Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw lleihau’r perygl o ledaenu clefydau moch, trwy reoli symudiadau a’u holrhain yn rhwydd. Rhaid i bawb sy’n cadw moch, hyd yn oed moch anwes, gadw at y gofynion hyn.

Y prif ofynion

Cofrestru

Bydd gofyn ichi gofrestru’ch manylion a’ch safle gyda swyddfa’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) o fewn mis ar ôl prynu’r moch neu ddechrau cadw moch. Dylech roi gwybod am unrhyw newidiadau o fewn mis ar ôl i’r newid ddigwydd, gan gynnwys rhoi gwybod iddyn nhw eich bod wedi rhoi’r gorau i gadw moch.

Tagio

Rhaid tagio’r moch cyn iddyn nhw adael y daliad mewn un o ddwy ffordd:

  • Moch hyd at flwydd oed sy’n symud rhwng daliadau rhaid rhoi naill ai tag clust‘UK’cymeradwy neu datŵ (slapfarc ar y glust neu’r ysgwydd) gyda neu heb y llythrennau‘UK’, neu farc paent/slapfarc dros dro fydd o leia’n para hyd y daith. Ni chewch roi marc dros dro i symud mochyn i farchnad, lladd-dy neu sioe neu ei werthu i gymuned arall.
  • Moch blwydd oed neu fwy sy’n symud i/o farchnad neu ladd-dy – rhaid rhoi tag clust‘UK’cymeradwy neu datŵ (slapfarc ar glust neu ysgwydd) gyda neu heb y llythrennau‘UK’.
  • Ar foch y bwriedir eu hallforio bydd angen tag clust â’r rhagddodiad ‘UK’, marc y cenfaint, rhif yr anifail a’r ôlddodiad ‘GB’ arno NEU datŵ â’r rhagddodiad ‘UK’, marc y cenfaint, rhif yr anifail a’r ôlddodiad ‘GB’ arno. 

Bydd y rheolau adnabod wedi’u torri os:

  • Caiff y marciau adnabod ar y mochyn eu newid, eu dileu neu eu cyfnewid heb ganiatâd priodol ac.
  • Os caiff cais gan awdurdod i roi marc adnabod newydd erbyn amser penodol ei anwybyddu.

Cadw cofnodion

Mae angen cofnodi’r manylion canlynol ar gofnod y fferm:

  • Enw a chyfeiriad y person sy’n cadw’r cofnod.
  • Rhaid cadw cofnodion pob daliad moch yn gyfoes a’u cadw am o leiaf 3 blynedd ar ôl I chi roi’r gorau i gadw moch.
  • Rhaid cofnodi symudiadau moch i/o’r fferm o fewn 36 awr ar ôl y symudiad. Dylai gynnwys y dyddiad, nifer y moch, o ble ddaeth y moch neu i ble mae’r moch yn mynd, marciau adnabod a rhifau lot (moch sy’n dod o farchnad).
  • Rhaid cofnodi uchafswm y moch sydd ar y daliad o leiaf unwaith bob blwyddyn.
  • Nodwch bob marwolaeth a sut rydych wedi cael gwared ar y carcas.
  • Rhaid bod y cofnodion hyn ar gael i archwilydd sy’n gofyn amdanynt eu gweld.
  • Cewch gadw’r cofnodion yn electronig.

Dogfennau symud

  • Rhowch wybod i’r gwasanaeth eAML2 (ar-lein neu swyddfa) cyn symud moch o’ch daliad. Dylech ddarparu’r holl wybodaeth y byddech wedi gorfod ei darparu cyn eu symud gan gynnwys marciau adnabod.

Cadwch gopi o’r dogfennau symud a phrynu am o leiaf chwe mis.

Archwiliadau maes

Gofalwch fod:

  • Y cofnodion ar gael ar gyfer eu harchwilio.
  • Sampl o’r moch yn gallu cael eu cyflwyno yn ddiogel ar gyfer archwiliad o’u tagiau adnabod.
  • Y dogfennau symud ar gael.

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Gwasanaeth Biwro eAML2 
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2022) o fewn y pecyn hwn.