Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Diben y rheolau hyn yw argyhoeddi’r cwsmer bod cig yn ddiogel. Amcan y gofynion hyn yw lleihau peryglon Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE), fel BSE a chlefyd y crafu, i iechyd pobl ac anifeiliaid. Rhaid cadw at y rheolau hyn os ydych yn cadw anifeiliaid cnoi cil.

Diffiniadau

‘Anifeiliaid cnoi cil’: gwartheg, defaid, geifr, calemod, beison, byfflo, ceirw, antelopiaid.

‘Proteinau gwaharddedig’: protein anifeiliaid wedi’i brosesu yn cynnwys infertebrata’r tir sych (pryfed) (â rhai eithriadau penodol) a gelatin o anifeiliaid cnoi cil e.e. gelatin eidion (gan gynnwys mewn bwydydd dros ben).

‘Proteinau cyfyngedig’: protein anifeiliaid y ceir ei ddefnyddio’n unig i fwydo anifeiliaid nad ydyn nhw’n anifeiliaid cnoi cil: blawd pysgod (sy’n cynnwys infertebrata dyfrol sych o safleoedd ABP cymeradwy), cynnyrch gwaed anifeiliaid heblaw anifeiliaid cnoi cil, digalsiwm ffosffad a thricalsiwm ffosffad sy’n deillio o anifeiliaid. Cynhwysir hefyd brotein wedi’i brosesu sy’n deillio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil, gan gynnwys blawd moch a dofednod ar gyfer dyframaethu.

Prif ofynion

Peidiwch â:

  • rhoi protein anifeiliaid nac unrhyw fwyd sy’n cynnwys protein anifeiliaid i anifeiliaid cnoi cil ac eithrio’r canlynol (yn unol ag unrhyw reolau ynghylch ei darddiad a’i brosesu, er enghraifft ni chaniateir defnyddio gwastraff arlwyo):
    • llaeth, cynnyrch llaeth a llaeth tor
    • wyau a chynnyrch wyau 
    • gelatin o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil
    • protein wedi’i hydroleiddio o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil neu o grwyn anifeiliaid cnoi cil
    • llaeth ffug ar gyfer anifeiliaid cnoi cil ifanc heb eu diddyfnu sy’n cynnwys blawd pysgod, os yw wedi’i gofrestru gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
  • rhoi cynnyrch sy’n cynnwys protein gwaharddedig i unrhyw anifail  na chymysgu  protein  gwaharddedig â  phorthiant
  • defnyddio protein cyfyngedig i gynhyrchu bwyd i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil, oni bai’ch bod wedi cael caniatâd yr APHA
  • defnyddio cynnyrch bwydo sy’n cynnwys protein cyfyngedig, ar fferm lle mae yna anifeiliaid cnoi cil, oni bai bod yr APHA wedi cadarnhau’ch bod wedi’ch cofrestru
  • gwerthu neu allforio epil cenhedlaeth gyntaf, semen, ofa neu embryo gwartheg, defaid neu eifr (o unrhyw oed) heb gydymffurfio’n llawn â’r gofynion o ran dogfennau a’r cyfyngiadau ar werthu neu allforio cynnyrch o’r fath
  • allforio o’r DU unrhyw aelod o deulu’r fuwch gafodd ei eni neu ei fagu yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996
  • gwerthu neu allforio cynnyrch sy’n cynnwys neu’n ymgorffori deunydd (heblaw llaeth) sy’n dod o aelod o deulu’r fuwch a aned neu a fagwyd yn y DU cyn 1 Awst 1996
  • gwerthu neu allforio epil cenhedlaeth gyntaf, semen, ofa neu embryo gwartheg, defaid neu eifr (o unrhyw oed) heb gydymffurfio’n llawn â’r gofynion o ran dogfennau a’r cyfyngiadau ar werthu neu allforio cynnyrch o’r fath
  • symud gwartheg a aned neu a fagwyd yn y DU cyn 1 Awst 1996 o’u safle cofrestredig oni bai’ch bod wedi cael trwydded symud gan Ganolfan Gwasanaethau Arbenigol yr APHA yng Nghaerwrangon

Rhaid ichi:

  • roi gwybod i filfeddyg yn swyddfa leol yr APHA ar unwaith os ydych yn credu neu’n gwybod bod gennych anifail neu garcas â TSE arno
  • cydymffurfio’n llwyr â’r cyfyngiadau symud
  • cydymffurfio’n llwyr â gorchymyn i ladd a difetha anifail
  • cydymffurfio’n llwyr â hysbysiadau eraill a roddir gan yr archwilydd
  • cydymffurfio’n llwyr ag ymchwiliad gan yr archwilydd i gael hyd i’r anifeiliaid sydd mewn perygl

Archwiliadau maes

  • i ofalu bod cofnodion Gwartheg a Defaid yn gyfoes
  • i ofalu bod ffermwyr yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid ynghylch stoc marw
  • i chwilio am dystiolaeth bod clefyd heb ei hysbysu
  • i gadarnhau nad oes cynnyrch amhriodol neu halogiad mewn porthiant neu storfeydd porthiant

Gwybodaeth pellach

Am fwy o wybodaeth am TSE, ewch i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar gov.uk)

PWYSIG: Caniateir ichi fwydo fersiynau ar ddicalsiwm ffosffad a thricalsiwm ffosffad sy’n deillio o fineralau ar gyfer pob math o dda byw. Dyma’r math a fwydir amlaf. Os nad yw labeli’n cyfeirio at ‘animal origin’, gellir cymryd ei fod wedi’i wneud o fineralau.