Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae pob aderyn gwyllt, ei wyau a’i nythod yn cael eu gwarchod dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd). Mae’n drosedd lladd, anafu neu ddal unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol; mae hyn yn cynnwys niweidio nythod, neu fod ag wyau neu adar gwyllt byw neu farw yn eich meddiant. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhoi Trwyddedau Cyffredinol a Thrwyddedau Penodol er mwyn cyflawni gweithgareddau penodol mewn perthynas ag adar gwyllt.

Mae’r SMR hwn yn effeithio’n fwy uniongyrchol ar ffermwyr sydd â thir mewn Ardal Gwarchodaeth Arbennig sy’n cynnig lloches i adar gwyllt.

Y prif ofynion

  • Peidiwch â lladd, anafu na dal unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol (oni bai bod gennych drwydded gyffredinol neu drwydded benodol i wneud hynny, neu fod yr aderyn ar Atodlen 2 (adar y gellir eu lladd neu eu dal y tu allan i’r cyfnod gwaharddedig).
  • Peidiwch, yn fwriadol neu’n ddi-hid, â dinistrio nyth unrhyw aderyn gwyllt tra’i fod yn cael ei ddefnyddio neu wrth iddo gael ei adeiladu, nac amharu ar adar ifanc dibynnol oni bai’ch bod yn gwneud hynny dan drwydded gyffredinol neu drwydded benodol (nodwch y mesurau ychwanegol i warchod adar prin Atodlen 1 a ZA1).
  • Peidiwch, yn fwriadol neu’n ddi-hid, â dinistrio nyth Eryr Euraid, Eryr Môr neu Walch y Pysgod (adran Atodlen ZA1) hyd yn oed os nad ydyn nhw’n defnyddio’r nyth.
  • Peidiwch â defnyddio dulliau graddfa fawr neu annethol o ddal neu ladd adar Atodlen 2, neu adar sydd ar drwydded gyffredinol. Mae’r dulliau hynny’n cynnwys maglau, trapiau, croglathau, bachau, dyfeisiau parlysu trydanol, gwenwyn a bwâu croes Peidiwch â niweidio na dinistrio wyau unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol (oni bai’ch bod yn gwneud hynny o dan drwydded gyffredinol neu benodol).
  • Ni ddylech fod ag unrhyw aderyn gwyllt, byw neu farw, neu ran ohono yn eich meddiant, gan gynnwys wyau (ac eithrio adar Atodlen 2 neu’r rhai sy’n dod o dan drwydded gyffredinol fel ag ddisgrifir uchod, y gellir eu dal o dan rai amgylchiadau.
  • Peidiwch â lladd na dal adar Atodlen 2 yn ystod y cyfnod gwaharddedig. Ni ddylid dal adar Atodlen 2 ar ddydd Sul mewn rhai siroedd yng Nghymru hyd yn oed y tu allan i’r cyfnod gwaharddedig. Ni ddylid lladd na dal ffesantod, petris, grugieir coch na grugieir du ar unrhyw ddydd Sul na dydd Nadolig.

Archwilio caeau

  • I ofalu nad oes unrhyw waith adfer fel torri, plygu neu fondocio perthi yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod gwaharddedig (gweler GAEC 7: Gwahardd torri/ tocio yn ystod tymor bridio a magu adar – rhwng 1 Mawrth a 31 Awst).
  • Edrych a oes arwydd neu achos o wenwyno neu o ddulliau annethol o ddal/lladd adar.
  • Gofalu nad yw tir yn cael ei losgi pan allai fod nythod arno.
  • Cadarnhau os yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi trwyddedau i ganiatáu i weithgareddau penodol ddigwydd, er enghraifft atal clefydau rhag lledaenu neu atal niwed difrifol i dda byw.

Arfer da

  • Dylai hawlwyr â thir sydd wedi’i ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a/neu dir sydd wedi’i ddynodi fel Ardal Cadwraeth Arbennig fod yn ymwybodol bod Gofyn Rheoli Statudol 3: Gwarchod Ffawna a Fflora hefyd yn berthnasol.

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2022) o fewn y pecyn hwn.

Trwyddedau penodol

Trwyddedau cyffredinol