Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofyniad hwn yw diogelu dŵr wyneb rhag cael ei lygru gan nitradau, ffosfforws, cynhyrchion diogelu planhigion a charthion pathogenig drwy greu lleiniau clustogi. Gall y rhain gael effaith ddifrifol ar iechyd ac amrywiaeth dyfroedd croyw a morol, gan gynnwys y planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw ynddyn nhw. Mae gofyn cynnal y safon hon ar bob tir amaethyddol yng Nghymru.

Diffiniad

  • mae Dŵr Wyneb yn cynnwys dyfroedd arfordirol, aberoedd, camlesi, llynnoedd, pyllau dŵr a chyrsiau dŵr fel afonydd, nentydd a ffosydd sydd â dŵr ynddynt sy’n llifo’n rhydd. Mae’n cynnwys hefyd ffosydd sy’n sych am gyfnod a ffosydd cudd

Prif ofynion

  • peidiwch â gwasgaru gwrtaith anorganig na gwrtaith artiffisial o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb
  • ni ddylech ddefnyddio Cynhyrchion Diogelu Planhigion o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb
  • peidiwch â gwasgaru gwrtaith organig (gan gynnwys tail a slyri) o fewn 10 metr i ddŵr wyneb (6 metr os ydych chi’n defnyddio offer chwalu tail manwl, e.e. system chwistrellu, system ‘traling shoe’ neu far diferion)
  • peidiwch â gwasgaru gwrtaith organig (gan gynnwys tail a slyri) o fewn 50 metr i dwll turio, pistyll a ffynnon
  • peidiwch â mynd ati i wneud unrhyw borthi atodol o fewn 10 metr i ddŵr wyneb

Archwiliadau maes

  • gofalu nad oes gwrtaith anorganig na gwrtaith organig (gan gynnwys tail a slyri) na phlaladdwyr wedi’u gwasgaru ar leiniau clustogi
  • cadarnhau lleoliad unrhyw ddŵr wyneb a thyllau turio, pistyll a ffynhonnau ar eich tir eich hun a thir cyfagos cyn mynd ati i chwalu unrhyw wrtaith, cynhyrchion diogelu planhigion neu wneud unrhyw borthi atodol
  • sicrhewch bod y safleoedd porthi atodol ddim o fewn 10 metr i’r dŵr wyneb

Arferion da

  • gofalwch fod lleiniau clustogi’n ddigon llydan i rwystro llif o’r tir a llygredd (gallai hynny olygu bod angen i’r llain glustogi fod yn lletach na’r gofyn)
  • paratowch, diweddarwch a chadwch fap o’r daliad sy’n dangos lleoliad y dŵr wyneb a’r lleiniau clustogi fel y gallwch, os bydd angen, ei roi i gontractwyr  neu edrych arno cyn mynd ati i chwalu unrhyw wrtaith neu blaladdwr neu fynd ati i wneud unrhyw borthi atodol

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2024) o fewn y pecyn hwn.