Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i ffermwyr ddilyn y rheolau hyn os ydyn nhw'n gwneud cais am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r rhan fwyaf o’r rheolau Trawsgydymffurfio yn para fel yr oedden nhw yn 2017 ond mae’r Taflenni Ffeithiau canlynol wedi’u diweddaru ar gyfer 2017 i ddangos gofynion ac arferion da newydd:

  • SMR 3: gwarchod ffawna a fflora (bioamrywiaeth), mae newid wedi’i wneud i’r cyflwyniad i esbonio bod y gofynion yn gymwys i bob tir, nid dim ond safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac ardaloedd cadwraeth arbennig
  • SMR 8: adnabod defaid a geifr, diweddariad i ddangos rheolau newydd Rhif y Daliad (CPH) sy’n ymwneud â symud da byw
  • GAEC 6: pridd a deunydd organig (eu diogelu), diweddariad i ddangos Rheoliadau newydd Asesu Effeithiau’r Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017.
  • diweddariad i’r ddogfen cysylltiadau defnyddiol

Mae’r newidiadau wedi’u gwneud hefyd er mwyn esbonio GAEC 5 and 6 yn safonau dilysadwy 2018, er nad oes unrhyw reolau newydd wedi’u cyflwyno.

Dogfennau