn hytrach nac yn fwy felly. 

Yn ein rôl fel Cynghorwyr Cenedlaethol, rydym wedi parhau i flaenoriaethu’r angen am agwedd groestoriadol wrth fynd i’r afael a thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae croestoriadedd yn cydnabod bod goroeswyr yn wynebu sawl math o wahaniaethu sy’n gorgyffwrdd ag eraill, ar sail hil, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, a nodweddion gwarchodedig eraill. Rhaid i ni barhau i fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae goroeswyr ymylol yn eu profi wrth adnabyddiaeth, datgelu a chwilio am gefnogaeth.

Datblygiadau Polisi ac Ymarfer Allweddol

Mae cefnogi  dulliau atal system gyfan yn golygu gweithio ar draws sectorau i weithredu mentrau atal cynhwysfawr sy'n herio agweddau cymdeithasol, hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, a meithrin perthnasoedd parchus o oedran cynnar. Gall adeiladu ar ymgyrchoedd llwyddiannus fel ymgyrch Iawn, sy'n targedu dynion ifanc yng Nghymru ac yn eu hannog i ddysgu am drais ar sail rhywedd ac archwilio eu perthnasoedd a'u hymddygiadau eu hunain, ddylanwadu ar y newid sydd ei angen i fynd i'r afael â chyflawni ar ei gam cynharaf a chreu'r uchelgais o beidio â  goddef unrhyw fath o drais yn erbyn menywod a merched.

Bydd ymgysylltiad y sector addysg yn canolbwyntio ar gryfhau addysg VAWDASV ar draws pob lleoliad addysgol, o ysgolion cynradd i brifysgolion, mae hyn yn gofyn am weithredu cwricwlwm addysg perthnasoedd sy'n hyrwyddo perthnasoedd iach a chydsyniad, wrth weithio gyda phrifysgolion i wella eu hymatebion sefydliadol i drais ac aflonyddu ar sail rhywedd.

Sylfaen Dystiolaeth ac Ymchwil 

Yn ystod 2024 i 2025, gwnaethom argymell blaenoriaethu rhoi ymyriadau a mentrau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar waith, sy'n cyd-fynd â Deddf VAWDASV 2015 a Strategaeth Genedlaethol 2022 i 2026, gan ganolbwyntio ar ddatblygu a gweithredu dulliau atal seiliedig ar dystiolaeth a strategaethau ymyrraeth gynnar gyda'r nod o fynd i'r afael ag achosion creiddiol VAWDASV. Mae unedau tystiolaeth sy'n cefnogi'r Cynlluniau Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cydraddoldeb Hiliol, LHDTC+ ac Anabledd wedi cael eu cydnabod yn elfennau hanfodol ar gyfer datblygu polisi a gwerthuso ar draws tirwedd VAWDASV, gan gyfrannu at ddull gweithredu gwybodus a chroestoriadol. Mae'r gwaith ymchwil allweddol a gomisiynwyd yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys adolygiad systematig o adolygiadau ar aflonyddu rhywiol ac aflonyddu ar sail rhywedd ar-lein a gynhaliwyd gan Hwb ACE Cymru, â'r a disgwyl iddo gael ei  gyhoeddi yn gynnar yn 2025, ochr yn ochr ag ymchwil ar brofiadau menywod Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o aflonyddu rhywiol yn y gweithle yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Uned Dystiolaeth Anghydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru ar ddatblygu mesurau ar gyfer Dangosyddion Cenedlaethol, sy'n rhan hanfodol o ddangos effaith a chynnydd a wnaed drwy gamau a gymerwyd i atal, ac i amddiffyn a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr, gyda chynlluniau dadansoddol yn cael eu datblygu i ddiwallu anghenion ehangach am dystiolaeth gan gynnwys nodi arferion gorau o bedwar ban byd. Mae Rhwydwaith Ymchwil VAWDASV Cymru wedi parhau i ddarparu fforwm cynhwysol i osod agendâu ymchwil ar gyfer y dyfodol, pennu blaenoriaethau ymchwil ac ymarfer ar gyfer Cymru, a nodi bylchau mewn ymchwil ar VAWDASV, gan hefyd feithrin cydweithredu rhwng rhanddeiliaid.

Heriau a Gwersi a Ddysgwyd

Rhwystrau Parhaus

Mae gwasanaethau arbenigol sy'n ymroddedig i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr yn parhau i wynebu straen digynsail, gyda llawer yn gorfod tynnu ar gronfeydd wrth iddynt ymdopi â'r galw cynyddol tra bo cyllid ac adnoddau cyfyngedig yn golygu bod sefydliadau yn cael trafferth bodloni anghenion cynyddol unigolion sy'n chwilio am help, gydag aelodau o'u staff fwyfwy yn llenwi bylchau a adawyd gan wasanaethau cyhoeddus sydd dan straen. Mae heriau di-baid yn dal i fod wrth ddiwallu anghenion amrywiol goroeswyr, yn enwedig y rhai o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, a'r rhai sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus, sy'n profi rhwystrau cymhleth wrth gael gafael ar wasanaethau, gyda bylchau hirsefydlog mewn cymorth pwrpasol, wedi'i seilio ar drawma sy'n diwallu eu hanghenion penodol.

Mae'r Ffrwd Waith Dull  Cynaliadwy System Gyfan wedi nodi rhwystrau strwythurol o ran darpariaeth sy'n seiliedig ar anghenion, gyda chyfyngiadau mewn trefniadau contractiol presennol yn methu â chyrraedd y cyflog byw na darparu cynyddrannau blynyddol, tra bod heriau parhaus o hyd wrth sicrhau euogfarnau a gwneud yn sicr bod cyflawnwyr yn cael eu dwyn i gyfrif.  Adroddodd Cymorth i Ferched Cymru fod cynnydd o 88% yn y galw am eu gwasanaethau yn ystod 2023 i 2024. Digwyddodd hyn mewn cyfnod a welodd dorri 4.2% o gyllideb y DU ar gyfer gwasanaethau dioddefwyr a chynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol, gan greu amgylchedd ansicr o ran cyllid, sy'n bygwth cynaliadwyedd gwasanaethau.

Problemau systemig

Mae Cymru'n parhau i brofi heriau systemig wrth ddarparu dull  cynaliadwy system gyfan o ran VAWDASV, gyda'r Ffrwd Waith Dull Cynaliadwy System Gyfan yn nodi rhwystrau strwythurol ar gyfer darpariaeth ar sail anghenion a threfniadau comisiynu tameidiog ar draws gwahanol awdurdodau lleol, byrddau iechyd, a'r comisiynwyr  heddlu a throseddu.

Mae achosion o VAWDASV yn effeithio ar 2.4 miliwn o oedolion bob blwyddyn gydag amcangyfrif bod costau cymdeithasol ac economaidd hynny yn £74 biliwn, tra bod un o bob pump o ddynladdiadau yn rhai domestig, sy'n dangos graddfa'r methiant systemig i atal trais. Mae gwahaniaethau sylweddol yn parhau o ran mynediad at wasanaethau a chymorth ledled Cymru, yn enwedig i oroeswyr o gymunedau Du, Asiaidd, a Lleiafrifoedd Ethnig, unigolion anabl, goroeswyr LHDTC+, a menywod sy'n wynebu caledi economaidd, gyda bylchau mewn data a dosbarthu yn llesteirio dealltwriaeth o gyffredinrwydd cam-drin mewn cymunedau amrywiol. Mae buddsoddiadau'n parhau i ganolbwyntio'n bennaf ar fesurau atal trydyddol ac ymateb i argyfwng yn hytrach na gwaith atal sylfaenol. Mae'r system wedi'i chynllunio i ymateb i argyfyngau yn hytrach na chreu newid systematig sy'n anelu at atal VAWDASV, gan danseilio amcanion y Ddeddf a'r strategaeth genedlaethol. Rhaid i hyn fod yn sail i'n gwaith a'r gwaith o benderfynu sut i ddyrannu cyllid i ddangos yr arbedion a wneir gan waith atal, drwy hyn gall y model cyflawni glasbrint ysgogi camau gweithredu allweddol i yrru polisi i ganol unrhyw gynllunio ariannol.

Trosolwg o'r cynnydd ar gyfer ein nod a blaenoriaethau yn 2024 i 2025

Fel Cynghorwyr Cenedlaethol Cymru, roedd ein cynllun ar gyfer 2024 i 2025 yn amlinellu'r nodau a'r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn. Mae'r ymdrech gydweithredol hon yn tanlinellu ein hymrwymiad i amcan cyffredinol Strategaeth a Glasbrint VAWDASV, sy'n pwysleisio gweithredu mewn ffordd gynhwysfawr ar draws systemau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.

Fe wnaethom benderfynu ar ein blaenoriaethau strategol ar sail yr amcanion a amlinellir yn Neddf VAWDASV 2015 a'r Strategaeth VAWDASV Genedlaethol - sef Atal, Amddiffyn a Chefnogi, yn y bôn. 

Yn unol â'r uchelgais hirdymor, ein nod eleni oedd:

  • Gweithio gyda holl randdeiliaid Cymru i wella dealltwriaeth o VAWDASV a'r ymatebion i achosion sy'n codi o fewn eu gwasanaethau, ac i wella llwybrau cymorth i oroeswyr mewn ffordd gydweithredol ar draws systemau.

Er mwyn cyflawni'r nod hwn, gwnaethom nodi'r blaenoriaethau canlynol

Blaenoriaeth 1 

Gweithio gyda holl feysydd llywodraeth a chyrff cyhoeddus i sicrhau ymateb go iawn ar lefel llywodraeth gyfan i drais a cham-drin yng Nghymru.

Rydym wedi parhau i weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ar gael ymrwymiad llawn ar draws adrannau'r llywodraeth i sicrhau ymateb y llywodraeth gyfan go iawn i VAWDASV. Rydym hefyd wedi gweithio gyda rhanddeiliaid eraill a thrwy amrywiaeth o fforymau i hyrwyddo  meddylfryd ac ymatebion system gyfan.

Fel Cadeirydd yr Is-grŵp Hyfforddiant a Dysgu o fewn yr Adolygiad Diogelu Sengl Unedig, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran datblygu dulliau gweithredu cyson ledled Cymru gyfan o ran cymhwysedd proffesiynol mewn ymatebion i VAWDASV. Trwy'r is-grŵp, datblygwyd llwybrau hyfforddi unedig sy'n sicrhau ymatebion cyson ar draws awdurdodau cyhoeddus gan gynnwys yr heddlu, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, a chan ac i sefydliadau sector.

Mae Addysg Perthnasoedd Iach  i blant a phobl ifanc yng Nghymru wedi parhau i fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth o ran atal cam-drin a niwed. Yn dilyn adolygiad o'r trefniadau presennol; gan ymgysylltu â Chynghorwyr VAWDASV Rhanbarthol, Arweinwyr Rhanbarthol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, arweinwyr ysgolion, darparwyr arbenigol  ac eraill, gwnaethom ddarparu papur gyda throsolwg o'r arferion cyfredol, yr heriau a'r argymhellion i Ysgrifenyddion y Cabinet dros Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol. Yn dilyn hynny comisiynwyd Stori i ddarparu Prosiect Addysg Cwtsh. Bydd hyn yn darparu cefnogaeth i athrawon trwy hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer dull gweithredu ysgol gyfan at Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. 

Rydym wedi parhau i eirioli i CCAUC, a nawr Medr, wella cefnogaeth a chraffu ynghylch aflonyddu rhywiol mewn prifysgolion. Rydym yn disgwyl y bydd goruchwylio'r camau atal ac amddiffyn sy'n mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol o fewn rheoliadau Medr ar gyfer addysg drydyddol o ganlyniad i'r gwaith hwn. Fe wnaethom hefyd gyfarfod â'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i gynghori ar y gwaith sydd ei angen a'r dulliau a argymhellir. 

Mae iechyd yn cael ei gydnabod yn gyson gan oroeswyr fel maes hanfodol ar gyfer nodi ac ymyrryd, gan gynnwys y rhai o grwpiau ymylol. Rydym wedi cefnogi datblygu'r Cynllun Iechyd Menywod a chynnwys VAWDASV fel un o flaenoriaethau'r cynllun (Lansio cynllun iechyd menywod Cymru i gau'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau)

Blaenoriaeth 2

Mynychu cyfarfodydd a fforymau sy'n goruchwylio'r gwaith o gyflawni Strategaeth Trais a Cham-drin, dull y Glasbrint a'r ffrydiau gwaith, ynghyd ag unrhyw fforymau eraill perthnasol. Byddwn yn parhau i rannu cyngor a gwybodaeth gyda Llywodraeth Cymru a Gweinidogion a thîm gweithredu'r Glasbrint, a all wella profiad dioddefwyr a goroeswyr a thynnu sylw at fylchau a phrofiadau gwael mewn gwasanaethau.

Yn ogystal â mynd i gyfarfodydd ar draws y Glasbrint, rydym wedi mynd i ystod eang o gyfarfodydd gyda'n gilydd, gan gynnwys Tasglu Dioddefwyr a Thystion y Bwrdd Cyfiawnder Troseddol, Grŵp Arweinyddiaeth HBA, Grŵp Gweithredol Cymru Gyfan ar Ferched sydd wedi profi Camfanteisio’n Rhywiol (AWOGSEW), Grŵp Gweithredu'r Comisiynydd Pobl Hŷn ar Gam-drin a Bwrdd Rhaglen Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru.

Fel Cynghorwyr Cenedlaethol mae'n ofynnol i ni gael gwybod am arferion gorau perthnasol ar gyfer mynd i'r afael â VAWDASV a chefnogi goroeswyr. Rhan annatod o hyn yw gweithio gyda'r sector arbenigol. Ar ddechrau ein tymor, fe wnaethom greu'r Grŵp Cyfeirio Arbenigol sy'n fforwm sy'n cael ei gadeirio gan y Cynghorwyr Cenedlaethol gydag aelodaeth o wasanaethau VAWDASV annibynnol arbenigol sy'n gweithio ledled Cymru.

Credwn fod yn rhaid i adeiladu dull system gyfan gynhwysfawr o fynd i'r afael â VAWDASV yng Nghymru barhau i fod yn brif flaenoriaeth. Ein rôl yn hyn yw ymgysylltu â'r llywodraeth, arweinwyr a gweithio gyda chyrff cyhoeddus i ddatblygu ymatebion gwell i VAWDASV ac, yn hollbwysig,  mabwysiadu'r dyletswyddau a osodwyd yn y Ddeddf VAWDASV. Rydym yn gwerthfawrogi ymrwymiad, dylanwad a chydweithrediad y sector arbenigol wrth weithio gyda ni fel criw o ffrindiau beirniadol yn ein gwaith yn ogystal â'u gwaith yn nhirwedd ehangach VAWDASV drwy bartneriaethau sydd hefyd yn helpu i ddylanwadu ar ein dealltwriaeth gyffredinol o ble mae bylchau, a gall dynnu sylw at arferion da a gwael lle bo modd. Mae'r Grŵp Cyfeirio Arbenigol yn darparu trefniant cyson ar gyfer ymgysylltu â'r sector arbenigol ar y materion sy'n bwysig iddynt ac iddynt hwythau ddarparu her adeiladol i'n gwaith. 

Blaenoriaeth 3

Cefnogi'r gwaith o ddatblygu arferion da newydd a chydnabod arferion da sy'n bodoli eisoes i annog darpariaeth gyson ledled Cymru. Byddwn hefyd yn ymateb i themâu a phryderon sy'n dod i'r amlwg, lle bo angen, drwy greu mecanweithiau newydd. Byddwn yn gwneud hyn mewn cydweithrediad â'r sector arbenigol ac yn hyrwyddo'r arfer o gynnal darpariaeth o ansawdd uchel ledled Cymru.

Mae arweinyddiaeth AWOGSEW wedi ei gwneud yn bosibl i ganolbwyntio'n strategol ar fynd i'r afael â cham-fanteisio’n rhywiol fel math o VAWDASV a hefyd fel llwybr i erledigaeth bellach i fenywod a merched sy'n agored i niwed. Mae hefyd wedi sicrhau bod polisïau'n integredig, gan sicrhau bod cam-fanteisio rhywiol yn cael ei ymgorffori o fewn strategaethau VAWDASV yn hytrach na'i drin fel mater ar wahân. Fel ymrwymiad i'r holl oroeswyr, mae'r gwaith trwy AWOGSEW wedi canolbwyntio ar wneud profiadau menywod sy'n wynebu cam-fanteisio’n rhywiol yn weladwy wrth sicrhau bod ein dull yn parhau i fod yn gynhwysol i bob goroeswr.

Blaenoriaeth 4

Parhau i bledio'r achos dros fuddsoddi mewn gwasanaethau atal trais ar gyfer dioddefwyr posibl a'r rhai sy'n cyflawni niwed, gan gynnwys pobl ifanc. Cydnabyddir bod cynnydd yn yr angen ymhlith pobl ifanc, a bod modd lleihau'r niwed yn sylweddol yn eu plith. Dylai hyn fod yn sbectrwm o ymyrraeth, o ymgyrchoedd a hyfforddiant sydd wedi'i anelu at y cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ar y naill law, i ymyriadau uniongyrchol ar y llaw arall, gan gynnwys rhaglenni addysg ac ymyriadau i'r rhai sy'n dystion i sefyllfaoedd niweidiol. 

Mae ein gwaith cynghori wedi cael ei lywio gan ac wedi cyfrannu at y sylfaen dystiolaeth gynyddol ar ymatebion VAWDASV effeithiol ar gyfer cymunedau ymylol. Rydym yn parhau i godi pryderon am y pwysau ar wasanaethau, yn benodol gwasanaethau craidd sy'n darparu'r gefnogaeth fwyaf hanfodol. Rydym yn falch y bydd cynnydd yng nghyllideb y llywodraeth ar gyfer VAWDASV yn 2025 i 2026. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod mai canran fach o'r cyllid y mae hyn yn ei ddarparu'n gyffredinol. Rydym hefyd wedi codi materion ar ran y sector mewn perthynas â gofynion beichus comisiynwyr a'r ddarpariaeth ariannol newidiol gan lywodraeth y DU.

Blaenoriaeth 5

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf am brofiadau goroeswyr, hyrwyddo'r hyn sy'n gweithio ac eirioli pan nad yw systemau ac ymatebion wedi gweithio, a hynny drwy'r Panel Craffu Llais Goroeswyr Cenedlaethol a'r rhwydweithiau niferus i oroeswyr ledled Cymru. Sicrhau ein bod yn mabwysiadu dull croestoriadol drwy hyrwyddo ac ymgysylltu â materion penodol fel anghenion menywod mudol a rhwystrau penodol sy'n wynebu dioddefwyr camdriniaeth sy'n anabl. 

Mae gweithio gyda phrofiadau goroeswyr, eirioli drostynt a pharhau i'w hatgyfnerthu yn ganolog i'n rôl. Rydym yn cadeirio Panel Cenedlaethol Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr ac yn awr yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr i fynd i holl gyfarfodydd y Glasbrint. Rydym hefyd wedi ymgysylltu â goroeswyr ynglŷn â'u profiadau o Lysoedd Teulu gan fod hyn wedi'i godi yn gyson gyda ni. Rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn drwy Dasglu Dioddefwyr a Thystion Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru yn ogystal â ffyrdd eraill.

Yn unol ag ymrwymiad i groestorri, rydym wedi cynnal grwpiau ffocws ar wahân i ddeall yn well y pryderon cynyddol am droseddau casineb a'r diffyg cefnogaeth i bobl yng Nghymru o gymunedau Du, Asiaidd neu leiafrifoedd eraill, yn enwedig goroeswyr trais a chamdriniaeth. Mae'r grwpiau ffocws hyn wedi rhoi mewnwelediadau hanfodol i'r rhwystrau systemig sy'n wynebu cymunedau ymylol., Mae hwn yn ddarn parhaus o waith a bydd yn cael ei fwydo i mewn i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru ac i waith gyda phartneriaid strategol.

Dangoswyd effaith y Panel yn bwerus yn Uwchgynhadledd VAWDASV yn nodi deng mlynedd o'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, lle dylanwadodd tri aelod o'r Panel n sylweddol ar yr agenda a rhannu mewnwelediadau hollbwysig gyda llunwyr polisi, comisiynwyr ac arweinwyr gwasanaethau. Roedd eu cyfraniadau yn herio rhanddeiliaid i wynebu bylchau rhwng uchelgais ddeddfwriaethol a realiti bywyd, gan dynnu sylw at rwystrau penodol y mae goroeswyr, yn enwedig menywod o leiafrifoedd, yn parhau i'w hwynebu wrth gael mynediad at ddiogelwch a chyfiawnder. Daeth tystiolaeth aelodau'r Panel â dilysrwydd a brys i drafodaethau am heriau gweithredu, gan atgoffa'r sector bod yn rhaid mesur llwyddiant polisi drwy ganlyniadau i oroeswyr yn hytrach na chydymffurfiaeth â phrosesau. Mae'r Panel yn cynrychioli ymrwymiad Llywodraeth Cymru i arweinyddiaeth goroeswyr ac yn darparu model ar gyfer sut y gall profiad bywyd ysgogi newid mewn systemau pan gaiff adnoddau priodol a'i wir werthfawrogi.

Blaenoriaeth 6

Darparu cyfleoedd ychwanegol i graffu ar gyflawniadau allweddol y Ddeddf, gan gynnwys strategaethau lleol a gweithgarwch sy'n ofynnol i wella arferion comisiynu a chaffael VAWDASV ledled Cymru, gan weithio tuag at yr uchelgais o ddarparu dull cynaliadwy ar draws systemau.

Mae strategaeth a glasbrint VAWDASV yn rhoi cyfle da i ni weithio gyda’r llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus a’r sector arbenigol i gyflawni’r nod hwn. Mae  ymrwymiad penodol i gyflawni hyn yn ffrwd waith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau, sy’n cael ei chyd-gadeirio gan Yasmin. Trwy ein presenoldeb ar draws pob un o'r ffrydiau gwaith Glasbrint rydym yn gallu cynghori ar ryng-gysylltedd a rhyngddibyniaeth blaenoriaethau a chamau gweithredu. Mae cyfyngiadau wedi bod, ac yn parhau i fod, ar gynrychiolaeth briodol gan wasanaethau cyhoeddus ac rydym wedi rhoi cyngor a her i'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a’r Prif Chwip ar hyn. Mae'r gynrychiolaeth hon yn enghraifft o fater pwysicach  cyflawni'r Ddeddf ei hun gan yr awdurdodau perthnasol. Er bod ymdrechion wedi'u gwneud trwy gynadleddau arweinyddiaeth a dulliau eraill i ymgysylltu ag arweinyddiaeth, mae rhagor o waith i'w wneud. Rydym hefyd, fel y soniwyd yn yr adroddiad hwn drwyddo draw, yn darparu cyngor ac arbenigedd ar waith polisi arall fel y Cynllun Iechyd Menywod a fforymau strategol ehangach fel Rhaglen Gwasanaethau Ymosodiadau Rhywiol Cymru lle mae rhwymedigaethau a chyfleoedd.

Blaenoriaeth 7

Cynghori Gweinidogion yn benodol a, lle bo'n briodol, gwasanaethau cyhoeddus a rhanddeiliaid perthnasol ar gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf i atal trais a cham-drin, diogelu unigolion, a chefnogi dioddefwyr a goroeswyr. 

Mae sicrhau'r cyflawniadau allweddol o dan y Ddeddf a gweithio tuag at yr uchelgais o ddarparu  dull cynaliadwy ar draws systemau yn elfennau hanfodol o'n gwaith, gydag aelodau'r panel goroeswyr yn gofyn cwestiynau beirniadol mewn perthynas â sut mae hyn yn cysylltu â gwasanaethau VAWDASV ledled Cymru o ran atal trais a cham-drin a darparu gwasanaethau i oroeswyr sydd ag adnoddau llawn. Gyda chanlyniadau'r arolwg a'r gweithdai ar y dull cynaliadwy ar draws systemau , rydym bellach yn gallu dilysu ym mhle mae'r heriau allweddol. Mae nodi dull comisiynu ar y cyd yng Nghymru yn allweddol. Mae model comisiynu cynghreiriol yn cael ei archwilio - er bod hyn ar gam cynnar rydym yn ystyried heriau penodol aelodaeth a'r diffyg cyrff strategol perthnasol sydd ddim yn bresennol yn y grŵp a'r uwch arweinwyr yr ydym wedi ymdrechu'n barhaus i ymgysylltu â nhw.

Blaenoriaeth 8

Cefnogi'r sector arbenigol yn eu hymdrechion i gynnal gwasanaethau effeithiol a hanfodol i ddioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin, a sicrhau eu bod yn bresennol mewn sesiynau cynllunio lleol,  rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae'r Grŵp Cyfeirio Arbenigol, fel y soniwyd uchod, yn rhoi cyfleoedd i ni ddeall a chytuno ar gamau â blaenoriaeth gyda'r sector arbenigol. Rydym yn gwybod, ers y pandemig, bod gwasanaethau wedi wynebu galw cynyddol o ran niferoedd a chymhlethdod yr anghenion. Yn anffodus, mae chwyddiant, a phwysau economaidd cymdeithasol wedi arwain at ostyngiad mewn buddsoddiad mewn gwasanaethau dros amser yn y byd sydd ohoni. Ynghyd ag eirioli dros fwy o fuddsoddiad, rydym hefyd yn sicrhau bod eu profiadau a'u safbwyntiau yn cael eu cynrychioli ar draws y fforymau rydyn ni'n mynd iddynt. 

Blaenoriaeth 9

Cefnogi'r gwaith o ddatblygu Dangosyddion Cenedlaethol a datblygu sylfaen dystiolaeth ategol mewn perthynas ag effaith gweithredu'r Ddeddf.

Mae'r gwaith i ddatblygu'r Dangosyddion Cenedlaethol wedi profi i fod yn heriol iawn. Mae'r safon sy'n ofynnol ar gyfer Dangosydd Cenedlaethol yn benodol dros ben ac o ganlyniad mae data perthnasol sy'n addas yn gyfyngedig. Cefnogi'r gwaith o ddatblygu Dangosyddion Cenedlaethol a datblygu sylfaen dystiolaeth ategol mewn perthynas ag effaith gweithredu'r Ddeddf. Ein hargymhelliad yw bod gwaith yn cael ei wneud i greu set ddata safonol ar gyfer Asesiadau Anghenion a Strategaethau VAWDASV a fyddai'n darparu'r data yn y dyfodol ar gyfer Dangosyddion Cenedlaethol gwell. Byddwn yn parhau i weithio gyda thîm polisi VAWDASV a Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru ar greu sylfaen dystiolaeth gan gynnwys set ddata.

Blaenoriaeth 10

Parhau i ddarparu cymorth a chyngor ar y dull croestoriadol o gynnig gwasanaethau trais a cham-drin, a sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei droi'n weithredu a chyflawni. Rhaid i'r dull croestoriadol fod yn rhan o gyd-destun gwell dealltwriaeth o bob math o drais a cham-drin fel y gall pob goroeswr fod yn sicr o amddiffyniadau a chefnogaeth briodol ac effeithiol. Dylai hyn gynnwys ymyriadau sy'n briodol i oedran ar gyfer  plant a phobl ifanc a phobl hŷn. Mae'n rhaid i ni gydnabod plant a dioddefwyr a darparu'r gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion. Mae'n rhaid i ni hefyd dynnu sylw at y bylchau yn y cyfnod pontio rhwng bod yn blentyn i fod yn oedolyn, gan wella'n benodol ymatebion amlasiantaethol i bobl ifanc.

Mae ein gwaith hefyd wedi darparu dirnadaethau hollbwysig i'r rhwystrau systemig sy'n wynebu cymunedau ymylol, gan ganiatáu datblygu strategaethau pwrpasol i wella gwasanaethau cymorth a diogelwch yn y gweithle. Gan gydnabod y rhwystrau hyn, mae angen brys hefyd i roi gwasanaethau ar brawf i weld a oes gwahaniaethau yn y gwasanaethau i ddioddefwyr ar gyfer dioddefwyr Du a lleiafrifol. Bydd sefydlu grŵp ar wahân i fynd i'r afael â rhwystrau sefydliadol yn helpu i nodi a chywiro anghydraddoldebau wrth ddarparu gwasanaethau, gan sicrhau bod systemau cymorth yn hygyrch ac yn effeithiol i bob goroeswr, waeth beth fo'u cefndir.

Blaenoriaeth 11

Cynrychioli a dylanwadu i sicrhau bod datblygiadau, safbwyntiau a phrofiadau Cymru yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau rhanddeiliaid y DU, ym mholisi llywodraeth y DU ac mewn penderfyniadau.

Yn dilyn y cynllun i gau a pheri diswyddiadau yn TATA Steel ym Mhort Talbot, rydym wedi cysylltu â Llywodraethau'r  DU a Chymru am y pwysau cynyddol y mae hyn wedi'i roi ar gymunedau y gwyddom y bydd yn cael effaith ar drais yn erbyn menywod a merched. Gwyddom fod straen economaidd a thensiwn cymunedol yn creu amgylchedd gyda risg uwch o VAWDASV. Rydym yn parhau i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut mae hyn yn effeithio ar y gymuned ac yn eirioli am fesurau sy'n lliniaru hyn. 

Roedd y newidiadau mewn arweinyddiaeth wleidyddol yn llywodraeth y DU yn rhoi cyfle ar gyfer gwell cydweithredu rhwng llywodraethau a synergedd ac ymagwedd na welwyd cynt. Ymhellach at hyn, mae ymrwymiad llywodraeth y DU i haneru trais yn erbyn menywod a merched yn creu ffocws o'r newydd. Rydym wedi mynd i gyfarfodydd gyda'r Gweinidogion Jess Philips ac Alex Davies-Jones yn ogystal â gweld gwelliannau wrth greu partneriaethau strategol agosach gyda chydweithwyr traws-lywodraethol a gwella tirwedd VAWG Cymru a Lloegr i ystyried y Cyd-destun Cymreig.

Casgliadau

Trwy gydweithio â Llywodraeth Cymru, darparwyr arbenigol, rhanddeiliaid allweddol, a goroeswyr, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo dull system gyfan o VAWDASV sy'n blaenoriaethu atal trais a cham-drin ac amddiffyn a chefnogi goroeswyr.

Mae llwyddiant Deddf a strategaeth VAWDASV yn dibynnu ar ymrwymiad parhaus gan yr holl bartneriaid, adnoddau digonol ar gyfer gwasanaethau arbenigol, a chadw lleisiau goroeswyr yn ganolig wrth lunio polisi ac ymarfer. Gyda'r sylfeini hyn, gall Cymru barhau i symud ymlaen tuag at ei nod o fod y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

Neges olaf i Gymru

Gan mai hwn yw'r cynllun blynyddol ar y cyd olaf, dyma neges ymadael gan Yasmin Khan sydd wedi gwasanaethu fel y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol rhwng Ionawr 2018-Hydref 2025.

Ar ôl saith mlynedd yn gwasanaethu fel Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV, trwy bandemig, pwysau economaidd, a newid dwfn mewn systemau, mae Cymru wedi adeiladu rhywbeth nodedig. Mae Deddf VAWDASV 2015 yn parhau i fod yn feincnod ledled y DU. Rydym wedi sefydlu Panel Goroeswyr Cymru Gyfan, wedi ymgorffori lleisiau goroeswyr mewn llunio polisïau, ac wedi creu dull Glasbrint sy'n dod â'r llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, cyfiawnder troseddol a sefydliadau arbenigol ynghyd ar gyfer bwriad a rennir.

Mae goroeswyr yn arbenigwyr oherwydd eu profiad. Mae eu dewrder a'u mewnwelediad wedi siapio pob blaenoriaeth, pob her i systemau nad ydynt yn eu gwasanaethu, popeth arloesol rydyn ni wedi'i gyflawni. Mae hwn wedi bod yn un o'r ffactorau ysgogol sydd wedi fy ysbrydoli i barhau â'r daith.

Rydyn ni'n gwybod beth sy'n gweithio. Nawr mae'n rhaid i ni ei gynnal.

Mae cydweithredu traws-sector yn gryfach. Mae atal trwy addysg yn symud ymlaen. Mae'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn darparu arweinyddiaeth sy'n alinio gweithredu'n lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'r rhain yn gyflawniadau gwirioneddol sy'n amddiffyn bywydau go iawn, gyda dull traws-lywodraethol ac arweinyddiaeth Weinidogol barhaus gallwn ddal ati i wthio ymlaen at gael canlyniadau teg i'n holl ddioddefwyr a goroeswyr ac atal niwed wrth iddo ddeor gyntaf. 

Serch hynny, mae'r galw yn dal i gynyddu. Yn ogystal, rhaid i VAWDASV barhau i gynnwys pob grŵp, gan gynnwys menywod sy'n cael eu hecsbloetio'n rhywiol a sicrhau bod croestoriadedd wedi'i ymgorffori mewn polisïau ar draws y llywodraeth. Mae caledi economaidd wedi dwysáu gwendidau. Rydym wedi profi bod y model yn gweithio; mae'n rhaid i ni nawr ei adnoddi'n ddigonol.

Mae Cymru wedi arwain lle mae eraill yn dilyn. Mae'r seilwaith yn ei le. Mae'r partneriaethau wedi'u sefydlu. Mae'r ymrwymiad yn amlwg. Mae gwneud Cymru'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod o fewn cyrraedd, nid fel dyhead ond fel nod cyraeddadwy, os ydym yn cynnal buddsoddiad, sicrhau cyflawni cyson, a chadw lleisiau goroeswyr yn ganolog i bopeth a wnawn.

Mae wedi bod yn fraint lwyr i mi wasanaethu fel Cynghorydd Cenedlaethol Cymru, a gellir cyflawni dull sero o ymdrin â VAWDASV ledled Cymru drwy waith ein rhanddeiliaid, ein goroeswyr a'n gwasanaethau arbenigol sy'n parhau i ymdrechu i adeiladu Cymru fwy diogel i'n cenedlaethau yn y dyfodol.