Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw diogelu lles moch trwy bennu’r safonau sy’n ofynnol ar gyfer eu cadw a gofalu amdanyn nhw. Rhaid i bawb sy’n cadw moch gadw  at y rheolau hyn, yn ogystal â’r gofynion lles anifeiliaid fferm (SMR 13).

Y prif ofynion

  • Rhaid cadw hychod a banwesi mewn grwpiau.
  • Os oes gennych lai na 10 hwch, gallwch gadw hychod a banwesi ar eu pen eu hunain cyn belled â bod eu llociau’n bodloni’r safonau cyffredinol (gweler ‘Y Lloc’).
  • Gellir cadw hychod ar eu pen eu hunain, o 7 niwrnod cyn diwrnod geni’r perchyll tan fod y perchyll wedi cael eu diddyfnu’n llwyr.

Mae safonau penodol ar gyfer moch sy’n cael eu cadw i mewn ar gyfer eu magu a’u pesgi. Y gofynion hyn yw:

  • Mae’n rhaid i’r mochyn allu troi o gwmpas heb drafferth bob amser.
  • Peidiwch byth â chlymu’ch moch ac eithrio os ydynt  yn cael eu harchwilio, yn cael profion, triniaeth neu  lawwdriniaeth at ddibenion milfeddygol.
  • Rhaid i’r tennyn ateb y gofynion canlynol:
    • ni ddylai achosi niwed i’r mochyn a dylech ei archwilio’n rheolaidd a’i addasu yn ôl y gofyn iddo ffitio’n gyfforddus.
    • bydd y tennyn yn ddigon hir i’r mochyn allu troi o gwmpas, gorffwys a llyfu ei hun, ac ni fydd yn gallu tagu, anafu nac achosi poen i’r mochyn.

Os ydych yn defnyddio system llociau porchella, rhaid darparu gwres i’r perchyll a lle solid, sych a chyfforddus lle gallant i gyd orwedd gyda’i gilydd yr un pryd, oddi wrth yr hwch.

Rhaid i ran o’r llawr lle cedwir y perchyll, sy’n ddigon mawr iddynt allu gorwedd arno gyda’i gilydd yr un pryd, fod yn solid neu wedi’i orchuddo â mat neu â gwellt neu ddeunydd addas arall.

Arfer da

Tocio cynffonnau

Ni ganiateir tocio cynffonnau fel mater o drefn. Gellir tocio cynffonnau dim ond pan fydd mesurau i wella amodau amgylcheddol neu systemau rheoli wedi eu cyflawni gyntaf i atal brathu cynffonnau, ond ble y mae tystiolaeth o hyd i ddangos bod niwed i gynffonnau moch drwy frathu wedi digwydd. 

Y lloc

  • Bydd wedi’i adeiladu fel bod pob mochyn yn gallu:
    • sefyll, gorwedd a gorffwys heb drafferth
    • cael lle glân, cyfforddus a sych i orffwys arno
    • gweld moch eraill, oni bai bod y mochyn wedi’i ynysu am resymau milfeddygol neu yn yr wythnos cyn y disgwylir iddi eni ei pherchyll ac yn ystod geni, pan y gellir cadw’r hychod a’r banwesi i ffwrdd o foch eraill 
    • cadw tymheredd cyfforddus
    • cael digon i le i orwedd yr un pryd
  • Ni fydd mesuriadau unrhyw stâl neu loc ar gyfer moch unigol yn llai na hyd y mochyn wedi’i luosi â’i hun ac ni fydd unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, bydd hyd y mochyn yn cael ei fesur o flaen ei swch at fôn ei gynffon pan fydd yn sefyll â’i gefn yn syth.
  • Ni fydd y paragraff uchod yn gymwys i hwch/ banwes am y cyfnod o saith niwrnod cyn y diwrnod y disgwylir iddi eni ei pherchyll tan y diwrnod pan gaiff ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll maeth) eu diddyfnu.

Cewch fwy o wybodaeth am lociau moch yn y Cod Lles Moch.

Archwiliadau maes

  • Gofalu fod y lloc yn ateb y gofynion yn y Cod Argymhellion ar gyfer Lles Da Byw: Moch.
  • Gofalu fod gan y ffermwr neu’r ceidwad gopi  o’r Cod neu’n gwybod lle i gael copi.

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2022) o fewn y pecyn hwn.