Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cynllun blynyddol cynghorwyr cenedlaethol 2026 to 2027
Yr hyn yr ydym yn ei wneud i atal trais ac i gefnogi a diogelu pobl sydd wedi dioddef trais.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagymadrodd
Fel Cynghorwr Cenedlaethol ar gyfer Gweinidogion Cymru, o dan Adran 22 o Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 mae'n ofynnol imi gyhoeddi cynllun blynyddol sy'n nodi fy uchelgais a'm blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dyma gynllun cyntaf fy ail dymor. Mae'n anrhydedd mawr i mi fy mod wedi cael fy mhenodi ar gyfer yr ail dymor hwn. Rwy'n ymrwymedig i wneud fy ngorau glas i gyflawni nodau Deddf VAWDASV. Rwy'n realistig bod gennym ffordd bell i fynd nes y gallwn gyflawni'r uchelgais o weld Cymru "y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw yn Ewrop". Mae hwn yn gyfrifoldeb a rennir lle mae'n rhaid i ni i gyd wneud ein rhan.
Mae'r cynllun blynyddol hwn ar gyfer 2026 i 2027 yn rhoi cyfle i mi rannu fy nod a'm blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn. Mae'n bwysig bod fy agwedd at y rôl ac at atebolrwydd am y gwaith rwy'n ei wneud yn agored. Wrth ddatblygu'r cynllun blynyddol hwn, rwyf wedi gofyn am farn rhanddeiliaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y sector arbenigol a goroeswyr. Mae cylch gwaith y rôl yn eang, ac anghenion goroeswyr yn fwy nag erioed a dim ond gydag agwedd lawnfryd y gymdeithas gyfan at newid y gellir eu diwallu. Mae'r cynllun blynyddol hwn a'm blaenoriaethau yn ceisio cyflawni'r dull gweithredu cymdeithas gyfan hwnnw
Rydym ym mlwyddyn olaf strategaeth VAWDASV 2022 i 2026, a thrwy hyn a chyflawni'r model Glasbrint rydym wedi gwneud cynnydd ar y cyd a hefyd wedi dysgu mwy am yr heriau a'r bylchau. Mae angen mwy o ymgysylltiad, cynrychiolaeth ac ymrwymiad gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i'r afael â VAWDASV. Mae Deddf VAWDASV yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau perthnasol yng Nghymru i gyflawni diben y Ddeddf i atal, amddiffyn a chefnogi'r rhai sydd mewn perygl o gam-drin a niwed a'r rhai sy'n eu profi. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd greu strategaethau lleol, gosod amcanion ac ymgymryd â chamau gweithredu. Ond megis dechrau yw hyn. Mae cam-drin domestig yn unig yn costio £66 biliwn o bunnoedd y flwyddyn. Mae'n bryd buddsoddi mewn atal ac ymyrraeth gynnar, i ddarparu cymorth amserol i oroeswyr i atal y niwed parhaol ac i gyfyngu ar gostau dynol ac ariannol VAWDASV. Mae'r Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr a'r Grŵp Cyfeirio Arbenigol (a ffurfiwyd o'r sector arbenigol yng Nghymru) wedi bod yn glir fod yr angen am ymateb system gyfan sy'n cysylltu goroeswyr â'r gwasanaethau pan fydd eu hangen arnynt yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth. Mae ymateb system gyfan i VAWDASV yn ddull cydweithredol a ddarperir ar draws sefydliadau a gwasanaethau, gan ddefnyddio adnoddau cyfunol a diddordeb cyffredin mewn mynd i'r afael â'r broblem. Mae dull system gyfan yn gweithio gyda goroeswyr a'u plant, yn ogystal â throseddwyr i fynd i'r afael â niwed. Mae hefyd yn ceisio mynd i'r afael â'r rhesymau sylfaenol ac yn darparu cyfleoedd i atal ac ymyrryd yn gynnar. Mae'n galluogi'r dull 'dim drws anghywir' ac yn cynnig gwasanaethau a arweinir gan anghenion ac sydd wedi'u seilio ar gryfderau ar yr adeg y mae ar oroeswr eu hangen. Bydd hyn yn gofyn am gysylltiad rhwng staff gwybodus a chefnogaeth ddiffiniedig mewn gwasanaethau cyhoeddus, a gwasanaethau arbenigol wedi'u hariannu'n dda.
Mae'r galw am wasanaethau arbenigol yn parhau i gynyddu ac mae wedi codi o un flwyddyn i'r llall ers pandemig COVID-19. Mae adroddiadau Cymorth i Ferched Cymru ar Gyflwr y Sector wedi dangos tystiolaeth o hyn ac mae'r adroddiad eleni yn manylu ar y pwysau ar wasanaethau gydag 88% o'u gwasanaethau i aelodau yn profi cynnydd mewn gwasanaethau. Mae data gan wasanaethau trais rhywiol arbenigol Cymru hefyd yn dangos cynnydd mewn atgyfeiriadau am wasanaethau. Rydyn ni eisiau i fwy o bobl chwilio am help a hynny cyn gynted â phosibl. Mae tua thraean o hunanladdiadau yng Nghymru yn cael eu cyflawni gan gyflawnwyr neu ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae gwersi a ddysgwyd o'r adolygiadau Diogelu Unedig Sengl yn rhoi cannoedd o argymhellion i ni ar sut y byddai system well yn edrych. Mae cyllid yn ofynnol ar gyfer rhai ohonynt ond nid pob un. Mae cyfleoedd i leihau gwariant cyhoeddus. Mae'r angen i ymyrryd yn gynharach yn eglur. Fodd bynnag, mae pwysau cyfyngiadau cyllid, argyfwng tai a chymhlethdod cynyddol anghenion yn arwain at y gwasanaethau arbenigol yn cael eu llethu. Rydym yn dibynnu'n rhy aml ar wasanaethau arbenigol i beidio byth â chau eu drysau a gwneud mwy gyda llai bob blwyddyn. Nid yw hyn yn gynaliadwy, ac rydym yn peryglu lles a bywydau menywod a theuluoedd yng Nghymru, yn oroeswyr a rhai sy'n gweithio'n ddiflino yn y sector. Trwy'r gwaith yr wyf yn ymrwymo iddo yn y cynllun blynyddol hwn, byddaf yn cynnig argymhellion y gellir eu cyflawni ar gyfer beth yn rhagor y gall y llywodraeth a chyrff cyhoeddus ei gyflawni yn erbyn y dyletswyddau o fewn Deddf VAWDASV ac i atal, amddiffyn a chefnogi pobl yng Nghymru.
Cyd-destun Strategol
Cafwyd nifer o gyhoeddiadau a datblygiadau, megis y rhai a nodir isod gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig, sy'n darparu cyfleoedd, gwell tystiolaeth a dealltwriaeth a mecanweithiau ar gyfer alinio'r gwaith sy'n ofynnol o dan Ddeddf VAWDASV â deddfwriaeth a pholisi arall yng Nghymru.
Mae adroddiadau'r Comisiynydd Cam-drin Domestig Victims in Their Own Right? Babies, children and young people’s experience of domestic abuse a'r diweddaraf The Family Court and domestic abuse: achieving cultural change yn dangos y bylchau mewn gwasanaethau i blant a sut y gallant gael eu niweidio ymhellach gan yr union system a ddylai fod yn eu hamddiffyn. Rhaid i ni wneud yn well i ymateb i blant a phobl ifanc, trwy addysg perthnasoedd iach, ymyriadau teuluol a gwasanaethau therapiwtig yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan VAWDASV.
Cynllun Iechyd Menywod, a gynhyrchwyd gan Weithrediaeth y GIG, gyda blaenoriaeth (7) wedi'i neilltuo i VAWDASV. Dylai hyn ddod â mwy o ffocws ar VAWDASV mewn byrddau iechyd, sylfaen dystiolaeth sy'n datblygu a gwell atebolrwydd a fyddai'n ysgogi ac yn galluogi llwybrau gwell ar gyfer cymorth i oroeswyr. Mae gwella ymyriadau a llwybrau gyda gwasanaethau iechyd yn elfen hanfodol o ymateb system gyfan i VAWDASV. Mewn ymgynghoriad diweddar wrth gynllunio ar gyfer y strategaeth VAWDASV nesaf, cododd 100% o'r grwpiau ffocws iechyd fel blaenoriaeth ar gyfer gwell cydnabyddiaeth ac ymateb i VAWDASV. Trwy'r Cynllun Iechyd Menywod a chyfleoedd eraill, byddaf yn ymroi fy ymdrechion i wella'r ymateb hwn.
Mae'r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl a'r storfa sy'n cynnwys yr holl Adolygiadau Dynladdiad Domestig, Adolygiadau Ymarfer Oedolion ac Adolygiadau Ymarfer Plant yn rhoi cyfle a chyfrifoldeb i ni i gyd ddysgu'r gwersi. Mae cyffredinrwydd argymhellion pob adolygiad yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni gymryd sylw ohono a chyflawni'r newid o ran systemau sydd ei angen i atal niferoedd uchel o niwed a marwolaeth.
Mae'r Strategaeth Iechyd Meddwl ar gyfer 2025 i 2035 yn nodi'r canlynol fel ei datganiad cenhadaeth:
Bydd pobl yng Nghymru yn byw mewn gwlad sy’n eu hannog, yn eu cefnogi ac yn eu grymuso i wella eu hiechyd meddwl a’u llesiant meddyliol, a hynny heb stigma a gwahaniaethu.
Mae'n ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy'n ddi-fwlch, wedi'u harwain gan anghenion ac sy'n canolbwyntio ar adferiad ac sy'n gweithredu drwy system gydgysylltiedig lle mae pob person yn cael y lefel briodol o gefnogaeth lle bynnag y maent yn ceisio help. Mae cydnabyddiaeth o drais a chamdriniaeth, ymhlith ffactorau cyd-destunol eraill sy'n dylanwadu ar iechyd meddwl a lles, ac yn edrych tuag at systemau ehangach o gymorth integredig.
Nod y Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio 2025 yw lleihau cyfraddau hunanladdiad ac ymgeisiau i gyflawni hunanladdiad. Fel y soniwyd o'r blaen, mae troseddwyr a dioddefwyr yn cael eu cynrychioli'n helaeth mewn hunanladdiadau yng Nghymru. Er mwyn lleihau y gyfradd hunanladdiad, mae mynd i'r afael â VAWDASV a'i leihau yn hanfodol.
Ym mis Awst 2025, ymrwymodd Llywodraeth y DU i gyflwyno diffiniad statudol o gam-drin ar sail anrhydedd. Dylai hyn arwain at allu nodi dioddefwyr a throseddwyr yn well a chynnig gwell cymorth i fynd i'r afael â'r troseddau hyn. Dylai hyn wella cysondeb adnabod ac ymateb i gam-drin ar sail anrhydedd ac yn arbennig dylai wella canlyniadau cyfiawnder troseddol i ddioddefwyr a goroeswyr.
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflawni Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched newydd. Rwy'n eistedd ar y bwrdd cynghori dan gadeiryddiaeth y Gweinidogion Jess Philips ac Alex Davies-Jones. Nod y strategaeth yw cyflawni'r uchelgais o haneru trais yn erbyn menywod yn y 10 mlynedd nesaf. Rwy'n mynd i'r bwrdd i gynrychioli buddiannau Cymru. Bydd rhywfaint o'r strategaeth yn cael ei chyflawni trwy gyrff a gedwir yn ôl gan San Steffan h.y. y system cyfiawnder troseddol. Fodd bynnag, lle nad yw'r strategaeth yn uniongyrchol berthnasol i Gymru ond yn darparu mwy o gyfleoedd i atal, amddiffyn a chefnogi, rhaid i ni sicrhau bod cydraddoldeb i bobl yng Nghymru.
Yn 2026 a chyda dechrau Llywodraeth Cymru newydd, bydd fersiwn nesaf strategaeth VAWDASV yn cael ei datblygu. Byddaf yn cynnig fy nghefnogaeth i helpu i alinio strategaethau'r DU a Chymru fel ein bod yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i bobl yng Nghymru. Bydd strategaeth newydd Cymru yn rhoi cyfle i adnewyddu a chryfhau ymrwymiadau. Gallwn ddysgu o waith y strategaeth bresennol ac adeiladu arni. Byddaf yn cefnogi'r gwaith hwn gydag ysbryd uchelgeisiol ac yn gwthio i Gymru fod y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.
Croestoriadedd
Fel Cynghorydd Cenedlaethol, mae'n bwysig fy mod yn cydnabod ac yn hyrwyddo'r angen am ddull croestoriadol o fynd i'r afael â VAWDASV. Mae croestoriadedd yn cydnabod bod goroeswyr yn wynebu sawl math o wahaniaethu sy’n gorgyffwrdd ag eraill, ar sail hil, rhywedd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, a nodweddion gwarchodedig eraill. Er gwaethaf y cynnydd a wnaed, mae goroeswyr â nodweddion gwarchodedig yn parhau i adrodd am wahaniaethu systemig a rhwystrau wrth geisio diogelwch, cyfiawnder a chymorth. Er bod menywod du a lleiafrifiedig yn fwy tebygol o brofi trais a chamdriniaeth, maent hefyd yn llai tebygol o geisio cefnogaeth. Byddaf yn parhau i ymgysylltu â gwasanaethau arbenigol, goroeswyr Du, Asiaidd a Lleiafrifiedig i sicrhau fy mod yn eu cynrychioli'n wybodus a bod eu profiadau'n cael eu hystyried yn y gwaith rwy'n ei wneud a'r cyngor a'r gefnogaeth rwy'n eu darparu.
O fewn yr hinsawdd a'r drafodaeth bresennol ar bwy sy'n fygythiad i fenywod, rwy'n pryderu am yr anghydraddoldebau parhaus a bod mwy o elyniaeth tuag at bobl ddu ac ymylol yn golygu y byddwn yn ymbellhau hyd yn oed yn fwy oddi wrth gyflawni ein nodau. Y gwir yw bod menywod ar draws cymdeithas yn profi camdriniaeth a hynny mewn sawl agwedd ar eu bywydau bob dydd. Y troseddwr mwyaf cyffredin yw rhywun sy'n adnabyddus i fenyw, gan amlaf partner neu gyn-bartner, ac mae'r troseddau mwyaf difrifol yn cael eu cyflawni yn y cartref. Bydd ein gwaith yn parhau i hyrwyddo camau gweithredu wedi'u targedu sy'n mynd i'r afael â phrofiadau goroeswyr ac yn rhoi mynediad cyfartal at ddiogelwch ac adferiad i bob goroeswyr.
Swyddogaethau a Phŵer y Cynghorydd Cenedlaethol
Rhaid i'r cynllun blynyddol hwn fod yn unol â rôl a chylch gwaith y Cynghorydd Cenedlaethol.
Swyddogaethau'r Cynghorydd, fel y'u nodir yn y Ddeddf, yw:
- cynghori Gweinidogion Cymru ynghylch dilyn pwrpas y Ddeddf neu fynd i'r afael â materion cysylltiedig¹;
- darparu cymorth arall i Weinidogion Cymru wrth iddynt ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon neu fynd i’r afael â materion cysylltiedig;
- gwneud gwaith ymchwil mewn perthynas ag ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf hon, mynd i’r afael â materion cysylltiedig neu ymchwilio i weld a yw cam-drin o unrhyw fath yn gysylltiedig yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag anghydraddoldeb o unrhyw fath rhwng pobl o wahanol ryw, hunaniaeth o ran rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol;
- darparu cyngor a chymorth arall, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, i unrhyw berson ar faterion sy’n ymwneud ag ymgyrraedd at ddiben y Ddeddf neu fynd i’r afael â materion perthnasol;
- cynhyrchu adroddiadau ar unrhyw fater sy’n berthnasol i ddiben y Ddeddf neu i fynd i’r afael â materion cysylltiedig.
Wrth gyflawni'r swyddogaethau hyn mae disgwyl y bydd y cynghorydd hefyd yn gwneud y canlynol:
- gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr, i gael dealltwriaeth o'u profiadau a'u safbwyntiau ac i ystyried sut y gallai'r rhain ddylanwadu ar y gwaith o ddatblygu polisi a darparu gwasanaethau.
- cefnogi'r gwaith o gyflawni'r strategaeth VAWDASV a'r dull Glasbrint, gan gynnwys cyd-gadeirio'r ffrwd waith Dull Cynaliadwy ar draws Systemau
- cadeirio'r Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr, agwedd annatod o ddull Glasbrint VAWDASV, sy'n llywio polisi strategaeth a gwneud penderfyniadau
gweithio gydag awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Tân ac Achub ac Ymddiriedolaethau'r GIG a'u cynghori ar gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf - gan sicrhau bod atal, amddiffyn a chymorth i ddioddefwyr a goroeswyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd ar gyfer gwasanaethau.
Nod a blaenoriaethau
Fel Cynghorwyr Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf VAWDASV 2015, mae ein cynllun yn amlinellu’r nodau a’r blaenoriaethau ar gyfer 2026 i 2027. Ar ôl 10 mlynedd o'r Ddeddf ond hefyd wrth i ni edrych tuag at y llywodraeth newydd a'r strategaeth VAWDASV nesaf, mae'n bwysig fy mod yn gallu cael dealltwriaeth gynhwysfawr o'r cyflawniad presennol, a'r cyfleoedd ar gyfer gwelliannau yn ogystal â'r arfer da sydd eisoes yn bodoli. Mae angen i ni gael ymatebion gwirioneddol drawslywodraethol, system gyfan yng Nghymru sy'n atal, amddiffyn a chefnogi. Dyma'r unig ffordd y gallwn ddod yn nes at y nod o ddileu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Yn y cyd-destun hwn rwyf wedi gosod y nod canlynol ar gyfer y flwyddyn nesaf:
- Darparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer cyflawni uchelgeisiau'r Ddeddf yn well, gan sicrhau ymrwymiad Cymru gyfan i atal cam-drin ac amddiffyn a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Er mwyn cyflawni fy nod, rwyf wedi gosod y blaenoriaethau canlynol:
- Datblygu dealltwriaeth o'r ffordd y mae'r llywodraeth yn cyflawni VAWDASV er mwyn gallu llywio'n well ymagwedd fwy cydlynol, llywodraeth gyfan at VAWDASV.
- Cynnal adolygiad o'r trefniadau presennol gan gyrff cyhoeddus i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf VAWDASV gyda'r nod o wella fy nghyngor a'm cefnogaeth iddynt yn ogystal â Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
- Gweithio gyda chyrff a byrddau strategol fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, Medr a Byrddau Cynllunio Ardal, i wella aliniad polisi a gweithgareddau perthnasol sy'n ymwneud â VAWDASV a gwneud y mwyaf o gyfleoedd i atal, amddiffyn a chefnogi'r rhai sydd mewn perygl o VAWDASV ac yn ei brofi.
- Cefnogi gwella data a thystiolaeth ar gyfer VAWDASV a ddylai gyfeirio datblygu polisi, cyflawni gweithredol a dealltwriaeth o'r cynnydd a wnaed ac sydd eto i'w wneud o dan y Ddeddf.
- Drafftio nifer o adroddiadau thematig a fydd yn darparu gwell cyngor a gwybodaeth am arfer gorau, meysydd cyfle, ffyrdd o alinio polisi a dulliau gweithredu'r llywodraeth yn ymarferol.
- Er mwyn sicrhau bod yr holl flaenoriaethau uchod, mae gwaith y llywodraeth a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i fynd i'r afael â VAWDASV yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â'r dioddefwyr, y goroeswyr a'r sector arbenigol. Trwy brofiad, ymrwymiad ac ymdrech barhaus mae'r sector arbenigol yn parhau i fod yr arbenigwyr ac felly'r rhai y mae'n rhaid iddynt fod yn ganolog i strategaeth, polisi a chyflawni.
Er mwyn gwella atebolrwydd y Cynghorydd Cenedlaethol, byddaf yn llunio cynllun cyflawni i ddarparu manylion am y camau y byddaf yn eu cymryd ar gyfer gweithredu'r cynllun blynyddol hwn. Byddaf yn darparu adroddiadau cynnydd rheolaidd, i Lywodraeth Cymru, i weinidogion a rhanddeiliaid eraill gan gynnwys y Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr.
Casgliad
Mae rôl y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer VAWDASV yn un o gefnogi, cynghori a dylanwadu. Mae'n rhoi cyfle i gefnogi cynnydd parhaus tuag at gyflawni Deddf VAWDASV a Strategaeth Genedlaethol VAWDASV. Mae'n rôl yr wyf yn ei wneud gydag ymroddiad llwyr i'r nod o ddileu VAWDASV, wedi'i ategu gan ddyletswydd i ymateb i brofiadau goroeswyr ac i barhau i fwyhau eu lleisiau ym mhopeth rydw i'n ei wneud. Mae yna lawer o bartneriaid y byddaf yn parhau i ymgysylltu a gweithio gyda nhw wrth fynd ar drywydd y nod hwn; gwasanaethau cyhoeddus sydd â dyletswyddau o dan y Ddeddf, gwasanaethau a gedwir gan San Steffan fel plismona a'r gwasanaethau arbenigol hanfodol. Mae'n bosibl y gall Cymru fod y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw, ond i gyflawni hynny rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan.
