Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma ein cynllun blynyddol olaf fel Cynghorwyr Cenedlaethol, ac mae'n cael ei gyhoeddi ar adeg pan fo trais yn erbyn menywod a merched, yn gywir ddigon, yn flaenllaw ym meddyliau'r cyhoedd. Er ein bod ni, y sector arbenigol, dioddefwyr a goroeswyr a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio tuag at fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ers tro, dim ond yn sgil achosion diweddar, ofnadwy a phroffil uchel y mae'r epidemig o drais gan ddynion wedi cipio'r penawdau.

Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld menywod yn cael eu llofruddio a'u cymryd oddi wrth eu teuluoedd am byth, rydym wedi gweld swyddogion yr heddlu yn camddefnyddio'r ymddiriedaeth a ddangoswyd ynddynt ac rydym wedi gweld arolygiaeth yr heddlu yn cyhoeddi adroddiadau di-flewyn-ar-dafod.  Mae lleisiau menywod wedi cael eu hanwybyddu am ormod o amser; mae'n amser i weithredu.

Ein gobaith yw y bydd y cynllun blynyddol hwn yn ysgogi dull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â VAWDASV. Rydym yn cefnogi'r uchelgais a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu i fynd i'r afael ag aflonyddu a cham-drin ar y stryd ac yn y gweithle, yn ogystal â'r cartref. Rydym hefyd yn cydnabod pa mor hanfodol ydyw bod pobl ifanc yn cael eu haddysgu am gydberthnasau iach a chydsyniad. Mae angen inni fabwysiadu dull cyfannol er mwyn sicrhau bod menywod yn ddiogel ym mhob agwedd ar eu bywydau.

Mae'r cynllun hwn yn amlinellu'r ffordd y byddwn yn cefnogi ac yn herio Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru i fynd i'r afael â VAWDASV a sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.

Ni ddylai fod angen i fenywod newid eu hymddygiad. Dynion ddylai fod yn newid eu hymddygiad nhw.

Gofynion statudol

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn ddeddfwriaeth bwysig a'r cyntaf o'i bath yn y DU ac Ewrop. Nod cyffredinol y Ddeddf yw gwella ymateb y sector cyhoeddus yng Nghymru i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) a sicrhau y caiff dulliau ataliol, amddiffynnol a chefnogol eu hystyried yn gyson wrth ddarparu gwasanaethau.

Fel Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod a mathau eraill o Drais yn seiliedig ar Rywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, mae'n ofynnol i ni, o dan Adran 22 o'r Ddeddf, baratoi cynllun blynyddol sy'n nodi'r ffordd rydym yn bwriadu arfer swyddogaethau'r rôl hon yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol. Mae ein cynllun ar gyfer 2022 i 2023 yn unol â'n cyfrifoldebau statudol; wrth wneud hynny, edrychwn ymlaen at gyhoeddi'r strategaeth VAWDASV nesaf a'r gwaith partneriaeth a fydd yn ganolog iddi, gyda ffocws parhaus ar atal ac addysg.

Yn unol â rhwymedigaethau rhyngwladol, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod trais yn erbyn menywod yn torri hawliau dynol. Mae ei holl bolisïau a strategaethau yn ei ddiffinio'n benodol yn unol â'r hawliau dynol rhyngwladol hynny. Hefyd, ym marn Llywodraeth Cymru, mae trais yn erbyn menywod yn fath o wahaniaethu ac yn ben llanw cael pŵer anghyfartal mewn perthnasoedd yn hanesyddol. Mae hefyd yn cydnabod ac yn ceisio mynd i'r afael â'r mathau niferus a rhyngblethol o drais, wrth i'r ddealltwriaeth o natur VAWDASV ddatblygu.  Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE 2014) yn nodi bod y gost ddynol ac economaidd mor sylweddol fel bod ymyriadau sydd fymryn yn effeithiol hyd yn oed yn gosteffeithiol. Gall mynd i'r afael â thrais a'i achosion sylfaenol a'u dileu, nid yn unig wella iechyd a llesiant, ond gall gael effaith gadarnhaol ehangach ar gymdeithas a'r economi hefyd.

Nid yw'r ffaith y cydnabyddir mai menywod sy'n dioddef yr ymddygiadau niweidiol hyn fwyaf yn golygu nad ystyrir yr effaith ar ddynion sy'n ddioddefwyr; fodd bynnag, menywod a merched sy'n dioddef gan amlaf, a hynny'n anghymesur.

Mae chwe blynedd wedi mynd heibio ers i Ddeddf VAWDASV 2015 ddod i rym. Er mai'r Ddeddf hon yw'r meincnod ar gyfer mesur deddfwriaeth ar drais ar sail rhywedd ledled y Deyrnas Unedig o hyd, mae Deddf Cam-drin Domestig 2021, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2021, wedi'i chyflwyno erbyn hyn hefyd.  Rydym o'r farn bod angen i waith sy'n gysylltiedig â Deddf Cam-drin Domestig 2021 fod yn fwy cyson â Deddf VAWDASV (2015). Rydym yn parhau i weithio gyda'r Comisiynydd Cam-drin Domestig a'i thîm i sicrhau bod camau gweithredu sy'n ymwneud â meysydd datganoledig yn cael eu cydgysylltu'n well.

Effaith COVID-19

Wrth inni barhau i fyw drwy bandemig COVID-19, mae'r effaith ar ddioddefwyr a goroeswyr yn glir – mae'r ffactorau risg wedi cynyddu yn sgil cyfyngiadau symud a bu'n anos cael gafael ar rwydweithiau cymorth. Gyda'r cyfyngiadau yn cael eu llacio, mae anghenion dioddefwyr a goroeswyr yn debygol o fod yn fwy cymhleth nag erioed o'r blaen.

Rhaid cydnabod ymdrechion sylweddol Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â'r sector arbenigol, i addasu i'r amgylchiadau hyn ac i sicrhau y gall dioddefwyr a'r rhai sy'n gweithio i'w cefnogi barhau i gael cymorth. Fel y nodwyd yn ein Hadroddiad Blynyddol, mae swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar VAWDASV wedi bod wrthi'n ddiflino drwy'r pandemig yn ymgysylltu â'r sector arbenigol, yn gwrando ac yn ymateb yn effeithiol i'w adborth, er mwyn deall beth sydd ei angen ar ddioddefwyr a thystion a cheisio ymateb mewn ffordd effeithiol a chyflym. Er bod gweld y gwaith hwn yn mynd rhagddo a bod yn rhan ohono yn wych, mae llawer i'w wneud o hyd. Fel y nodwyd yn ein cynllun y llynedd, mae'r pandemig wedi cael effaith enfawr ar yr economi a fydd, yn ei dro, yn ehangu'r anghydraddoldebau a wynebir gan lawer, gan gynnwys y rhai sy'n dioddef VAWDASV.

Rydym yn bwriadu cydnabod hyn a sicrhau bod pob un o'n hamcanion yn gweithio tuag at ymateb cynaliadwy sy'n ceisio cyflawni canlyniadau teg.

Er mwyn ceisio trawsnewid y sefyllfa o ran VAWDASV, mae'n rhaid inni ganolbwyntio ar atal a lleihau effaith hirdymor niwed ar bob unigolyn dan sylw, yn enwedig ar blant a phobl ifanc. Y llynedd, cydnabyddwyd yn ein cynllun mai hwnnw fyddai'r olaf yn ein rôl fel Cynghorwyr Cenedlaethol. Fodd bynnag, yn sgil yr ansicrwydd parhaus a achoswyd gan COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn ein cyfnod yn ein swyddi i fis Gorffennaf 2022 er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a'n galluogi i ailddechrau neu barhau â rhywfaint o'r gwaith a gynlluniwyd gennym ond a fu, yn anffodus, yn destun oedi. Felly, rydym yn bwriadu cyflwyno rhai gweithgareddau yn 2022 i 2023 am eu bod yn parhau i fod yn amcanion gwerthfawr wrth fynd i'r afael â VAWDASV.

Amlinellodd ein hadroddiad blynyddol 2020 i 21, a gyflwynwyd gerbron y Senedd yr hydref hwn, y cynnydd a wnaed ym mhob maes hyd at fis Ebrill 2021, ac nid ydym yn bwriadu ymarfer hynny yma. Fodd bynnag, ni ellir llunio polisïau mewn gwactod, ac ni ddylid gwneud hynny chwaith. Er mwyn sicrhau bod ymyriadau yn effeithiol, eu bod yn canolbwyntio ar atal ar y naill law ond eu bod yn rhoi cymorth priodol ar y llall, rhaid i leisiau goroeswyr fod wrth wraidd y gwaith o ddatblygu polisïau ac ymateb Llywodraeth Cymru i VAWDASV.

Amcanion ar gyfer 2022 i 2023

Amcan 1: Cadeirio'r paneli ymgysylltu â goroeswyr cenedlaethol

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiadau ar y gwaith ymchwil a'r gwaith peilot a gynhaliwyd gyda goroeswyr VAWDASV yn ystod 2019. Yn benodol, ‘Ymchwil gyda grwpiau goroeswyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) heb gynrychiolaeth ddigonol i lywio'r Fframwaith Ymgysylltu â Goroeswyr: Cam 1 (crynodeb)  a ‘Gwerthusiad o Banel Ymgysylltu â Goroeswyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) Peilot: Cam 2 (crynodeb)’.

Mae'n rhaid inni barhau i nodi'r bylchau sydd yn y ddarpariaeth bresennol a dileu'r rhwystrau sy'n wynebu'r rhai â nodweddion gwarchodedig. Rydym yn ymrwymedig i roi'r argymhellion a nodir yn yr adroddiadau ar waith er mwyn sicrhau bod gan y rhai sydd â phrofiad bywyd lwyfan i lywio, datblygu a dylanwadu ar bolisi Cymru. Byddwn yn cadeirio'r paneli hyn fel cynghorwyr annibynnol, ac yn ymgorffori diwylliant lle mae lleisiau'r rhai sydd â phrofiad bywyd wrth wraidd y gwaith o ddatblygu polisïau ac yn gallu dylanwadu ar newid.

Fel cynghorwyr cenedlaethol, byddwn yn ceisio deall a nodi barn, galluoedd, cymhellion a'r rhwystrau rhag ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, a byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid yn y sector arbenigol i leihau'r rhwystrau rhag ymgysylltu. Byddwn yn gweithredu fel dolen rhwng gwneuthurwyr polisi, Gweinidogion Cymru a grwpiau eraill o randdeiliaid VAWDASV. 

Amcan 2: Ymgorffori ymagwedd iechyd y cyhoedd

Ym mis Medi 2021, cyhoeddodd yr Uned Atal Trais ei hadroddiad ‘Beth sy'n Gweithio i Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol? Asesiad Systematig o'r Dystiolaeth’. Mae'r adroddiad yn diffinio ymagwedd iechyd y cyhoedd fel a ganlyn: ‘Mae Cynghrair Atal Trais Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio ymagwedd iechyd y cyhoedd at atal trais fel un sy'n ‘ceisio gwella iechyd a diogelwch pob unigolyn drwy fynd i'r afael â ffactorau risg sylfaenol sy'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn dioddef neu'n cyflawni trais’ (Cynghrair Atal Trais, 2021b).

Mae cydnabod bod VAWDASV yn fater sy'n ymwneud ag iechyd y cyhoedd yn allweddol er mwyn deall a mynd i'r afael â'r canlyniadau iechyd hirdymor a byrdymor a chostau cymdeithasol ehangach gan gynnwys cyfranogiad menywod mewn addysg, yn y gweithle a'r mynediad sydd ganddynt i'r byd o'u hamgylch. Mae ein gwaith gyda Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru wedi nodi blaenoriaethau allweddol o ran VAWDASV a nodir yn ei gynllun. Byddwn yn sicrhau bod grŵp Comisiynwyr VAWDASV yn gweithio i gynnwys iechyd fel un o'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer amcanion comisiynu yn y dyfodol.

Amcan 3: Archwilio dull glasbrint ar gyfer cyflwyno Strategaeth Genedlaethol pum mlynedd nesaf VAWDASV

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'i gweithgor o sefydliadau partner allweddol i ddatblygu strategaeth pum mlynedd nesaf VAWDASV. Caiff y strategaeth ei chyhoeddi ar ddechrau 2022. Fel rhan o'r gwaith o gyflawni'r strategaeth hon, rhoddir dull glasbrint ar waith a fydd yn sicrhau bod pob sefydliad, boed yn ddatganoledig neu beidio, yn cydweithio er mwyn ystyried dull system gyfan o fynd i'r afael â thrais gan ddynion a chasineb at fenywod. Caiff hyn ei gyflawni drwy strwythur llywodraethu gwell a chyfres o is-grwpiau a fydd yn canolbwyntio ar elfennau penodol o'r gwaith o fynd i'r afael â VAWDASV. Mae hwn yn ddarn uchelgeisiol o waith, ond yn un a fydd yn elwa ar y profiadau a'r gwersi a ddysgwyd wrth sefydlu'r glasbrintiau presennol ar gyfer troseddu gan fenywod a chyfiawnder ieuenctid. Byddwn yn cynnig llais annibynnol i lywio'r gwaith a wneir ar y glasbrint a sicrhau ei fod yn cyflawni ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr. 

Rydym yn gweithio gyda grŵp Comisiynu VAWDASV i nodi'r gwasanaethau craidd a ddarperir mewn ardaloedd lleol a rhanbarthau er mwyn sicrhau bod gwasanaethau teg a hygyrch ar gael i bob dioddefwyr. Wrth wneud hynny, byddwn yn nodi bylchau yn y ddarpariaeth ac o ran hygyrchedd, a sut y gall y dull glasbrint helpu i lenwi'r bylchau hynny.

Amcan 4: Parhau i ymgysylltu â gwasanaethau arbenigol trais rhywiol er mwyn sicrhau bod dioddefwyr a goroeswyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt

Yn ystod haf 2020, gwnaethom gomisiynu arolwg ‘snap’ o wasanaethau trais rhywiol a nododd gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau mewn perthynas â chyflawni ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr.  Rydym wedi rhoi adborth i bartneriaid a chafodd trais rhywiol ei gynnwys fel un o'n blaenoriaethau allweddol yn y cynllun olaf hwn. 

Yn 2021 i 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru bron £300,000 i sefydliadau trais rhywiol arbenigol trydydd sector ledled Cymru, a oedd yn gynnydd o 4% o gymharu â'r symiau a roddwyd cyn y pandemig.

Byddwn yn parhau i ystyried, ar y cyd â darparwyr gwasanaethau trais rhywiol, sut y gellir adeiladu gallu a gwella cydweithio.

Amcan 5: Ystyried sut y gall y broses gomisiynu fod yn fwy effeithiol a chyson 

Gall y broses o gomisiynu gwasanaethau fod yn un gymhleth ac felly mae'n bwysig ein bod yn darparu cyfeiriad strategol ar gyfer cydgysylltu gwasanaethau ledled Cymru a hyrwyddo dull gweithredu cyson.

Rydym yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i barhau i roi cyfeiriad a goruchwyliaeth er mwyn sicrhau y bydd gwaith Grŵp Comisiynu VAWDASV Cymru Gyfan yn cyfrannu at amcanion y Strategaeth Genedlaethol ddiwygiedig, pan gaiff ei chyhoeddi. Bydd hyn yn helpu comisiynwyr sy'n gyfrifol am wasanaethau cymorth VAWDASV i nodi cyfleoedd contractio a chomisiynu cydweithredol ac integredig. Fel rhan o'r gwaith hwn, sicrheir bod y broses gomisiynu yn cael ei hymgorffori yn y dull glasbrint ac yn gweithio o fewn strwythur llywodraethu.

Amcan 6: Sicrhau bod anghenion dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu hadlewyrchu o fewn strategaethau lleol

Mae asesiadau trylwyr o anghenion yn sicrhau bod strategaethau lleol yn rhoi cymorth priodol i holl ddioddefwyr VAWDASV. Byddwn yn parhau i weithio gydag Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, y Trydydd Sector a darparwyr gwasanaethau Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol i sicrhau bod strategaethau lleol yn cael eu llywio gan anghenion yn ogystal â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth. Dyma'r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau, a byddwn yn rhoi adborth penodol er mwyn nodi'r pethau sy'n gweithio a'r mannau lle y gellir gwneud gwelliannau.

Amcan 7: Cyfathrebu'n well â Swyddfa Gartref y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Gwnaethom sicrhau bod mewnbwn sylweddol gennym ni fel Cynghorwyr, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yng Nghymru hefyd yn ystod camau datblygu Deddf Cam-drin Domestig 2021. Mae'r dasg o roi'r Ddeddf ar waith, ynghyd â llunio a chyhoeddi canllawiau statudol, yn mynd rhagddi o hyd. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â'r Comisiynydd Cam-drin Domestig a'i swyddfa a byddwn yn parhau i ymgysylltu â chydweithwyr yn Llywodraeth y DU. Byddwn yn parhau i gyfrannu at y gwaith hwn ac yn sicrhau bod yr arbenigedd sydd gennym yng Nghymru yn cael yr amlygrwydd a'r gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu. 

Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn datblygu deddfwriaeth ar y Bil Dioddefwyr. Mae'r gwaith hwn yn cwmpasu nifer fawr o feysydd gan gynnwys VAWDASV. Byddwn yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwaith hwn o fudd i oroeswyr a dioddefwyr VAWDASV yng Nghymru.

Erbyn hyn, ychydig iawn o rwystrau, os o gwbl, sy'n wynebu Llywodraeth y DU o ran cynnwys confensiwn CEDAW yng nghyfraith y DU a chymeradwyo confensiwn Istanbwl. Byddwn yn gweithio gyda Gweinidogion a swyddogion i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wrth wraidd y mentrau hyn.

Amcan 8: Mynd i'r afael â phrofion gwyryfdod a hymenoplasti a rhoi cyngor arbenigol ar y rhai sy'n ffoi rhag VAWDASV nad oes ganddynt unrhyw ffordd o gael gafael ar arian cyhoeddus

Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried opsiynau ar gyfer gwneud profion gwyryfdod yn drosedd. Byddwn yn cefnogi'r gwaith hwn ac yn gweithredu fel dolen rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill. Yn 2018, y diffiniad o brawf gwyryfdod a roddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd oedd archwilio organau cenhedlu benywaidd i benderfynu a yw menywod neu ferched wedi cael rhyw drwy'r wain; y cyfeirir ato hefyd fel archwiliad o'r hymen, archwiliad “dau fys” neu archwiliad drwy'r wain. Nid oes gan y profion hyn unrhyw werth gwyddonol ac nid ydynt yn ddangosyddion clinigol chwaith.  Mae'r arfer yn un niweidiol ac mae'n fath o drais yn erbyn menywod a merched.

Fel aelodau o banel Arbenigol Annibynnol y bwriedir iddo gyfarfod yn ystod Hydref 2021, rydym yn ymrwymedig i ddarparu canllawiau a fydd yn ystyried argymhellion i Lywodraeth y DU ynghylch a ddylid gwahardd hymenoplasti. Byddwn yn sicrhau bod y sefyllfa yng Nghymru yn cael ei chynrychioli a'i hystyried yn y panel hwn.

Mae menywod sy'n ffoaduriaid, yn fudwyr ac yn geiswyr lloches sy'n ffoi rhag VAWDASV yn profi heriau a chaledi penodol, ac mae'r pandemig wedi gwneud y sefyllfa hon yn waeth. Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru ond hefyd yn Llywodraeth y DU i ddod o hyd i atebion a all fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn a rhoi cymorth digonol.

Amcan 9: Cefnogi Llywodraeth Cymru mewn ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth pellach

Yn ystod y pandemig, lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgyrch ‘Ddylai neb fod yn ofnus gartre’ er mwyn rhoi gwybod i ddioddefwyr sut y gallent gael gafael ar help a chefnogaeth hyd yn oed yn ystod cyfyngiadau symud cenedlaethol. Ni ellir tanamcangyfrif effaith ymgyrchoedd o'r fath. Wrth inni barhau i deimlo effaith COVID-19, bydd ymgyrchoedd cyfathrebu yn parhau i fod yn ffordd bwysig o gyfleu'r negeseuon pwerus hyn.  Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i lywio ymgyrchoedd pellach a defnyddio ein llwyfannau i bwysleisio'r negeseuon i sicrhau eu bod yn cyrraedd amrywiaeth eang o ddioddefwyr a'r rhai sy'n wynebu risg o niwed.

O ystyried llofruddiaeth drasig Sarah Everard, rhaid inni barhau i daflu goleuni ar y maes hwn a gwneud mwy i sicrhau bod amrywiaeth o ymgyrchoedd cyfathrebu yn codi ymwybyddiaeth o'r hyn yw VAWDASV, yn herio agweddau ac yn cyfeirio unigolion at yr help a'r gefnogaeth sydd ar gael.

Casgliad

Rydym yn cydnabod bod y dull o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yng Nghymru wedi cael ei drawsnewid a bod cynnydd enfawr wedi'i wneud ers i'r Ddeddf ddod i rym. Mae wedi arwain at fwy o hyfforddiant, canllawiau cryfach, newid mewn ymarfer a chyfeiriad strategol clir ym mhob rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru sydd i gyd wedi cael effaith ar fywydau'r unigolion hyn. 

Dyma ein cynllun olaf fel Cynghorwyr Cenedlaethol. Wrth i'n hamser yn y rolau hyn ddod i ben, hoffem ddiolch i'r swyddogion rydym wedi gweithio gyda nhw yn Llywodraeth Cymru, Gweinidogion Cymru sydd wedi dangos cymaint o arweinyddiaeth a chyfeiriad, y sector arbenigol sydd wedi ein cynghori a'n herio. Ond, yn bwysicach oll, hoffem ddiolch i'r dioddefwyr a'r goroeswyr sydd wedi cyfrannu eu lleisiau a'u profiadau at ein gwaith.

Er bod y cynllun hwn yn ailadrodd rhai o'r amcanion a nodwyd gennym yn flaenorol, nid diffyg uchelgais yw hynny – mae'n gydnabyddiaeth o'r anawsterau a brofwyd yn ystod y pandemig. Mae VAWDASV wedi cael ei alw yn ‘bandemig cysgodol’ pandemig COVID-19. Mae hyn i'w weld yn amlwg yn ein gwaith yn y maes hwn a dangoswyd hynny yn y sgyrsiau a gawsom gyda'r sector arbenigol. Nawr yw'r amser i ailgasglu a chanolbwyntio ar wneud pethau'n iawn.

Bydd strategaeth pum mlynedd newydd VAWDASV yn cynnig cyfle i wneud hyn ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid ehangach i sicrhau y caiff ei chyflawni'n effeithiol. Mae'n gyfle i ymrwymo o'r newydd i wella canlyniadau drwy ymyrraeth gynnar a chydgysylltu er mwyn cefnogi newid parhaol a meithrin gwydnwch.

Mae'n rhaid dod o hyd i ddarparwyr arbenigol, a hynny mewn ffordd gynaliadwy, er mwyn ceisio cydnabod yr anghydraddoldebau lu a wynebir gan rai grwpiau o fenywod a deall y ffyrdd y maent yn rhyngblethu. Mae'r ymateb i'r pandemig wedi dibynnu ar arbenigedd darparwyr arbenigol i gadw'r rhai sy'n wynebu risg o niwed yn ddiogel, a llwyddwyd i wneud hyn drwy amryw o gronfeydd ymateb brys. Mae'n rhaid inni hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru, a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn arbennig, sydd wedi rhoi cymaint o hyn drwy grantiau hygyrch.

Mae atal VAWDASV yn flaenoriaeth a bydd yn parhau'n flaenoriaeth nes i ni lunio ymateb cynhwysfawr a chyfres o raglenni sy'n cynnwys lleoliadau gwahanol fel y gweithle, y stryd, economi'r nos a mannau cyhoeddus. Mae'n rhaid i bob un ohonynt ryngweithio er mwyn datblygu system sy'n annog ymddygiad diogel ac iach ac yn dwyn ymddygiad treisgar a chamdriniol i gyfrif.

Yasmin Khan a Nazir Afzal OBE

Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.