Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob fferm yng Nghymru yn diogelu dŵr rhag llygredd. Mae llygredd amaethyddol yn gallu niweidio iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd, cymunedau lleol a’r diwydiant amaethyddol ei hun.

Mae’r rheoliadau’n diffinio deunyddiau ac yn nodi mesurau y mae’n rhaid eu dilyn os ydych yn bwriadu cynnal gweithgareddau amaethyddol penodol. Er bod y rheoliadau’n gymwys i’r holl dir, mae cyfnodau pontio wedi’u creu ar gyfer rhai gofynion, ar dir nad oedd yn rhan o Barth  Perygl Nitradau o’r blaen.

Dylech ddarllen y Daflen Ffeithiau hon ar y cyd â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr.

 

Y gofynion sy’n effeithio ar yr holl dir o 1 Ionawr 2023

Cadw cofnodion

Cadwch at yr holl ofynion o ran cadw cofnodion. Bydd angen y cofnodion canlynol o 1 Ionawr 2023:

  • Ar gyfer daliadau sy’n cadw anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio – faint o slyri neu dail dofednod fydd yn cael ei gynhyrchu gan y nifer a ragwelir o anifeiliaid yn y cyfnod storio a faint o le storio fydd ei angen
  • Ar gyfer daliadau sy’n gwasgaru gwrtaith nitrogen – copïau o gynlluniau rheoli nitrogen a chofnod o’r gwasgariadau. Ar gyfer daliadau sy’n prynu ac yn gwerthu tail neu slyri da byw – cofnod o’r cyfan sy’n dod i’r daliad neu’n gadael y daliad gan gynnwys dyddiadau, math o dail, faint o nitrogen sydd ynddo ac i ble mae’n cael ei anfon. 
  • Ystyriwch bob ffynhonnell nitrogen – y cyflenwad yn y pridd, tail organig a gwrtaith artiffisial – wrth lunio’ch cynllun nitrogen ac wrth gyfrif faint o nitrogen sydd ei angen ar eich cnwd.

I gael manylion yr holl gofnodion sydd angen eu cadw, gan gynnwys eithriadau, darllenwch Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr.

Rhaid cadw pob cofnod am o leiaf pum mlynedd a rhaid eu dangos pan ofynnir ichi wneud.

Gwasgaru deunydd organig

  • Os ydych chi’n gwasgaru gwrtaith organig, rhaid i chi baratoi map o’r daliad (‘Map Risgiau’) a’i ddiweddaru. Rhaid dangos y Map Risgiau pan ofynnir i chi wneud. I weld beth sydd angen ei nodi ar y map a sut i’w baratoi, darllenwch Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021: canllawiau ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr.
  • Dylech wasgaru deunydd a gwrtaith organig  mor fanwl gywir â phosibl gan ofalu nad ydych yn llygru cyrsiau dŵr gan ystyried y llethr, gorchudd tir, pa mor agos y mae dŵr wyneb, y tywydd, math o bridd a phresenoldeb  draeniau
  • Peidiwch â gwasgaru tail organig yn y ‘parth dim gwasgaru’
    • 50m o dwll turio, pistyll neu ffynnon
    • 10m o ddŵr wyneb (6m os ydych yn gwasgaru’n fanwl-gywir)
  • Pan fyddwch yn gwasgaru tail organig ar bridd moel neu sofl, rhaid ei ymgorffori yn y pridd cyn gynted ag y medrwch, ac o fewn 24 awr fan fwyaf  (bydd eithriadau – gweler canllawiau).
  • Pan fyddwch yn gwasgaru slyri, defnyddiwch offer sy’n ei daflu’n isel i’r llawr (lai na 4 metr o’r llawr)

Gwasgaru gwrtaith artiffisial

  • Peidiwch â gwasgaru gwrtaith nitrogen artiffisial o fewn dau fetr i ddŵr wyneb.
  • Cadwch at y cyfnod gwahardd gwrtaith nitrogen artiffisial (bydd eithriadau). Fe welwch ragor o wybodaeth am y cyfnodau gwahardd gwasgaru nitrogen artiffisial yn y canllawiau.

Terfynau nitrogen

  • Peidio â gwasgaru mwy na 250kg/ha o nitrogen o dail organig o fewn unrhyw ddarn hectar o faint mewn cyfnod o 12 mis.
  • Wrth wasgaru nitrogen (organig ac artiffisial) ar gnwd penodol, peidiwch â gwasgaru mwy na’r terfyn nitrogen uchaf a ganiateir (gweler y canllaw ar gyfer terfynau cnydau penodol).

Storio tail organig ond nid slyri

  • Cadwch at y rheolau ynghylch storio tail solid, gan gynnwys tail dofednod, a ble.
  • Cadwch at y gofynion o ran tomennydd ar gaeau ac am ba hyd.

Storio silwair

  • Gofalwch fod eich systemau storio silwair wedi’u hadeiladu yn unol â’r safonau adeiladu perthnasol a’ch bod yn cadw at y rheolau ar ble i osod storfeydd silwair ar gae (gweler y canllawiau) Cyfoeth Naturiol Cymru / Storio silwair a slyri
  • Archwiliwch eich storfeydd yn rheolaidd a’u trwsio pan fydd angen
  • Cydymffurfiwch ag unrhyw hysbysiadau a gewch gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n gofyn ichi wneud gwelliannau i storfa silwair neu storfa silwair ar gae.

Hysbysu

  • Rhowch wybod yn ysgrifenedig i CNC os ydych am godi neu ehangu neu ailadeiladu silo neu storfa slyri, o leiaf 14 niwrnod cyn dechrau’r gwaith adeiladu. Cyfoeth Naturiol Cymru / Storio silwair a slyri
  • Rhowch wybod i CNC ble rydych am osod storfa silwair ar gae (tir agored) o leiaf 14 niwrnod cyn defnyddio’r safle am y tro cyntaf.

Bydd yn rhaid i chi gadw at ofynion ychwanegol ar bob tir rhwng 1 Ebrill 2023 ac 1 Awst 2024 – gweler y canllawiau am fanylion. Gofalwch eich bod yn gallu cadw at y newidiadau hyn o 1 Ebrill 2023 tan 1 Awst 2024.

Gofynion yn unig ar gyfer tir oedd mewn Parth Perygl NItradau (NVZ) o’r blaen

Edrychwch ar fap o dir a oedd gynt o fewn Parth Perygl Nitradau (NVZ) ar DataMapWales.

Storio slyri

  • Gofalwch fod y slyri’n cael ei gasglu a’i storio mewn systemau sy’n ateb y gofyn o ran eu gwytnwch, gwaith cynnal a chadw  a pharthau diogelwch, eu bod wedi’u hadeiladu yn unol â’r safonau adeiladu perthnasol, a bod ynddynt ddigon o le i fodloni’r rheoliadau Cyfoeth Naturiol Cymru / Storio silwair a slyri
  • Archwiliwch storfeydd yn rheolaidd a’u trwsio pan fydd angen.

Terfyn y daliad cyfan

  • Gofalwch nad oes mwy na 170kg/ha o nitrogen yn cael ei roi ar holl dir eich fferm mewn tail da byw, boed trwy ei wasgaru neu ei ollwng gan anifeiliaid sy’n ei bori.

Cyfnodau gwahardd tail organig â llawer o nitrogen ynddo

  • Cadwch at y cyfnodau gwahardd a’r terfynau ar ôl y cyfnodau gwahardd ar gyfer gwrteithiau â llawer o nitrogen, gan gynnwys slyri
  • Gofalwch fod digon o le i storio’r holl dail neu slyri da byw i ateb gofynion y cyfnodau gwahardd a’r rheolau  cysylltiedig a amlinellir yn y Canllawiau.

Archwiliadau maes ar yr holl dir o 1 Ebrill 2023

  • Sicrhau’ch bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol gan gynnwys y gofynion o ran cadw cofnodion. Bydd rhaid cael gweld pob cofnod yn ystod archwiliad.
  • Gofalu fod tail organig (heblaw am slyri) yn cael ei storio’n gywir gan gynnwys mewn tomennydd dros dro ar gaeau.
  • Gofalu bod tail a gwrtaith artiffisial wedi’u gwasgaru yn unol â’r rheoliadau
  • Gofalu bod CNC wedi cael gwybod am fwriad i adeiladu neu ailadeiladu storfa slyri neu silwair.
  • Asesu capasiti, gwytnwch, gwaith cynnal a chadw a pharthau diogelwch ar gyfer gwneud a storio silwair mewn clampiau, byrnau neu storfeydd ar gae
  • Peidiwch â mynd i mewn i danciau sudd silwair – archwiliwch nhw o’r tu allan.

Archwiliadau maes ar dir oedd mewn Parth Perygl Nitradau (NVZ) o’r blaen

  • Sicrhau’ch bod yn cydymffurfio â holl ofynion y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol
  • Cadarnhau’ch bod yn dilyn unrhyw gamau yn unol â  gorchmynion CNC.
  • Asesu capasiti, gwytnwch, gwaith cynnal a chadw a pharthau diogelwch ar gyfer storio slyri.
  • Asesu trefn archwilio reolaidd y ffermwr (y cynllun archwilio a’i gofnodion, fel sy’n briodol ar gyfer y storfa a’i rhannau) a chwilio am rwd, difrod a gollyngiadau.

Arfer da

  • Darllenwch y canllawiau i gyd i’ch helpu i gydymffurfio â’r holl ofynion
  • Darllenwch y Canllawiau sy’n rhoi templed i’ch helpu i gwblhau’r cynllun, cofnodion a’r cyfrifiadau  angenrheidiol.
  • Os mai contractwyr sy’n gwasgaru’r tail organig ar eich rhan, rhowch gopi o’r map risgiau iddyn nhw.
  • Dadansoddwch eich pridd a’ch tail yn rheolaidd  s a defnyddiwch y canlyniadau i ddylanwadu ar eich cynlluniau gwrteithio. Cynhwyswch ffosffad yn ogystal â nitrogen.

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Llinell Gymorth Rheoliadau Llygredd Amaethyddol (ADAS) 01974 847000.
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyswllt Ffermio

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2022) o fewn y pecyn hwn.