Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Prif nod Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yw gwella ymateb y sector cyhoeddus yng Nghymru i drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Yn unol ag adran 22 o'r Ddeddf, mae'n ofynnol i Gynghorydd Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod a mathau eraill o Drais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol baratoi cynllun blynyddol yn nodi sut y mae'n bwriadu arfer swyddogaethau'r rôl yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol. Mae angen i'r cynllun hwn gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru cyn 30 Tachwedd ym mhob blwyddyn ariannol. Mae ein cynllun ar gyfer 2021 i 2022 yn unol â'n cyfrifoldebau statudol; wrth wneud hynny credwn fod cymryd camau ataliol yn allweddol er mwyn dileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a bod addysg wrth wraidd hynny.

Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phob math o drais yn erbyn menywod sy'n wynebu ac sydd mewn perygl o wynebu cam-drin domestig a cham-drin rhywiol a phob math o drais ar sail rhywedd, a'u dileu. Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers i'r ddeddfwriaeth hon gael ei phasio, ac mae'n dal i fod yn feincnod ar gyfer mesur deddfwriaeth trais ar sail rhywedd ledled y Deyrnas Unedig. Nid yw'r ffaith y cydnabyddir mai menywod sy'n dioddef yr ymddygiadau niweidiol hyn fwyaf yn golygu nad ystyrir yr effaith ar ddynion sy'n ddioddefwyr; fodd bynnag, menywod a merched sy'n dioddef gan amlaf, a hynny'n anghymesur.

Yn unol â rhwymedigaethau rhyngwladol, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod trais yn erbyn menywod yn torri hawliau dynol. Mae ei holl bolisïau a strategaethau yn ei ddiffinio'n benodol yn unol â'r hawliau dynol rhyngwladol hynny. Hefyd, ym marn y Llywodraeth, mae trais yn erbyn menywod yn fath o wahaniaethu ac yn ben llanw cael pŵer anghyfartal mewn perthnasoedd yn hanesyddol. Mae hefyd yn cydnabod ac yn ceisio mynd i'r afael â'r mathau niferus a rhyngblethol o drais, wrth i'r ddealltwriaeth o natur trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ddatblygu.

Mae'r pandemig eleni wedi tynnu sylw at y peryglon a wynebir gan ddioddefwyr a goroeswyr ac, os rhywbeth, wedi gwaethygu'r risgiau a wynebir gan gynifer o'n dinasyddion. Rhaid cydnabod ymdrechion sylweddol Llywodraeth Cymru i sicrhau nad anghofir am ddioddefwyr na'r rhai sy'n gweithio i'w cefnogi, ond mae llawer o waith i'w wneud o hyd, yn enwedig o ystyried effaith economaidd debygol y pandemig. Gwyddys mai'r bobl sydd fwyaf agored i niwed sy'n dioddef fwyaf pan fo'r economi dan bwysau. Felly, mae angen ymateb ystyriol a chynaliadwy.

Mae ein hamcanion yn seiliedig ar yr heriau sy'n bodoli i wella a chefnogi'r rhai sy'n wynebu risg o niwed; mae hyn yn cynnwys gwell dealltwriaeth o'r risgiau sy'n wynebu dioddefwyr agored i niwed a chyffredinrwydd camdriniaeth yn ein holl gymunedau; ni waeth pwy ydynt na ble maent yn byw.

O'r cychwyn cyntaf, rhaid i'r cynllun ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sy'n dechrau ym mis Ebrill 2021, gydnabod bod rhywfaint o'r hyn roeddem yn gobeithio gweld ei gynnydd yn 2020 naill ai wedi methu â digwydd neu wedi methu â datblygu'n ddigon cyflym. Mae'r pandemig wedi llesteirio cynnydd, ond rydym yn bwriadu cario rhai gweithgareddau drosodd i'r flwyddyn newydd am eu bod yn fentrau gwerthfawr o hyd. O ganlyniad, bydd yr adnoddau sydd ar gael, gan gynnwys amser, yn cyfyngu ar weithgareddau newydd, ac rydym wedi penderfynu canolbwyntio ar ailwampio gweithgarwch presennol. Ein prif nod yn y cynllun blynyddol diwethaf oedd gweld a allai dull iechyd cyhoeddus weithio o ran trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a chael ei ymgorffori ledled Cymru; dyma yw ein prif nod ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Yn ein hadroddiad blynyddol 2019 i 2020 a gyflwynwyd gerbron y Senedd yr hydref hwn, gwnaethom amlinellu'r cynnydd a wnaed ym mhob maes hyd at fis Ebrill 2020, ac nid ydym yn bwriadu ymarfer hynny yma. Digon yw dweud nad yw'r pandemig wedi ein galluogi i wneud llawer o gynnydd gan fod y ffocws wedi bod ar helpu'r llywodraeth a'r trydydd sector i barhau i roi eu mentrau brys ar waith yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Lleisiau a phrofiadau goroeswyr yw'r prif bwyslais ar gyfer ein holl amcanion o hyd. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn rhan ganolog o ddatblygu polisïau a gwella prosesau.

Amcanion ar gyfer 2021 i 2022

Amcan 1 – Ymgorffori dull iechyd cyhoeddus

Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, yr heddluoedd a phartneriaid eraill wrth iddynt brofi dull iechyd cyhoeddus o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Byddwn yn ceisio nodi arferion gorau a all gael eu rhannu ledled Cymru, gyda'r nod o ymgorffori dull iechyd cyhoeddus. Wrth wneud hynny, byddwn yn ymgysylltu â byrddau iechyd cyhoeddus a Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru i nodi dulliau cynaliadwy ar lefel leol.

Wrth gefnogi dull iechyd cyhoeddus, rydym wedi cydnabod y gellir dadlau bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn fwy o risg i iechyd na ffactorau fel pwysedd gwaed a gordewdra. Nodwn effeithiau iechyd eraill trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n cynnwys dynladdiad, hunanladdiad, canlyniadau iechyd meddwl, iechyd corfforol, iechyd rhywiol ac iechyd atgenhedlu niferus, a'r costau economaidd enfawr a'r costau cymdeithasol ehangach, gan gynnwys cyfranogiad menywod mewn addysg a'r gweithle.

Diffiniwn ddull iechyd cyhoeddus drwy gyfeirio at Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig sy'n gofyn am atal trais ar sail tystiolaeth, megis yn ystod y blynyddoedd cynnar, rhianta a rheoli ymddygiadau. Mae'n cynnwys cymryd camau ataliol sylfaenol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, patriarchaeth, casineb at fenywod, a phrif achosion; camau ataliol eilaidd megis ymyrraeth gynnar a dad-ddwysáu; a chamau ataliol trydyddol, megis mesurau lliniaru ac ymateb.

Er bod y pandemig wedi peri heriau yn holl feysydd polisi Llywodraeth Cymru, mae'r achosion hefyd wedi cynnig cyfle gwirioneddol i brofi systemau rheoli risg a chyflawni rhwng polisïau. Rhagwelwn y bydd llawer o'r gwersi a ddysgir yn ystod y cyfnod hwn yn gallu helpu i lunio gwell canlyniadau i ddioddefwyr sy'n wynebu risg o niwed drwy lens iechyd cyhoeddus.

Amcan 2 – archwilio dull glasbrint (fel y'i defnyddir gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru) ar gyfer datblygu Strategaeth Genedlaethol pum mlynedd nesaf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ac yn ymgysylltu â Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a phartneriaid eraill i archwilio glasbrint ar gyfer y system gyfan sy'n anelu at atal trais, ymyrryd yn gynnar gyda phobl agored i niwed, cefnogi dioddefwyr, dwyn cyflawnwyr i gyfrif, a darparu gwasanaethau o ansawdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wneud dioddefwyr a goroeswyr yn fwy diogel, a'u helpu i wella. Bydd angen i'r dull hwn fynd i'r afael â phrif achosion trais a'i ganlyniadau, yn ogystal â herio agweddau ac ymddygiadau. Bydd hyn yn gofyn am broses ymgynghori ddwys â'r rhai y mae'r troseddau a'r ymddygiadau hyn yn effeithio arnynt, a'r rhai sy'n gweithio i atal hyn rhag digwydd.

Amcan 3 – Byddwn yn parhau i archwilio sut y gellir adeiladu gallu a gwella cydweithio gyda darparwyr gwasanaethau trais rhywiol

Rydym wedi credu ers tro – ac mae adborth a data wedi dangos hyn – na roddwyd digon o bwyslais ar wasanaethau trais rhywiol yng Nghymru, er gwaethaf y cynnydd enfawr mewn atgyfeiriadau ac adroddiadau ers 2015. Yn hynny o beth, gwnaethom gomisiynu arolwg cyflym o wasanaethau yn haf 2020 a nododd gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau. Bwriadwn ddefnyddio'r arolwg hwnnw, a pharhau i ymgysylltu â'r sector, er mwyn nodi mentrau a fydd yn gwella'r gwasanaeth i ddioddefwyr a goroeswyr. Byddwn yn cynnal seminar gyda darparwyr trais rhywiol i rannu'r canfyddiadau a darparu blaenoriaethau allweddol fel rhan o'n strategaeth ymadael

Amcan 4 – Byddwn yn parhau i gadeirio'r Grŵp Cyllido Cynaliadwy a gweithio gyda'r llywodraeth a rhanddeiliaid i ddatblygu'r gwaith hwn

Mae'r Grŵp Cyllido Cynaliadwy, sydd wedi'i gadeirio gennym, wedi cytuno ar gyfres o egwyddorion cyllido ac wedi trafod diffiniad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) o gyllido cynaliadwy, gan gydnabod bod angen annog sefydliadau i amrywio eu ffynonellau cyllido i osgoi dibynnu gormod ar un ffynhonnell.

Mae'r darlun yng Nghymru yn wahanol iawn i'r hyn ydoedd pan gafodd yr ymarfer ei gynnal am y tro cyntaf gan Cymorth i Fenywod Cymru yn 2017, ac mae'n bwysig bod gennym ddarlun cyfredol ar gyfer Cymru, a hynny gan y comisiynwyr sector cyhoeddus ac yn uniongyrchol gan wasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru.

Rhaid inni barhau i gydgysylltu gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ffordd strategol ledled Cymru, gan sicrhau bod gan gomisiynwyr a darparwyr ddull cyson o gontractio. I'r perwyl hwn, byddwn yn sefydlu grŵp comisiynwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac yn sicrhau ymrwymiad i osgoi dyblygu a gwella'r broses o gyfuno cyllidebau, gan greu cyllid tymor hwy lle y bo'n bosibl.

Un o'r heriau allweddol sy'n weddill yw symud tuag at fodel cyllido cynaliadwy ar gyfer darpariaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyr ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â'r Grŵp Cyllido Cynaliadwy er mwyn cytuno ar fodel cyllido cynaliadwy ar gyfer Cymru. Rydym yn gweithio tuag at fodel cytûn a therfynol erbyn mis Mawrth 2021.

Amcan 5 – Gweithio gydag Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, y Trydydd Sector a darparwyr gwasanaeth SARC i sicrhau y caiff anghenion dioddefwyr a goroeswyr eu hadlewyrchu yn y strategaethau lleol

Strategaethau lleol a gaiff eu llywio gan flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru a'r ddeddfwriaeth fydd y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau ble mae eu hangen bob amser. Byddwn yn darparu adborth penodol ar yr hyn sydd i'w weld yn gweithio a pham, a thrwy ein gwaith dadansoddi byddwn yn nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwella

Amcan 6 – Gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i gyfathrebu'n well â Swyddfa Gartref y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder

Bydd ein gwaith parhaus i sicrhau bod mentrau Llywodraeth y DU yn gyson â rhai Llywodraeth Cymru yn parhau. Mae'r Bil Cam-drin Domestig, rydym wedi aros amdano'n hir, eisoes wedi cael cryn fewnbwn gennym ni a rhanddeiliaid yng Nghymru, gan gynnwys mewn cyfarfodydd Pwyllgor Dethol. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â Chomisiynydd dynodedig Cam-drin Domestig a'i swyddfa a byddwn yn parhau i ymgysylltu â chydweithwyr yn Llywodraeth y DU.

Fel Cadeirydd y grŵp gorchwyl Dysgu a Hyfforddiant, rydym yn bwydo i mewn i waith arloesol y Grŵp Llywio Adolygu Dynladdiad Unedig Unigol. Prif ffocws y grŵp hwn yw cyflwyno dull gweithredu unedig, y mae pob asiantaeth, yn ddatganoledig ac yn annatganoledig, yn cytuno arno, ar gyfer cynnal adolygiadau diogelu, megis adolygiadau o hunladdiadau domestig, adolygiadau o arferion ym maes oedolion ac adolygiadau o arferion ym maes plant. Byddwn yn mabwysiadu dull dysgu a rennir gyda rhanddeiliaid allweddol er mwyn llywio, cynorthwyo a phrofi tybiaethau gyda'n cydweithwyr o fewn Swyddfa Gartref y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Amcan 7 – Cefnogi gwaith Grŵp Arwain Cymru Gyfan ar Gam-drin ar sail Anrhydedd, Priodas Dan Orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod a gweithredu fel y cyswllt rhyngddo a'r holl randdeiliaid eraill. Sicrhau y nodir yr holl arferion niweidiol ac y rhennir arferion gorau

Mae gwaith grŵp Cymru gyfan yn darparu arweinyddiaeth a chydgysylltiad ar gyfer rhanddeiliaid allweddol er mwyn gwella'r broses o nodi camdriniaeth o fewn cymunedau yr effeithir arnynt, a meithrin dealltwriaeth o'r cymorth sydd ei angen ar ddioddefwyr. Mae'n amlwg drwy waith y grŵp hwn fod angen arbenigwyr dynodedig i sicrhau bod y rhai sydd angen eu hamddiffyn yn cael eu diogelu rhag y risgiau sy'n gysylltiedig â niwed anghyfreithlon.

Rydym hefyd yn ymwybodol iawn o'r heriau penodol y mae menywod sy'n ffoaduriaid, yn fewnfudwyr ac yn geiswyr lloches wedi eu profi yn ystod y pandemig, yn ogystal ag yn hanesyddol, ac anelwn at weithio gyda phartneriaid allweddol i ddod o hyd i atebion i'r anghydraddoldebau hyn.

Byddwn yn rhannu arferion da ag adrannau Llywodraeth Cymru ac arweinwyr polisi o ran priodasau dan orfod, trais ar sail anrhydedd ac anffurfio organau cenhedlu benywod fel bod y rhai sy'n wynebu risg yn cael eu hamddiffyn a'u cefnogi drwy addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

Amcan 8 – Gweithio gyda'r Comisiynydd Plant i adolygu gwaith parhaus i ddatblygu polisïau er mwyn sicrhau y caiff anghenion plant fel dioddefwyr a thystion eu hystyried ac yr eir i'r afael â nhw'n briodol

Mae plant yn ddioddefwyr mewn achosion o gam-drin domestig gan fod camdriniaeth yn creu gofid, straen a niwed; ond nid yw'r gwasanaethau i blant mor gadarn nac ar gael mor eang ag ar gyfer dioddefwyr eraill. Mae gan y sefydliadau yn y trydydd sector sy'n gweithio yn y maes hwn brofiad sylweddol o'r hyn sy'n gweithio. Byddwn yn cefnogi ein holl bartneriaid i nodi'r hyn sy'n gweithio a sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ledled Cymru

Amcan 9 – Cynnal digwyddiad blynyddol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a fydd yn dwyn ynghyd arferion da ac yn rhannu gwersi sy'n dangos canlyniadau ystyrlon i ddioddefwyr camdriniaeth. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid arbenigol i dynnu sylw at fylchau mewn darpariaeth bresennol a nodi camau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i wella gwasanaethau

Roeddem wedi bwriadu cynnal y gynhadledd "cymryd stoc" hon y llynedd ond ni fu'n bosibl am resymau logistaidd ac yna'r pandemig. P'un a yw'n digwydd yn rhithwir neu yn y cnawd, byddwn yn sicrhau ei bod yn cael ei chynnal rywsut. Bydd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r Strategaeth Genedlaethol nesaf ac yn cynnig llwyfan i arloesi a diwygio

Amcan 10 – Cefnogi'r Llywodraeth mewn ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth pellach

Ar sail unrhyw fesur, mae'r ymgyrchoedd cyfathrebu a'r cyfryngau sydd wedi eu creu gan y Llywodraeth, mewn partneriaeth â'r sector, wedi bod yn hynod lwyddiannus o ran rhannu negeseuon clir, cydlynol a phwerus. Bydd mwy o ymgyrchoedd o'r fath er mwyn parhau i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a rhoi hyder i ddioddefwyr (a dioddefwyr posibl) y byddant yn cael eu cefnogi.

Casgliad

Yn ein blwyddyn olaf fel Cynghorwyr Cenedlaethol eleni, byddwn yn cymryd stoc, gan gyfuno ac ymgorffori arferion gorau. Gall Llywodraeth Cymru fod yn hynod falch o'i chyflawniadau a'i hymrwymiad parhaus i ddelio â'r "pandemig", hynny yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae llawer o waith i'w wneud, fel mae pandemig COVID-19 wedi'i danlinellu, ond credwn yn gryf fod gwersi yn cael eu dysgu, bod goroeswyr yn cael eu clywed a bod arferion gorau yn cael eu rhannu.

Mae ymrwymiad i wella canlyniadau drwy ymyrraeth gynnar a chydgysylltu er mwyn cefnogi newid parhaol a meithrin gwydnwch. Drwy weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru a darparwyr arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, bu modd cymryd camau allweddol i lywio'r newid hwn. Credwn yn gryf y bydd hyn yn parhau i ddarparu gwell canlyniadau i ddioddefwyr a'r rhai sy'n wynebu risg o niwed.

O fewn ein holl amcanion, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod goroeswyr yn gallu cael help, gan sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol yr adnoddau a'r wybodaeth i weithredu; a thrwy wella ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a'r cymorth sydd ar gael. Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod gwahanol grwpiau o fenywod yn profi sawl anghydraddoldeb a all ryngblethu mewn ffyrdd sy'n arwain at eu gwthio o'r neilltu ymhellach.

O'n safbwynt ni, mwy o ymwybyddiaeth, mwy o arbenigedd, gwaith ataliol amlasiantaethol, ennyn hyder dioddefwyr ac addysg i newid agweddau sy'n allweddol er mwyn lleihau ac felly yn y pen draw ddileu'r gamdriniaeth y mae'n rhaid inni ddelio â hi.  Mae Cymru yn dal i fod ar flaen y gad o ran yr hyn y gellir ei gyflawni.

Yasmin Khan a Nazir Afzal OBE

Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol