Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nod y gofyniad hwn yw diogelu dwˆr daear rhag cael ei lygru gan weithgareddau amaethyddol.

Diffiniad

  • diffinnir dŵr daear fel unrhyw ddŵr sydd islaw wyneb y tir sydd mewn parth dirlawnder (hynny yw, islaw’r lefel trwythiad) ac yn cysylltu’n uniongyrchol â’r tir neu’r isbridd
  • mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru restr gyflawn o sylweddau peryglus a sylweddau nad ydynt yn beryglus

Y prif ofynion

  • o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010,  rhaid cael trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gwaredu sylweddau peryglus neu sylweddau nad ydynt yn beryglus ar dir yn unig ac mae’n rhaid i chi fodloni holl amodau’r drwydded
  • peidiwch â gwasgaru hen ddip defaid ar dir serth nac ar dir sy’n draenio’n wael, yn llawn dŵr neu sydd wedi cracio
  • peidiwch â gwasgaru unrhyw sylweddau peryglus neu sylweddau nad ydynt yn beryglus ar dir sydd o fewn 10 metr o ddŵr wyneb neu 50 metr o ffynnon, pistyll, twll turio neu gwrs dŵr sy’n bwysig i natur
  • lle bynnag mae sylweddau peryglus neu sylweddau sy’n llygru yn cael eu defnyddio, eu cynhyrchu, eu storio neu eu trin, bydd disgwyl i ffermwyr gadw at y Codau Ymarfer amrywiol e.e. Cod Gwaredu Dip Defaid a gofynion Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli LLygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016/359

Archwiliadau maes

  • gofalu bod gennych drwydded ddilys gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn gwaredu sylweddau pheryglus a sylweddau nad ydynt yn beryglus ar y tir
  • gofalu nad yw hen fatrïau cerbydau yn llygru dŵr daear

Arfer da

  • rhaid i ffermwyr a chontractwyr ddilyn y Cod Ymarfer Defnyddio a Gwaredu Cyfansoddion Dip Defaid yn ogystal ag unrhyw ofynion trwyddedu penodol. Mae copïau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru
  • wrth waredu dip defaid, gwasgarwch ychydig ar y tro ee ddim mwy na 5 metr ciwbig yr hectar os nad ydych am ei deneuo neu, os ydych yn defnyddio tancer sugno neu 20 metr ciwbig yr hectar os ydych wedi’i gymysgu gyda 3 rhan o slyri neu ddŵr, yn ogystal ag unrhyw ganllawiau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’u cyhoeddi yn y drwydded
  • mae cyngor i ffermwyr ar storio olew i’w weld ar wefan Ymgyrch Oil Care: www.oilcare.org.uk/look-after-your-oil/ farmers-horticulture/

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2024) o fewn y pecyn hwn.