Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw cynnal system ar gyfer adnabod a chofrestru gwartheg ar gyfer eu holrhain yn rhwydd, yn enwedig pan fydd clefyd yn taro. Rhaid i bawb sy’n cadw gwartheg, hyd yn oed gwartheg anwes, gadw at y gofynion hyn.

At bwrpas trawsgydymffurfio, does dim angen ichi wneud mwy na’r hyn y mae’r gyfraith eisoes yn gofyn ichi ei wneud.

Y prif ofynion

Tagiau Clust

Rhaid tagio gwartheg fel a ganlyn:

  • â thagiau sydd wedi’u cymeradwyo gan Defra i roi rhif adnabod unigryw i bob llo sy’n cael ei eni ar y daliad. Bydd yn cynnwys nod‘UK’y fuches a rhif dilyniannol
  • trwy roi dau dag ar bob llo sy’n cael ei eni ar y daliad cyn pen 20 diwrnod neu cyn i’r llo adael y daliad, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf
  • rhoi’r tag cyntaf ar loi a aned mewn buches odro cyn pen 36 awr a’r ail cyn pen 20 diwrnod
  • rhoi tag yn lle tagiau clust sy’n cael eu colli neu sy’n amhosib eu darllen cyn pen 28 diwrnod ar ôl sylwi ar y golled, neu cyn i’r anifail adael y daliad
  • peidiwch â newid, dileu nag amharu ar y tagiau adnabod
  • cewch roi trydydd tag at ddiben rheoli neu allforio
  • bydd angen nodi’r rhagddodiad cod gwlad ‘GB’ a rhif adnabod yr anifail ar y tag allforio

Pasbortau gwartheg

  • gofynnwch i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) am basbort gwartheg cyn pen 27 diwrnod ar ôl geni’r llo fan hwyraf neu 7 niwrnod ar gyfer beisonau
  • cadwch y pasbort mewn lle diogel er mwyn ichi allu dangos pasbort dilys gyda’ch llofnod arno ar gyfer yr holl wartheg sydd gennych o dan eich gofal
  • rhowch wybod i’r BCMS am symudiadau’ch gwartheg  i ac o’ch daliad o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad
  • rhaid rhoi gwybod i’r BCMS am farwolaeth anifail ar eich daliad ac anfon ei basbort atynt, cyn pen 7 niwrnod
  • peidiwch â newid na difetha pasbort

Cofrestr y fferm

  • rhaid cadw cofrestr gyfoes o’r fuches ar y fferm sy’n dangos rhif y tag clust, rhif adnabod y fam, dyddiad geni, brîd a rhyw pob anifail
  • dylai’r gofrestr gynnwys dyddiad symud yr anifail i’r fferm neu o’r fferm gyda chyfeiriad y lle cafodd ei anfon iddo/y daeth ohono. Dylai gynnwys dyddiad pob marwolaeth a lle cafodd y carcas ei anfon iddo
  • rhaid llenwi’r gofrestr cyn pen 36 awr ar ôl symudiad, cyn pen 7 niwrnod ar ôl marwolaeth a chyn pen 30 diwrnod ar ôl geni llo (7 niwrnod yn achos llo o fuches odro)
  • cadwch gofrestr y fuches am 10 mlynedd ar ôl y cofnod diwethaf fel y gall Llywodraeth Cymru neu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ei gweld o ofyn am gael gwneud

Archwiliadau maes

  • i ofalu bod eich holl wartheg yn cael eu tagio yn unol â’r gofyn a’ch bod, o fewn y terfyn amser, yn rhoi tagiau yn lle’r rhai sy’n cael eu colli
  • i ofalu bod pob pasbort yn cyfateb i anifail penodol a bod gan bob anifail basbort (neu ddogfen gofrestru CPP35)
  • i ofalu bod y manylion printiedig ar y pasbort yn cyfateb i gofnodion y fferm
  • i weld cronfa ddata’r System Olrhain Gwartheg (SMR) i wneud yn siwr bod yr holl wartheg o dan eich gofal wedi’u rhestru’n gywir a rhoi gwybod am gamgymeriadau
  • i ofalu bod cofnodion y fferm yn gyflawn ac yn gyfoes ac yn cyfateb i gofnodion y CTS

I helpu â’r archwiliadau maes:

  • gofalwch fod gennych system trin gwartheg sy’n gweithio’n dda ac sy’n gadael y gwartheg drwyddi’n effeithiol
  • gofalwch eich bod yn trefnu bod gennych ddigon o weithwyr a lle diogel i drin y gwartheg

Arfer da

  • fel rhan o’r archwiliadau arferol, rhaid gofalu fod y ddau dag clust yn sownd ac yn ddarllenadwy
  • rhaid rhoi tag newydd yn lle tag sydd wedi’i golli neu sydd wedi’i ddifrodi o fewn 28 diwrnod ar ôl sylwi fod rhywbeth yn bod. Defnyddiwch CTS ar-lein i gofrestru genedigaethau a marwolaethau ac i gofnodi symudiadau. Yn ogystal â bod yn gynt, mae’n ffeindio bylchau a gwallau yn y cofnodion ichi allu eu cywiro a thrwy hynny, osgoi cosbau trawsgydymffurfio
  • cymharwch restr y CTS o’r gwartheg sydd ar eich daliad â rhestr y gwartheg sydd wedi cael prawf TB (neu sydd wedi’u crynhoi at ddibenion eraill

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS)
  • Awdurdodau Lleol (Yr adran Safonau Masnach fel arfer)

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2024).