Rhaid i ffermwyr ddilyn y rheolau hyn os ydyn nhw'n gwneud cais am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2023.
Mae mwyafrif llethol y rheolau Trawsgydymffurfio oedd mewn grym yn 2022 yn dal mewn grym eleni ond mae’r Taflenni Ffeithiau canlynol a’r adrannau cysylltiedig yn y Safonau Dilysadwy wedi’u diweddaru ar gyfer 2023 i adlewyrchu newidiadau i'r gofynion a'r arfer da ac i wneud y geiriad yn gliriach:
- SMR 1 – Diogelu Dŵr – Mae’r Daflen Ffeithiau a’r Safonau Dilysadwy wedi’u diweddaru i adlewyrchu gofynion newydd fydd yn effeithio ar bob tir o 1 Ionawr 2023 yn sgil Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Mae'r newidiadau'n cynnwys gofynion o ran paratoi a diweddaru map risgiau a chynllun rheoli maethynnau a storio tail buarth.
Bydd gofynion ychwanegol ar yr holl dir o 1 Ebrill 2023 ac 1 Awst 2024, fel rhan o’r cyfnod pontio ar gyfer tir sydd heb fod yn rhan o Barth Perygl Nitradau (NVZ).
Dysgwch beth yw’r gofynion a sut maen nhw’n effeithio ar fusnes eich fferm chi.
I gael rhagor o wybodaeth , ewch i Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr. - SMR 3 – Gwarchod Ffawna a Fflora – mae’r daflen ffeithiau wedi’i diweddaru er mwyn cynnwys dolenni i ddeddfau perthnasol.
- SMR 4 – Bwyd a Chyfraith Bwyd – Mân newidiadau i’r Daflen Ffeithiau a’r Safonau Dilysadwy, i wella’r geiriad.
- SMR 10 – Cyfyngiadau ar Ddefnyddio Cynhyrchion Amddiffyn Planhigion (PPP) – Gwneud y diffiniad o PPP yn gliriach. Mae’r adran Arfer Da wedi’i diweddaru i gynnwys y gofyn bod defnyddwyr proffesiynol PPP yn cofrestru gydag awdurdod cymwys (DEFRA).
- SMR 13 – Safonau Lles Anifeiliaid Fferm – Dolen yn adran Archwiliadau Maes y Daflen Ffeithiau i Godau Ymarfer.
- GAEC 7 – Cadw Nodweddion y Tirlun – Diweddaru’r cyfeiriadau at ddeddfwriaeth. Atgoffir ffermwyr o dan Arfer Da i gadarnhau maint a lleoliad Henebion Rhestredig ar eu tir trwy Cof Cymru neu drwy gysylltu â CADW.