Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i ffermwyr ddilyn y rheolau hyn os ydyn nhw'n gwneud cais am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r mwyafrif helaeth o reolau Trawsgydymffurfio yn parhau i fod yn gymwys fel yn 2021. Rydym wedi diweddaru'r taflenni ffeithiau canlynol ac adrannau cysylltiedig o'r Safonau Dilysadwy ar gyfer 2022. Mae hyn yn adlewyrchu newidiadau mewn gofynion, arfer da ac i egluro geiriad:

  • SMR 4: cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid. Mân newidiadau i egluro geiriad y gofynion.
  • SMR 6: adnabod a chofrestru moch. Canllawiau newydd ar dagio moch i'w hallforio. Manylion cyswllt wedi'u diweddaru.
  • SMR 7: adnabod a chofrestru gwartheg. Roedd canllawiau newydd ar dagio gwartheg i'w hallforio wedi’u cynnwys.
  • SMR 8: adnabod defaid a geifr. Canllawiau newydd ar dagio defaid a geifr i'w hallforio wedi’u cynnwys. Gofyniad i gadw dogfennau symud wedi’u diweddaru.
  • SMR 10: cyfyngiadau ar ddefnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPP). Eglurhad o ddiffiniad PPP a darpariaethau'r CE a ddargedwir. Manylion cyswllt wedi'u diweddaru.
  • GAEC 6: pridd a deunydd organig eu diogelu. Diweddarwyd y canllawiau ar gyfer Yr Asesiad o'r Effaith ar yr Amgylchedd. 

Rydym hefyd wedi diweddaru'r ddogfen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol.

Dogfennau