Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r Cynllun Gweithredu Rhaglen Lefel Uchel hwn sy'n rhoi rhagor o fanylion am weithredu’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2022.

Datblygwyd fframwaith y Glasbrint i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth, gan fabwysiadu model sydd eisoes wedi'i sefydlu yng Nghymru ar gyfer y Glasbrintiau Cyfiawnder Ieuenctid a Chyfiawnder Menywod. Mae Glasbrint Trais a Cham-drin wedi creu strwythur llywodraethiant cyffredin newydd, sy’n cael ei gydberchnogi gan gyrff cyhoeddus datganoledig a heb eu datganoli, mewn partneriaeth hefyd â’r sectorau preifat ac arbenigol.

Ym mis Hydref 2022, cychwynnodd strwythur y Glasbrint wrth i Fwrdd Partneriaeth Cenedlaethol cyntaf Trais a Cham-drin gael ei sefydlu. Fel Cyd-gadeiryddion y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol, rydym yn croesawu'r cyfle i dynnu ar wybodaeth, dealltwriaeth ac arbenigedd aelodau'r Bwrdd, gan gynnwys uwch gynrychiolwyr o feysydd Iechyd, Addysg, Cyfiawnder Troseddol, Sector Arbenigol Trais a Cham-drin, Cyngor Undebau Llafur Cymru, Cynghorwyr Cenedlaethol Trais a Cham-drin, Byrddau Rhanbarthol Trais a Cham-drin, Comisiynwyr Pobl Hŷn a Phlant yng Nghymru a Chomisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr.

Mae'r Cynllun Gweithredu Rhaglen Lefel Uchel hwn yn disgrifio pwrpas pob un o'r ffrydiau gwaith sydd wedi'u sefydlu ac yn nodi eu camau gweithredu lefel uchel, a fydd yn cyfrannu at Amcanion Cenedlaethol Strategaeth Trais a Cham-drin 2022-2026. Bydd cyfraniadau gan aelodau pob ffrwd waith, ynghyd â lleisiau goroeswyr pob agwedd ar Drais a Cham-drin, yn allweddol wrth fwrw ymlaen â'r camau hyn. Bydd lleisiau goroeswyr wrth wraidd popeth a wnawn.

Rydym yn gwybod, ers i ni gyhoeddi'r Strategaeth Genedlaethol y llynedd, bod achosion pellach wedi bod lle mae aflonyddu yn y gweithle wedi'i amlygu gan y cyfryngau, yn ogystal â gan sefydliadau eu hunain. Byddwn yn galw ar gyflogwyr ym mhob sector yng Nghymru i edrych ar eu polisïau a'u harferion eu hunain er mwyn sicrhau bod y gweithle'n fan diogel i fenywod a merched. Bydd y ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle yn ystyried pa ysgogiadau ac adnoddau all gefnogi cyflogwyr i wneud y newidiadau diwylliannol, cymdeithasol a ddymunwn.

Rydym yn gwybod y gall menywod a dynion gael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol. Fodd bynnag, mae menywod yn cael eu heffeithio'n anghymesur. Ni ddylai fod angen i fenywod a merched newid eu hymddygiad. Mae angen i bob un ohonom helpu i’w gwneud yn fwy diogel, drwy beidio â sefyll i’r neilltu a gwylio, a thrwy herio ymddygiad amhriodol pryd bynnag y byddwn yn dyst iddo. Rydym yn croesawu cynnwys trais yn erbyn menywod a merched yng Ngofyniad Plismona Strategol 2023 sy'n nodi'r farn gan Lywodraeth y DU bod maint y broblem yn gofyn am ymateb system gyfan ac yn gosod disgwyliadau ar gyfer heddlu lleol, cenedlaethol a phartneriaid i gydweithio i fynd i'r afael â phob agwedd o gam-drin domestig a thrais rhywiol. 

Yn ein Strategaeth Trais a Cham-drin, rydym yn nodi'r anghenion ar gyfer dull system gyfan i sicrhau ein bod yn atal cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i amddiffyn a chefnogi'r rhai sydd wedi dioddef hyn. Byddwn yn profi ffyrdd o wneud hyn yn ystod y misoedd nesaf a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ar y cynnydd sy'n cael ei wneud ynghylch hyn a'r ymrwymiadau eraill a nodir yn y cynllun hwn ym mis Hydref 2023, ac yn flynyddol wedi hynny.

Rydym yn hynod ddiolchgar am yr ymrwymiad a ddangoswyd eisoes gan yr holl bartneriaid a goroeswyr sy'n rhan o symud y gwaith hwn ymlaen. Gyda'n gilydd, mae gennym y cyfle gorau i ddylanwadu ar newidiadau hirdymor, cadarnhaol i gymdeithas i ddileu'r diwylliant misogynistaidd sydd wrth wraidd trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Rydym am sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw, ac edrychwn ymlaen at weld sut y gallwn gydweithio i wireddu'r uchelgais hwn. Ni fydd Cymru’n sefyll i’r neilltu a gwylio trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu gyda Heddlu Dyfed-Powys (ar ran Plismona yng Nghymru).

(Cyd-gadeiryddion Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Trais a Cham-drin).

Y cyd-destun strategol

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Genedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2022 i 2026 ym mis Mai 2022. Cytunodd Llywodraeth Cymru a Phlismona yng Nghymru i fabwysiadu dull Glasbrint o gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth, a olygai y gallai asiantaethau datganoledig a heb eu datganoli, sefydliadau anllywodraethol, gwasanaethau arbenigol a goroeswyr weithio gyda'i gilydd i gydgysylltu camau gweithredu ac i yrru gweithgareddau er mwyn cyflawni ein blaenoriaeth gyffredin o fynd i'r afael â thrais a cham-drin.

Mae mabwysiadu'r dull Glasbrint hwn wedi ei gwneud yn bosibl sefydlu strwythur llywodraethiant newydd a rennir sy'n adlewyrchu’r gyd-berchnogaeth ar y flaenoriaeth gyffredin hon, sef mynd i'r afael â thrais a cham-drin.  Bydd mabwysiadu dull Iechyd Cyhoeddus ar gyfer ein gwaith yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar y pethau pwysig. Yr egwyddorion sylfaenol sy'n llywio ein hymdrechion ar y cyd yw:

  • herio agweddau'r cyhoedd
  • cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith plant
  • mwy o atebolrwydd gan y rhai sy'n cyflawni trais a cham-drin
  • baenoriaethu a chanolbwyntio ar atal trais a cham-drin
  • gweithlu hyderus a gwybodus
  • darparu gwasanaethau cynhwysol a hygyrch sy'n ystyriol o drawma ac yn cael eu harwain gan anghenion

Strwythur llywodraethiant y glasbrint

Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Trais a Cham-drin

Mae Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol Trais a Cham-drin yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn ar ran Plismona yng Nghymru. Mae'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn darparu fforwm lle gellir ymdrin â phenderfyniadau ac ymrwymiadau a rennir. Nid yw'n disodli ymreolaeth unrhyw un o'i aelodau, ond mae'n darparu gofod lle gall cydweithredu ddatblygu dulliau cyffredin o weithredu sy’n ategu ei gilydd. Bydd partneriaid yn mynd â mandadau a sicrhawyd yn y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol yn ôl i'w sefydliadau eu hunain ac yn cynnig atebolrwydd am eu cynnydd i bartneriaid drwy'r Bwrdd.

Bydd y Bwrdd Partneriaeth hefyd yn goruchwylio gwaith byrddau rhanbarthol trais a cham-drin i sicrhau eu bod yn cyflawni'r dull gweithredu Cymru gyfan, gan ddal i barchu gwahaniaethau rhanbarthol ar yr un pryd. Bydd aelodau'r Bwrdd yn cynnwys y cyrff hynny sydd â dyletswyddau allweddol i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Wrth ddatblygu aelodaeth y Bwrdd, byddwn yn ystyried y ffordd orau o gynnwys lleisiau cynrychioliadol i sicrhau y gall buddiannau darparwyr, goroeswyr, a chyflogwyr lywio trafodaethau.

Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol Trais a Cham-drin

Mae Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol Trais a Cham-drin yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Uwch Swyddogion Cyfrifol o Lywodraeth Cymru a Phlismona yng Nghymru.  Bydd y Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol yn sicrhau bod y cerrig milltir a nodir yn Rhaglen y Glasbrint yn cael eu cyflawni trwy oruchwylio cynnydd sy'n cael ei wneud trwy'r 6 ffrwd waith, ar sail mewnbwn gan aelodau'r Bwrdd Partneriaeth a rhanddeiliaid eraill yn ôl y galw. Bydd y Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol yn atebol i'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol, a bydd yn adrodd bob chwarter, trwy ei Uwch Swyddogion Cyfrifol.

Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr

Mae Panel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Gynghorwyr Cenedlaethol Trais a Cham-drin, ac mae’n rhan annatod o ddull gweithredu’r Glasbrint, gan mai llais goroeswyr fydd y Llinyn Euraidd sy’n rhedeg drwy Strwythur Llywodraethiant y Glasbrint. Caiff y panel ei gynrychioli ar y Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol, y Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol ac o fewn pob ffrwd waith wrth ystyried camau gweithredu, polisi a strategaeth.

Ffrydiau Gwaith Trais a Cham-drin

Bydd Arweinwyr pob ffrwd waith yn adrodd yn uniongyrchol i'r Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol fel aelodau o'r Bwrdd hwnnw. Bydd y Ffrydiau Gwaith yn bwrw ymlaen â gwaith ar gamau allweddol a amlinellir yn Strategaeth Genedlaethol Trais a Cham-drin 2022 i 2026, (wedi'i grynhoi yn y cynllun lefel uchel), ac yn ei oruchwylio, yn ogystal â nodi blaenoriaethau eraill wrth dynnu ar dystiolaeth/gwersi ehangach a ddysgwyd sy'n berthnasol i agenda trais a cham-drin. Rhaid i hyn ddigwydd â chytundeb y Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol. Gall y Ffrydiau Gwaith hyn newid dros amser wrth i gynnydd gael ei wneud ac wrth i flaenoriaethau ddatblygu. Fodd bynnag, i ddechrau, bydd y rhain yn mynd i'r afael ag:

  • aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus
  • aflonyddu yn y gweithle
  • mynd i'r afael â chyflawni trais
  • comisiynu cynaliadwy: ar draws ein systemau
  • anghenion pobl hŷn 
  • anghenion plant a phobl ifanc

Rydym yn cydnabod y bydd y Ffrydiau Gwaith yn gorgyffwrdd mewn rhai meysydd, yn arbennig o ran y ffocws trawsbynciol i atal, amddiffyn a chefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd tîm y Glasbrint a Bwrdd y Rhaglen yn sicrhau bod cysylltiadau priodol rhwng y Ffrydiau Gwaith er mwyn osgoi gweithio mewn seilos.

Nid y ffrydiau gwaith yw unig ffocws materion yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru. Bydd tîm Polisi Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio ar ei fusnes rheolaidd fel darparu cyllid i Fyrddau Rhanbarthol a'r Gwasanaethau Arbenigol, ac adeiladu ar arfer da i gefnogi menywod a merched sy'n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Datganiad cydraddoldeb

Nid yw effeithiau trais a cham-drin yr un fath i bawb. Mae’n effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd. Yr elfen amlycaf yw bod menywod yn dioddef yn anghymesur, ac mae’r strategaeth yn cydnabod yr anghydbwysedd hwn o ran y rhywiau. Mae hyn yn rhywbeth sy’n achosi anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ar y naill law, ond hefyd yn rhywbeth sy’n digwydd o ganlyniad i’r anghydraddoldeb hwn. Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn creu’r amodau sylfaenol ar gyfer trais yn erbyn menywod. Mae’n digwydd ar sawl lefel yn ein cymdeithas – o’r anghymesuredd o ran cyfran y dynion sydd mewn rolau arwain ac sy’n gwneud penderfyniadau, ffactorau economaidd fel y bwlch yng nghyflog y rhywiau, a rolau a disgwyliadau o fewn teuluoedd a chydberthnasau. Mae yna gysylltiad cryf a chyson rhwng yr anghydraddoldeb sy’n bodoli rhwng y rhywiau a thrais yn erbyn menywod.

Y tu hwnt i hyn, fodd bynnag, mae profiad unigolion o drais a cham-drin yn annatod gysylltiedig â ffactorau sy’n ymwneud ag ystod ehangach o nodweddion cydraddoldeb. O ganlyniad i’r ffaith bod yna sawl elfen sy’n ysgogi gwahaniaethu a gormesu, mae rhai grwpiau o bobl yn profi trais o fath gwahanol, sy’n digwydd yn amlach neu sy’n fwy difrifol, neu maent yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth chwilio am gymorth. Yn hanfodol, gall yr effaith fod yn fwy ar bobl y mae mwy nag un o’r nodweddion hyn yn wir amdanynt (ee menywod du neu blant LHDTC+). Mae’n hollbwysig, felly, ein bod yn ymdrin â hyn o sawl ongl, i’n helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o drais a cham-drin, a mynd i’r afael ag anghenion amrywiol pawb sy’n dioddef, gan gynnwys plant, pobl hŷn, pobl o gefndir du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl a chymunedau LHDTC+. Bydd angen i bob ffrwd waith ystyried y materion hyn ym mhob rhan o’u gwaith, i sicrhau bod yr hyn a wnawn yn hyrwyddo cydraddoldeb yn gyson ac mewn ffordd gynhwysfawr.

Y rhaglen waith: cynnydd a chamau gweithredu allweddol

Cynnydd a wnaed i weithredu Rhaglen Glasbrint Trais a Cham-drin hyd at 31 Mawrth 2023

  • Sefydlu Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol, ynghyd â Strwythur Llywodraethiant y Glasbrint.
  • Sefydlu Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol.
  • Sefydlu ffrydiau gwaith.
  • Cychwyn recriwtio i Banel Craffu a Chynnwys Llais Goroeswyr.
  • Recriwtio i dîm gweithredu Rhaglen y Glasbrint a ariennir ar y cyd.

Y camau allweddol sy'n sail i'r Rhaglen Waith

  • Creu ‘storfa ganolog o wybodaeth’ ar ffurf corff â staff i gydgysylltu a lledaenu gwybodaeth am drais a cham-drin, a'r hyn sy'n gweithio, ac i lywio gwaith ymchwil i’r dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys data amlasiantaethol ar dueddiadau o ran trais a cham-drin yng Nghymru.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r Dangosyddion Cenedlaethol er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r strategaeth hon, a bod modd eu defnyddio i fesur ein cynnydd o ran cyflawni ein nodau a'n hamcanion, a sefydlu patrwm o adrodd ar gynnydd yn erbyn y Dangosyddion Cenedlaethol.
  • Datblygu model Theori Newid a fydd yn arddangos blaenoriaethau, gweithgareddau a chanlyniadau Rhaglen y Glasbrint.
  • Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, byddwn yn parhau â dull cydweithredol o weithredu'r Strategaeth hon i gynnwys pob rhanddeiliaid a defnyddiwr gwasanaethau perthnasol. 
  • Adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau i ganolbwyntio ar ba gamau y mae angen inni eu blaenoriaethu, i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach.

Amcanion y strategaeth genedlaethol

Amcan 1

Herio agwedd y cyhoedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled poblogaeth Cymru drwy godi ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth gyhoeddus gyda'r nod o leihau'r achosion ohono.

Amcan 2

Cynyddu ymwybyddiaeth plant, pobl ifanc ac oedolion o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach a'u grymuso i wneud dewisiadau personol cadarnhaol.

Amcan 3

Cynyddu'r ffocws ar ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif a chefnogi'r rhai a all ymddwyn yn gamdriniol neu'n dreisgar i newid eu hymddygiad ac osgoi troseddu.

Amcan 4

Rhoi blaenoriaeth i ymyrryd yn gynnar ac atal.

Amcan 5

Hyfforddi gweithwyr proffesiynol perthnasol i ddarparu ymatebion effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.

Amcan 6

Rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar gryfderau ac anghenion, ac sy'n ymatebol ledled Cymru.

Y ffrydiau gwaith: pwrpas a chamau gweithredu lefel uchel

Aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus

Pwrpas

  • Atal ac amddiffyn pobl rhag aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhyw ym mhob man cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys ar-lein, drwy gynyddu ymwybyddiaeth o ba mor annerbyniol yw’r credoau, yr agweddau a’r ymddygiadau cymdeithasol sy'n sail iddo a thrwy ddwyn drwgweithredwyr i gyfrif.
  • Byddwn yn defnyddio sylfaen dystiolaeth gadarn, gan gynnwys profiadau bywyd dioddefwyr/goroeswyr, i greu dull croestoriadol sy’n ystyriol o drawma ar draws ein systemau, er mwyn mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus, a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhyw, ym mhob man cyhoeddus ledled Cymru.
  • Byddwn yn nodi, yn datblygu ac yn hyrwyddo adnoddau a chyfryngau sy'n galluogi newid cymdeithasol ac yn cefnogi dulliau atal cychwynnol.  Ar ben hynny, byddwn yn gwella'r amgylchedd ar gyfer adrodd a darparu cefnogaeth a diogelwch i bob dioddefwr/goroeswr a thyst.
  • Drwy weithredu ar lefel iechyd y cyhoedd, byddwn yn cael effaith ar gymdeithas gyfan, gan leihau'r tebygolrwydd o drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig, a thrais rhywiol, a gwella diogelwch cyffredinol menywod a merched, a’u hymwybyddiaeth o ddiogelwch, ym mhob man cyhoeddus ledled Cymru.

Cysylltiad â strategaeth genedlaethol trais a cham-drin

  • Amcanion: 1, 2, 3, 4, 5, 6.

Camau gweithredu lefel uchel

  • Cryfhau a gwella'r sylfaen dystiolaeth o ran atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus, a diogelwch menywod a merched mewn mannau cyhoeddus, er mwyn deall graddau’r broblem, yr hyn sy’n ei achosi ac ymyriadau effeithiol.
  • Datblygu dull ataliol ar draws ein systemau o fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhyw mewn mannau cyhoeddus, er mwyn cynyddu diogelwch menywod a merched, a’u hymwybyddiaeth o ddiogelwch.
  • Nodi, datblygu a gweithredu ymyriadau effeithiol sy'n galluogi pawb mewn cymdeithas i herio agweddau, credoau ac ymddygiadau sy’n dirmygu menywod, er mwyn newid y diwylliant o ddirmygu menywod ac aflonyddu sy'n bwydo camdriniaeth.
  • Adolygu a gwneud argymhellion ar gyfer dull teg o ddefnyddio ymyriadau a mentrau ym mhob asiantaeth a chymuned.

Aflonyddu yn y gweithle

Pwrpas

  • Datblygu dull cyffredin o ddileu aflonyddu yn y gweithle, gan gynnwys aflonyddu rhywiol a mathau eraill o aflonyddu ar sail rhyw ar fenywod a merched, ym mhob gweithle ledled Cymru.  Ar ben hynny, byddwn yn ceisio sicrhau y gall y gweithle fod yn fan allweddol o ddiogelwch i ddioddefwyr/goroeswyr, ni waeth ble y gallent fod wedi profi camdriniaeth.
  • Nid yw aflonyddu yn y gweithle yn rhywbeth anochel, a thrwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur, cyflogwyr a busnesau, a chydweithio â'r sector arbenigol, partneriaid cyfiawnder troseddol ac eraill, byddwn yn cefnogi ei ddileu drwy herio'r ymddygiadau, y diwylliannau a’r strwythurau niweidiol sy'n ei alluogi.  Gyda'n gilydd, byddwn yn helpu i greu gweithleoedd mwy diogel, mwy cynhwysol, sy’n sicrhau mwy o barch rhwng pobl ledled Cymru.
  • Byddwn yn cefnogi’r arfer o ddatgelu achosion o aflonyddu ac yn gwella’r ymateb i ddioddefwyr/goroeswyr yn ogystal â hwyluso newid diwylliant.  Yn hanfodol, byddwn yn mabwysiadu dull croestoriadol sy’n ystyriol o drawma, ac yn sicrhau bod dioddefwyr/goroeswyr yn parhau i fod yn ganolog i’n gwaith.
  • Byddwn yn defnyddio ac yn gwella'r adnoddau a'r cyfryngau sydd gennym eisoes i newid pethau, ac yn hyrwyddo arferion rhagorol i helpu i greu amgylcheddau dim goddefgarwch o ran aflonyddu yn y gweithle ledled Cymru.  Yn bwysig iawn, bydd hyn yn cynnwys sefydlu ymateb cydlynol ac effeithiol i achosion o gamfanteisio ar ymddiriedaeth mewn cyrff cyhoeddus, a herio a chefnogi cyrff cyhoeddus i arwain drwy esiampl o ran arddangos yr ymddygiad, y diwylliannau a’r prosesau yr ydym am eu gweld. 

Cysylltiad â strategaeth genedlaethol trais a cham-drin

  • Amcanion: 1,3,4,6.

Camau gweithredu lefel uchel

  • Sefydlu a chynnal sylfaen dystiolaeth gadarn, gan gynnwys cofnodi profiadau bywyd o aflonyddu yn y gweithle, er mwyn deall yn well raddfa aflonyddu yn y gweithle a'r camau sy'n helpu i'w atal.
  • Datblygu dull ar draws ein systemau o gefnogi atal ac ymateb yn effeithiol i aflonyddu yn y gweithle ar fenywod a merched, gan fynd i'r afael ag aflonyddu ym mhob gweithle ledled Cymru.
  • Defnyddio a gwella’r adnoddau a’r cyfryngau sydd gennym eisoes i godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo arferion rhagorol a chefnogi newid gweithredol i ddileu aflonyddu yn y gweithle ar fenywod a merched, ac i wella’r ymateb yn y gweithle i bob math o drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Herio a chefnogi pob sefydliad ledled Cymru i fynd y tu hwnt i'w dyletswyddau cyfreithiol a gorfodol eraill a mabwysiadu safonau ymddygiad enghreifftiol yn y gweithle.

Mynd i'r afael â chyflawni trais

Pwrpas

  • Mae atal a mynd i'r afael â thrais, a gweithio gyda'r rhai sy'n cyflawni trais a cham-drin yn hanfodol i'n dull ar lefel iechyd cyhoeddus o ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn adeiladu ar waith sydd eisoes yn digwydd yn y maes drwy ddatblygu dull gweithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol trais. Bydd hyn yn galw am weithredu ar lefel cymdeithas gyfan yn ogystal â chynyddu’r angen i ganolbwyntio gyda’n gilydd ar y rhai sy'n cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Byddwn yn mabwysiadu dull a fydd yn herio ac yn cefnogi'r rhai sy'n cam-drin, er mwyn atal a tharfu ar droseddu, rheoli risg a hwyluso newidiadau mewn ymddygiad. Byddwn yn gweithio i ymgorffori'r dull hwn o fewn y systemau troseddol a chyfiawnder sifil drwy gydweithio â gwasanaethau cyhoeddus ac o fewn gwasanaethau anstatudol sy’n canolbwyntio ar y rhai sy'n cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Byddwn yn ceisio cydlynu rhwng gwasanaethau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais a gwasanaethau arbenigol sy’n cefnogi goroeswyr fel bod pob rhan o’r system yn mynd i'r afael â cham-drin, gan gefnogi’r dioddefwyr ar yr un pryd. Yn hanfodol, byddwn yn gweithio gyda chomisiynwyr i sicrhau bod ymyriadau a roddir ar waith ar gyfer cyflawnwyr trais yn ddiogel, bod digon o adnoddau ar eu cyfer, ac nad ydynt yn peryglu lefel y ddarpariaeth ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr.

Cysylltiad â strategaeth genedlaethol trais a cham-drin

  • Amcanion: 1,2,3,4.

Camau gweithredu lefel uchel

  • Cryfhau a gwella'r sylfeini tystiolaeth presennol a’r dadansoddiadau o anghenion o ran cyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru.
  • Datblygu dull gweithredu ar draws systemau Cymru o fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, sy'n cwmpasu popeth o ymyrraeth ac atal yn gynnar i ymateb y maes cyfiawnder troseddol.
  • Sefydlu eglurder ynghylch cyfrifoldebau’r holl awdurdodau perthnasol o ran atal a mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a chyfrifoldebau gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt wedi'u datganoli.
  • Cryfhau mecanweithiau atebolrwydd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni eu cyfrifoldebau i fynd i'r afael ac atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Comisiynu cynaliadwy: ar draws ein systemau

Pwrpas

  • Comisiynu yw'r broses o asesu angen a blaenoriaethu, cynllunio, dylunio, a monitro gwasanaethau i sicrhau’r canlyniadau gorau. I’r perwyl hwnnw, mae comisiynu yn hanfodol er mwyn gweithredu ar draws ein systemau. Mae cynaliadwyedd yn ymwneud â sicrhau bod comisiynu yng Nghymru yn agored, yn gyson, ac yn seiliedig ar gynllunio strategol ac anghenion, gan roi hyder i ddarparwyr gwasanaethau.
  • Er mwyn comisiynu'r gwasanaethau sydd eu hangen mewn ffordd gynaliadwy i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, a diogelu a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt, mae'n hanfodol bod y strwythurau cywir ar gyfer deall yr angen, cynllunio a chaffael ar waith ledled Cymru.
  • Byddwn yn adolygu ac yn adnewyddu'r trefniadau rhanbarthol a chenedlaethol presennol. Lle y bo'n briodol, byddwn yn gwneud argymhellion ar sut gellir cryfhau'r trefniadau hyn i gyd-fynd yn well â phwrpas Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (2015).
  • Byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus statudol yn ymateb i anghenion dioddefwyr a goroeswyr; byddwn yn edrych ar y sector arbenigol a'r dull caffael sydd ei angen i sicrhau cynaliadwyedd; a byddwn yn adolygu'r prosesau a'r canllawiau presennol ar gyfer asesu anghenion, cynllunio strategol, a chaffael fel eu bod mor effeithiol â phosibl er mwyn gweithredu ar draws ein systemau, fel y gallwn ddarparu gwasanaethau mewn ffordd deg ledled Cymru. Wrth wneud, byddwn yn cynnwys cwmpas ehangach y Glasbrint, sef cyrff datganoledig ac annatganoledig, i hwyluso cydweithio effeithiol rhwng gwasanaethau.

Cysylltiad â strategaeth genedlaethol trais a cham-drin

  • Amcanion: 4,5,6.

Camau gweithredu lefel uchel

  • Adolygu'r arferion presennol i ddeall sut y gweithredir y canllawiau sydd gennym a sut y cyflawnir y cyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (2015).
  • Adolygu ac adnewyddu'r canllawiau presennol ar gyfer datblygu asesiadau o anghenion yn ogystal â blaenoriaethu, cynllunio, dylunio, a monitro gwasanaethau i ddatblygu dull ar draws ein systemau o gomisiynu cynaliadwy.
  • Adolygu’r canllawiau presennol ynghylch caffael a grantiau mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a disgyblaethau cysylltiedig eraill, er mwyn sicrhau tegwch, arloesedd ac ansawdd wrth gynnig gwasanaethau a darpariaeth ledled Cymru.
  • Datblygu canllawiau i sicrhau bod strwythurau partneriaeth rhanbarthol ar gyfer gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cydlynu â’i gilydd, a bod y berthynas rhwng cynllunio lleol, darparu gwasanaethau a chomisiynu yn glir.
  • Datblygu Fframwaith Safonau Cenedlaethol a fydd yn rhoi arweiniad ar y gofynion ar gyfer darparu gwasanaethau da, pennu lefelau gwasanaeth gofynnol, a mynegi disgwyliadau clir ar gyfer partneriaid comisiynu i ymrwymo i'r Safonau hyn.

Anghenion pobl hŷn

Pwrpas

  • Er mwyn deall pob elfen o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, byddwn yn ystyried ein dealltwriaeth o anghenion pobl hŷn, er mwyn sicrhau bod ymatebion gwasanaethau yn briodol a bod niwed yn cael ei atal ac yn cael sylw mewn perthynas â’r grwpiau hyn.
  • Byddwn yn gweithio i ddeall y cysylltiadau rhwng rhagfarn ar sail oedran a cham-drin, ac yn herio rhagfarn ar sail oedran o fewn ein systemau a’n cymdeithas ledled Cymru, er mwyn cynyddu’r gydnabyddiaeth i’r cam-drin a’r niwed y mae pobl hŷn yn ei brofi, ynghyd ag ymwybyddiaeth o ba mor annerbyniol y mae.
  • Byddwn yn hyrwyddo camau priodol a phenodol ar ran pobl hŷn sy'n profi camdriniaeth a/neu’n cam-drin eraill. Byddwn hefyd yn sicrhau bod anghenion y grŵp hwn yn cael eu cydnabod ym mhob elfen o bolisi ac arferion mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Byddwn yn rhoi sylw i gydraddoldeb o ran darparu gwasanaethau a chymorth i oresgyn yr anfanteision penodol a wynebir gan bobl hŷn sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, neu sy’n cael eu cam-drin.

Cysylltiad â strategaeth genedlaethol trais a cham-drin

  • Amcanion: 1,3,4,5,6.

Camau gweithredu lefel uchel

  • Cryfhau a gwella'r sylfeini tystiolaeth presennol a nodi'r bylchau er mwyn gwella’r wybodaeth am gam-drin pobl hŷn a’r ddealltwriaeth ohono, ynghyd â'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt.
  • Datblygu dull gweithredu ar draws systemau Cymru sy'n sicrhau eglurder a chydlyniant rhwng gwasanaethau diogelu a gwasanaethau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Cynyddu’r gwasanaethau sy’n ystyriol o drawma sydd ar gael i bobl hŷn, yn oroeswyr ac yn rhai sy’n cam-drin eraill, a’u gwneud yn fwy addas, gan gydnabod eu hanghenion amrywiol yn ddigonol.
  • Rhoi blaenoriaeth i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth penodol a dylanwadu arnynt, er mwyn cynyddu’r gydnabyddiaeth i gamdriniaeth ymhlith pobl hŷn, gwybodaeth am y broblem a dealltwriaeth ohoni.

Anghenion plant a phobl ifanc

Pwrpas

  • Mae yna berygl nad yw anghenion plant a phobl ifanc wedi cael eu cydnabod yn ddigonol hyd yma. Er mwyn deall pob elfen o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, byddwn yn ystyried ein dealltwriaeth o anghenion plant a phobl ifanc, er mwyn sicrhau bod ymatebion gwasanaethau yn briodol a bod niwed yn cael ei atal ac yn cael sylw mewn perthynas â’r grwpiau hyn.
  • Gan weithio ochr yn ochr â gwasanaethau diogelu Llywodraeth Cymru, byddwn yn sicrhau eglurder a chydlyniant yn ein dulliau o ddiogelu pobl a mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd y grŵp hefyd yn gallu cefnogi’r gwaith o hyrwyddo cydberthnasau iach fel rhan o gwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, yn ogystal â gwaith i fynd i'r afael ag aflonyddu a cham-drin rhywiol ymhlith cyfoedion.

Cysylltiad â strategaeth genedlaethol trais a cham-drin

  • Amcanion: 1,2,4,5,6.

Camau gweithredu lefel uchel

  • Cryfhau, gwella, a nodi bylchau mewn sylfeini tystiolaeth presennol a’r dadansoddiadau o anghenion y plant a'r bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Datblygu dull ar draws systemau Cymru o ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sy’n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol, o wasanaethau mamolaeth a’r blynyddoedd cynnar i wasanaethau oedolion.
  • Sefydlu eglurder ynghylch cyfrifoldebau'r holl awdurdodau perthnasol o dan Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a gwasanaethau cyhoeddus eraill nad ydynt wedi'u datganoli, i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol a brofir gan blant a phobl ifanc, ymateb iddo a’i leihau.
  • Cryfhau mecanweithiau atebolrwydd i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn diwallu anghenion plant a phobl ifanc sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gwmpasu ymatebion, prosesau archwilio, arolygu, a monitro grantiau.