Rhaid i ffermwyr ddilyn y rheolau hyn os ydyn nhw'n gwneud cais am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2026.
Rhaid i ffermwyr ddilyn y rheolau hyn os ydyn nhw'n gwneud cais am daliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol 2026.
Mae'r rhan fwyaf o'r rheolau Trawsgydymffurfio yn aros fel yr oedden nhw yn 2025. Rydym wedi diweddaru'r taflenni ffeithiau canlynol ac adrannau cysylltiedig o'r safonau dilysadwy. Maen nhw'n adlewyrchu'r newidiadau yn y gofynion, arferion da ac yn gwella'r geiriad ar gyfer 2026:
SMR 1: diogelu dŵr
Taflen ffeithiau a safonau dilysadwy wedi'u diweddaru i ddileu'r cyfeiriad at y dull Rheoli Maethynnau Uwch gan nad oes unrhyw gamau gweithredu ar gyfer 2026. Ail-drefnwyd y daflen ffeithiau er eglurder ac mae dyddiadau'r cyfnod gwaharddedig wedi'u cynnwys er gwybodaeth. Bu newidiadau hefyd i'r diffiniadau o'r tramgwydd ar gyfer tramgwyddau A5, A9, B1, B3, B4, B5 a B7.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr holl ofynion: Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau i ffermwyr a rheolwyr tir
SMR 4: bwyd a chyfraith bwyd
Diweddarwyd y daflen ffeithiau i egluro'r gofynion o ran:
- galw bwyd neu borthiant yn ôl o'r farchnad
- adnabod anifeiliaid sy'n cael triniaeth feddygol cyn godro
- esemptiadau i laeth yfed amrwd
- archwiliadau yn y maes
SMR 10: cyfyngiadau ar ddefnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion (PPPs)
Taflen ffeithiau a safonau dilysadwy wedi'u diweddaru i egluro:
- pwy all ddefnyddio PPPs
- defnyddio PPPs yn unol â gofynion penodedig
- arferion da
SMR 11: safonau lles ar gyfer lloi
Taflen ffeithiau a safonau dilysadwy wedi'u diweddaru i wella canllawiau arferion da
SMR 12: safonau lles ar gyfer moch
Taflen ffeithiau a safonau dilysadwy wedi'u diweddaru i egluro gofynion o ran:
- mynediad at ddeunydd y gellir tyrchu a chwilio ynddo, a
- dŵr yfed ffres
- gofynion sylfaenol ar gyfer hychod a banwesi wedi'u caethiwo
SMR 13: safonau lles ar gyfer anifeiliaid a ffermir
Taflen ffeithiau a safonau dilysadwy wedi'u diweddaru i egluro gofynion sy'n ymwneud ag:
- anffurfio a thriniaethau a ganiateir
