Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw profi i’r cwsmer fod safonau lles uchel yn cael eu cynnal a bod hynny yn ei dro yn gwella diogelwch ac ansawdd bwyd. Mae’r gofynion yn diogelu lles anifeiliaid fferm trwy bennu’r safonau sy’n ofynnol ar gyfer eu cadw a gofalu amdanyn nhw. Maen nhw’n ymdrin â phob anifail sy’n cael ei ffermio.

Rhaid i berchnogion a cheidwaid anifeiliaid fferm ofalu am les eu hanifeiliaid a gofalu nad ydyn nhw’n dioddef nac yn cael poen neu anaf diangen.

Prif ofynion

Rhaid cadw’r safonau canlynol:

  • Staff y Fferm: dylai fod digon o staff i ofalu am yr anifeiliaid a bydd ganddynt y medrau angenrheidiol i wneud y gwaith.
  • Archwilio Stoc: rhaid i bob anifail sy’n cael ei gadw mewn system lle mae ei les yn dibynnu ar gael sylw’n aml, gael ei archwilio o leiaf unwaith bob dydd. Rhaid i anifeiliaid sy’n sâl neu sydd wedi cael anaf gael eu trin ar unwaith, a’u hynysu mewn adeilad addas os oes angen. Holwch filfeddyg os oes angen a gweithredu ar ei gyngor.
  • Cofnodion: rhaid i berchennog neu geidwad yr anifail gadw cofnod o bob moddion a roddir am o leiaf dair blynedd.
  • Rhyddid i Symud: Rhaid bod gan bob anifail ddigon o le i symud heb ddioddef na chael ei anafu’n ddiangen, hyd yn oed os yw wedi’i glymu, ei gadwyno neu ei gaethiwo.
  • Adeiladau: Rhaid defnyddio deunydd adeiladu sy’n hawdd ei lanhau a’i ddiheintio. Gofalwch am yr adeilad fel nad oes ymylon miniog na darnau ymwthiol allai anafu’r anifail. Dylech gadw cylchrediad yr aer a lefelau’r llwch, y tymheredd a’r lleithder o fewn terfynau derbyniol. Peidiwch â chadw anifeiliaid mewn tywyllwch parhaol na chwaith mewn goleuni artiffisial di-dor.
  • Anifeiliaid sydd ddim yn cael eu cadw mewn adeilad: gofalwch lle bo angen a lle bo’n bosibl, fod ganddyn nhw gysgod rhag y tywydd, anifeiliaid ysglyfaethus a pheryglon i’w hiechyd. Bydd ganddyn nhw bob amser le sych i orwedd.
  • Offer awtomatig neu fecanyddol: Rhaid archwilio offer sy’n hanfodol i iechyd a lles eich anifeiliaid o leiaf unwaith bob dydd. Os ydych yn defnyddio system awyru artiffisial, rhaid wrth system wrth gefn i warantu bod yr aer yn gallu cael ei adnewyddu.
  • Bwyd, dŵr a sylweddau eraill: rhaid rhoi deiet faethlon sy’n addas i oed a rhywogaeth eich anifeiliaid, a sicrhau eu bod yn cael digon yn ddigon aml. Peidiwch â rhoi unrhyw sylwedd i’ch anifeiliaid sy’n niweidiol i’w hiechyd neu eu lles. Hefyd rhaid defnyddio offer bwydo a dyfrio sy’n diogelu bwyd a diod rhag cael ei lygru.
  • Trefniadau bridio: peidiwch â dilyn trefniadau bridio naturiol nag artiffisial fyddai’n gwneud neu’n debygol o wneud i’r anifail ddioddef neu gael anaf, oni bai bod eu heffaith arno’n fyr ac yn fach, heb achosi anaf.

Archwiliadau maes

  • I edrych ar y gofal mae’r anifeiliaid yn ei gael, ar eu hadeiladau ac ar y cofnodion gan ofalu bod ganddyn nhw le sych i orwedd.
  • I ofalu bod gan y perchennog (sy’n cynnwys unrhyw berson sy’n gyfrifol am anifail fferm) wybodaeth am a chopi o’r Codau Ymarfer/Argymhellion Llesiant wrth drin yr anifeiliaid.
  • I ofalu bod y cofnodion meddygol yn gyfredol a bod y moddion sydd yn y cwpwrdd meddygol wedi’u cofnodi.
  • I ofalu bod gan bob meddyginiaeth drwydded gan y Deyrnas Unedig.
  • I ofalu nad yw’r cynnyrch yn rhy hen.
  • I brofi’r larymau a’r dyfeisiau wrth gefn os oes offer awtomatig yn cael ei ddefnyddio.

Arfer da

  • Bod cynllun iechyd a lles milfeddygol a, ble y bo angen, gynghorwyr technegol eraill, ar gael ac yn cael ei weithredu.  Adolygu a diweddaru y cynllun yn rheolaidd.
  • Sicrhau bod cynlluniau wrth gefn ar gael ar gyfer digwyddiadau allai gael effaith ar les anifeiliaid, megis tywydd eithafol neu brinder dŵr.

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2022) o fewn y pecyn hwn.