Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob fferm yng Nghymru yn diogelu dŵr rhag llygredd. Mae llygredd amaethyddol yn gallu niweidio iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd, cymunedau lleol a’r diwydiant amaethyddol ei hun.

Mae’r rheoliadau’n nodi mesurau y mae’n rhaid eu dilyn os ydych yn bwriadu cynnal gweithgareddau amaethyddol penodol. Er bod y rheoliadau’n gymwys i holl dir Cymru, mae cyfnodau pontio wedi’u creu ar gyfer rhai gofynion, ar dir nad oedd yn rhan o Barth Perygl Nitradau o’r blaen. Cewch ragor o fanylion ar wefan Llywodraeth Cymru.

Y gofynion sy’n effeithio ar yr holl dir o 1 Ebrill 2021

  • Cadw at y cyfnod gwahardd gwrtaith nitrogen artiffisial (bydd eithriadau – gweler y canllawiau).
  • Ceir esboniad llawnach o’r cyfnodau gwahardd ar gyfer gwasgaru gwrtaith nitrogen artiffisial yn y canllawiau i’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol yn llyw.cymru/rheoli-tir.
  • Sicrhau bod y systemau storio silwair wedi’u hadeiladu yn unol â’r safonau adeiladu perthnasol, a bod y rheolau ynghylch safleoedd silwair ar gaeau wedi’u bodloni (gweler canllawiau).
  • Cydymffurfio ag unrhyw orchymyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i wella storfa silwair neu safle silwair ar gae.
  • Archwilio storfeydd yn rheolaidd a’u trwsio yn ôl yr angen.
  • Rhoi gwybod yn ysgrifenedig i CNC os ydych am godi silo neu storfa slyri newydd neu ehangu neu ailadeiladu silo neu storfa o’r fath, o leiaf 14 niwrnod cyn dechrau’r gwaith adeiladu (o 28 Ebrill 2021).
  • Rhoi gwybod i CNC ble rydych am osod safle silwair ar gae (tir agored) o leiaf 14 niwrnod cyn defnyddio’r safle am y tro cyntaf.
  • Gwasgaru deunydd a gwrtaith organig mewn ffordd mor fanwl gywir â phosibl ac mewn ffordd nad yw’n llygru cyrsiau dŵr. (peidiwch â gwasgaru gwrtaith nitrogen artiffisial o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb, a thail organig o fewn 10 metr), gan roi ystyriaeth i’r canlynol: llethr, gorchudd tir, pa mor agos y mae dŵr wyneb, y tywydd, math o bridd a phresenoldeb draeniau.
  • Pan fyddwch yn gwasgaru tail organig ar bridd moel neu sofl, rhaid ei ymgorffori yn y pridd cyn gynted ag y medrwch, ac o fewn 24 awr fan fwyaf (bydd eithriadau – gweler canllawiau).
  • Daw gofynion pellach i rym o 1 Ionawr 2023 ac 1 Awst 2024 – fe’u disgrifir yn y canllawiau i’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol. Gofalwch eich bod yn gallu cydymffurfio â’r newidiadau hyn o 1 Ionawr 2023 ac 1 Awst 2024.

Gofynion ar gyfer tir oedd cynt mewn Parth Perygl Nitradau (NVZ)

  • Ystyriwch y map o dir a oedd gynt o fewn Parth Perygl Nitradau ar MapDataCymru.
  • Cadw at y cyfnodau gwahardd tail organig a gwrtaith nitrogen artiffisial.
  • Sicrhau bod digon o le i storio’r holl dail neu slyri da byw i ateb gofynion y cyfnodau gwahardd a’r rheolau cysylltiedig a amlinellir yn y Canllawiau.
  • Sicrhau bod y systemau storio slyri a silwair yn ateb y gofynion o ran capasiti, gwytnwch, cynnal a chadw a pharthau diogelwch, eu bod wedi’u hadeiladu yn unol â’r safonau adeiladu perthnasol, a bod rheolau ynghylch safleoedd silwair ar gae yn cael eu bodloni (gweler y canllawiau).
  • Cadw at y rheolau ynghylch lleoli a storio tail sych.
  • Cydymffurfio ag unrhyw orchymyn gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i wella storfa neu i wella safle silwair ar gae.
  • Archwilio storfeydd yn rheolaidd a’u trwsio yn ôl yr angen.
  • Rhoi gwybod yn ysgrifenedig i CNC os ydych am godi silo neu storfa slyri newydd neu ehangu neu ailadeiladu silo neu storfa o’r fath, o leiaf 14 niwrnod cyn dechrau’r gwaith adeiladu (o 28 Ebrill 2021).
  • Rhoi gwybod i CNC ble rydych am osod safle silwair ar gae (tir agored) o leiaf 14 niwrnod cyn defnyddio’r safle am y tro cyntaf.
  • Ystyried pob ffynhonnell nitrogen wrth gyfrif faint o nitrogen sydd ei angen ar y cnwd.
  • Peidio â chaniatáu mwy na 170kg/ha o nitrogen o dail anifeiliaid ar holl dir y fferm, boed wedi’i wasgaru neu ei adael gan anifeiliaid pori.
  • Peidio â gwasgaru mwy na 250kg/ha o nitrogen mewn deunydd organig o fewn unrhyw ddarn hectar o faint.
  • Rheoli gwrtaith nitrogen a thail organig, a chynhyrchu map risg.
  • Gwasgaru deunydd a gwrtaith organig mewn ffordd mor fanwl gywir â phosibl ac mewn ffordd nad yw’n llygru cyrsiau dŵr. (peidiwch â gwasgaru gwrtaith nitrogen artiffisial o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb, a thail organig o fewn 10 metr), gan roi ystyriaeth i’r canlynol: llethr, gorchudd tir, pa mor agos y mae dŵr wyneb, y tywydd, math o bridd a phresenoldeb draeniau.
  • Gwasgaru slyri trwy ddefnyddio offer gwasgaru isel (llai na 4 metr o wyneb y tir).
  • Cadw cofnodion fferm am o leiaf 5 mlynedd.

Archwiliadau cae o’r holl dir o 1 Ebrill 2021

  • Gofalu’ch bod yn cadw at y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol.
  • Gofalu bod CNC wedi cael gwybod am fwriad i adeiladu storfa slyri neu silwair newydd.

Archwiliadau cae ar gyfer tir oedd cynt mewn parth Perygl Nitradau (NVZ)

  • Archwilio’ch cofnodion perthnasol – cynlluniau nitrogen, cnydau, nifer y da byw, y defnydd o wrtaith/tail/slyri a map risg.
  • Cadarnhau’ch bod yn dilyn unrhyw gamau yn unol â gorchmynion CNC.
  • Asesu capasiti, gwytnwch, gwaith cynnal a chadw a pharthau diogelwch (gan gynnwys y rhai ar gyfer gwneud silwair a storio silwair a slyri).
  • Asesu trefn archwilio reolaidd y ffermwr (cynllun a chofnodion asesu, fel sy’n briodol ar gyfer y storfa a’i rhannau) ac edrych am unrhyw arwydd o rwd, niwed neu ollwng. Peidiwch â mynd i mewn i’r tanciau sudd silwair – archwiliwch nhw o’r tu allan yn unig.

Arfer da

  • Rhoi gwybod i CNC os ydych am godi silo neu storfa slyri newydd neu ehangu neu ailadeiladu silo neu storfa o’r fath, i sicrhau bod yr adeilad yn cydymffurfio a thrwy hynny osgoi unrhyw newidiadau costus.
  • Mynnwch gopïau o ganllawiau i wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’r holl ofynion.
  • Dadansoddwch eich pridd a’ch tail yn rheolaidd a defnyddio’r canlyniadau i ddylanwadu ar eich cynlluniau gwrteithio.
  • Darllenwch y Canllawiau sy’n rhoi templed i’ch helpu i gwblhau’r cynllun, cofnodion a’r cyfrifiadau angenrheidiol. Cewch eu gweld yn llyw.cymru/rheoli-tir.
  • Rhannwch eich map o’r risg gyda chontractwyr.

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2022) o fewn y pecyn hwn.