Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y rheol hon yw diogelu pridd rhag erydiad trwy osgoi rhai gweithgareddau.

Mae cywasgu’r uwchbridd a’r isbridd yn gallu gwneud difrod mawr i adeiladwaith y pridd, gan effeithio ar dyfiant gwreiddiau a lleihau’r dŵr a’r aer y mae’r pridd yn gallu eu cario. Gallwch leihau’r difrod hwn ac yn wir ei osgoi yn llwyr trwy gymryd y camau priodol.

Y prif ofynion

  • peidiwch â gadael i anifeiliaid orbori tir amaethyddol
  • peidiwch â gadael i unrhyw beth stablad (sathru) na rhigoli’r tir
  • peidiwch â gweithio ar y tir â pheiriannau os yw’r pridd yn llawn dŵr, oni bai bod rhaid am y rhesymau canlynol:
    1. lles anifeiliaid neu i ddiogelu pobl
    2. gwella draeniad y pridd
    3. rhoi gypswm mewn pridd sydd wedi’i lygru gan ddŵr heli
    4. cadw at ddyddiad contract i gynaeafu cnwd ar bridd llawn dŵr, neu
    5. bod tir llawn dŵr o fewn 20 metr i fynedfa tir sydd heb fod yn llawn dŵr a bod yn rhaid ichi fynd i’r tir hwnnw

Pwysig. Os oes yn rhaid cynnal un o’r uchod, rhaid rhoi tystiolaeth ffotograffig neu brawf arall i Taliadau Gwledig Cymru i brofi’i fod yn gwbl angenrheidiol.

  • i osgoi erydiad ar dir sy’n cael ei gynaeafu’n hwyr neu dir lle mae’r porthiant neu’r cnwd gwreiddiau wedi’i bori at y bôn ac nad yw’n bosib hau cnwd gorchudd, rhaid rhoi mesurau priodol yn eu lle i ddiogelu’r pridd rhag ei erydu, naill ai trwy godi ffens waddodion neu ddefnyddio aradr gynion
  • rhaid llenwi a chyflwyno ffurflen asesu risg pridd garw i Taliadau Gwledig Cymru os ydych yn gadael pridd sydd wedi’i aredig yn arw rhwng y cynhaeaf ac 1 Mawrth y flwyddyn ganlynol

Archwiliadau maes

  • i gadarnhau nad yw’r pridd yn cael ei olchi i lawr llethrau neu oddi ar y cae
  • i chwilio am arwyddion bod da byw wedi erydu glannau cwrs dŵr yn drwm
  • i chwilio am arwyddion stablad (sathru) a rhigoli trwm
  • i chwilio am arwyddion o orbori
  • i weld a oes dŵr wedi crynhoi yn llwybrau tractor – byddai hynny’n arwydd bod y pridd wedi’i gapio neu ei gywasgu – a gofalu bod y llwybrau’n dilyn rhediad y cae
  • i ofalu bod y peiriannau sy’n cael eu dewis i drin y tir yn addas ar gyfer cyflwr y pridd ac nad yw’r pridd ar wely hadau yn rhy fân, yn enwedig ar bridd ysgafn
  • i ofalu bod mesurau addas wedi’u cymryd i ddiogelu’r pridd rhag erydiad ar dir sydd wedi’i gynaeafu’n hwyr neu lle mae’r porthiant neu’r cnwd gwreiddiau wedi’i bori at y bôn neu lle bo wyneb garw yn cael ei adael dros y gaeaf

Arfer da

  • darparwch gafnau dŵr i’ch stoc er mwyn diogelu cyrsiau dŵr. Symudwch y cafnau hyn yn rheolaidd
  • os ydych yn rhoi bwyd ychwanegol i’ch stoc, gofalwch nad ydynt yn sathru llystyfiant lled naturiol nac yn stablad y pridd na bod y cerbydau sy’n cario’r bwyd yn rhigoli’r pridd
  • symudwch y cafnau bwydo’n rheolaidd
  • sicrhewch nad yw da byw yn sathru ar lystyfiant sensitif e.e. ar fannau gwlyb, cyforgors a choetir
  • defnyddiwch deiars sy’n gwasgaru pwysau’r cerbyd neu olwynion dwbl lle bo angen. Peidiwch â defnyddio cerbyd os oes perygl y gallai ddifrodi’r tir
  • rhowch sylw arbennig i dalarau a llwybrau tractorau rhag eu cywasgu gan symudiadau rheolaidd
  • ar waelod caeau sydd ar lethr a lle mae erydiad yn debygol, gadewch lain o dir 5 metr o led heb ei aredig na’i drin, neu godwch ffens waddodion

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2025) o fewn y pecyn hwn.